Neidio i'r prif gynnwy

Rhagymadrodd

Gwneir y canllawiau hyn o dan adran 157Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (‘y Mesur’). Rhaid i brif gyngor (cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru), cyngor cymuned a thref, awdurdod parc cenedlaethol, awdurdod tân ac achub a chyd-bwyllgor corfforedig roi sylw i’r canllawiau hyn. At ddiben y canllawiau hyn, mae'r term ‘awdurdod perthnasol’ yn cyfeirio at y cyrff a enwir uchod. 

Diben y canllawiau hyn

Cyhoeddir y canllawiau hyn gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ‘y Panel’, i gefnogi'r awdurdodau perthnasol y cyfeirir atynt uchod i gydymffurfio â'i benderfyniadau ynglŷn â chydnabyddiaeth ariannol aelodau, gan gynnwys gofynion o ran taliadau, adrodd a chyhoeddi fel y nodir yn adroddiad blynyddol y Panel. 

Bwriad y polisi

Mae aelodau'r awdurdodau perthnasol a gwmpesir gan y canllawiau hyn yn cyflawni rôl bwysig o fewn democratiaeth leol. Maent yn gweithredu ar ran pobl eraill yn eu cymunedau ac er eu lles pennaf. Drwy wneud hynny, maent yn cael effaith uniongyrchol ar fywydau beunyddiol pobl leol.

Mae'n bwysig cael strwythur cydnabyddiaeth ariannol i gefnogi unigolion wrth iddynt gyflawni eu rolau, fel ei fod yn adlewyrchu'r ymrwymiad y maent yn ei wneud i gymdeithas.

Yr hyn sy'n ofynnol o dan Fesur 2011

Mae Mesur 2011 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Perthnasol i gydymffurfio â'r gofynion a osodir arnynt mewn adroddiadau blynyddol a gyhoeddir gan y Panel. Mae'r ddyletswydd hon yn cynnwys (ond nid yw'n gyfyngedig i):

  • gwneud taliadau gofynnol neu awdurdodedig i aelodau unigol yn unol â phenderfyniadau a wneir gan y Panel
  • sicrhau bod trefniadau ar waith i alluogi aelodau i ildio unrhyw daliad y mae ganddynt hawl iddo, naill ai yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol
  • sicrhau bod trefniadau ar waith sy'n osgoi dyblygu taliadau gofynnol neu awdurdodedig
  • darparu gwybodaeth i'r Panel mewn perthynas â thaliadau gofynnol ac awdurdodedig a'r trefniadau sydd ar waith i gefnogi'r prosesau cydnabyddiaeth ariannol
  • darparu gwybodaeth i'r cyhoedd mewn perthynas â thaliadau gofynnol ac awdurdodedig a'r trefniadau sydd ar waith i gefnogi’r prosesau cydnabyddiaeth ariannol. 

Taliadau i Aelodau

Mae Adran 153Fesur 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Perthnasol wneud taliadau i Aelodau o’r Awdurdod Perthnasol hwnnw yn unol â'r Gofynion a roddir arnynt gan y Panel mewn adroddiad blynyddol.

Statws penderfyniadau a wneir gan y Panel

Mae'n ofynnol i awdurdodau perthnasol gydymffurfio â'r penderfyniadau a wneir gan y Panel. Mae nifer o'r penderfyniadau yn ei gwneud yn ofynnol i daliadau penodol gael eu gwneud, neu'n rhoi gofyniad penodol o ran adrodd a/neu gyhoeddi ar awdurdodau perthnasol. Nid oes gan awdurdodau perthnasol ddisgresiwn mewn perthynas â'r mater hwn. Nid oes gofyniad i awdurdod perthnasol bleidleisio ar y trefniadau i awdurdodi taliadau. Nid yw unrhyw bleidlais gan gorff perthnasol, naill ai o blaid neu yn erbyn y penderfyniadau hyn, yn cael effaith ar rwymedigaeth y cyrff perthnasol i gydymffurfio â'r gofynion a ragnodir gan y Panel. 

Wrth bennu trefniadau ar gyfer talu aelodau, rhaid i awdurdod perthnasol sicrhau ei fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth ac arferion gorau cyfredol o ran rheolaeth ariannol, llywodraethiant, rheoli gwybodaeth bersonol ac Egwyddorion Nolan ar safonau mewn bywyd cyhoeddus. 

Rhaid i gyrff perthnasol sicrhau: 

  • bod systemau priodol ar waith i sicrhau bod aelodau yn ymwybodol o natur a gwerth y taliadau sydd ar gael iddynt
  • eu bod yn rhoi gwybodaeth i aelodau am ba daliadau sy'n orfodol a pha rai sy'n ddewisol
  • eu bod yn esbonio'r dull gweithredu y maent yn ei ddefnyddio a/neu wedi'i ddefnyddio mewn perthynas â thaliadau dewisol, gan gynnwys sut y maent wedi arfer eu disgresiwn a pha ffactorau y maent wedi'u hystyried
  • eu bod yn egluro wrth yr aelodau sut y gwneir y taliadau a phryd
  • eu bod yn egluro wrth yr aelodau faint o wybodaeth am eu cydnabyddiaeth ariannol a fydd ar gael yn gyhoeddus ac o dan ba amgylchiadau
  • eu bod yn egluro pa daliadau y cyhoeddir gwybodaeth gyhoeddus amdanynt ar sail y cyfanswm a delir i'r holl aelodau yn hytrach nag ar sail aelodau unigol. Taliadau cyffredinol (‘globalised payments’) yw'r enw ar hyn
  • bod aelodau yn deall yn glir pa wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau y gellir prosesu taliadau yn brydlon
  • bod prosesau ar waith ac yn cael eu cyfleu i aelodau, gan esbonio sut y gall aelodau unigol ildio taliad penodol, naill ai yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol
  • bod dulliau ar waith i ddiogelu rhag taliadau dyblyg, dosrannu a/neu adennill taliadau a chamymddwyn ariannol

Aelodau sy'n dewis ildio taliad cyfan neu ran o daliad

Er ei bod yn ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau yn unol â phenderfyniadau'r Panel, nid oes rhwymedigaeth ar aelodau i dderbyn y taliadau hyn. 

