Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Croeso i Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ("y Panel"), sy'n nodi'r penderfyniadau ar gyflog, treuliau a buddiannau i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Cyd-bwyllgorau Corfforedig, Cynghorau Cymuned a Thref, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub i'w gweithredu o fis Ebrill 2025. Dyma'r adroddiad drafft olaf cyn i swyddogaethau'r Panel drosglwyddo i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (CDFfC) o 1 Ebrill 2025. 

Gallwch weld rhagor o wybodaeth am aelodau'r Panel ar ein gwefan.

Bu'n flwyddyn brysur i'r Panel, wrth iddo ganolbwyntio ar gydymffurfiad, ymgysylltiad, tegwch ac ymchwil, gan baratoi ar yr un pryd ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau i CDFfC. 

Ers sefydlu'r Panel, credaf ei fod wedi cael dylanwadu sylweddol a buddiol ar werth aelodaeth etholedig llywodraeth leol yng Nghymru ar bob lefel a hynny mewn perthynas â'r holl awdurdodau y mae ei gylch gwaith yn berthnasol iddynt. Yn arbennig, mae'r Panel wedi ceisio sicrhau nad yw materion sy'n gysylltiedig â chydnabyddiaeth ariannol yn creu rhwystr i gyfranogi mewn perthynas â democratiaeth leol.

Mae'r Mesur Llywodraeth Leol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel ystyried y gost gyffredinol i bwrs y wlad. Rydym wedi parhau i wneud hyn, ac wedi cynnal yr egwyddor bod cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig ein Prif Gynghorau wedi'i chysylltu'n benodol â chyflogau cyfartalog pobl yng Nghymru. Rwy'n fodlon bod y cydbwysedd rhwng tegwch a chymorth i aelodau etholedig a'r effaith gyffredinol ar gyllid cyhoeddus wedi'i gyflawni ar gyfer 2025 i 2026. 

Hoffwn gyfleu fy ngwerthfawrogiad a'm diolch i aelodau'r Panel am eu proffesiynoldeb, eu parodrwydd i ymgysylltu a'u barn yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. O ganlyniad, mae Penderfyniadau'r Panel yn gadarn ac yn sefydlog ac wedi'u cefnogi i raddau helaeth gan randdeiliaid. Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i aelodau ein Hysgrifenyddiaeth a fu'n cynorthwyo'r Panel. 

Caiff yr adroddiad blynyddol drafft hwn bellach ei gyhoeddi er mwyn ymgynghori arno. Unwaith eto, rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol y byddem yn croesawu eich adborth arnynt. Byddem yn croesawu unrhyw sylwadau ychwanegol ar fanylion y Penderfyniadau arfaethedig neu ar feysydd perthnasol eraill y dylai'r Panel eu hystyried yn eich barn chi. 

Daw'r Ymgynghoriad i ben ar 29 Tachwedd 2024 (gallwch naill ai ysgrifennu atom (gweler y manylion cyswllt) neu anfon e-bost atom yn nodi eich sylwadau neu gwblhau'r ffurflen ar ein gwefan) ac ar ôl trafod eich adborth, ac ystyried unrhyw newid mewn amgylchiadau, bydd y Panel yn cyhoeddi ei Benderfyniadau terfynol a'i adroddiad blynyddol erbyn 28 Chwefror 2025. 

Frances Duffy, Cadeirydd 
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Cyflwyniad

Y llynedd, gwnaethom gyhoeddi ein Cynllun Strategol cyntaf, gan nodi'r fframwaith ar gyfer ein hystyriaethau a'r cyd-destun ehangach ar gyfer ein penderfyniadau rhwng 2023 a 2025. 

Mae'r strategaeth yn amlinellu fframwaith priodol a theg ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol, wedi'i anelu at annog cynhwysiant a chyfranogiad er mwyn cefnogi democratiaeth leol, a rhoi llais i gymunedau. 

Mae gan y Panel ran i'w chwarae wrth hybu dealltwriaeth ehangach o waith aelodau o gynghorau lleol a chynghorau cymuned, er mwyn annog cyfranogiad mewn democratiaeth leol a gwella amrywiaeth cynghorwyr er mwyn cynrychioli amrywiaeth cymunedau lleol yn well. Mae'r Panel eisoes wedi cyflwyno ad-daliad am gost gofal (i bob aelod etholedig) a lwfans gweithio gartref a TGCh (cynghorau cymuned a thref) wedi'u hanelu at ddileu rhwystrau posibl mewn perthynas â chyfrifoldebau gofalu a gweithio gartref er mwyn galluogi aelodau etholedig i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. 

Lle y gall, mae'r Panel yn parhau i fonitro effaith ei benderfyniadau ar wella amrywiaeth o fewn democratiaeth leol, a gyda chymorth Llywodraeth Cymru, gofynnodd am sylwadau ar y cysylltiad rhwng cydnabyddiaeth ariannol ac amrywiaeth ym maes democratiaeth leol. Mae'r Panel wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am gymorth wrth ddarparu llinell sylfaen well o dystiolaeth er mwyn monitro ac olrhain newidiadau o ran demograffeg ein swyddogion etholedig. 

Ers cryfhau'r Panel, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar lunio ein cynllun ymchwil a thystiolaeth i gefnogi ein trafodaethau ar ein fframwaith cydnabyddiaeth ariannol. Rydym yn cyhoeddi ein papur Ymchwil a Thystiolaeth bob blwyddyn, ynghyd â'r Adroddiad Terfynol yn unol â'n nod o fod yn agored ac yn dryloyw yn ein holl benderfyniadau.

