Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: penderfyniadau 2025 i 2026
Penderfyniadau y mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi'u gwneud ynghylch cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y flwyddyn 2025 i 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Rhestr yw hon o'r holl benderfyniadau y mae'r Panel wedi'u gwneud am gyflogau a lwfansau sydd ar waith ar gyfer blwyddyn 2025 i 2026. Gellir dod o hyd i wybodaeth gefndir y Penderfyniadau hyn yn Adroddiadau Blynyddol y Panel ar gyfer 2022, 2023 a 2024.
Prif Gynghorau
Cyflog sylfaenol i aelodau etholedig Prif Gynghorau
Penderfynodd y Panel, ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 ei bod yn briodol cadw'r cysylltiad rhwng cyflog sylfaenol cynghorwyr a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. Bydd y cyflog sylfaenol yn gyson â thair rhan o bump o ASHE 2023 i Gymru gyfan, sef y ffigur diweddaraf sydd ar gael ar adeg drafftio'r adroddiad hwn. Y ffigur fydd £19,771. (Penderfyniad 1, 2025)
Cyflogau sy'n daladwy i uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol Prif Gynghorau
Mae'r Panel wedi penderfynu ar uchafswm nifer y cyflogau sy'n daladwy i'r categori hwn o gynghorwyr ym mhob prif gyngor. Nodir hyn yn Atodiad 1, sy'n amlinellu'r ffigurau diweddaraf.
Cyflogau i Uwch-aelodau Prif Gynghorau
Nodir cyflogau sy'n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol prif gynghorau yn Atodiad 2 (Penderfyniad 2, 2025). Felly, cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £74,141. Penderfynwyd ar yr holl daliadau eraill wrth gyfeirio at y cyflog hwn.
Cyfyngiadau ar Gydnabyddiaeth Ariannol uwch-swyddi
Swyddi yn y prif gyngor (Penderfyniad 7, 2022):
- ni ddylai aelod etholedig gael cydnabyddiaeth ariannol am fwy nag un uwch-swydd o fewn ei awdurdod ef neu hi
- ni ddylid talu uwch-gyflog a chyflog dinesig i aelod etholedig
- mae’r cyflog sylfaenol yn gynwysedig ym mhob uwch-gyflog a chyflog dinesig a delir
- os yw cyngor yn dewis bod â mwy nag un dirprwy arweinydd sy’n cael cydnabyddiaeth ariannol, dylid rhannu’r gwahaniaeth rhwng uwch-gyflog y dirprwy arweinydd ac aelodau eraill o'r weithrediaeth â nifer y dirprwy arweinwyr a’i ychwanegu at uwch-gyflog aelodau eraill o'r weithrediaeth er mwyn cyfrifo’r uwch-gyflog sy’n daladwy i bob dirprwy arweinydd
Cyfyngiadau ar dalu am swyddi y tu allan i'r Prif Gyngor
Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gael cyflog gan unrhyw Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Awdurdod Tân ac Achub y maent wedi’u penodi iddo.
Mae ganddynt hawl o hyd i hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol neu’r Awdurdod Tân ac Achub. (Penderfyniad 8, 2022)
Ni all aelodau sy’n cael cyflog Band 1 neu Fand 2 dderbyn unrhyw dâl gan gyngor cymuned neu gyngor tref y maent yn aelod ohono. Maent yn dal yn gymwys i hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan y cyngor cymuned neu’r cyngor tref. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio. (Penderfyniad 9, 2022)
Cefnogi gwaith aelodau etholedig Prif Gynghorau
Rhaid i bob awdurdod sicrhau, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, fod ei holl aelodau etholedig sydd â phleidlais yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylai pob aelod etholedig gael cyfleusterau ffôn, e-bost a rhyngrwyd digonol i’w galluogi i gael mynediad electronig at wybodaeth briodol. (Penderfyniad 10, 2022)
Dylid rhoi cymorth o’r fath heb gostau i’r aelod unigol. Ni ddylai’r priod awdurdod ddidynnu symiau o gyflogau aelodau fel cyfraniad tuag at y costau cymorth y mae'r awdurdod wedi penderfynu eu bod yn angenrheidiol ar gyfer effeithiolrwydd a/neu effeithlonrwydd aelodau. (Penderfyniad 11, 2022)
Uwch-gyflogau penodol neu ychwanegol a chynorthwywyr y weithrediaeth
Gall prif gynghorau wneud cais am uwch-gyflogau penodol neu ychwanegol nad ydynt yn syrthio o fewn y Fframwaith presennol. (Penderfyniad 12, 2022)
Bydd y Panel yn penderfynu fesul achos ar yr uwch-gyflog priodol, os o gwbl, ar gyfer cynorthwywyr y weithrediaeth.(Penderfyniad 13, 2022)
Cyhoeddwyd canllawiau i awdurdodau lleol ar y broses gwneud cais ym mis Ebrill 2014.
