Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Lluniwyd yr adroddiad etifeddiaeth hwn er mwyn helpu i symud swyddogaethau o Banel Annibynnol presennol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn). Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ar ein gwefan yn unol â'r nodau a'r amcanion a nodwyd gennym ar dryloywder i randdeiliaid a'r cyhoedd. Mae'n cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ar waith y Panel hyd yma a'r meysydd o ddiddordeb a nodwyd i'w hystyried yn y dyfodol. 

Sefydlwyd y Panel yn 2008 ond cymerodd ei ffurf statudol bresennol yn 2011 drwy Ran 8 (a141 i a160) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Ei nod yw pennu taliadau i Gynghorwyr a deiliaid swyddi cyhoeddus cysylltiedig mewn modd sy'n annibynnol ar ymyrraeth wleidyddol, drwy brosesau agored sy'n rhoi rhesymeg dryloyw ac yn creu canlyniadau teg i'r sawl sy'n derbyn y taliadau a threthdalwyr y cyngor sy'n eu hariannu.

Mae'r Panel yn gyfrifol am bennu lefel y taliadau i aelodau etholedig o gynghorau, cynghorau tref a chymuned, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r Panel hefyd yn adolygu newidiadau i gydnabyddiaeth ariannol prif weithredwyr ar gyfer Prif Gynghorau a Chyd-bwyllgorau Corfforedig yn eu Datganiad ar Bolisïau Tâl.

Cafodd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) gydsyniad brenhinol ar 24 Mehefin 2024, gan ailenwi ac ailbennu Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru fel Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Mae hyn yn adlewyrchu'r rôl ehangach y bydd gan y Comisiwn o ganlyniad i newidiadau mewn deddfwriaeth.

Cafodd Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) gydsyniad brenhinol ar 9 Medi 2024 a bydd yn trosglwyddo swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y Comisiwn).

Bydd y swyddogaeth a gyflawnir gan y Panel ar hyn o bryd yn trosglwyddo i'r Comisiwn a chaiff y Panel ei ddiddymu yn weithredol o 1 Ebrill 2025. 

Ni fydd y broses o drosglwyddo swyddogaethau yn cynnwys cydnabyddiaeth ariannol Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol. Rhoddir swyddogaeth newydd i'r Comisiwn a fydd yn ei alluogi i sefydlu cynllun ‘taliad parasiwt’ i gynghorwyr.

Hanes

Cyn cyfnod y Panel, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (‘Deddf 1989’) roedd eisoes yn ofynnol i awdurdodau lleol gytuno ar gynllun o lwfansau. Galluogodd Deddf Llywodraeth Leol 2000 (‘Deddf 2000’) awdurdodau lleol i sefydlu paneli annibynnol ar gydnabyddiaeth ariannol neu, yn achos Cymru, un panel cenedlaethol ar gydnabyddiaeth ariannol.

O dan y trefniadau a oedd newydd gael eu datganoli, rhoddwyd pŵer i Lywodraeth Cynulliad Cymru (a drosglwyddwyd i Weinidogion Cymru drwy ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006) gyflwyno, am y tro cyntaf, hawliad i bensiynau i aelodau etholedig o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol (‘cynghorwyrְ’). Ymhellach, rhoddodd bwerau i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar lwfansau ac arian rhodd cynghorwyr. 

Bu'n bosibl diwygio lwfansau ar gyfer cynghorwyr cymuned a thref hefyd o dan Ddeddf 2000, ynghyd â newidiadau i'r drefn bresennol ar gyfer teithio a chynhaliaeth a threuliau eraill i bob cynghorydd, gan gynnwys aelodau o Awdurdodau Tân ac Achub.

Ar ôl cyflwyno Deddf 2000, comisiynodd Gweinidog y Cynulliad dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau yr Athrofa Llywodraeth Leol (INLOGOV) ym Mhrifysgol Birmingham i ymchwilio i gydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr a lluniodd adroddiad yn 2001 sef ‘Recognising Councillors’ Worth to their Communities’ a oedd yn fan cychwyn ar gyfer deddfwriaeth ddiweddarach gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Dirymwyd llawer o'r ddeddfwriaeth flaenorol gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002 (Rheoliadau 2002). Pennodd Rheoliadau 2002 y rheolau ar gyfer lwfansau mewn cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, yn ogystal ag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Ni ragnodwyd yr uchafsymiau a oedd yn daladwy yn Rheoliadau 2002. Yn hytrach, cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Ganllawiau Statudol a argymhellodd y dylid cysylltu lwfansau â chyfraddau Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (ACau).

Sefydlwyd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o dan Reoliadau 2003 am gyfnod dros dro o chwe mis. Yn dilyn yr adroddiad gan y Panel, ac ar ôl adolygu'r drefn bresennol, penderfynodd y Gweinidog y byddai'n well sefydlu panel annibynnol parhaol i benderfynu ar lefelau priodol lwfansau ar gyfer cynghorwyr drwy adolygiad systematig yn hytrach na chael system lle'r oedd lwfansau, yn rhannol, yn gysylltiedig â rhai Aelodau'r Cynulliad.

Yn sgil cyflwyno Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 (‘Rheoliadau 2007’), disodlwyd y rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth a oedd yn bodoli gan gynnwys nifer o ddarpariaethau ‘tacluso’. Darparodd Rheoliadau 2007 ar gyfer sefydlu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Un o amcanion panel annibynnol oedd pennu tâl cynghorwyr heb ymyrraeth wleidyddol, gan Gynghorwyr a fyddai'n cael budd uniongyrchol a hefyd gan Lywodraeth Cymru. Mae posibilrwydd bob amser y bydd tâl am gyflawni swyddi gwleidyddol yn fater dadleuol ac yn aml bydd yn dargyfeirio sylw oddi wrth dasgau pwysicach sy'n wynebu'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau.