Dylai pob awdurdod perthnasol annog a galluogi aelodau i dderbyn y taliadau y mae ganddynt hawl iddynt fel cydnabyddiaeth am y rôl y maent yn ei chyflawni. 

Dylai hyn gynnwys y canlynol:

  • esbonio bod y trefniadau cydnabyddiaeth ariannol yn adlewyrchu'r gwasanaeth cyhoeddus a wneir ar ran eraill
  • egluro bod y taliadau ar waith, yn rhannol, er mwyn talu am dreuliau rhesymol

Dylai awdurdodau perthnasol sicrhau nad yw aelodau’n cael eu hannog i beidio â derbyn a/neu hawlio taliadau y mae hawl ganddynt i'w cael. Mae hyn yn cynnwys trafodaeth ynghylch a yw unigolion yn bwriadu cymryd taliadau a/neu lwfansau mewn fforymau agored, megis cyfarfodydd cyngor neu gyfarfodydd eraill, lle gallai unigolion deimlo pwysau i ddilyn dull gweithredu penodol. 

Os bydd aelodau yn dewis peidio â derbyn y taliadau, rhaid i awdurdodau perthnasol sicrhau bod pob aelod yn ymwybodol y gall ddewis peidio â derbyn rhan o'r taliad penodol neu'r taliad cyfan, a sut i wneud hyn. 

Rhaid i'r broses a gaiff ei mabwysiadu gynnwys datganiad gan yr aelod mai dewis yr aelod yw'r penderfyniad i beidio â derbyn taliad. Rhaid i hyn fod yn ddewis rhydd gan yr aelod ac nid yn wahoddiad i lofnodi ffurflen neu ddatganiad optio allan. Dylai'r datganiad hwn fod ar gyfer pob blwyddyn yn hytrach nag un datganiad ar gyfer tymor y swydd etholedig.

Gall aelod newid ei feddwl hanner ffordd drwy’r flwyddyn i dderbyn neu wrthod taliad. Yn y sefyllfa hon, dylai’r aelod roi gwybod i’r awdurdod am y newid cyn gynted â phosibl.

Mater i’r awdurdodau perthnasol yw rheoli a chofnodi eu prosesau a’u gweithdrefnau ariannol.

Dylai'r awdurdod perthnasol gydnabod y datganiad a chadarnhau y cymerir y camau angenrheidiol i eithrio taliadau. 

Rhaid cadw'r datganiad yn unol â'r gofynion ar gyfer cadw cofnodion ariannol a sicrhau ei fod ar gael ar gyfer unrhyw archwiliad o'r systemau talu. 

O dan amgylchiadau pan fydd aelod yn cael taliad er bod yr unigolyn wedi cwblhau'r datganiad priodol, bydd yr awdurdod perthnasol yn trafod y taliad gwallus â'r aelod ac yn trefnu i'r taliad gael ei adfer. 

Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol

Rhaid i brif gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (APCau) ac Awdurdodau Tân ac Achub (ATAau) yng Nghymru gynnal a chyhoeddi Rhestr flynyddol o Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau (‘y Rhestr’) sy’n gyson â phenderfyniadau’r Panel ynghylch cyflogau i aelodau a thaliadau i aelodau cyfetholedig. Mae'r elfennau gofynnol sylfaenol y mae'n rhaid eu cynnwys yn y Rhestr wedi'u nodi yn adrannau unigol y canllawiau hyn sy'n ymwneud â phrif gynghorau, cynghorau cymuned a thref, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.

Rhestr Taliadau

Rhaid i brif gynghorau, APCau ac ATAau a Chynghorau Cymuned a Thref gyhoeddi Datganiad o Daliadau a wnaed i’w haelodau ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Mae'r wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu yn y Datganiad wedi'i nodi yn adrannau unigol y canllawiau hyn sy'n ymwneud â phrif gynghorau, cynghorau cymuned a thref, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub.

Costau Teithio a Chynhaliaeth pan fo’r Aelod ar Fusnes Swyddogol

Caiff aelodau hawlio ad-daliadau ar gyfer costau teithio a chynhaliaeth (prydau a llety) lle mae’r rhain wedi deillio o ganlyniad i gyflawni busnes neu ddyletswyddau cymeradwy swyddogol. 

Cyfraniad tuag at gostau Gofal a Chymorth Personol

Mae hawl gan aelodau, gan gynnwys aelodau cyfetholedig, i gyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol i'r rheini sydd ag anghenion cymorth personol a/neu gyfrifoldebau gofalu i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol fel aelod o awdurdod. Mae’r Panel o’r farn na ddylai’r costau gofal ychwanegol sy’n ofynnol i gyflawni dyletswyddau cymeradwy atal unrhyw unigolion rhag dod yn aelod neu barhau i fod yn aelod o awdurdod na chyfyngu ar eu gallu i gyflawni’r rôl. 