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Bydd yr hawl i ymuno â’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn gymwys i holl aelodau etholedig cymwys prif gynghorau. (Penderfyniad 16, 2022)
Darpariaethau Absenoldeb Teuluol i Aelodau Etholedig Prif Gynghorau
Yn yr adran hon, mae “absenoldeb teuluol” yn cyfeirio at absenoldeb mamolaeth, absenoldeb newydd-anedig, absenoldeb mabwysiadu ac absenoldeb rhiant o fusnes swyddogol.
Mae gan aelod etholedig hawl i gadw cyflog sylfaenol wrth gymryd absenoldeb teuluol o dan y rheoliadau gwreiddiol neu unrhyw ddiwygiad i'r rheoliadau ni waeth beth fo'r cofnod presenoldeb yn union cyn dechrau'r absenoldeb teuluol. (Penderfyniad 17, 2022)
Pan fydd deiliad uwch-gyflog yn gymwys i gael absenoldeb teuluol, bydd yn parhau i gael y cyflog tra pery’r absenoldeb. (Penderfyniad 18, 2022)
Mater i’r awdurdod yw penderfynu a yw’n mynd i benodi rhywun i ddirprwyo ar ran y sawl sy’n absennol. Bydd yr aelod etholedig sy’n dirprwyo ar ran deiliad uwch-gyflog sy’n cymryd absenoldeb teuluol yn gymwys i gael uwch-gyflog, os bydd yr awdurdod yn penderfynu hynny. (Penderfyniad 19, 2022)
Os bydd talu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo’n golygu bod yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i’r uchafswm uwch-gyflogau sy'n ymwneud â hi, fel y nodir yn Adroddiad Blynyddol y Panel, bydd ychwanegiad at yr uchafswm yn cael ei ganiatáu tra pery’r trefniant dirprwyo. Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn berthnasol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful pe bai'n golygu bod nifer yr uwch-gyflogau’n uwch na hanner cant y cant o aelodaeth y Cyngor. Mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth benodol gan Weinidogion Cymru dan amgylchiadau o’r fath. (Penderfyniad 20, 2022)
Cafodd Cyngor Sir Ynys Môn ei gynnwys ym Mhenderfyniad 20, 2022 ond, o ganlyniad i newidiadau dilynol i nifer cynghorwyr Cyngor Sir Ynys Môn, nid oedd angen ei gynnwys yn yr eithriad hwn.
Os bydd Cyngor yn cytuno i dalu i rywun ddirprwyo ar gyfer absenoldeb teuluol, rhaid hysbysu’r Panel, a hynny o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad, ynghylch y manylion gan gynnwys y swydd benodol a hyd y trefniant dirprwyo. (Penderfyniad 21, 2022)
Rhaid diwygio rhestr cydnabyddiaeth ariannol y Cyngor i adlewyrchu goblygiadau’r absenoldeb teuluol. (Penderfyniad 22, 2022)
Taliadau absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer deiliaid uwch-gyflogau mewn Prif Gynghorau
Mae fframwaith y Panel yn darparu trefniadau penodol ar gyfer absenoldeb hirdymor oherwydd salwch unrhyw ddeiliad uwch-gyflog. Nodir y trefniadau hyn yn Atodiad 4.
Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu
Cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu fydd £9,333. (Penderfyniad 3, 2025)
Cyflog is-gadeirydd fydd £4,667. (Penderfyniad 3, 2025)
Cyd-bwyllgorau Corfforedig
Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 Gyd-bwyllgorau Corfforedig sy’n cynnwys grwpiau o brif gynghorau. Mae gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig swyddogaethau penodol sydd wedi’u nodi mewn Rheoliadau. Mae paragraff 4 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) yn berthnasol i'r Panel.
Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 wedi’i ddiwygio i gynnwys Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel awdurdodau perthnasol ar gyfer swyddogaethau'r Panel. Felly bydd yn rhaid i unrhyw daliadau a wneir i aelodau Cyd-bwyllgorau Corfforedig gael eu pennu gan y Panel.
Megis dechrau y mae'r broses o sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Wrth i rolau a chyfrifoldebau ddatblygu, rhoddir sylw i'r mater a ddylai aelodau Cyd-bwyllgor Corfforedig gael cydnabyddiaeth ariannol. Fodd bynnag, bu'n rhaid i holl aelodau Cyd-bwyllgorau Corfforedig gyfrannu at gostau gofal a theithio a chynhaliaeth ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â Chyd-bwyllgorau Corfforedig ers 2022.
Ymdrinnir â thaliadau i aelodau lleyg Cyd-bwyllgorau Corfforedig o dan aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub ac aelodau lleyg Cyd-bwyllgorau Corfforedig.
Cynyddwyd cyflog aelodau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yn unol ag ASHE. Caiff yr holl daliadau eu nodi yn y tabl canlynol. (Penderfyniad 4, 2025).
Awdurdodau Parciau Cenedlaethol | Swm |
---|---|
Cyflog sylfaenol i aelodau cyffredin | £5,576 |
Cadeirydd | £15,462 |
Dirprwy Gadeirydd (os penodir un) | £9,531 |
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch-swydd arall | £9,531 |
Awdurdodau Tân ac Achub | Swm |
---|---|
Cyflog sylfaenol i aelodau cyffredin | £2,788 |
Cadeirydd | £12,674 |
Dirprwy Gadeirydd (os penodir un) | £6,743 |
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch-swydd arall | £6,743 |
Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog gan APC. (Penderfyniad 27, 2022)
Caiff uwch-gyflog APC ei dalu gan gynnwys cyflog sylfaenol APC. (Penderfyniad 28, 2022)
Ni chaiff aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog gan unrhyw APC arall y maent wedi’u penodi iddo. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio. (Penderfyniad 29, 2022)
Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog gan ATA. (Penderfyniad 34, 2022)
Telir uwch-gyflog ATA gan gynnwys cyflog sylfaenol yr ATA a rhaid iddo adlewyrchu cyfrifoldeb sylweddol a pharhaus. (Penderfyniad 35, 2022)
Ni chaiff aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 dderbyn cyflog gan unrhyw ATA arall y maent wedi’u henwebu iddo. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio. (Penderfyniad 36, 2022)
Aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub ac aelodau lleyg Cyd-bwyllgorau Corfforedig
Rhaid i Brif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub dalu eu haelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio ar y cyfraddau isod. (Penderfyniad 37, 2022).
Bydd pob penderfyniad yn yr adran hon sy'n ymwneud ag aelodau cyfetholedig yn gymwys i'r un graddau i aelodau lleyg Cyd-bwyllgorau Corfforedig sydd â hawliau pleidleisio o 31 Gorffennaf 2024. (Adolygiad o gydnabyddiaeth ariannol aelodau lleyg o gyd-bwyllgorau corfforedig Adroddiad Atodol 2024)
Rhaid i’r swyddog priodol yn yr awdurdod nodi ymlaen llaw a yw cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn neu hanner diwrnod. Pan fydd cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn, bydd y ffi yn cael ei thalu yn unol â hynny, hyd yn oed os yw’r cyfarfod yn gorffen o fewn pedair awr. (Penderfyniad 40, 2022)
Mae'r Panel wedi penderfynu y dylai fod hyblygrwydd lleol i'r swyddog priodol benderfynu pryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr lle mae'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr. Nodir y symiau ym Mhenderfyniad 5, 2025.