Nodir gwaith y Panel yn Adran 5 Penderfyniadau a Cherrig Milltir Allweddol.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad 10 mlynedd o'r Panel gan Stephen Hughes. Ei ddiben oedd ystyried ac asesu unrhyw newidiadau y gall fod angen eu gwneud i swyddogaethau a gweithrediadau'r Panel, p'un a oedd y Panel yn parhau i gynrychioli gwerth am arian a ph'un a oedd y trefniadau llywodraethu yn briodol o hyd. Cyhoeddwyd hyn ym mis Hydref 2021 a cheir dolen i'r adolygiad yma

Gwnaed saith argymhelliad a oedd yn awgrymu'r canlynol yn gryno:

  • dylai'r Panel lunio naratif strategol yn seiliedig ar fodelau o werth Cynghorwyr a fforddiadwyedd wedi'u hategu gan dystiolaeth ymchwil
  • dylai'r Panel newid y ffordd y mae'n cyfleu ei benderfyniadau i'w gwneud yn benodol ar gyfer rhanddeiliaid gwahanol
  • dylai'r Panel ddatblygu strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd
  • dylai'r Panel gael ei gynnal gan gorff hyd braich sydd â synergeddau â llywodraeth leol a all roi cymorth cyfreithiol, technegol a pholisi sydd ar goll, a chynnal adolygiad ar effeithiolrwydd i ail-bennu'r gyllideb a ffyrdd o weithio i wella gallu ac adnoddau'r Panel

Yn ogystal â'r argymhellion, roedd yr adroddiad yn cynnwys sylwadau helaeth ar fanylion gwaith y Panel a'i gydberthynas â rhanddeiliaid.

Mewn ymateb i'r argymhellion gwnaeth y Panel y canlynol:

  • cyflwynodd ei Strategaeth i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a nododd ei nodau a'i uchelgeisiau allweddol
  • cyflwynodd ei bapur tystiolaeth a gofynnodd i'r Ysgrifenyddiaeth ddarparu data blynyddol
  • newidiodd yr adroddiad blynyddol diwethaf i ddiweddariad o newidiadau ac mae wedi comisiynu gwaith ar ei wefan i gefnogi'r fersiwn fwy cryno o'r adroddiad blynyddol
  • ymatebodd yn gadarnhaol i Bapur Gwyn ar Ddiwygio Etholiadol a Gweinyddu a Chadeirydd y Panel, Frances Duffy i gymryd rhan o'r grŵp cynllunio newid i drosglwyddo swyddogaethau o'r Panel presennol i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
  • rhoddodd argymhellion Adolygiad y Panel o Effeithiolrwydd ar waith a oedd yn un o ymrwymiadau'r Adolygiad 10 Mlynedd

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Cafodd y Ddeddf gydsyniad brenhinol ar 29 Ebrill 2015 a daeth i rym ar 1 Ebrill 2016.

Mae'r Ddeddf yn rhoi diben cyffredin cyfreithiol rwymol, y 7 nod llesiant, i lywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodedig eraill. Mae'n nodi'r ffyrdd y mae'n rhaid i'r cyrff cyhoeddus a nodwyd weithio, a chydweithio, er mwyn gwella llesiant Cymru. 

Y nodau llesiant yw:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Egwyddor Datblygu Cynaliadwy: 5 ffordd o weithio

Nid yw'r Panel yn un o'r cyrff cyhoeddus a nodir yn y Ddeddf, fodd bynnag, mae wedi cadw at yr egwyddorion datblygu cynaliadwy a nodir yn y Ddeddf.

Cydweithio: cyfathrebu ac ymgysylltu â'n rhanddeiliaid uniongyrchol drwy gydol y flwyddyn. Bob blwyddyn roedd y Panel yn ymgysylltu ag aelodau'r cyrff y mae'n pennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol ar eu cyfer, swyddogion yn y sefydliadau hynny a chlercod. Roedd y Panel hefyd yn ymgysylltu â chyrff aelodaeth perthnasol gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Un Llais Cymru, Archwilio Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol.

Mae'r Panel yn cyhoeddi Adroddiad Drafft ym mis Hydref wedi'i ddilyn gan ymgynghoriad wyth wythnos lle caiff aelodau o'r cyhoedd eu hannog i roi adborth gwerthfawr. Mae'r Panel hefyd yn ystyried adborth yn sgil cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y flwyddyn flaenorol.

Integreiddio: mae'r Panel yn cyhoeddi crynodeb o'n cyfarfodydd misol ar y wefan, ynghyd â gwybodaeth ar ein Penderfyniadau sy'n cynnwys Canllawiau ar sut y dylid cymhwyso pob penderfyniad. Caiff ymholiadau unigol a anfonir at y Panel eu prosesu gan yr Ysgrifenyddiaeth a'r Panel fel sy'n briodol.

Cyfranogiad: nod y Panel yw cefnogi democratiaeth leol a rhoi llais i gymunedau, drwy sefydlu fframwaith cydnabyddiaeth ariannol priodol a theg, sy'n annog cynhwysiant a chyfranogiad. 

Un o nodau'r Panel yw y dylai'r penderfyniadau gefnogi aelodau etholedig o amrywiaeth eang o gefndiroedd, ac ni ddylai lefelau cydnabyddiaeth ariannol fod yn rhwystr i gyfranogi.

Cyflwynodd y Panel ad-daliad am gost gofal (i bob aelod etholedig) a lwfans gweithio gartref a TGCh (cynghorau cymuned a thref) wedi'u hanelu at ddileu rhwystrau posibl mewn perthynas â chyfrifoldebau gofalu a gweithio gartref er mwyn galluogi aelodau etholedig i gymryd rhan mewn democratiaeth leol.

Lle y gallai, mae'r Panel wedi monitro effaith ei benderfyniadau ar wella amrywiaeth o fewn democratiaeth leol, a gyda chymorth Llywodraeth Cymru, gofynnodd am sylwadau ar y cysylltiad rhwng cydnabyddiaeth ariannol ac amrywiaeth ym maesdemocratiaeth leol.

Hirdymor: nodau eraill y Panel yw y dylai'r penderfyniadau sicrhau bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol yn deg, yn rhesymol ac yn werth am arian i drethdalwyr, ac y cânt eu pennu yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru.

Atal: mae'r Panel yn adolygu canlyniadau ac effeithiau eu penderfyniadau yn barhaus.