Mae'r Panel o'r farn bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol yn hanfodol o safbwynt democratiaeth leol. Felly, gwnaethom gytuno unwaith eto i barhau i gysoni lefelau cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Cyd-bwyllgorau Corfforedig, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yng nghyd-destun enillion cyfartalog yng Nghymru. Mae hyn wedi golygu defnyddio'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) yng Nghymru a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) fel y prif feincnod wrth bennu cydnabyddiaeth ariannol.

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn nodi bod yn rhaid i'r Panel ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar awdurdodau perthnasol. Gwnaethom ystyried tystiolaeth ynglŷn â sefyllfa ariannol y sector cyhoeddus a'r effaith ar gyllidebau Prif Awdurdodau cyn pennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol ar draws y teulu llywodraeth leol. 

Er bod cyfanswm cost cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig yn gymharol isel yn nhermau'r cyllidebau cyffredinol, mae'r Panel yn ymwybodol o'r pwysau economaidd a chyllidol parhaus ar Brif Gynghorau.  Wrth wneud ein penderfyniad i barhau i gysylltu cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig ag enillion cyfartalog eu hetholwyr, cred y Panel o hyd y bydd pecyn cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol yn parhau i gefnogi aelodau etholedig heb greu rhwystr i gyfranogi. Mae hon yn egwyddor bwysig, sy'n sail i'n hystyriaethau o gydnabyddiaeth ariannol briodol.

Yn unol â'n hymrwymiad i symleiddio gofynion adrodd a chydymffurfio, edrychodd y Panel y flwyddyn hon ar y gofynion adrodd ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref. Gwnaethom ddarparu adroddiad templed newydd i glercod Cynghorau Cymuned a Thref ei ddefnyddio a byddwn yn parhau i fonitro lefel y taliadau a wneir. Mae'r datganiadau blynyddol hyn yn rhan bwysig o'r dystiolaeth y mae'r Panel yn ei hystyried wrth bennu effaith ac effeithiolrwydd ein penderfyniadau. 

Gwnaethom ymdrin ag ymholiadau gan Gynghorau Cymuned a Thref ynglŷn â thriniaeth TWE y lwfans gorfodol am weithio gartref (£156 y flwyddyn) a'r opsiwn o dalu cyfradd safonol o £52 y flwyddyn am nwyddau traul. Gwnaethom ddiweddaru ein canllawiau ar y mater hwn, ac mae hyn wedi helpu i leihau nifer yr ymholiadau. Rydym yn ymwybodol o'r help y mae Un Llais Cymru yn ei roi o hyd i glercod a chynghorwyr lleol ar faterion sy'n gysylltiedig â chydnabyddiaeth ariannol a byddwn yn cynnal seminar ar-lein unwaith eto eleni i bob cynghorydd cymuned yn ystod y cyfnod ymgynghori. 

Rydym hefyd yn ymwybodol bod nifer o gynghorwyr Cynghorau Cymuned a Thref yn penderfynu peidio â hawlio'r symiau y mae ganddynt hawl iddynt, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ond bod y niferoedd hynny'n lleihau. Credwn yn gryf y dylai cynghorwyr gael eu had-dalu am y treuliau y mae'n rhaid iddynt fynd iddynt wrth gyflawni eu dyletswyddau. 

Gwnaethom gyflwyno dull adrodd cyfansymiol ar gyfer yr holl daliadau gorfodol i aelodau Cynghorau Cymuned a Thref am weithio gartref, y lwfans cyfradd safonol am nwyddau traul a hawliadau teithio a chynhaliaeth. Mae hyn yn unol â'r broses ar gyfer adrodd ar gostau gofal a hawliadau cymorth personol. Mae'r Panel o'r farn y bydd hyn yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng atebolrwydd cyhoeddus a phreifatrwydd unigolion, ac rydym yn gobeithio y bydd yn annog pawb i hawlio'r taliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt. 

Hefyd y llynedd, cyflwynodd y Panel yr opsiwn i aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub gael eu talu'n unol â chyfradd yr awr yn hytrach na chyfradd ddyddiol lle yr ystyriwyd bod hynny'n briodol. Byddwn yn ystyried y datganiadau taliadau blynyddol ar gyfer y flwyddyn hon er mwyn monitro faint o aelodau sy'n gwneud hynny. 

Rydym wedi adolygu ein Canllawiau (y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol fel y Rheoliadau) ac wedi eu diweddaru er mwyn helpu'r awdurdodau perthnasol i allu cydymffurfio'n well â'n penderfyniadau am gydnabyddiaeth ariannol aelodau, gan gynnwys y gofynion o ran taliadau, adrodd a chyhoeddi fel y'u nodir yn yr adroddiad blynyddol drafft hwn.  

Un o'r materion allweddol y rhoddodd y Panel ystyriaeth fanwl iddo eleni oedd y broses o ddatblygu'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau) newydd. Ar ôl cynnal gwaith ymchwil i'r cynnydd a oedd yn cael ei wneud a gofyn am dystiolaeth ac adborth gan CBCau a chydweithwyr polisi Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd y Panel Adroddiad Atodol Drafft a oedd yn ymdrin â chydnabyddiaeth ariannol aelodau lleyg CBCau ar 27 Mehefin 2024. 