Rôl | Taliad gan ddefnyddio cyfradd fesul awr | Cyfradd taliadau am hyd at 4 awr | Cyfradd taliadau am 4 awr a throsodd |
---|---|---|---|
Cadeiryddion pwyllgorau safonau ac archwilio | £33.50 | £134 | £268 |
Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgorau Safonau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref | £29.75 | £119 | £238 |
Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau; Pwyllgor Craffu Addysg; Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anrhefn a Phwyllgor Archwilio | £26.25 | £105 | £210 |
Cynghorwyr Cymuned a Thref sy'n aelodau o Bwyllgorau Safonau Prif Gynghorau | £26.25 | £105 | £210 |
Dylid cynnwys amser teithio i’r cyfarfod ac oddi yno yn yr hawliadau am daliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig (hyd at uchafswm y gyfradd ddyddiol). (Penderfyniad 39, 2022)
Rhaid talu ffioedd am gyfarfodydd a gweithgareddau eraill, gan gynnwys pwyllgorau a gweithgorau eraill (gan gynnwys grwpiau gorchwyl a gorffen), cyfarfodydd rhagarweiniol gyda swyddogion, hyfforddiant a phresenoldeb mewn cynadleddau neu unrhyw gyfarfod ffurfiol arall y gofynnir i aelodau cyfetholedig ei fynychu. (Penderfyniad 41, 2022)
Mae amser rhesymol i baratoi cyn cyfarfodydd yn gymwys i’w gynnwys mewn hawliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig, gall y swyddog priodol benderfynu faint o amser a ganiateir cyn y cyfarfod. (Penderfyniad 5, 2023)
Rhaid i bob awdurdod sicrhau, drwy ei bwyllgor gwasanaethau democrataidd neu bwyllgor priodol arall, fod ei holl aelodau cyfetholedig sydd â phleidlais yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylid rhoi cymorth o’r fath heb gostau i’r aelod unigol. (Penderfyniad 42, 2022).
Gall aelodau cyfetholedig a lleyg awdurdodau perthnasol sydd â hawliau pleidleisio hefyd hawlio taliadau teithio, cynhaliaeth, gofal a chymorth personol, fel y'u nodir yn yr adrannau lleol.
Cynghorau Cymuned a Thref
Bydd aelodau o gynghorau cymuned a thref yn cael taliad o £156 y flwyddyn (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref.
Mae'n rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall mae'n rhaid i gynghorau ei gwneud yn bosibl i'w haelodau hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa. (Penderfyniad 46, 2023)
Nodir y taliad i aelodau sy'n ymgymryd ag uwch-rôl yn Atodiad 3. (Penderfyniad 4, 2023)
Gall cynghorau cymuned a thref dalu iawndal am golled ariannol i bob un o'u haelodau, lle mae colled o’r fath wedi cael ei hysgwyddo, o ganlyniad i fod yn bresennol i gyflawni dyletswyddau cymeradwy fel a ganlyn: (Penderfyniad 8, 2025)
- hyd at £63.37 am bob cyfnod nad yw’n fwy na 4 awr
- hyd at £126.74 am bob cyfnod sy’n fwy na 4 awr ond nad yw’n fwy na 24 awr
Gall pob cyngor benderfynu cyflwyno lwfans mynychu i’r aelodau. Ni ddylai swm pob taliad fod yn fwy na £30. Ni fydd gan aelod sydd mewn colled ariannol hawl i gael lwfans mynychu ar gyfer yr un digwyddiad. (Penderfyniad 49, 2022)
Gall cynghorau cymuned a thref ddarparu taliad i faer neu gadeirydd y cyngor hyd at £1,500. Mae'r taliad hwn yn ychwanegol at y cyfraniad o £156 at gost gweithio gartref a'r swm sefydlog o £52 ar gyfer nwyddau traul swyddfa a’r uwch-gyflog o £500 os hawlir y rhain. (Penderfyniad 50, 2022, fel y'i diweddarwyd gan Adroddiad 2023)
Gall cynghorau cymuned a thref ddarparu taliad i ddirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd y cyngor hyd at uchafswm o £500. Mae'r taliad hwn yn ychwanegol at y cyfraniad o £156 at gost gweithio gartref a'r swm sefydlog o £52 ar gyfer nwyddau traul swyddfa a’r uwch-gyflog o £500 os hawlir y rhain. (Penderfyniad 51, 2022, fel y'i diweddarwyd gan Adroddiad 2023).