Rhaid i awdurdodau perthnasol sicrhau bod trefniadau ar waith i wneud y canlynol: 

  • cyfleu i aelodau fod y cymorth hwn ar gael
  • cadarnhau bod y cymorth hwn ond ar gael ar gyfer gweithgareddau y mae'r awdurdod unigol wedi’u dynodi’n fusnes swyddogol neu’n ddyletswydd gymeradwy a allai gynnwys amser priodol a rhesymol ar gyfer paratoi a theithio
  • nodi'r trefniadau penodol sydd ar waith i wneud taliadau mewn perthynas â'r cymorth hwn

Rhaid i’r holl awdurdodau perthnasol ddarparu taliad tuag at gostau angenrheidiol gofalu am blant ac oedolion dibynnol (sy’n cynnwys gofal a ddarperir gan ofalwyr ffurfiol ac anffurfiol) ac am anghenion cymorth personol fel a ganlyn: 

  • costau gofal ffurfiol (wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru neu gorff tebyg) i’w talu yn unol â thystiolaeth
  • costau gofal anffurfiol (heb eu cofrestru) i’w talu hyd at uchafswm sydd gyfwerth â chyfraddau fesul awr y cyflog byw gwirioneddol fel y diffinnir gan y Living Wage Foundation ar adeg mynd i gostau 

Dim ond pan ddarperir derbynebau gan y darparwr gofal y dylai awdurdod perthnasol wneud taliadau. 

Dylid rhoi gwybod am unrhyw gyfraniad a delir at gostau gofal a chymorth personol a wneir gan brif gynghorau, APCau, ATAau a chynghorau cymuned a thref fel symiau cyffredinol drwy restru'r cyfansymiau a dalwyd a chyfanswm nifer y derbynwyr. Ni ddylid cyhoeddi enwau’r aelodau.

Absenoldeb hirdymor oherwydd salwch

Mae’r trefniadau hyn yn berthnasol i aelodau etholedig prif gynghorau, APCau ac ATAau sy’n ddeiliaid uwch-gyflogau. Nid ydynt yn berthnasol i aelodau APCau a benodwyd gan Lywodraeth Cymru nac aelodau cyfetholedig.

Caiff salwch hirdymor ei ddiffinio fel absenoldebau ardystiedig y tu hwnt i 4 wythnos. Uchafswm hyd absenoldeb oherwydd salwch yw 26 wythnos neu nes bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, pa un bynnag sydd gyntaf (ond os bydd yn cael ei ailbenodi bydd unrhyw ran o’r 26 wythnos sy’n weddill yn cael ei chynnwys).

Gall deiliad uwch-gyflog sydd ar absenoldeb hirdymor oherwydd salwch barhau i gael cydnabyddiaeth ariannol am y swydd a ddelir os bydd yr awdurdod yn penderfynu hynny.

Mater i’r awdurdod yw penderfynu a yw’n mynd i benodi rhywun i ddirprwyo ar ran y sawl sy’n absennol, ond bydd y sawl sy’n dirprwyo yn gymwys i gael yr uwch-gyflog sy’n briodol i’r swydd.

Os yw talu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo yn golygu bod yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i’r uchafswm uwch-gyflogau sy’n daladwy i’r awdurdod hwnnw, fel y nodir yn yr adroddiad blynyddol, bydd ychwanegiad at yr uchafswm yn cael ei ganiatáu tra pery’r trefniant dirprwyo. (Fodd bynnag, ni fyddai hyn yn berthnasol i gyngor Merthyr Tudful pe bai’n golygu bod mwy na 50% o’r aelodaeth yn cael uwch-gyflog. Byddai angen cael cymeradwyaeth benodol gan Weinidogion Cymru dan amgylchiadau o’r fath. Nid yw chwaith yn berthnasol mewn perthynas ag aelod o weithrediaeth cyngor pe bai’n golygu bod y cabinet yn mynd y tu hwnt i 10 swydd, sef yr uchafswm statudol

Talu i Ddirprwy

Mater i'r awdurdod yw penderfynu a ddylid gwneud penodiad dirprwyo. Bydd yr aelod etholedig sy'n dirprwyo ar gyfer uwch-ddeiliad cyflog sy'n cymryd absenoldeb teuluol yn gymwys i gael uwch-gyflog os yw'r awdurdod yn penderfynu hynny.

Os bydd awdurdod yn cytuno i dalu i rywun ddirprwyo, rhaid iddo roi gwybod i'r Panel am y cytundeb o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad. Y manylion, gan gynnwys y swydd benodol, enwau'r aelodau parhaol ac aelodau sy'n dirprwyo a hyd disgwyliedig y trefniant dirprwyo. Rhaid diwygio Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol yr awdurdodau yn unol â hynny.

Nid yw’r trefniadau hyn yn berthnasol i aelodau etholedig prif gynghorau nad ydynt yn ddeiliaid uwch-swyddi gan eu bod yn parhau i gael cyflog sylfaenol am o leiaf chwe mis, ni waeth beth fo’u presenoldeb, a mater i’r awdurdod yw unrhyw estyniad y tu hwnt i’r cyfnod hwn. 