Roedd y Panel o'r farn ei bod hi'n bwysig sicrhau bod taliadau a lwfansau i aelodau etholedig ac aelodau penodedig pob awdurdod lleol sy'n rhan o'r teulu llywodraeth leol yn deg ac yn gyson. Penderfynodd y Panel fod y sefyllfa o ran cydnabyddiaeth ariannol aelodau lleyg CBCau yn wahanol i'r sefyllfa o ran cydnabyddiaeth ariannol aelodau cyfetholedig o fewn awdurdodau llywodraeth leol eraill. 

O ganlyniad, ymgynghorodd y Panel â rhanddeiliaid ynghylch cysoni'r dull gweithredu mewn perthynas â chydnabyddiaeth ariannol aelodau lleyg CBCau a chydnabyddiaeth ariannol aelodau cyfetholedig ar draws yr awdurdodau perthnasol sy'n rhan o'r teulu llywodraeth leol, gan ofyn a ddylid talu aelodau lleyg CBC yn yr un ffordd ag aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol eraill. 

Hoffai'r Panel gyfleu ei werthfawrogiad i'r rhai hynny a roddodd o'u hamser i anfon eu safbwyntiau a'u sylwadau. Roedd pob un o'r ymatebion, fwy neu lai, o blaid y dull gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad.

Cyhoeddodd y Panel Adroddiad Atodol Terfynol ar 31 Gorffennaf 2024. 

Mae'r Panel yn ystyried gweithredu ar un maes arall eleni, sef cynnal adolygiad o'r Fframwaith a'r Fethodoleg ar gyfer Cydnabyddiaeth Ariannol i Uwch Rolau mewn Prif Gynghorau, Cynghorau Cymuned a Thref, a CBCau. Mae'n ddarn sylweddol o waith a fydd yn gofyn am archwiliad llawn a gwaith ymchwil dilynol, ac felly mae'r Panel yn bwriadu datblygu cwmpas manylach o natur y gwaith ymchwil a'r fethodoleg sydd eu hangen yn ystod y misoedd sydd i ddod er mwyn i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau newydd Cymru (CDFfC) ddechrau'r gwaith hwn.

Yn ogystal, mae'r Panel wedi dod yn ymwybodol o rai pryderon o ran y llwyth gwaith a'r gofynion sy'n gysylltiedig ag uwch-rolau yn yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a'r Awdurdodau Tân ac Achub. Felly mae'r Panel yn cynnig cynnwys cwestiynau ymchwil a fyddai'n cefnogi adolygiad i'r meysydd hyn hefyd o fewn cwmpas y fframwaith ymchwil a ddisgrifir uchod. 

Wrth i ni ddod at ddiwedd y flwyddyn, ac wrth i'r Panel ddirwyn i ben a throsglwyddo ei swyddogaethau i CDFfC, bydd y Panel yn paratoi Adroddiad Etifeddiaeth y bwriadwn iddo weithredu fel crynodeb o'r prif faterion rydym wedi ymchwilio iddynt ac wedi gwneud penderfyniadau yn eu cylch yn ystod y cyfnod o ryw 10 mlynedd diwethaf a darparu sail dystiolaeth i CDFfC ei defnyddio wrth symud ymlaen. 

Rôl a Chyfrifoldebau'r Panel

Ein Rôl

Mae'r Panel yn gyfrifol am bennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig y sefydliadau canlynol a'r trefniadau ar eu cyfer: 

  • Prif Gynghorau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol
  • Cynghorau Cymuned a Thref 
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Mae'r Panel yn sefydliad annibynnol ac mae'n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i'r sefydliadau a restrir uchod roi'r penderfyniadau a wneir ganddo ar waith. 

Rydym yn penderfynu ar y canlynol: 

  • y strwythur cyflog ar gyfer rhoi cydnabyddiaeth ariannol i aelodau
  • y math o lwfansau a delir i aelodau a'u natur
  • a yw taliadau yn orfodol neu a oes rhywfaint o hyblygrwydd lleol
  • trefniadau mewn perthynas ag absenoldeb teuluol
  • trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â phenderfyniadau'r Panel

Ein nod cyffredinol 

  • Cefnogi democratiaeth leol a rhoi llais i gymunedau, drwy sefydlu fframwaith cydnabyddiaeth ariannol priodol a theg, sy'n annog cynhwysiant a chyfranogiad. 

Ein nodau 

  • Dylai ein Penderfyniadau sicrhau bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol yn deg, yn rhesymol ac yn werth am arian i drethdalwyr, ac y cânt eu pennu yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru.  
  • Dylai ein Penderfyniadau gefnogi aelodau etholedig o amrywiaeth eang o gefndiroedd, ac ni ddylai lefelau cydnabyddiaeth ariannol fod yn rhwystr i gyfranogi. 

Ein hamcanion strategol 

  • Gwneud Penderfyniadau ar sail tystiolaeth
  • Cyfathrebu mewn ffordd glir a hygyrch
  • Mynd ati i ymgysylltu ac ymgynghori'n rhagweithiol
  • Symleiddio trefniadau cydymffurfio ac adrodd
  • Cydweithio 

Aelodau'r panel

Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith
Dianne Bevan
Kate Watkins 

Ceir gwybodaeth fanwl am yr aelodau, ein Cynllun Strategol, ein trafodaethau ac ymchwil a thystiolaeth ategol ar y wefan.