Nodir y ffordd y cymhwysir y Fframwaith Cydnabyddiaeth Ariannol yn ôl Grŵp perthnasol yn Atodiad 3. (Penderfyniad 52, 2022)
Mae'r Panel wedi penderfynu, o fis Medi 2024, mai dim ond y cyfansymiau a dalwyd mewn perthynas â'r taliadau gorfodol a grybwyllir uchod y bydd angen eu dangos yn y datganiadau y mae'n ofynnol i bob cyngor cymuned a thref eu cyflwyno. Dyma'r cyfraniad o £156 at gostau gweithio gartref a'r gyfradd benodedig o £52 am lwfans nwyddau traul a'r treuliau teithio a chynhaliaeth a dalwyd. Mae hyn yn golygu y bydd y taliadau hyn yn gyson ag adrodd ar gostau lwfansau gofal a chymorth personol. (Penderfyniad 8, 2024)
Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gan brif gyngor (hynny yw yr arweinydd, dirprwy arweinydd neu aelod o'r weithrediaeth) gael unrhyw daliad gan gyngor cymuned neu dref, ac eithrio treuliau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol. (Penderfyniad 53, 2022)
Gall cynghorau cymuned a thref benderfynu ad-dalu costau teithio a/neu gynhaliaeth sy'n gysylltiedig â chyflawni dyletswyddau cymeradwy i'w haelodau. Os bydd yr opsiwn i ad-dalu costau o'r fath wedi'i ddewis, rhaid dilyn y canllawiau ar Dreuliau teithio a chynhaliaeth. (Penderfyniad 46 a 47, 2022)
Treuliau Teithio a Chynhaliaeth
Nodir y cyfraddau ad-dalu costau milltiroedd, costau teithio eraill a chostau cynhaliaeth a all gael eu hawlio gan aelodau Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Awdurdodau Tân ac Achub a'u haelodau cyfetholedig, ac i aelodau Cyd-bwyllgorau Corfforedig a'u haelodau lleyg, isod.
Gall Cynghorau Cymuned a Thref ddewis ad-dalu costau teithio a/neu gynhaliaeth. Os bydd yr opsiwn i ad-dalu costau o'r fath wedi'i ddewis, rhaid i hyn fod fel y'i nodir yn y canllawiau ar Dreuliau teithio a chynhaliaeth.
Costau milltiroedd
Rhaid i gostau milltiroedd gael eu had-dalu ar gyfraddau cyfredol Cyllid a Thollau EF (CThEF).
Costau teithio eraill
Ar gyfer pob hawliad arall am gostau teithio, gan gynnwys mewn tacsi os mai dyma'r unig ddull teithio neu'r dull teithio mwyaf priodol, dim ond y gost wirioneddol a ddangosir ar dderbynebau y dylid ei had-dalu.
Costau cynhaliaeth
Nodir y cyfraddau uchaf ar gyfer taliadau cynhaliaeth isod ar sail hawliadau gyda derbynebau:
- lwfans o £28 fesul cyfnod o 24 awr ar gyfer prydau bwyd, gan gynnwys brecwast pan na fydd wedi’i gynnwys
- £200, Llundain dros nos
- £95, rhywle arall dros nos
- £30, aros gyda ffrindiau a/neu deulu dros nos
Taliadau am Gostau Gofal a Chymorth Personol
Mae’n rhaid i’r holl awdurdodau perthnasol ddarparu taliad tuag at gostau angenrheidiol gofalu am blant ac oedolion dibynnol (sy’n cynnwys gofal a ddarperir gan ofalwyr ffurfiol ac anffurfiol) ac am anghenion cymorth personol fel a ganlyn:
- costau gofal ffurfiol (wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru neu gorff cyfatebol) i’w talu yn unol â thystiolaeth
- costau gofal anffurfiol (heb gofrestru) i’w talu hyd at gyfradd uchaf sy’n gyfwerth âchyfraddau fesul awr y Cyflog Byw Gwirioneddol fel y’i diffinnir gan y Living Wage Foundation ar yr adeg pan aethpwyd i’r costau
Rhaid i hyn fod am y costau ychwanegol a ysgwyddwyd gan aelodau i’w galluogi i gyflawni busnes swyddogol neu ddyletswyddau cymeradwy. Rhaid i bob awdurdod sicrhau bod unrhyw daliadau a wneir yn gysylltiedig â busnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy. Ni ddylid gwneud taliadau nes bydd derbynebau gan y darparwr gofal wedi’u darparu. (Penderfyniad 43, 2022)
Atodiad 1: uchafswm nifer y cyflogau sy'n daladwy i'r categori hwn o Gynghorwyr ym mhob Prif Gyngor
Uchafswm yr aelodau o gynghorau sy’n gymwys i gael uwch-gyflog | |||
---|---|---|---|
Cyngor | Poblogaeth
| Nifer y cynghorwyr | Uchafswm yr uwch-gyflogau sy'n daladwy |
Caerdydd | Grŵp A | 79 | 19 |
Rhondda Cynon Taf | Grŵp A | 75 | 19 |
Abertawe | Grŵp A | 75 | 19 |
Pen-y-bont ar Ogwr | Grŵp B | 51 | 18 |
Caerffili | Grŵp B | 69 | 18 |
Sir Gaerfyrddin | Grŵp B | 75 | 18 |
Conwy | Grŵp B | 55 | 18 |
Sir y Fflint | Grŵp B | 66 | 18 |
Gwynedd | Grŵp B | 69 | 18 |
Castell-nedd Port Talbot | Grŵp B | 60 | 18 |
Casnewydd | Grŵp B | 51 | 18 |
Sir Benfro | Grŵp B | 60 | 18 |
Powys | Grŵp B | 68 | 18 |
Bro Morgannwg | Grŵp B | 54 | 18 |
Wrecsam | Grŵp B | 56 | 18 |
Blaenau Gwent | Grŵp C | 33 | 16 |
Ceredigion | Grŵp C | 38 | 17 |