Pensiynau

Gall y Panel wneud penderfyniadau ynghylch darparu gwybodaeth am bensiynau aelodau. Gellir gwneud penderfyniadau ynghylch y canlynol: 

  • yr aelodau o'r awdurdod y mae'n ofynnol i'r awdurdod dalu pensiynau perthnasol iddynt neu mewn perthynas â nhw
  • taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn perthynas â phensiynau perthnasol

Rhaid i awdurdod perthnasol wneud trefniadau i gydymffurfio â gofyniad a osodir ganddo yn ei adroddiad blynyddol. 

Trefniadau ar gyfer Aelodau Cyfetholedig

Rhaid i Brif Gynghorau, APCau ac ATAau dalu ffioedd i aelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio yn unol â phenderfyniadau'r Panel. 

Mae hyn yn cynnwys:

  • cadeiryddion pwyllgorau safonau, a phwyllgorau archwilio 
  • aelodau cyffredin o bwyllgorau safonau sydd hefyd yn cadeirio pwyllgorau safonau ar gyfer cynghorau cymuned a thref 
  • aelodau cyffredin o bwyllgorau safonau; pwyllgor craffu addysg; pwyllgor craffu trosedd ac anrhefn a phwyllgor archwilio 
  • cynghorwyr cymuned a thref sy'n aelodau o bwyllgorau safonau prif gynghorau 

Dylai taliadau a wneir i aelodau cyfetholedig adlewyrchu amser rhesymol ar gyfer paratoi cyn cyfarfod. Mater i bob awdurdod perthnasol yw pennu faint o amser yr ystyrir ei fod yn rhesymol.

Dylid cynnwys amser teithio i’r cyfarfod ac oddi yno yn yr hawliadau am daliadau a wneir gan aelodau cyfetholedig (hyd at uchafswm y gyfradd ddyddiol). 

Rhaid i’r swyddog priodol yn yr awdurdod nodi ymlaen llaw a yw cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn neu hanner diwrnod. Pan fydd cyfarfod wedi’i drefnu ar gyfer diwrnod llawn, bydd y ffi yn cael ei thalu yn unol â hynny, hyd yn oed os yw’r cyfarfod yn gorffen o fewn pedair awr. 

Rhaid talu ffioedd am gyfarfodydd a gweithgareddau eraill, gan gynnwys pwyllgorau a gweithgorau eraill (gan gynnwys grwpiau gorchwyl a gorffen), cyfarfodydd rhagarweiniol gyda swyddogion, hyfforddiant a phresenoldeb mewn cynadleddau neu unrhyw gyfarfod ffurfiol arall y gofynnir i aelodau cyfetholedig ei fynychu. 

Gall awdurdod perthnasol benderfynu gwneud taliadau yn seiliedig ar ddiwrnodau llawn neu hanner diwrnodau,ac o fis Ebrill 2024 gall benderfynu gwneud taliadau yn seiliedig ar gyfradd fesul awr mewn perthynas â gweithgareddau aelodau. Bwriedir i'r dull gweithredu hwn roi cymaint o hyblygrwydd â phosibl i awdurdod perthnasol wrth reoli hawliadau a chynrychioli'r gwerth gorau am arian. Rhaid cyfleu'r dull gweithredu a threfniadau manwl i aelodau. 

Mae'r Panel wedi penderfynu y dylai fod hyblygrwydd lleol i'r swyddog lleol perthnasol benderfynu pryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr lle bo’n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr.

Rhaid i bob awdurdod sicrhau, drwy ei bwyllgor gwasanaethau democrataidd neu bwyllgor priodol arall, fod ei holl aelodau cyfetholedig sydd â phleidlais yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylid rhoi cymorth o’r fath heb gostau i’r aelod unigol. 

Absenoldeb teuluol 

Mae gan aelod etholedig o brif gyngor hawl i gadw cyflog sylfaenol wrth gymryd cyfnod o absenoldeb teuluol. 

Mae canllawiau statudol am absenoldeb o gyfarfodydd awdurdodau lleol wedi cael eu cyhoeddi a rhaid i awdurdodau lleol roi sylw i’r canllawiau wrth arfer eu swyddogaethau. 

Mae’r categorïau absenoldeb teuluol y darperir ar eu cyfer yn y trefniadau hyn wedi’u nodi yn y canllawiau ac maent yn cynnwys absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb newydd-anedig ac absenoldeb mabwysiadu. 

Nid yw cofnod presenoldeb yr aelod yn union cyn dechrau'r absenoldeb teuluol yn effeithio ar lefel y tâl. 

Pan fydd deiliad uwch-gyflog yn gymwys i gael absenoldeb teuluol, bydd yn parhau i gael y cyflog tra pery’r absenoldeb, ond dim ond am y cyfnod a nodir.

Dirprwyo ar ran aelod sy'n cymryd absenoldeb teuluol 

Mater i bob prif gyngor yw penderfynu a ddylid penodi dirprwy i gyflawni cyfrifoldebau aelod sy'n cael uwch-gyflog. Bydd yr aelod etholedig sy’n dirprwyo ar ran deiliad uwch-gyflog sy’n cymryd absenoldeb teuluol yn gymwys i gael uwch-gyflog, os bydd yr awdurdod yn penderfynu bod hyn yn briodol.