Penderfyniadau a Cherrig Milltir Allweddol

Dechreuodd y Panel o'r egwyddor y dylai cydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr gael ei chysylltu â chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. Yn 2009, ail-bennodd y Panel yr uchafswm Lwfans Sylfaenol, a Lwfansau Cyfrifoldebau Arbennig i gyd-fynd â'r cyflog gros blynyddol canolrifol ar gyfer cyflogeion amser llawn sy'n byw yng Nghymru ar gyfer 2009 gan ddefnyddio ASHE. Ar gyfartaledd, roedd dyletswyddau cynghorydd yn cymryd yr hyn oedd yn cyfateb i dri diwrnod gwaith. Cyfrifwyd bod y Lwfans Sylfaenol yn cyfateb i dair rhan o bump o'r cyflog amser llawn gros canolrifol yng Nghymru.

Ystyriodd y Panel lwyth gwaith gwahanol uwch-gynghorwyr, cadeiryddion Pwyllgorau, arweinwyr Cynghorau, aelodau Cabinet ac ati, ac yn 2009, cyflwynodd fframwaith ar gyfer Lwfansau Cyfrifoldebau Arbennig. Roedd hyn yn cydnabod bod rhai rolau yn rhai amser llawn ac felly y dylai'r gydnabyddiaeth ariannol adlewyrchu hyn. Roedd y Panel hefyd am sicrhau rhyw lefel o gysondeb ledled Cymru ac felly bandiodd Brif Awdurdodau yn ôl eu maint gan bennu cydnabyddiaeth ariannol sefydlog ar gyfer Lwfansau Cyfrifoldebau Arbennig o fewn y Bandiau hyn. 

Fodd bynnag, roedd pwysau ar gyllid cyhoeddus mewn blynyddoedd dilynol yn golygu na chafodd y cysylltiad ag enillion cyfartalog yng Nghymru ei gynnal. Yn ystod y blynyddoedd hynny, cydnabu'r Panel fod lefelau cydnabyddiaeth ariannol cymharol yn erydu'n gynyddol. Yn 2022 cytunodd y Panel ei bod yn bwysig adlinio ag ASHE ar gyfer ei nodau o gefnogi democratiaeth leol. Arweiniodd hyn at gynnydd mawr iawn (tua 16%) a ddenodd dipyn o ymateb negyddol. Ers hynny, mewn ymgynghoriad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae'r Panel wedi sicrhau bod y cysylltiad ag ASHE yn cael ei ddiweddaru er mwyn osgoi'r angen am gynnydd mawr yn aml.

Ehangodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Y Mesur) gylch gwaith y Panel i gynnwys taliadau a wneir i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau lleol, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru. Penderfynodd y Panel sefydlu cysylltiad rhwng y lefelau o daliadau sydd ar gael i aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru â'r rhai sydd ar gael i gynghorau lleol.

Ehangodd y Mesur hefyd gylch gwaith y Panel i gynnwys taliadau a wneir i aelodau ac aelodau cyfetholedig Cynghorau Cymuned a Thref. Darparodd y Panel fframwaith cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref i adlewyrchu'r amrywiad ar draws y 732 o gynghorau yng Nghymru a chynhaliodd adolygiad mawr yn 2021.

Mae'r Panel o'r farn na ddylai aelodau fod ar eu colled yn ariannol am gyflawni eu dyletswyddau ac mae wedi penderfynu y dylai aelodau Cynghorau Cymuned a Thref gael ad-daliadau am gostau ychwanegol gweithio o gartref a nwyddau traul. Mae'r Panel yn ymwybodol y gall cynghorwyr wrthod taliadau ond mae wedi pwysleisio bod yn rhaid i bob Cyngor Cymuned a Thref sicrhau nad yw'n creu hinsawdd lle caiff aelodau eu hannog i beidio â derbyn taliadau.

Mae polisi Llywodraeth Cymru o gynyddu'r amrywiaeth a'r mynediad i rolau etholedig yn egwyddor y mae'r Panel wedi bod yn ystyriol ohoni o hyd wrth wneud ei benderfyniadau. Dros y blynyddoedd, mae'r Panel wedi cyflwyno sawl budd ychwanegol, fel sicrhau bod gan bob cynghorydd fynediad i'r cyfarpar TG angenrheidiol, ac y gallai hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth rhesymol ac yn fwy diweddar y gallai'r sawl sydd â chyfrifoldebau gofalu gael ad-daliadau am gostau'r gofal sydd ei angen wrth iddynt gyflawni eu rolau a'u cyfrifoldebau.

Gyda'r bwriad o gyfrannu lle bynnag y bo modd at wella amrywiaeth mewn llywodraeth leol yng Nghymru, darparodd y Panel ddeunydd ar gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer darpar ymgeiswyr. Yn ogystal â'r taflenni, creodd y Panel ffilm fer yn 2020 ‘Wyt ti wedi ystyried bod yn Gynghorydd yng Nghymru?’ 

Mae'r Panel hefyd wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gydol ei gylch gwaith. Mae hyn wedi cynnwys cynnal cyfarfodydd unigol, seminarau, cyhoeddi crynodeb o gyfarfodydd ar ein gwefan a newid fformat yr Adroddiad Blynyddol i sicrhau ei fod yn fwy hygyrch.

Ceir llinell amser o Benderfyniadau a Cherrig Milltir Allweddol y Panel yn atodiad 1. 

Gellir dod o hyd i Adroddiadau Blynyddol a rhestr o'r penderfyniadau cyfredol ar y wefan.

Meysydd o Ddiddordeb i'r Dyfodol

Mae'r Panel wedi nodi meysydd o ddiddordeb lle gall fod angen rhoi rhagor o ystyriaeth yn y dyfodol.

Cynnal y cysylltiad ag ASHE 

Ar ôl y gwaith ail-gysoni yn 2022, cytunodd y Panel y byddai'n well cynnal y cysylltiad hwn. Mae'r Panel yn argymell y dylid adolygu'r meincnod hwn unwaith bob cylch etholiadol er mwyn sicrhau mai dyma yw'r meincnod cyhoeddus gorau sydd ar gael o hyd. Mae'r Panel hefyd o'r farn y dylai'r adolygiad gynnwys asesiad o faich gwaith yr aelodau.

Yn 2024, penderfynodd y Panel y dylai'r swyddog lleol perthnasol gael hyblygrwydd wrth gytuno ar gydnabyddiaeth ariannol aelodau cyfetholedig Prif Awdurdodau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub, i benderfynu pryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod a phryd i ddefnyddio cyfradd yr awr pan fydd yn synhwyrol cyfuno nifer o gyfarfodydd byr. 