Trosglwyddo Swyddogaethau i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Yn dilyn adolygiad deng mlynedd annibynnol o'r Panel yn 2021, bydd swyddogaethau'r Panel yn trosglwyddo i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar 1 Ebrill 2025. Mae hyn o ganlyniad i basio'r Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ym mis Gorffennaf 2024. Ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol yn yr hydref, mae'r Ddeddf yn ehangu rôl a chylch gwaith CDFfC ar draws agweddau ar ddemocratiaeth iach yng Nghymru, gan gynnwys pennu lefelau cydnabyddiaeth ar gyfer aelodau o'r cyrff canlynol ledled Cymru: 

  • Prif Gynghorau 
  • Cynghorau Cymuned a Thref 
  • Cyd-bwyllgorau Corfforedig
  • Awdurdodau Tân ac Achub
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol

Gan fod CDFfC yn defnyddio'r un sail dystiolaeth a'r un rhanddeiliaid i gynnal ei waith ei hun a bod ei ddiben hefyd yn seiliedig ar hyrwyddo democratiaeth leol effeithiol, mae cysylltiad cryf rhwng gwaith y ddau sefydliad yn barod. Mae'r ddwy agenda yn dibynnu ar feithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad gwirioneddol o anghenion y boblogaeth yng Nghymru, y ffordd y mae aelodau etholedig a chynghorau yn gweithredu a dealltwriaeth o lwythi gwaith aelodau. 

Fel sy'n ofynnol gan y Panel ar hyn o bryd, bydd disgwyl i CDFfC lunio Adroddiad Blynyddol drafft i ymgynghori arno ac i ystyried yr ymatebion cyn cyhoeddi Adroddiad terfynol erbyn 28 Chwefror bob blwyddyn. Bydd yr Adroddiad yn nodi ei benderfyniad am lefelau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. 

Caiff y Panel ei ddiddymu drwy'r Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ar 31 Mawrth 2025. 

Rydym yn gweithio'n agos gyda CDFfC i sicrhau y caiff swyddogaethau'r Panel eu trosglwyddo'n hwylus ar 1 Ebrill 2025. Rydym wedi creu ffrwd waith trosglwyddo er mwyn bodloni gofynion fel y gofyniad i ddatblygu adroddiad etifeddiaeth a fydd yn nodi manylion am hanes y Panel yn ogystal â meysydd y gallai CDFfC o bosibl eu hystyried yn y dyfodol. 

Methodoleg

Fel y noda ein hamcanion strategol, mae'r Panel wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. 

Y flwyddyn hon, gwnaethom unwaith eto baratoi papur tystiolaeth ac ymchwil i ddwyn ynghyd y gwahanol ffynonellau o wybodaeth a ystyriwyd gan y Panel wrth wneud ei Benderfyniadau drafft. Rhoddodd amrywiaeth eang o ddata, tystiolaeth a ffactorau cyd-destunol er mwyn llywio proses gwneud penderfyniadau'r Panel mewn perthynas â'i Benderfyniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025-2026. Roedd hyn yn cynnwys:

  • data ar enillion wythnosol cyfartalog yn y DU ac yng Nghymru, gan gynnwys ASHE yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion 
  • tueddiadau cyflog yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat 
  • cyfraddau chwyddiant CPIH a CPI blynyddol
  • meincnodau, gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol i gynghorwyr yn yr Alban
  • ymchwil i lwyth gwaith cynghorwyr, safbwyntiau ac agweddau tuag at gydnabyddiaeth ariannol ac amrywiaeth (Llywodraeth Cymru)
  • data a gasglwyd ar nifer y cynghorwyr sy'n hawlio cydnabyddiaeth ariannol a phecynnau buddiannau.
  • iechyd Democrataidd Cynghorau Cymuned a Thref 
  • data ar sefyllfa ariannol awdurdodau lleol 

Caiff y set gyflawn o dystiolaeth ac ymchwil a ystyriwyd ei chyhoeddi ar ein gwefan

Ymgysylltodd y Panel yn uniongyrchol â grwpiau sy'n cynrychioli rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru, y Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol a Chymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru. Cawsom dystiolaeth hefyd gan Gadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cadeirydd Parciau Cenedlaethol Cymru (sydd hefyd yn Gadeirydd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) a Chadeirydd CBC De-orllewin Cymru (sydd hefyd yn Arweinydd Cyngor Dinas Abertawe). 

Ym mis Mawrth, aeth aelodau'r Panel i gynhadledd Un Llais Cymru. Rhoddodd gyfle iddynt gyfarfod â chynadleddwyr a thrafod materion sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau'r Panel. Bydd aelodau'r Panel yn mynychu'r gynhadledd eto eleni ac maent yn edrych ymlaen at gyfarfod â chlercod a chynghorwyr Cynghorau Cymuned a Thref. 

Mae aelodau'r Panel hefyd yn cyfarfod â Chonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban (COSLA), Llywodraeth yr Alban a Chynullydd Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol Awdurdodau Lleol yr Alban (SLARC) i drafod adolygiad annibynnol SLARC o gydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr a'r fethodoleg benodol ar gyfer pennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr. Nododd aelodau'r Panel fod y sgwrs yn ddifyr ac yn ddiddorol wrth gymharu methodoleg yr Alban ar gyfer pennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol â methodoleg Cymru. 

Mae'r Panel yn edrych ymlaen at ymgysylltu â Phenaethiaid Gwasanaethau Democrataidd ac Arweinwyr y Prif Gynghorau yn ystod y cyfnod ymgynghori. Mae'r trafodaethau hyn yn rhoi cyfle i'r Panel ystyried safbwyntiau ynglŷn â'r trefniadau presennol, effaith penderfyniadau ar unigolion, sut mae'r trefniadau'n gweithredu'n ymarferol ac unrhyw faterion neu bryderon y mae unigolion am eu codi. Mae hefyd yn gyfle i drafod sefyllfaoedd sy'n dod i'r amlwg y bydd angen i'r Panel eu hystyried o bosibl mewn perthynas â'i brosesau gwneud penderfyniadau. 