Os bydd talu cydnabyddiaeth ariannol i’r sawl sy’n dirprwyo’n golygu bod yr awdurdod yn mynd y tu hwnt i’r uchafswm uwch-gyflogau y caniateir iddo eu talu, fel y nodir yn adroddiad blynyddol y Panel, bydd ychwanegiad at yr uchafswm yn cael ei ganiatáu tra pery’r trefniant dirprwyo. Mae hyn yn amodol ar y telerau a nodir yng nghyfansoddiad pob prif gyngor. 

Yn achos Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, byddai'n golygu bod nifer yr uwch-gyflogau yn uwch na hanner cant y cant o aelodaeth y Cyngor, a bydd angen cael cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru cyn rhoi trefniadau ar waith. 

Os bydd prif gyngor yn cytuno i dalu i rywun ddirprwyo ar gyfer absenoldeb teuluol, rhaid i'r prif gyngor roi gwybod i'r Panel am y cytundeb o fewn 14 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad. Rhaid i'r manylion a roddir i'r Panel gynnwys y swydd benodol, enwau'r aelodau parhaol ac aelodau sy'n dirprwyo a hyd y trefniant dirprwyo. 

Rhaid diwygio rhestr cydnabyddiaeth ariannol y cyngor i adlewyrchu'r newid mewn trefniadau. 

Trefniadau rhannu swyddi gweithrediaeth

Mae adran 58Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu ar gyfer rhannu swyddi ar gyfer arweinwyr gweithrediaethau ac aelodau o weithrediaethau. 

Mae Deddf 2000: 

  • yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnwys darpariaeth yn ei drefniadau gweithredol sy’n galluogi i ddau gynghorydd neu fwy rannu swydd yn y weithrediaeth, gan gynnwys swydd arweinydd y weithrediaeth
  • yn galluogi awdurdod lleol i newid uchafswm aelodau o weithrediaeth pan fydd aelodau o'r weithrediaeth yn rhannu swydd
  • yn nodi'r trefniadau ar gyfer pleidleisio a chworwm pan fydd aelodau o weithrediaeth yn rhannu swydd

I aelodau o weithrediaeth: Bydd pob un sy’n rhannu swydd yn cael cyfran briodol o'r grŵp cyflogau. 

Rhaid i awdurdod lleol beidio â mynd y tu hwnt i'r uchafswm statudol o ddeg o aelodau cabinet, fel y nodir yn Neddf Llywodraeth Leol 2000. Mae pob aelod, nid pob swydd, yn cyfrif fel un o fewn yr uchafswm hwn. Mae eithriad o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 lle mae trefniadau rhannu swydd wedi’u cynnwys yn y weithrediaeth. Yn yr amgylchiadau hyn, gall nifer yr aelodau gweithredol cynyddu i dri ar ddeg yn ddibynnol ar drefniadau.

Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau hefyd yn gwneud darpariaeth i brif gynghorau allu penodi aelodau etholedig i gynorthwyo’r weithrediaeth i gyflawni ei swyddogaethau. Bydd penodiadau o’r fath yn cael eu gwneud gan arweinydd y cyngor.

Bydd y Panel yn penderfynu fesul achos ar yr uwch gyflog priodol, os o gwbl, ar gyfer y rhai sy’n cynorthwyo’r weithrediaeth.

O dan y Mesur, nifer y bobl sy’n cael uwch-gyflog, nid nifer y swyddi ag uwch-gyflogau, sy’n cyfrif tuag at y cap. Felly, ar gyfer yr holl drefniadau rhannu swyddi bydd y cap uwch-gyflog yn cael ei gynyddu yn amodol ar yr uchafswm statudol o 50% o aelodaeth y cyngor. Os byddai'r trefniadau'n golygu yr eir y tu hwnt i’r uchafswm statudol, byddai angen cymeradwyaeth y Panel a Gweinidogion Cymru ar awdurdod lleol cyn rhoi unrhyw drefniadau ar waith. 

Mewn perthynas â threfniadau rhannu swydd ar gyfer swyddi eraill ag uwch-gyflogau (e.e. Cadeiryddion Pwyllgorau: Arweinwyr y gwrthbleidiau), dylai prif awdurdod gael awdurdodiad y Panel cyn rhoi trefniadau ar waith. 

Gall prif gynghorau wneud cais am uwch gyflog penodol neu ychwanegol nad yw’n dod o dan y Fframwaith presennol. 

Rhoddwyd canllawiau i awdurdodau lleol ar y broses ymgeisio ym mis Ebrill 2014 ac roedd yn cynnwys yr egwyddorion a ganlyn: 

  • ni chaiff cyfanswm y bobl sy’n cael uwch gyflogau fod yn fwy na phum deg y cant o’r aelodaeth
  • rhaid i geisiadau gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod cyfan (oni bai bod hyn wedi’i ddirprwyo mewn Rheolau Sefydlog) cyn eu cyflwyno i’r Panel
  • rhaid dangos tystiolaeth glir bod y swydd neu’r swyddi yn dod gyda chyfrifoldebau ychwanegol a bydd disgrifiad o’r rôl, y swyddogaeth a’r cyfnod
  • rhaid i bob cais nodi pa bryd y cynhelir adolygiad ffurfiol o’r rôl, a bydd yn cael ei ystyried gan yr awdurdod cyfan

Penodiadau i gyrff eraill

Nid yw unigolion sy'n Arweinydd, yn Ddirprwy Arweinydd neu'n aelod o'r weithrediaeth / neu'n aelod o'r cabinet yn gymwys i gael taliad os cânt eu penodi i swydd mewn APC neu ATA. Yn ogystal, nid yw unigolion hyn yn gymwys i gael taliad os cânt eu hethol neu eu cyfethol i Gyngor Cymuned neu Dref. Maent yn parhau i fod yn gymwys i hawlio costau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan y cyngor cymuned neu dref. Lle bo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio.