Cyflogau Uwch-gynghorwyr 

Mae mwy o angen i adolygu'r fethodoleg ar gyfer cyfrifo Cyflogau Uwch-gynghorwyr mewn prif gynghorau yn sgil datblygiad Cyd-bwyllgorau Corfforedig a pha mor gymhleth yw rolau uwch erbyn hyn. 

Mae'r Panel, ar y cyd â'r Comisiwn, wedi nodi tasgau a fydd yn galluogi'r Comisiwn i gynnal adolygiad o'r fframwaith a'r fethodoleg ar gyfer pennu cydnabyddiaeth ariannol rolau uwch mewn Prif Gynghorau er mwyn llywio penderfyniadau ar gyfer 2026 i 2027.

Yn sgil datblygiad Cyd-bwyllgorau Corfforedig, mae'r Panel wedi nodi cynnydd yn nifer yr aelodau cyfetholedig a natur newidiol patrymau gwaith. Mae hwn yn faes y dylid ei fonitro yn y dyfodol a bydd yn effeithio ar rolau uwch.

Cynghorau Cymuned a Thref 

Mae'r Panel yn cydnabod bod amrywiaeth eang o ran daearyddiaeth, cwmpas a maint rhwng y nifer mawr o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru, o gynghorau cymuned bach sydd â gwariant cymharol fach a nifer bach o gyfarfodydd i gynghorau tref mawr sydd ag asedau a chyfrifoldebau helaeth. Mae'r grwpiau presennol sy'n seiliedig ar faint etholaeth y cyngor a'r ffactor ychwanegol o ran lle mae incwm neu wariant yn rhagori ar £200,000 y flwyddyn yn barhaol, yn adlewyrchu hyn.

Mae cylch gwaith y Panel o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn galluogi'r Panel i fonitro cydymffurfiaeth awdurdodau perthnasol â phenderfyniadau'r Panel a gwna hyn drwy ofyn i bob Cyngor Cymuned a Thref gyflwyno Datganiad blynyddol o Daliadau a wnaed (y dylai hefyd eu cyhoeddi ar ei wefan). Un maes sy'n peri pryder yn barhaus yw cydymffurfiaeth Cynghorau Cymuned a Thref o ran cyflwyno adroddiadau blynyddol i'r Panel. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y Cynghorau Cymuned a Thref lleiaf, sef y rhai ym Mand 5. Y flwyddyn ddiwethaf, allan o'r 427 o Gynghorau yn y grŵp hwn, ni wnaeth bron 75% ohonynt unrhyw ddatganiad neu gwnaethant gyflwyno datganiad dim trafodion. Mae'r Panel yn gwerthfawrogi gwaith yr holl Gynghorau Cymuned a Thref ac mae wedi noddi a chymryd rhan yng ngwobrau Un Llais Cymru ar gyfer gwaith yr holl Gynghorau gan gynnwys y rhai lleiaf un. Fodd bynnag, mae'r Panel yn cwestiynu a yw'r baich gweinyddol a chydymffurfiaeth ar y cynghorau hyn yn gymesur â buddiannau'r drefn cydnabyddiaeth ariannol a chydymffurfiaeth hon, pan fydd cynifer ohonynt yn optio allan. Mae'r Panel wedi ceisio symleiddio prosesau adrodd a chydymffurfiaeth ac wedi darparu templed newydd i'w ddefnyddio o 2024 ymlaen. Roedd hyn yn galluogi'r Cynghorau i gyfuno'r taliadau sylfaenol a wneir i gynghorwyr yn hytrach nag adrodd arnynt yn unigol yn y gobaith y gall hyn annog cynghorwyr unigol i gymryd taliadau sy'n ddyledus ac i symleiddio'r broses i'r Clercod. Mae'r Panel yn argymell y dylid parhau i fonitro'r mater hwn ac adolygu'r system bresennol ar gyfer bandio a rhoi cydnabyddiaeth ariannol o ystyried ymatebion Llywodraeth Cymru i'r Tasglu Iechyd Democrataidd ac Ymholiad Pwyllgor y Senedd.

Aelodau Cyfetholedig 

Yn dilyn adborth ar Adroddiad Blynyddol 2023, cymerodd y Panel dystiolaeth gan y gohebwyr ynglŷn ag effaith y cynnydd yn nifer yr aelodau cyfetholedig a natur newidiol patrymau gwaith. Roedd hyn yn dangos nad oedd y trefniant presennol o gyfradd hanner diwrnod am unrhyw beth hyd at 4 awr a chyfradd diwrnod llawn am unrhyw beth dros hynny, yn ddigon hyblyg i adlewyrchu'r patrymau gwaith sy'n fwy arferol erbyn hyn, yn bennaf o ganlyniad i fwy o weithio ar-lein neu weithio hybrid. Cytunodd y Panel yn 2024 y dylid rhoi hyblygrwydd ac y gallai penderfyniadau ar b'un ai cyfradd yr awr neu gyfradd ddyddiol fyddai'n briodol gael eu gwneud yn lleol. 

Ymgysylltu 

Mae'r Panel yn argymell y dylid monitro'r broses o ystyried amlder ac ansawdd y gwaith ymgysylltu. Gallai cynnwys amrywiaeth o ran ffordd o feddwl helpu i osgoi ffordd grŵp o feddwl a chyfrannu at safon y dystiolaeth a ddarperir gan y rhanddeiliaid.

Ar ôl cael adborth gan randdeiliaid, mae'r Panel yn argymell y dylid adolygu amseriad cyhoeddi'r Adroddiad Blynyddol. Mae rhanddeiliaid wedi gofyn am gael cyfnod hwy i ymgorffori'r penderfyniadau cyn dechrau'r flwyddyn ariannol nesaf. 

Cynrychiolaeth Ieuenctid 

Mae'r ddeddfwriaeth bresennol (Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2021) yn galluogi Cynghorau Cymuned a Thref i benodi hyd at ddau gynrychiolydd ieuenctid i'r cyngor. Mae hefyd yn glir nad yw cynrychiolwyr ieuenctid yn aelodau o'r cyngor ac felly nad ydynt o fewn cylch gwaith y Panel i wneud penderfyniadau ar eu cyfer.