Hoffai'r Panel ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein trafodaethau, naill ai'n uniongyrchol neu drwy adborth a chwestiynau am ein hadroddiad diwethaf.

Penderfyniadau ar gyfer 2025 i 2026

Prif Gynghorau

Cyflog sylfaenol i aelodau etholedig prif gynghorau: penderfyniad 1 

Mae'r cyflog sylfaenol, a delir i bob aelod etholedig, yn gydnabyddiaeth ariannol am ymgymryd â chyfrifoldeb cynrychiolaeth gymunedol ac am gymryd rhan yn swyddogaethau craffu, swyddogaethau rheoleiddio a swyddogaethau cysylltiedig llywodraeth leol. Mae'n seiliedig ar yr hyn sy'n gyfwerth â gweithio tri diwrnod yr wythnos yn amser llawn. Mae'r Panel yn adolygu'r ymrwymiad hwn o ran amser yn rheolaidd, ac ni chynigir unrhyw newidiadau ar gyfer 2025 i 2026. 

Mae'r Panel yn gwbl ymwybodol o'r cyfyngiadau presennol ar gyllid cyhoeddus ac effaith ei benderfyniadau ar gyllidebau Prif Awdurdodau. Mae'r Panel hefyd yn ystyriol o'n Nodau a'n Hamcanion i gynnig pecyn cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol i gefnogi aelodau etholedig ac annog amrywiaeth mewn cynrychiolaeth. 

Nododd y Panel hefyd, yn y cylchoedd etholiadol blaenorol, fod cydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr dipyn yn is na meincnod allweddol Enillion Cyfartalog yr Awr yng Nghymru (ASHE) a bod angen codiad sylweddol felly yn 2022.

Felly, mae'r Panel wedi penderfynu, ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 ei bod yn briodol cadw'r cysylltiad rhwng cyflog sylfaenol cynghorwyr a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. Bydd y cyflog sylfaenol yn gyson â thair rhan o bump o ASHE 2022 i Gymru gyfan, sef y ffigur diweddaraf sydd ar gael ar adeg drafftio'r adroddiad hwn. Y ffigur fydd £19,771. 

Cyflogau a delir i Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac aelodau Llywyddol prif gynghorau: penderfyniad 2

Bydd y terfyn ar nifer yr uwch gyflogau sy'n daladwy (“y cap”) yn parhau. 

Mae'r holl uwch gyflogau yn cynnwys taliad y cyflog sylfaenol. Cydnabyddir lefelau gwahanol cyfrifoldeb ychwanegol pob rôl a rhwng pob rôl mewn fframwaith â bandiau. Ni chynigir unrhyw newidiadau i'r bandiau eleni. 

Bydd yr elfen cyflog sylfaenol yn cynyddu yn unol ag ASHE a bydd y cynnydd hwn hefyd yn gymwys i elfen rôl Bandiau 1, 2, 3, 4 a 5.

Felly, cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £74,141. 

Penderfynwyd ar yr holl daliadau eraill wrth gyfeirio at y cyflog hwn ac maent wedi'u nodi yn Nhabl 1.

Grŵp A

  • Caerdydd
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
Tabl 1: cyflogau a delir i aelodau Sylfaenol, Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac aelodau Llywyddol prif gynghorau (Grŵp A)
DisgrifiadSwm
Cyflog sylfaenol£19,771
Band 1: arweinydd £74,141
Band 1: dirprwy arweinydd£51,899
Band 2: aelodau gweithredol£44,485
Band 3: cadeiryddion pwyllgorau (os y'u telir)    £29,657
Band 4: arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf£29,657
Band 5: arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y'i telir) a'r dirprwy bennaeth dinesig£23,726
Pennaeth Dinesig (os y'i telir)£29,657
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir)£23,726
Aelod Llywyddol (os y'i telir)£29,657
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig)£19,771

Grŵp B

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Sir Gaerfyrddin
  • Conwy
  • Sir y Fflint
  • Gwynedd
  • Casnewydd
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Bro Morgannwg
  • Wrecsam
Tabl 1: cyflogau a delir i aelodau Sylfaenol, Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac aelodau Llywyddol prif gynghorau (Grŵp B)
DisgrifiadSwm
Cyflog sylfaenol£19,771
Band 1: arweinydd £66,727
Band 1: dirprwy arweinydd£46,709
Band 2: aelodau gweithredol£40,036
Band 3: cadeiryddion pwyllgorau (os y'u telir)    £29,657
Band 4: arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf£29,657
Band 5: arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y'i telir) a'r dirprwy bennaeth dinesig£23,726
Pennaeth Dinesig (os y'i telir)£29,657
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir)£23,726
Aelod Llywyddol (os y'i telir)£29,657
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig)£19,771

Grŵp C

  • Blaenau Gwent
  • Ceredigion
  • Sir Ddinbych
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Torfaen
  • Ynys Môn
Tabl 1: cyflogau a delir i aelodau Sylfaenol, Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac aelodau Llywyddol prif gynghorau (Grŵp C)
DisgrifiadSwm
Cyflog sylfaenol£19,771
Band 1: arweinydd £63,020
Band 1: dirprwy arweinydd£44,114
Band 2: aelodau gweithredol£37,812
Band 3: cadeiryddion pwyllgorau (os y'u telir)    £29,657
Band 4: arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf£29,657
Band 5: arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y'i telir) a'r dirprwy bennaeth dinesig£23,726
Pennaeth Dinesig (os y'i telir)£29,657
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir)£23,726
Aelod Llywyddol (os y'i telir)£29,657
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig)£19,771

Nid oes unrhyw newidiadau pellach i'r taliadau a'r buddiannau a delir i aelodau etholedig. Caiff yr holl Benderfyniadau cyfredol eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Ni wnaed unrhyw newidiadau i lwfansau Teithio a Chynhaliaeth; Cymorth Gofal a Phersonol; Absenoldeb Salwch; Cyd-bwyllgorau Corfforedig, Cynorthwywyr i'r Weithrediaeth, cyflogau ychwanegol a threfniadau rhannu swydd.