Rhestr cydnabyddiaeth ariannol

Rhaid i brif gynghorau, APCau ac ATAau gynnal Rhestr flynyddol o Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau (‘y Rhestr’) yn unol â phenderfyniadau’r Panel ynghylch cyflogau i aelodau a thaliadau i aelodau cyfetholedig. 

Rhaid i'r Rhestr gynnwys y wybodaeth ganlynol: 

  1. Enwau’r aelodau a fydd yn cael y cyflog sylfaenol yn unig a’r swm i’w dalu.
  2. Enwau’r aelodau a fydd yn cael uwch-gyflog, gan nodi'r swydd, y band a'r portffolio sydd ganddynt a’r swm i’w dalu.
  3. Enwau’r aelodau a fydd yn cael cyflog dinesig a’r swm i’w dalu.
  4. Enwau'r aelodau a fydd yn cael ffi aelod cyfetholedig a ph'un a ydynt yn gadeirydd ynteu'n aelod cyffredin a’r swm i’w dalu. 
  5. Enwau’r aelodau a fydd yn cael uwch-gyflog fel cadeirydd Cyd-bwyllgor neu Is-bwyllgor i Gyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r swm i’w dalu. 
  6. Enwau’r aelodau a fydd yn cael uwch-gyflog penodol neu ychwanegol a gymeradwywyd gan y Panel a’r swm i’w dalu.

Rhaid i brif gynghorau hefyd gadarnhau yn eu Rhestr flynyddol nad ydynt wedi mynd dros uchafswm yr uwch-gyflogau a bennwyd ar gyfer y cyngor. 

Rhaid i brif gynghorau, APCau ac ATAau gynnwys datganiad o dreuliau y gellir eu caniatáu yn eu Rhestr flynyddol yn unol â phenderfyniadau'r Panel.

Rhaid i'r Rhestr nodi'r trefniadau ar gyfer talu cyflogau, lwfansau a ffïoedd i bob aelod ac aelod cyfetholedig sy'n hawlio treuliau ar gyfer gofal a chymorth personol, teithio a chynhaliaeth, trefniadau i osgoi dyblygu a threfniadau i ad-dalu cyflogau, lwfansau a ffïoedd. 

Rhaid i'r Rhestr gynnwys y dyletswyddau y gall aelodau ac aelodau cyfetholedig hawlio ad-daliad tuag at dreuliau teithio, cynhaliaeth a chostau gofal a chymorth personol mewn perthynas â hwy.

Rhaid i brif gynghorau ddatgan y canlynol yn y Rhestr: 

  • a oes datganiad o gyfrifoldeb sylfaenol cynghorydd wedi'i wneud
  • a oes disgrifiadau o rôl deiliaid swyddi ag uwch-gyflog wedi'u llunio
  • a gedwir cofnodion o bresenoldeb cynghorwyr

Rhaid i brif gynghorau, APCau ac ATAau gyhoeddi'r Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol cyn gynted ag y bo'n ymarferol a heb fod yn hwyrach na 31 Gorffennaf yn y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi. Dylid cyhoeddi’r Rhestr mewn fformat ac mewn man sy’n golygu ei fod ar gael yn hawdd i aelodau’r cyhoedd.

Rhaid anfon y Rhestr at Ysgrifenyddiaeth y Panel erbyn 31 Gorffennaf fan bellaf hefyd.

Rhaid i unrhyw newidiadau i’r Rhestr yn ystod y flwyddyn gael eu cyhoeddi’n brydlon yn y dull uchod a rhaid rhoi gwybod yn brydlon i Ysgrifenyddiaeth y Panel am bob newid.

Rhestr taliadau

Yn unol ag Adran 151Fesur 2011, rhaid i awdurdodau perthnasol gyhoeddi Datganiad o Daliadau a wnaed i’w aelodau ar gyfer pob blwyddyn ariannol. 

Rhaid cyhoeddi’r wybodaeth hon ar ffurf ac mewn lleoliad sy’n hygyrch i aelodau’r cyhoedd erbyn 30 Medi fan bellaf yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol. 

Rhaid darparu'r un wybodaeth i'r Panel o fewn yr un terfyn amser. 

Rhaid darparu’r wybodaeth ganlynol:

  • swm y cyflog sylfaenol, yr uwch-gyflog, y cyflog dinesig a’r ffi aelod cyfetholedig a dalwyd i bob aelod neu aelod cyfetholedig o’r awdurdod perthnasol a enwir gan gynnwys achosion lle dewisodd yr aelod beidio â chael y cyfan neu ran o’r cyflog, neu’r ffi ar gyfer blwyddyn y Cyngor sydd dan sylw. Lle talwyd uwch-gyflog, dylid darparu teitl yr uwch-swydd a ddelir
  • mae'n bwysig ystyried yr effaith bosibl ar breifatrwydd a diogelwch aelodau wrth gyhoeddi elfennau o gydnabyddiaeth ariannol aelodau
  • caiff llawer o'r taliadau a wneir i aelodau eu cyhoeddi, er enghraifft cyflogau sylfaenol ac uwch-gyflogau. Dylid parhau i gyhoeddi'r rhain ar gyfer aelodau unigol
  • ystyrir bod treuliau sy'n ymwneud â thaliadau costau gofal a chymorth personol o natur wahanol. Rhaid i brif gynghorau gyhoeddi'r wybodaeth hon ar sail y cyfanswm a dalwyd i'r holl aelodau

Mae'r canlynol yn berthnasol i Gynghorau Cymuned a Thref yn unig.