Mae'r Panel yn ymwybodol bod hwn yn faes o ddiddordeb parhaus i'r Grŵp Iechyd Democrataidd ac y gellid ystyried datblygiadau ar y mater hwn yn y dyfodol.

Pontio

Mae risgiau posibl o ran enw da a chyflawniad yn gysylltiedig â swyddogaethau newydd y Comisiwn, a byddai sicrhau parhad o ran trefniadau llywodraethu ac arbenigedd o fudd mawr i'r Comisiwn wrth iddo gyrraedd pwynt lle mae'r swyddogaethau newydd yn dod yn ‘fusnes arferol’.

Mae'r cynllun y cytunwyd arno ar gyfer trefniadau pontio ac olyniaeth y bwrdd fel a ganlyn.

Caiff Cadeirydd y Panel, Frances Duffy, ei phenodi'n uniongyrchol fel Comisiynydd gyda dyddiad dechrau o 1 Ebrill 2025 am gyfnod o flwyddyn. Bydd Frances yn cadeirio'r is-bwyllgor cydnabyddiaeth ariannol ac yn cymryd rhan fel Comisiynydd llawn.

Bydd Cadeirydd presennol y Comisiwn ac aelod o'r Panel, Beverly Smith yn parhau yn ei swydd tan ddiwedd ei phenodiad ym mis Ionawr 2026, gan sicrhau parhad o ran sgiliau a phrofiad fel cadeirydd y Comisiwn ac aelod o'r Panel.

Bydd y Comisiynydd ac aelod o'r Panel, Dianne Bevan yn parhau yn ei swydd tan ddiwedd ei phenodiad ym mis Mai 2026, gan sicrhau parhad o ran sgiliau a phrofiad fel Prif Gomisiynydd ac aelod o'r Panel.

Bydd y Comisiwn yn cael cadeirydd presennol y Panel a dau aelod o'r Panel fel Comisiynwyr i sicrhau parhad ar y gwaith cydnabyddiaeth ariannol cyn dechrau ar y gwaith ymchwil ac ymgysylltu helaeth y mae angen ei wneud ar gydnabyddiaeth ariannol cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf. Bydd Comisiynwyr newydd yn gallu cael profiad mewn gwaith cydnabyddiaeth ariannol ac adolygu ochr yn ochr â'r Comisiynwyr profiadol.

Mae'r Comisiwn wedi penodi staff i weithio fel ysgrifenyddiaeth i'r is-bwyllgor cydnabyddiaeth ariannol sy'n gweithio gyda'r Panel i gael gwybodaeth a phrofiad o'r maes gwaith gan ysgrifenyddiaeth y Panel a Llywodraeth Cymru. 

Crynodeb

Sefydlwyd y Panel i fod yn gorff annibynnol yn rhydd o ymyrraeth wleidyddol. Mae wedi cydweithio â rhanddeiliaid allweddol sy'n ymwneud â hyrwyddo cyfranogiad mewn democratiaeth leol. Mae'r Panel wedi pwysleisio'n gyson y ffaith nad yw democratiaeth yn rhywbeth y gellir ei sicrhau am ddim. Fodd bynnag, rydym wedi gorfod cydbwyso'r tegwch i aelodau etholedig yn erbyn y gost i bwrs y wlad ac rydym yn fodlon ein bod wedi cyflawni hyn.

Mae'r mwyafrif helaeth o aelodau etholedig llywodraeth leol yng Nghymru yn  
gweithio'n ddiflino dros eu cymunedau heb fawr ddim tâl am wneud hynny. Dylai fod pawb mewn cymdeithas yn cael y cyfle i sefyll etholiad os byddant yn dymuno ac ni ddylai rhwystrau ariannol atal hynny. Mae'r Panel yn rhannu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan gynnwys y ddyletswydd economaidd gymdeithasol. Cred y Panel y gall sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cydnabyddiaeth ariannol deg arwain at amrywiaeth ehangach o unigolion yn gwneud cais ac yn camu ymlaen i gael eu dewis a'u hethol.

Mae ffyrdd o fyw a disgwyliadau pobl wedi newid dros y degawd diwethaf gyda mwy o ofynion a disgwyliadau ar gyfer dull hyblyg i gefnogi pobl sydd â phwysau teuluol a gofal i gymryd rhan a chyfrannu yn y gwaith ac mewn bywyd cyhoeddus, drwy rannu swyddi, cynnig hyblygrwydd a chyfnod teuluol. Mae fframwaith y Panel ar gyfer cymorth ariannol mewn perthynas â gofal yn adlewyrchu hyn.

Hoffem ddiolch i holl aelodau presennol a blaenorol y Panel am eu gwasanaeth, i'r Ysgrifenyddiaeth sydd wedi cefnogi'r Panel a sicrhau ei fod yn gweithredu'n effeithlon ac i'r holl randdeiliaid am eu cyfraniadau gwerthfawr. Hoffai'r Panel hefyd ddiolch i'r Comisiwn am eu cydweithrediad dros y cyfnod pontio. Edrychwn ymlaen at weld proses barhaus i gefnogi democratiaeth leol a rhoi llais i gymunedau, drwy sefydlu fframwaith cydnabyddiaeth ariannol priodol a theg, sy'n annog cynhwysiant.

Atodiad 1: penderfyniadau a Cherrig Milltir Allweddol

2008 

Sefydlwyd y Panel yn 2008. Yn ei Adroddiad Cychwynnol, gwnaed penderfyniadau ar gyfer y canlynol: 

  • Lwfans Sylfaenol
  • Lwfansau Cyfrifoldebau Arbennig
  • Lwfansau Gofal
  • Lwfansau Teithio a Chynhaliaeth
  • Lwfansau Aelodau Cyfetholedig
  • Pensiynau
  • Materion Perthnasol Eraill

Ceir  rhagor o wybodaeth am y penderfyniadau hyn yn Adroddiad Blynyddol 2008.