Cyflogau Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu: penderfyniad 3

Bydd cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn parhau i fod yn gyson â Band 3 a chaiff ei bennu ar £9,886.

Pennir cyflog is-gadeirydd yn 50% o gyflog y Cadeirydd, sef £4,943. 

Ni fydd unrhyw newidiadau eraill.

Taliadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub: penderfyniad 4

Ffurfiwyd y tri pharc cenedlaethol yng Nghymru, Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog, i ddiogelu tirweddau ysblennydd a chynnig cyfleoedd hamdden i'r cyhoedd. Arweiniodd Deddf yr Amgylchedd 1995 at greu Awdurdod Parc Cenedlaethol (APC) ar gyfer pob parc. Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cynnwys aelodau sydd naill ai'n aelodau etholedig a enwebir gan y prif gynghorau o fewn ardal y parc cenedlaethol neu'n aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru drwy broses Penodiadau Cyhoeddus. Caiff aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru ac aelodau a enwebir gan gyngor eu trin yn gyfartal o ran cydnabyddiaeth ariannol.

Ffurfiwyd y tri gwasanaeth tân ac achub (ATA) yng Nghymru, sef  Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a De Cymru, fel rhan o ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1996. Maent yn cynnwys aelodau etholedig sy'n cael eu henwebu gan y Prif Gynghorau o fewn ardal pob gwasanaeth tân ac achub.

Yn unol â phenderfyniad y Panel i gynyddu cyflog sylfaenol aelodau etholedig prif gynghorau, bydd lefel cydnabyddiaeth ariannol aelodau cyffredin yn APCau a ATAau hefyd yn cynyddu yn unol ag ASHE.

Bydd cydnabyddiaeth ariannol Cadeiryddion yn parhau'n gysylltiedig â chyflog uwch-aelod Band 3 prif gyngor. Felly, bydd eu helfen rôl yn cynyddu'n unol â hynny. Bydd cysylltiad Dirprwy gadeiryddion, cadeiryddion pwyllgorau ac uwch swyddi eraill a delir â Band 5 yn parhau. Ceir manylion llawn lefelau cydnabyddiaeth ariannol i aelodau APCau ac ATAau yn Nhabl 2.

Tabl 2: taliadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol 
Awdurdodau Parciau CenedlaetholSwm
Cyflog sylfaenol i aelodau cyffredin£5,576
Cadeirydd                £15,462
Dirprwy gadeirydd (os penodir un)£9,531
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch swydd arall£9,531

 

Tabl 2: taliadau i Awdurdodau Tân ac Achub 
Awdurdodau Parciau CenedlaetholSwm
Cyflog sylfaenol i aelodau cyffredin        £2,788
Cadeirydd                £12,674
Dirprwy gadeirydd (os penodir un)     £6,743
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch swydd arall£6,743

Cyhoeddir yr holl Benderfyniadau cyfredol, gan gynnwys cyfyngiadau ar dderbyn lwfansau dwbl, ar ein gwefan. Heblaw am y codiadau uchod, ni chynigir unrhyw newidiadau y flwyddyn hon. 

Taliadau a wneir i aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub: penderfyniad 5 

Mae'r Penderfyniad cyfredol (a wnaed yn Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023) yn nodi y dylai aelodau cyfetholedig y cyrff perthnasol gael cydnabyddiaeth ariannol ar sail diwrnod neu hanner diwrnod. Hefyd, gall y swyddog perthnasol benderfynu ar gyfanswm y diwrnodau y rhoddir cydnabyddiaeth ariannol ar eu cyfer mewn blwyddyn a phennu amser rhesymol am baratoi ar gyfer cyfarfodydd.

Mae'r Panel wedi nodi'r newidiadau i arferion gwaith, a roddwyd ar waith yn ystod COVID-19 ac sydd bellach yn dod yn fwy arferol, sydd wedi golygu newid tuag at ddefnydd amlach o gyfarfodydd a/neu gyrsiau hyfforddiant ar-lein, sydd yn aml yn fyr, yn ogystal â chyfarfodydd pwyllgor mwy rheolaidd. Mae'r Panel hefyd wedi cael adborth gan Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd yn codi'r mater hwn.

Felly, penderfynodd y Panel y dylai fod hyblygrwydd lleol i'r swyddog perthnasol benderfynu pryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr lle mae'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr, fel yr amlinellir yn Nhabl 3.