Y taliadau a wnaed gan gynghorau cymuned a thref i aelodau a enwir fel:

  • taliadau gorfodol tuag at gostau ychwanegol gweithio gartref ar fusnes y cyngor
  • dylid cofnodi’r ffigurau hyn fel symiau cyffredinol yn y datganiad taliadau o fis Ebrill 2024
  • taliadau gorfodol tuag at nwyddau traul swyddfa sy'n deillio o weithio gartref. Dylid cofnodi’r ffigurau hyn fel symiau cyffredinol yn y datganiad taliadau o fis Ebrill 2024
  • taliadau cyfrifoldeb
  • lwfansau a dalwyd i faer neu gadeirydd a dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd
  • lawndal am golled ariannol
  • costau yr aed iddynt mewn perthynas â theithio a chynhaliaeth. Dylid cofnodi’r  ffigurau hyn fel symiau cyffredinol yn y datganiad taliadau
  • unrhyw daliadau a wnaed ar gyfer bod yn bresennol ar fusnes swyddogol neu ddyletswydd a gymeradwywyd

Yr holl dreuliau teithio a chynhaliaeth a thaliadau eraill a gafodd pob aelod ac aelod cyfetholedig a enwir o’r awdurdod perthnasol, gyda phob categori wedi’i nodi ar wahân.

Swm unrhyw daliadau pellach a gafodd unrhyw aelod a enwir a oedd wedi’i enwebu i, neu'i benodi gan awdurdod perthnasol arall neu gorff cyhoeddus arall yn ôl y diffiniad yn Adran 67Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, sef: 

  • bwrdd iechyd lleol 
  • panel heddlu a throseddu 
  • awdurdod perthnasol 
  • corff a ddynodwyd yn gorff cyhoeddus mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru

Enwau’r aelodau na chawsant y cyflog sylfaenol neu’r uwch-gyflog am eu bod wedi’u hatal dros dro am y cyfan neu ran o’r cyfnod blynyddol y mae’r Rhestr yn berthnasol iddo. 

O ran cyhoeddi’r cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol, dim ond y cyfanswm a ad-dalwyd yn ystod y flwyddyn, a chyfanswm nifer y rhai a’i derbyniodd, y mae’n ofynnol i awdurdodau perthnasol ei gyhoeddi. 

Mater i bob awdurdod yw penderfynu ar ei ymateb i unrhyw geisiadau Rhyddid Gwybodaeth y bydd yn eu derbyn. Fodd bynnag, ni fwriedir i fanylion unrhyw hawliadau unigol gael eu datgelu. 

Os nad oes unrhyw ffigurau i adrodd arnynt, dylid cyhoeddi hynny a’i ddarparu i’r Panel erbyn 30 Medi.

Gofynion a osodir ar brif gynghorau

Mae'r trefniadau canlynol yn gymwys i brif gynghorau. 

Taliadau

  • Rhaid gwneud y taliad cyflog sylfaenol a bennir gan y Panel i bob aelod o'r cyngor, ac eithrio aelodau sydd wedi dewis ildio'r taliad hwn, naill ai yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol. 
  • Gwneir taliadau uwch-gyflogau i aelodau a benodir i weithrediaeth prif gyngor, sydd â chyfrifoldebau portffolio penodol. Mater i'r weithrediaeth yw penderfynu faint o uwch-gyflogau a delir o fewn cyfanswm yr uwch-gyflogau a ganiateir.
  • Gwneir taliadau uwch-gyflogau hefyd i arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf.
  • Gellir talu uwch-gyflogau i gadeiryddion pwyllgorau, penaethiaid dinesig, dirprwy benaethiaid dinesig, aelodau llywyddol ac arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill hefyd. Mae taliadau am y rolau hyn yn ddewisol ac yn fater i bob prif gyngor. 
  • Ffi a delir i aelodau cyfetholedig sydd â hawliau pleidleisio yw taliad aelod cyfetholedig. 

Yn ogystal, gall aelodau: 

  • hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth
  • hawlio cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol
  • parhau i gael eu pecyn cydnabyddiaeth ariannol pan fyddant ar gyfnod o absenoldeb teuluol y cytunwyd arno

Ni all aelodau sy’n cael cyflog Band 1 neu Fand 2 (hynny yw, Arweinydd, Diprwy Arweinydd neu Aelod o Weithrediaeth) dderbyn unrhyw dâl gan gyngor cymuned neu gyngor tref y maent yn aelod ohono. Maent yn dal yn gymwys i hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol gan y cyngor cymuned neu’r cyngor tref. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio. 