2009 

Lwfans Sylfaenol 

Gwnaeth y Panel 3 phenderfyniad sylweddol ynghylch y Lwfans Sylfaenol: 

  • Caiff y Lwfans Sylfaenol ei ail-bennu ar uchafswm o £13,868 y flwyddyn, gan gynrychioli'r hyn sy'n cyfateb i dri diwrnod gwaith ar sail enillion gros blynyddol canolrifol cyflogeion amser llawn yng Nghymru ar gyfer 2009.
  • Caiff y gostyngiad gwasanaeth cyhoeddus ei ailddiffinio fel unrhyw oriau o weithgarwch sy'n gysylltiedig â'r cyngor a wneir gan gynghorydd y tu hwnt i'r hyn sy'n cyfateb i dri diwrnod gwaith mewn unrhyw wythnos. Ni chaiff yr oriau hyn eu had-dalu fel rhan o'r Lwfans Sylfaenol.
  • Nid yw'r Lwfans Sylfaenol bellach yn cynnwys swm i dalu costau TG a swyddfa cynghorydd.

Lwfansau Cyfrifoldebau Arbennig 

Cafodd y Panel gryn dipyn o dystiolaeth i gefnogi Lwfansau Cyfrifoldebau Arbennig gwahaniaethol ar gyfer arweinwyr mewn cynghorau o feintiau gwahanol. Roedd safbwynt a fynegwyd yn eang bod y gwahaniaeth rhwng y lwfans Cyfrifoldebau Arbennig uchaf ac isaf a dalwyd i arweinwyr ledled Cymru yn rhy fawr. 

Penderfynodd y Panel leihau nifer y grwpiau poblogaeth yn y fframwaith o bedwar i dri. 

Ceir rhagor o wybodaeth yn Adroddiad Blynyddol 2009. 

2010 

Cyhoeddwyd ‘Symud Ymlaen: Cynigion y Tu Hwnt i 2010’ lle'r oedd y Panel yn archwilio'r fframwaith o lwfansau cynghorwyr ac yn gwneud cynigion ar gyfer datblygiad yn y dyfodol, y gallai'r Panel roi rhai ohonynt ar waith ac y byddai angen cymeradwyaeth Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) ar gyfer rhai ohonynt.

2011 

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 

Galluogodd pwerau o dan Adran 142 i benderfynu ar daliadau i aelodau o awdurdodau perthnasol y Panel i symud y tu hwnt i'w bwerau blaenorol a oedd yn gyfyngedig i bennu uchafsymiau ar gyfer taliadau aelodau. 

Penderfynodd y Panel ddefnyddio'r pwerau newydd hyn ac, ar gyfer blwyddyn y cyngor ar ôl etholiadau llywodraeth leol yn 2012, i ragnodi lefel wirioneddol y taliadau i aelodau. 

Ehangodd Adran 144 gylch gwaith y Panel i gynnwys Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.

Penderfynodd y Panel sefydlu cysylltiad rhwng y lefelau o daliadau sydd ar gael i aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru â'r rhai sydd ar gael i gynghorau lleol.

Ehangodd Adran 144 gylch gwaith y Panel hefyd i gynnwys Cynghorau Cymuned a Thref. 

Cynghorodd y Panel y Pwyllgor Deddfwriaeth y byddai angen iddo fuddsoddi llawer o amser ac ymdrech er mwyn llunio fframwaith cydnabyddiaeth ariannol a ystyrir yn deg a chyfartal, ac a fyddai'n rhoi ystyriaeth briodol i nifer ac amrywiaeth y cynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Tan hynny bydd lwfansau ar gyfer cynghorau cymuned a thref yn parhau i fod yn daladwy o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003.

Ceir rhagor o wybodaeth ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ar gyfer y ddeddfwriaeth ac Adroddiad Blynyddol 2011.

2012 

Taliadau i aelodau Cynghorau Cymuned a Thref 

Roedd y Panel am sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir mewn perthynas â'r cynghorau hyn yn deg a chyfartal ac a fyddai'n rhoi ystyriaeth briodol i'r amrywiaeth ar draws y 735 o gynghorau yng Nghymru. Darparodd y Panel Reoliadau yn ymwneud â chynghorau cymuned a thref a ddisodlodd Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003. 

Gwnaeth y Panel rai penderfyniadau cychwynnol wrth iddo barhau â'i raglen o dystiolaeth. 

Gall cynghorau cymuned a thref barhau i wneud taliadau i'w haelodau mewn perthynas â chostau teithio a chynhaliaeth sy'n gysylltiedig â chyflawni dyletswyddau cymeradwy y tu hwnt i ardal y cyngor.  

Gall cynghorau cymuned a thref barhau i dalu Lwfans Gweini a Lwfans Colled Ariannol i'w haelodau am gyflawni dyletswyddau cymeradwy y tu hwnt i ardal y cyngor. 

Mae cynghorau cymuned a thref wedi'u hawdurdodi i roi Lwfans Dinesig i Faer neu Gadeirydd a Dirprwy Faer neu Gadeirydd y cyngor am swm y bydd pob cyngor yn ei ystyried yn briodol am gyflawni dyletswyddau'r swydd honno.

Caniateir i bob cyngor cymuned a thref dalu uchafswm o £100 y flwyddyn i'w aelodau am gostau yr eir iddynt mewn perthynas â defnyddio ffôn, technoleg gwybodaeth, nwyddau traul ac ati.

Pensiynau

Rhoddodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 bŵer i'r Panel i wneud penderfyniadau ar hawliad pensiwn i aelodau awdurdodau lleol. Yn 2012, dyfarnodd y Panel fod gan bob aelod etholedig o brif gynghorau hawl i ymuno â Chynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

2013 

Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 ("Deddf 2013”) 

Yn sgil Deddf 2013 cafodd adran 143A ei chynnwys ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”) i ymestyn cylch gwaith y Panel i gynnwys rhai swyddogaethau mewn perthynas â chyflogau ‘penaethiaid gwasanaeth cyflogedig’ awdurdodau perthnasol cymwys. 

Mae'r ddeddfwriaeth i'w gweld yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu 

Cyhoeddodd y Panel adroddiad atodol ym mis Gorffennaf 2013 yn nodi'r trefniadau ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol cadeiryddion Cyd-bwyllgorau ac Is-bwyllgorau Trosolwg a Chrafu.

2014 

Hawl i absenoldeb teuluol 

Ystyriodd y Panel y goblygiadau ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol aelodau o'r fath a gafodd absenoldeb o dan y telerau a nodir yn y Rheoliadau a chyhoeddodd Adroddiad Atodol ym mis Mawrth 2014. 