Tabl 3: taliadau a wneir i aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub
Rôl     Taliad gan ddefnyddio cyfradd fesul awr taliadau   Cyfradd taliadau am hyd at 4 awrCyfradd am 4 awr a throsodd

Cadeiryddion pwyllgorau safonau ac archwilio   

 

£33.50£134£268

Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgorau Safonau ar gyfer 
Cynghorau Cymuned a Thref

 

£29.75£119£238

Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau; Pwyllgor Craffu Addysg; Pwyllgor Craffu Trosedd ac Anrhefn a Phwyllgor Archwilio       

 

£26.25£105    £210
Cynghorwyr Cymuned a Thref 
sy'n aelodau o Bwyllgorau Safonau
Prif Gynghorau          
£26.25£105    £210

Taliadau i aelodau (lleyg) cyfetholedig Cyd-bwyllgorau Corfforedig: penderfyniad 6

Caiff aelodau lleyg cyfetholedig Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) eu talu ar yr un sail ag aelodau (lleyg) cyfetholedig â hawliau pleidleisio sy'n gysylltiedig â chyrff eraill yn y teulu llywodraeth leol. 

Nodir y symiau isod.      

Taliadau i aelodau (lleyg) cyfetholedig Cyd-bwyllgorau Corfforedig
Rôl     Taliad gan defnyddio cyfradd fesul awr          Cyfradd taliadau am hyd at 4 awrCyfradd taliadau am 4 awr a throsodd
Cadeiryddion lleyg pwyllgorau       £33.50£134£268
Aelodau lleyg cyffredinol â hawliau pleidleisio£29.75£119£238

Mae'r penderfyniad hwn yn ddilys o 31 Gorffennaf 2024.

Cynghorau cymuned a thref

Mae'r Panel yn parhau i wneud taliadau am gostau ychwanegol gweithio gartref a thaliadau am nwyddau traul swyddfa yn orfodol. Ni fydd unrhyw newid i'r Penderfyniad a wnaed y llynedd. 

Taliadau gorfodol: penderfyniad 7

Taliad am gostau ychwanegol gweithio gartref  

Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £156 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd yn rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref. 

Taliad penodol am nwyddau traul 

Mae'n rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawnieu rôl, neu fel arall mae'n rhaid i gynghorau ei gwneud yn bosibl i'w haelodau hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.

Mater i bob cyngor yw gwneud a chofnodi penderfyniad polisi mewn perthynas â phryd a sut y caiff y taliadau eu gwneud ac a ydynt yn cael eu talu'n fisol, yn flynyddol neu fel arall. Dylai'r polisi hefyd nodi a fydd unrhyw daliadau a wneir i aelod sy'n gadael neu sy'n newid ei rôl yn ystod y flwyddyn ariannol yn cael eu hadennill, a sut. 

Digolledu am golled ariannol: penderfyniad 8 

Taliad dewisol yw digolledu am golled ariannol. 

Yn flaenorol, penderfynodd y Panel y dylid pennu lefel briodol o daliadau ar gyfradd ddyddiol ASHE. Er mwyn cadw'r cysylltiad hwn, cynigir y dylai'r ffigurau ar gyfer 2025 i 2026 bellach gael eu pennu fel a ganlyn £126.74 am ddiwrnod llawn a £63.37 am hanner diwrnod. 

Gofynion adrodd: penderfyniad 9  

Mae'n ofynnol i Gynghorau Cymuned a Thref gyflwyno datganiad blynyddol o daliadau i'r Panel erbyn 30 Medi bob blwyddyn, a hefyd ei gyhoeddi ar eu gwefan. Mae'r Panel wedi darparu ffurflen dempled at ddefnydd clercod.

Mae'r Panel wedi trafod ac wedi ystyried newid y gofynion ar Gynghorau Cymuned a Thref wrth gyflwyno eu datganiad o daliadau. Nod y Panel yw symleiddio'r trefniadau gweinyddol ac annog Cynghorau i sicrhau bod yr holl daliadau gorfodol yn cael eu gwneud i aelodau unigol.

Cynigiodd y Panel, o fis Medi 2024, mai dim ond y cyfansymiau a dalwyd mewn perthynas â'r taliadau gorfodol a grybwyllir uchod y bydd angen i'r datganiadau eu dangos, sef y cyfraniad o £156 at gostau gweithio gartref a'r gyfradd benodedig o £52 am lwfans nwyddau traul a'r treuliau teithio a chynhaliaeth a dalwyd. 

Mae hyn yn golygu y bydd y taliadau hyn yn gyson ag adrodd ar gostau lwfansau gofal a chymorth personol.