Gofynion a osodir ar Gynghorau Cymuned a Thref

Taliadau 

Rhaid i gyngor cymuned a thref: 

  • Ad-dalu pob aelod am amser a dreulir ar faterion y cyngor cymuned a thref. Taliad sefydlog yw hwn a bennir gan y Panel tuag at gostau cartref ychwanegol gweithio gartref ar fusnes y cyngor. 
  • Ad-dalu pob aelod am gostau nwyddau traul swyddfa o ganlyniad i weithio gartref. Rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sy'n ofynnol i gyflawni eu rôl, neu fel arall rhaid i gynghorau alluogi aelodau i hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.
  • Gwneir taliadau cyfrifoldeb i aelodau sydd â chyfrifoldebau penodol, megis cadeirydd pwyllgor. Rhaid gwneud y taliad hwn i un aelod o'r cyngor o leiaf (y cynghorau hynny sydd yng ngrwpiau 1 a 2). 
  • Ad-dalu aelodau am unrhyw gostau gofal neu gymorth personol. 

Rhaid i gyngor cymuned a thref wneud penderfyniad i dalu:

  • taliad cyfrifoldeb, megis i gadeirydd pwyllgor. Gall y cynghorau hynny yng ngrwpiau 1 a 2 benderfynu talu aelodau ychwanegol. Rhaid i gynghorau yng ngrwpiau 3 i 5 benderfynu a ydynt am dalu hyd at uchafswm o dri aelod
  • y Maer neu Gadeirydd y Cyngor
  • y Dirprwy Faer neu Ddirprwy Gadeirydd y Cyngor
  • lwfans Mynychu
  • lawndal am golled ariannol
  • teithio a Chynhaliaeth 

Dim ond un taliad cyfrifoldeb y gall cynghorydd ei gael, ni waeth sawl uwch-rôl sydd ganddo yn ei Gyngor. 

Pan fydd person yn aelod o fwy nag un cyngor cymuned neu dref, mae’n gymwys i gael ad-dalid am yr amser a dreulir ar faterion y cyngor cymuned neu dref ac, os yw'n briodol, uwch-daliad gan bob cyngor y mae’n aelod ohono.

Gall unigolyn wrthod derbyn y taliadau, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, os yw’n dymuno gwneud hynny. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig a mater i'r unigolyn ydyw. Rhaid i aelod o gyngor cymuned neu dref sydd am wrthod taliadau ysgrifennu'n bersonol at y swyddog priodol i wneud hynny. 

Rhaid i bob cyngor cymuned a thref sicrhau nad yw’n creu amgylchedd sy’n atal personau rhag cael at unrhyw arian y mae ganddynt hawl iddo ac a allai eu helpu i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Dylid gwneud taliadau yn effeithlon ac yn brydlon.

Ni all aelodau sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 gan brif gyngor (hynny yw yr Arweinydd, Dirprwy Arweinydd neu Aelod o'r Weithrediaeth) gael unrhyw daliad gan gyngor cymuned neu dref, ac eithrio treuliau teithio a chynhaliaeth a chyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol.

Gofynion a osodir ar Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Taliadau

Mae’r gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer swydd cadeirydd yn gysylltiedig ag uwch-gyflog Band 3 prif gyngor, ac yn cyfateb i swydd cadeirydd pwyllgor.

Mae swydd dirprwy gadeiryddion, cadeiryddion pwyllgorau ac uwch-swyddi eraill a delir yn gysylltiedig â chyflog Band 5 prif gyngor, ac yn cyfateb i swydd dirprwy bennaeth dinesig ac arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill.

Gall yr APC bennu nifer yr uwch-swyddi sydd ei angen arno yn unol â’i drefniadau llywodraethu.

Caiff uwch-gyflog ei dalu gan gynnwys y cyflog sylfaenol. Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog. 

Ni chaiff aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 (hynny yw, Arweinydd, Dirpwy Arweinydd neu Aelod o Weithrediaeth) dderbyn cyflog gan unrhyw APC arall y maent wedi’u penodi iddo. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio.

Gofynion a osodir ar Awdurdodau Tân ac Achub

Taliadau

Mae cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer swydd Cadeirydd yn gysylltiedig ag uwch-gyflog Band 3 prif gyngor, ac yn cyfateb i swydd cadeirydd pwyllgor.

Mae swyddi dirprwy gadeiryddion, cadeiryddion pwyllgorau ac uwch-swyddi eraill a delir yn gysylltiedig â chyflog Band 5 prif gyngor, ac yn cyfateb i swydd dirprwy bennaeth dinesig ac aelodau grwpiau gwleidyddol eraill. 

Gall yr ATA bennu nifer yr uwch-swyddi sydd ei angen arno yn unol â’i drefniadau llywodraethu.

Caiff uwch-gyflog ei dalu gan gynnwys y cyflog sylfaenol. Ni chaiff aelodau dderbyn mwy nag un uwch-gyflog. 

Ni chaiff aelodau o brif gyngor sy’n cael uwch-gyflog ym Mand 1 neu Fand 2 (hynny yw, Arweinydd, Dirprwy Arweinydd neu Aelod o Weithrediaeth) dderbyn cyflog gan unrhyw ATA arall y maent wedi’u henwebu iddo. Pan fo'r sefyllfa hon yn berthnasol, cyfrifoldeb yr aelod unigol yw cydymffurfio. 

Gofynion a osodir ar Gyd-bwyllgorau Corfforedig

Sefydlodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 Gyd-bwyllgorau Corfforedig sy’n cynnwys grwpiau o brif gynghorau. Mae gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig swyddogaethau penodol sydd wedi’u nodi mewn Rheoliadau. 

Nid yw'r Panel wedi gwneud unrhyw benderfyniadau mewn perthynas â Chyd-bwyllgorau Corfforedig hyd yma. Fodd bynnag, mae’r cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol a theithio a chynhaliaeth i aelodau’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi’i gynnwys.