Ceir rhagor o wybodaeth yn Adroddiad Blynyddol 2014. 

Uwch-gyflogau Penodol neu Ychwanegol 

Mewn ymateb i geisiadau am fwy o hyblygrwydd fel cynnwys rolau eraill y gellid talu uwch-gyflogau ar eu cyfer o fewn y Fframwaith Cydnabyddiaeth Ariannol, penderfynodd y Panel gynnwys darpariaeth ar gyfer swyddi datblygu.

Ceir rhagor o wybodaeth yn Adroddiad Blynyddol 2014.

2015 

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015  

Cafodd Adran 143A ei addasu dros dro a dim ond rhwng 25 Ionawr 2016 a 31 Mawrth 2020 yr oedd yn gymwys. 

Ehangodd Adran 39 gylch gwaith y Panel o dan adran 143A i gynnwys swyddogaethau mewn perthynas â chyflogau prif swyddogion prif awdurdodau lleol (cynghorau sir a bwrdeistref sirol) yn ogystal â phenaethiaid gwasanaeth cyflogedig. 

Mae'r ddeddfwriaeth i'w gweld yn Neddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015

Llythyr Cylch Gwaith Cyntaf gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus  

Rhoddwyd llythyr ‘cylch gwaith’ i'r Panel ym mis Mawrth 2015. Tynnodd y Gweinidog sylw'r Panel at ddyhead Llywodraeth Cymru i leihau costau gwleidyddiaeth i bwrs y wlad a nododd nifer o agweddau ar y fframwaith cydnabyddiaeth ariannol presennol i'w hystyried. Gofynnodd y Gweinidog i'r Panel hefyd ystyried a ellir cyfiawnhau cyfraddau taliadau i arweinwyr ac aelodau gweithredol o gymharu â'r rhai a delir mewn cynghorau o faint tebyg mewn rhannau eraill o'r DU.

2018 

Trefniadau Rhannu Swyddi 

Mewn ymateb i gais rhai cynghorau ynghylch y posibilrwydd o weithredu rhai swyddi uwch-gyflog ar drefniant “rhannu swyddi”, gwnaeth y Panel y penderfyniadau canlynol. 

I aelodau gweithrediaeth: Bydd pob un sy’n rhannu swydd yn cael 50% o gyflog priodol Grŵp y Boblogaeth.

Ni ellir rhagori ar yr uchafswm statudol i gabinetau felly bydd y ddau sy'n rhannu swydd yn cyfrif tuag at yr uchafswm.

O dan y Mesur, nifer y bobl sy’n cael uwch-gyflog, nid nifer y swyddi ag uwch-gyflogau, sy’n cyfrif tuag at y cap. Felly, ar gyfer yr holl drefniadau rhannu swyddi bydd y cap uwch-gyflog yn cael ei gynyddu yn amodol ar yr uchafswm statudol o 50% o aelodaeth y cyngor. 

Rhaid i'r Panel gael ei hysbysu am fanylion unrhyw drefniadau rhannu swyddi.

Taliadau i aelodau Cynghorau Cymuned a Thref 

Cynigiodd y Panel 3 grŵp yn seiliedig ar bu'n ai lefel yr incwm neu'r gwariant, pa bynnag un sydd uchaf, yn y flwyddyn ariannol flaenorol, yw'r mwyaf priodol. 

Gwnaeth y Panel benderfyniadau ar y canlynol: 

  • taliadau tuag at gostau a threuliau
  • rolau uwch
  • ad-dalu costau teithio a chynhaliaeth
  • ad-dalu costau gofal
  • honoraria Pennaeth Dinesig a Dirprwy Bennaeth Dinesig 

Ceir rhagor o fanylion yn Adroddiad Blynyddol 2018.

2020 

Er mwyn annog cyfranogiad democrataidd ehangach, diwygiodd y Panel ei gyhoeddiad o ofynion cydnabyddiaeth ariannol (atodiad 4 Adroddiad Blynyddol 2022. Dim ond fel ffigwr cyfanswm y dylai awdurdodau perthnasol adrodd eu taliadau Ad-dalu Costau Gofal ac ni ddylent nodi hawliadau unigol. 

Adroddiad Atodol Yr Egwyddorion mewn perthynas ag Ad-dalu Costau 
Gofal Mai 2020 

Cyhoeddodd y Panel Adroddiad Atodol a bennodd egwyddorion penodol mewn perthynas â darparu cymorth ariannol ar gyfer anghenion gofal a chymorth. Mae Ad-dalu Costau Gofal wedi'u hailenwi yn Gyfraniad tuag at Gostau Gofal a Chymorth Personol Ceir rhagor o wybodaeth yn Adroddiad Atodol 2020.

Creu ffilm fer ‘Wyt ti wedi ystyried bod yn Gynghorydd yng Nghymru?’ 

Gyda'r bwriad o gyfrannu lle bynnag y bo modd at wella amrywiaeth mewn llywodraeth leol yng Nghymru, darparodd y Panel ddeunydd ar gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer darpar ymgeiswyr. 

2021 

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”)  

Diwygiodd Deddf 2021 adran 143A drwy ddisodli cyfeiriadau at “bennaeth gwasanaeth cyflogedig” â “prif weithredwr”, gan ddarparu i bob diben y gallai'r Panel wneud argymhellion i awdurdod perthnasol cymwys ynghylch materion sy'n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol prif weithredwr yr awdurdod.  

Mae'r ddeddfwriaeth i'w gweld yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Caiff Cyd-bwyllgorau Corfforaethol eu sefydlu gan reoliadau a wneir o dan Ddeddf 2021 yng Nghymru. Mae Adran 3 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig benodi prif weithredwr. Diwygiwyd Adran 143A ymhellach gan y Rheoliadau hynny fel bod y diffiniad o “prif weithredwr” yn adran 143A(7) hefyd yn cwmpasu prif weithredwyr a benodwyd gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig. 

Mae'r ddeddfwriaeth i'w gweld yn Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021.

Gweler canllawiau statudol am fwy o fanylion. 

Darpariaethau Gofal a Chymorth Personol Adroddiad Atodol 2020 wedi'u mabwysiadu yn Adroddiad Blynyddol 2021.