Sir Ddinbych | Grŵp C | 48 | 17 |
Cyngor Sir Ynys Môn | Grŵp C | 35 | 17 |
Merthyr Tudful | Grŵp C | 30 | 15 |
Sir Fynwy | Grŵp C | 46 | 17 |
Torfaen | Grŵp C | 40 | 17 |
Cynghorau Grŵp A: poblogaeth o fwy na 200,000
Cynghorau Grŵp B: poblogaeth rhwng 100,000 a 200,000
Cynghorau Grŵp C: poblogaeth hyd at 100,000
Atodiad 2: cyflogau sy’n daladwy i aelodau sylfaenol, uwch-aelodau, aelodau dinesig ac aelodau llywyddol o Brif Gynghorau
Grŵp A
- Abertawe
- Caerdydd
- Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad | Swm |
---|---|
Cyflog sylfaenol | £19,771 |
Band 1, arweinydd | £74,141 |
Band 1, dirprwy arweinydd | £51,899 |
Band 2, aelodau gweithredol | £44,485 |
Band 3, cadeiryddion pwyllgorau (os y'u telir) | £29,657 |
Band 4, arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf | £29,657 |
Band 5, arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y'i telir) a dirprwy bennaeth dinesig | £23,726 |
Pennaeth Dinesig (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir) | £23,726 |
Aelod Llywyddol (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig) | £19,771 |
Grŵp B
- Bro Morgannwg
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Conwy
- Gwynedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad | Swm |
---|---|
Cyflog sylfaenol | £19,771 |
Band 1, arweinydd | £66,727 |
Band 1, dirprwy arweinydd | £46,709 |
Band 2, aelodau gweithredol | £40,036 |
Band 3, cadeiryddion pwyllgorau (os y'u telir) | £29,657 |
Band 4, arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf | £29,657 |
Band 5, arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y'i telir) a dirprwy bennaeth dinesig | £23,726 |
Pennaeth Dinesig (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir) | £23,726 |
Aelod Llywyddol (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig) | £19,771 |
Grŵp C
- Blaenau Gwent
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Torfaen
- Ynys Môn
Disgrifiad | Swm |
---|---|
Cyflog sylfaenol | £19,771 |
Band 1, arweinydd | £63,020 |
Band 1, dirprwy arweinydd | £44,114 |
Band 2, aelodau gweithredol | £37,812 |
Band 3, cadeiryddion pwyllgorau (os y'u telir) | £29,657 |
Band 4, arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf | £29,657 |
Band 5, arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y'i telir) a dirprwy bennaeth dinesig | £23,726 |
Pennaeth Dinesig (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir) | £23,726 |
Aelod Llywyddol (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig) | £19,771 |
Atodiad 3: taliad costau ychwanegol (fesul grŵp) sy'n orfodol i holl aelodau Cynghorau Cymuned a Thref
Math o Daliad | Grŵp | Gofyniad |
---|---|---|
Taliad costau ychwanegol | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Gorfodol i bob aelod |
Uwch-rôl | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | £500 gorfodol i un aelod; dewisol i hyd at saith aelod |
Maer neu gadeirydd | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Dewisol: hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans mynychu | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Dewisol |
Colled ariannol | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Dewisol |
Teithio a chynhaliaeth | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Dewisol |
Costau gofal neu gymorth personol | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Gorfodol |
Taliad costau ychwanegol | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Gorfodol i bob aelod |
Uwch-rôl | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Gorfodol i un aelod; dewisol i hyd at bum aelod |
Maer neu gadeirydd | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Dewisol: hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans mynychu | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Dewisol |
Colled ariannol | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Dewisol |
Teithio a chynhaliaeth | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Dewisol |
Costau gofal neu gymorth personol | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Gorfodol |
Taliad costau ychwanegol | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Gorfodol i bob aelod |
Uwch-rôl | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol i hyd at dri aelod |
