Cynigion ar gyfer diwygio a gefnogir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol sy'n cynnwys cynigion am newidiadau i’r ffordd y caiff Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ei weithredu. Mae'r newidiadau'n cynnwys cynnig i ddiddymu'r Panel a throsglwyddo ei swyddogaethau a'i bwerau i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Wrth ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru, dywedodd Cadeirydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, Frances Duffy:
Mae aelodau'r Panel yn croesawu Papur Gwyn y Llywodraeth ac yn edrych ymlaen at weithio gyda Gweinidogion a phartneriaid eraill wrth i drafodaethau barhau ar newidiadau a fydd yn effeithio ar y Panel yn y dyfodol. Rydym yn rhoi gwerth mawr ar ein hannibyniaeth, ein didueddrwydd a’n gwaith partneriaeth, ac mewn egwyddor rydym yn cefnogi'r cynnig i drosglwyddo swyddogaethau i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.