2022  

Ailsefydlu'r cysylltiad rhwng cydnabyddiaeth ariannol prif gynghorydd ac Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) yng Nghymru 

Roedd y Panel wedi nodi'n flaenorol nad oedd trefniadau cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig llywodraeth leol yng Nghymru wedi bod yn unol â mesurau chwyddiant neu gymaryddion posibl eraill ers 2009, oherwydd cyni a phwysau ar gyllid cyhoeddus yn bennaf. Effaith hyn oedd bod aelodau prif gynghorau wedi'u tanbrisio'n sylweddol dros amser.

Roedd y Panel o'r farn mai etholiadau lleol mis Mai 2022 oedd yr adeg gywir i ailsefydlu'r cyswllt rhwng cydnabyddiaeth ariannol prif gynghorwyr ac enillion cyfartalog yng Nghymru gan ddefnyddio ASHE. Aelodau etholedig y 22 o brif gynghorau i gael yr un tâl cyfartalog cyffredinol ag a gafodd etholwyr yng Nghymru yn 2020, yn gymesur. Cynyddodd taliadau i aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru hefyd o ganlyniad i'r cynnydd i aelodau etholedig prif gynghorau. Ceir rhagor o fanylion yn Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023.

Taliadau i aelodau Cynghorau Cymuned a Thref 

Newidiodd y Panel Grwpiau Cynghorau Cymuned a Thref o dri grŵp yn seiliedig ar incwm neu wariant i bum grŵp yn seiliedig ar faint yr etholaeth. 

Hefyd, pan fydd incwm neu wariant Cyngor Cymuned a Thref yn fwy na £200,000 y flwyddyn, caiff ei symud i fyny i'r grŵp nesaf. 

Ceir rhagor o fanylion yn Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023.

2023  

Newid fformat yr adroddiad blynyddol 

Penderfynodd y Panel leihau maint yr adroddiad blynyddol yn sylweddol er mwyn sicrhau ei fod yn haws i'w ddarllen. Ceir rhagor o fanylion yn Adroddiad Blynyddol 2023 i 2024 (Adran 1: Cyflwyniad).

Cyhoeddodd y Panel ei Gynllun Strategaeth Tair Blynedd, ei Bapurau Ymchwil a Thystiolaeth Blynyddol a'i Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Ceir rhagor o fanylion yn Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: strategaeth 2023 i 2025. Dechreuodd crynodebau o gyfarfodydd gael eu cyhoeddi ar wefan y Comisiwn.

Cyfraniad at gostau a threuliau aelodau Cynghorau Cymuned a Thref

Mae'r Panel yn cydnabod bod angen i bob aelod o gynghorau cymuned a thref dreulio amser yn gweithio o gartref ar fusnes y cyngor ac o ganlyniad, bod gan yr aelodau gostau domestig ychwanegol a bod angen nwyddau traul swyddfa arnynt hefyd.

Dyfarnodd y Panel bod yn rhaid i Gynghorau Cymuned a Thref dalu £156 y flwyddyn i'w haelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau cartref ychwanegol (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref. Dyfarnodd y Panel hefyd bod yn rhaid i Gynghorau Cymuned a Thref naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall bod yn rhaid i gynghorau alluogi aelodau i hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.

Mae'r Panel yn ystyried na ddylai aelodau fod ar eu colled yn ariannol am gyflawni eu dyletswyddau. Fodd bynnag, bydd gan unigolyn yr opsiwn i wrthod derbyn y taliadau, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol, os bydd yn dymuno gwneud hynny. Ceir rhagor o fanylion yn Adroddiad Blynyddol 2023 i 2024 (Penderfyniad 4). 

2024 

Newid i ofynion adrodd Cynghorau Cymuned a Thref 

Ystyriodd y Panel y gofynion adrodd ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref yn 2024. Cytunodd y Panel i newid y gofyniad adrodd ac i gyhoeddi manylion pob cynghorydd sy'n cael y taliad gorfodol am weithio gartref, y lwfans cyfradd safonol am nwyddau traul a hawliadau teithio a chynhaliaeth. Penderfynodd y Panel y dylai'r Cynghorau Cymuned a Thref gyflwyno datganiad blynyddol yn crynhoi'r taliadau. Ceir rhagor o fanylion yn Adroddiad Blynyddol 2024 i 2025.

Newid i Aelodau Cyfetholedig 

Yn dilyn adborth ar Adroddiad Blynyddol 2023, cymerodd y Panel dystiolaeth gan y gohebwyr ynglŷn ag effaith y cynnydd yn nifer yr aelodau cyfetholedig a natur newidiol patrymau gwaith. Roedd hyn yn dangos nad oedd y trefniant presennol o gyfradd hanner diwrnod am unrhyw beth hyd at 4 awr a chyfradd diwrnod llawn am unrhyw beth dros hynny, yn ddigon hyblyg i adlewyrchu'r symud i fwy o weithio ar-lein neu weithio hybrid.

Cytunodd y Panel y dylid rhoi hyblygrwydd ac y gallai penderfyniadau ar b'un ai cyfradd yr awr neu gyfradd ddyddiol fyddai'n briodol i gael eu gwneud yn lleol. Ceir rhagor o fanylion yn Adroddiad Blynyddol 2024 i 2025.

Newidiadau i wefan y Panel 

Mewn ymateb i adborth gan randdeiliaid, diweddarodd y Panel y dolenni ar y wefan a chreu dolen newydd i dudalen sy'n nodi'r holl Benderfyniadau cyfredol y dylid eu cymhwyso a'u diweddaru bob blwyddyn pan gyhoeddir yr Adroddiad Blynyddol Terfynol. Gwnaed hyn i sicrhau ei bod hi'n haws defnyddio'r wefan ac i helpu i ddod o hyd i'r Penderfyniad cywir i ddelio â mater penodol.

Aelodau Cyfetholedig Cyd-bwyllgorau Corfforedig 

Ar ôl ymchwilio ac ymgynghori, cyhoeddodd y Panel Adroddiad Atodol. Roedd hwn yn darparu y dylai aelodau lleyg Cynghorau Cymuned a Thref gael eu talu a chael cymorth ar yr un sail ag aelodau cyfetholedig o awdurdodau perthnasol eraill. Gweler Adroddiad Atodol mis Gorffennaf 2024. Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: adolygiad o dâl i aelodau lleyg ar gydbwyllgorau corfforedig.