Tabl 5: taliadau i Gynghorau Cymuned a Thref  
Math o DaliadGrŵp  Gofyniad
Taliad costau ychwanegol   1 (Dros 14,000 o etholwyr)       Gorfodol i bob aelod
Uwch-rôl       1 (Dros 14,000 o etholwyr)£500 gorfodol i un o dewisol i hyd at 7 aelod
Maer neu gadeirydd      1 (Dros 14,000 o etholwyr)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd          1 (Dros 14,000 o etholwyr)Dewisol: hyd at uchafswm o £500          
Lwfans mynychu 1 (Dros 14,000 o etholwyr)Dewisol
Colled ariannol1 (Dros 14,000 o etholwyr)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth1 (Dros 14,000 o etholwyr)Dewisol
Costau gofal neu gymorth personol            1 (Dros 14,000 o etholwyr)Gorfodol
Taliad costau ychwanegol   2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)Gorfodol i bob aelod
Uwch-rôl       2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)Gorfodol i un aelod;  dewisol i hyd at bum aelod
Maer neu gadeirydd      2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd          2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans mynychu   2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)Dewisol
Colled ariannol2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)Dewisol
Costau gofal neu gymorth personol              2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr)Gorfodol
Taliad costau ychwanegol   3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)               Gorfodol i bob aelod 
Uwch-rôl       3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)          Gorfodol i un aelod; dewisol i hyd at bum aeold   
Maer neu gadeirydd      3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)          Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)          Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans mynychu3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)          Dewisol
Colled ariannol3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)          Dewisol
Teithio a chynhaliaeth  3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)          Dewisol
Costau gofal neu gymorth personol             3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr)          Gorfodol
Taliad costau ychwanegol4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)          Gorfodol i bob aelod
Uwch-rôl       4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)          Dewisol i hyd at dri aelod 
Maer neu gadeirydd4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)          Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd               4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)          Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans mynychu   4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)          Dewisol
Colled ariannol4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)          Dewisol
Teithio a chynhaliaeth4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)          Dewisol
Costau gofal neu gymorth personol       4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr)          Gorfodol
Taliad costau ychwanegol   5 (Rhwng 1,000 o etholwyr) Gorfodol i bob aelod 
Uwch-rôl       5 (Rhwng 1,000 o etholwyr)Dewisol i hyd at dri aelod 
Maer neu gadeirydd      5 (Rhwng 1,000 o etholwyr)Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd     5 (Rhwng 1,000 o etholwyr)Dewisol: hyd at uchafswm o £500
Lwfans mynychu   5 (Rhwng 1,000 o etholwyr)Dewisol
Colled ariannol5 (Rhwng 1,000 o etholwyr)Dewisol
Teithio a chynhaliaeth5 (Rhwng 1,000 o etholwyr)Dewisol
Costau gofal neu gymorth personol              5 (Rhwng 1,000 o etholwyr)Gorfodol

Ni wnaed unrhyw newidiadau i daliadau am ymgymryd ag uwch-rolau; lwfansau Teithio a Chynhaliaeth; Lwfans Gofal a Chymorth Personol neu Lwfans Mynychu. Caiff yr holl Benderfyniadau cyfredol eu cyhoeddi ar ein gwefan

Crynodeb o'r Penderfyniadau 2025 i 2026

Penderfyniad 1  

Caiff lefel sylfaenol cyflog i aelodau etholedig prif gynghorau ei phennu ar £19,771. 

Penderfyniad 2 

Cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £74,141. Penderfynwyd ar yr holl daliadau eraill wrth gyfeirio at y cyflog hwn. Nodir pob taliad yn Nhabl 1.

Penderfyniad 3 

Cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu fydd £9,886. 

Cyflog is-gadeirydd fydd £4,943.

Penderfyniad 4 

Mae cyflog sylfaenol aelodau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub wedi cynyddu. Nodir pob taliad yn Nhabl 2. 

Cyhoeddir yr holl Benderfyniadau cyfredol, gan gynnwys cyfyngiadau ar dderbyn lwfansau dwbl, ar ein gwefan. Heblaw am y codiadau uchod, ni chynigir unrhyw newidiadau y flwyddyn hon.

Penderfyniad 5 

O ran taliadau i aelodau cyfetholedig, mae'r Panel yn cynnig y dylai fod hyblygrwydd lleol i'r swyddog perthnasol benderfynu pryd y bydd yn briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr lle mae'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr.  

Nid yw cyfraddau diwrnod llawn na hanner diwrnod wedi newid ers 2024 i 2025. Yr unig newid yw cyfraddau yr awr, fel y'u nodir yn Nhabl 3.

Penderfyniad 6

Caiff aelodau lleyg cyfetholedig Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) eu talu ar yr un sail ag aelodau (lleyg) cyfetholedig â hawliau pleidleisio sy'n gysylltiedig â chyrff eraill yn y teulu llywodraeth leol, fel y nodir yn Nhabl 4.

Penderfyniad 7

Bydd aelodau o Gynghorau Cymuned a Thref yn cael taliad o £156 y flwyddyn (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref. Ac mae'n rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall mae'n rhaid i gynghorau ei gwneud yn bosibl i'w haelodau hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.

Penderfyniad 8

Taliad dewisol yw digolledu am golled ariannol. 

Yn flaenorol, penderfynodd y Panel y dylid pennu lefel briodol o daliadau ar gyfradd ddyddiol ASHE. Er mwyn cadw'r cysylltiad hwn, cynigir y dylai'r ffigurau ar gyfer 2025 bellach gael eu pennu fel a ganlyn £126.74 am ddiwrnod llawn a £63.37 am hanner diwrnod. 

Penderfyniad 9 

Mae'r Panel yn cynnig, o fis Medi 2024, mai dim ond y cyfansymiau a dalwyd mewn perthynas â'r taliadau gorfodol a grybwyllir uchod y bydd angen i'r datganiadau eu dangos, sef y cyfraniad o £156 at gostau gweithio gartref a'r gyfradd benodedig o £52 am lwfans nwyddau traul a'r treuliau teithio a chynhaliaeth a dalwyd. 

Mae hyn yn golygu y bydd y taliadau hyn yn gyson ag adrodd ar gostau lwfansau gofal a chymorth personol.

Mae pob Penderfyniad arall a nodwyd yn Adroddiad Blynyddol 2024 i 2025 y Panel yn parhau'n ddilys a dylent gael eu cymhwyso.

Manylion cyswllt

I wneud cais am fersiwn wedi'i hargraffu o'r Adroddiad Blynyddol, anfonwch e-bost atom neu ysgrifennwch i:

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 
Trydydd Llawr Dwyrain 
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays 
Caerdydd CF10 3NQ 

Ffôn: 03000 616095 

E-bost: irpmailbox@llyw.cymru   

Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn a gwybodaeth arall am y Panel a'i waith ar gael ar ein gwefan.