Maer neu gadeirydd | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol: Hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol: Hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans mynychu | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol |
Colled ariannol | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol |
Teithio a chynhaliaeth | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol |
Costau gofal neu gymorth personol | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Gorfodol |
Taliad Costau Ychwanegol | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Gorfodol i bob aelod |
Uwch-rôl | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol i hyd at dri aelod |
Maer neu Gadeirydd | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol: Hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy Faer neu Ddirprwy Gadeirydd | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol: Hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans Mynychu | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol |
Colled Ariannol | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol |
Teithio a Chynhaliaeth | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol |
Costau gofal neu gymorth personol | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Gorfodol |
Taliad costau ychwanegol | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Gorfodol i bob aelod |
Uwch-rôl | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol i hyd at dri aelod |
Maer neu Gadeirydd | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol, Hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy Faer neu Ddirprwy Gadeirydd | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol, Hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans Mynychu | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol |
Colled Ariannol | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol |
Teithio a Chynhaliaeth | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol |
Cost Gofal neu Gymorth Personol | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Gorfodol |
Atodiad 4: taliadau Absenoldeb oherwydd Salwch ar gyfer Deiliaid Uwch-gyflogau mewn Prif Gynghorau
Mae fframwaith y Panel yn darparu trefniadau penodol ar gyfer absenoldeb hirdymor oherwydd salwch unrhyw ddeiliad uwch-gyflog fel a ganlyn:
- Caiff salwch hirdymor ei ddiffinio fel absenoldebau ardystiedig y tu hwnt i 4 wythnos.
- Uchafswm hyd absenoldeb oherwydd salwch yn y cynigion hyn yw 26 wythnos neu nes bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, pa un bynnag sydd gyntaf (ond os bydd yn cael ei ailbenodi bydd unrhyw ran o’r 26 wythnos sy’n weddill yn cael ei chynnwys).
- O fewn y terfynau hyn gall deiliad uwch-gyflog sydd ar absenoldeb hirdymor oherwydd salwch barhau i gael cydnabyddiaeth ariannol am y swydd a ddelir os yw’r awdurdod yn penderfynu hynny.
- Mater i’r awdurdod yw penderfynu a yw’n mynd i benodi rhywun i ddirprwyo ar ran y sawl sy’n absennol ond bydd yr aelod etholedig sy’n dirprwyo yn gymwys i gael yr uwch-gyflog sy’n briodol i’r swydd.
- Os yw talu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo yn golygu bod yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i’r uchafswm uwch-gyflogau sy’n berthnasol i’r awdurdod hwnnw, fel y nodir yn yr Adroddiad Blynyddol, bydd ychwanegiad at yr uchafswm yn cael ei ganiatáu tra pery’r trefniant dirprwyo. (Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn berthnasol i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful pe bai’n golygu bod mwy na 50% o’r aelodaeth yn cael uwch-gyflog. Nid fyddai'n berthnasol ychwaith mewn perthynas ag aelod o weithrediaeth cyngor pe bai’n golygu bod y cabinet yn mynd y tu hwnt i 10 swydd, sef yr uchafswm statudol).
- Pan fo’r Cyngor yn cytuno i dalu i aelod etholedig sy’n dirprwyo, rhaid hysbysu’r Panel, a hynny o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad, ynghylch y manylion gan gynnwys y swydd benodol a hyd disgwyliedig y trefniant dirprwyo. Rhaid diwygio Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol yr awdurdodau yn unol â hynny.
- Nid yw’n berthnasol i aelodau etholedig o brif gynghorau nad ydynt yn ddeiliaid uwch-swyddi gan eu bod yn parhau i gael cyflog sylfaenol am o leiaf chwe mis, ni waeth beth fo’u presenoldeb, a mater i’r awdurdod yw unrhyw estyniad y tu hwnt i’r raddfa amser hon.