Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: adroddiad blynyddol 2025 i 2026
Mae’r adroddiad yn pennu amrediad a lefel y taliadau ym mlwyddyn ariannol 2025 i 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Dyma Adroddiad Blynyddol terfynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ("y Panel"), sy'n nodi'r penderfyniadau ar gyflog, treuliau a buddiannau i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Cyd-bwyllgorau Corfforedig, Cynghorau Cymuned a Thref, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub i'w gweithredu o fis Ebrill 2025.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am aelodau'r Panel ar ein gwefan.
Bu'n flwyddyn brysur i'r Panel, wrth iddo ganolbwyntio ar gydymffurfiad, ymgysylltiad, tegwch ac ymchwil, gan baratoi ar yr un pryd ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (CDFfC).
Ers sefydlu'r Panel, credaf ei fod wedi cael dylanwad sylweddol a buddiol ar werth aelodaeth etholedig llywodraeth leol yng Nghymru ar bob lefel a hynny mewn perthynas â'r holl awdurdodau y mae ei gylch gwaith yn berthnasol iddynt. Yn arbennig, mae'r Panel wedi ceisio sicrhau nad yw materion sy'n gysylltiedig â chydnabyddiaeth ariannol yn creu rhwystr i gyfranogi mewn perthynas â democratiaeth leol.
Mae Mesur Llywodraeth Leol 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel ystyried y gost gyffredinol i bwrs y wlad. Rydym wedi parhau i wneud hyn, ac wedi cynnal yr egwyddor bod cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig ein Prif Gynghorau wedi'i chysylltu'n benodol â chyflogau cyfartalog pobl yng Nghymru. Rwy'n fodlon bod y cydbwysedd rhwng tegwch a chymorth i aelodau etholedig a'r effaith gyffredinol ar gyllid cyhoeddus wedi'i gyflawni ar gyfer 2025 i 2026.
Mae'r Panel yn cyhoeddi Adroddiad Etifeddiaeth ochr yn ochr â'r Adroddiad Blynyddol hwn. Mae'n rhoi trosolwg o hanes y Panel i randdeiliaid, gan grynhoi'r meysydd lle mae Penderfyniadau wedi'u gwneud ac, yn bwysig ddigon, mae'n trosglwyddo'r materion sydd wedi codi drwy ein gweithgarwch ymgysylltu, ein hymgyngoriadau a'n hystyriaethau rydym yn argymell y dylai CDFfC fynd i'r afael â nhw ar gyfer y dyfodol.
Daeth yr ymgynghoriad ar yr Adroddiad Blynyddol hwn i ben ar 29 Tachwedd 2024. Hoffai'r Panel a minnau ddiolch i bawb a gyflwynodd ymatebion i'r adroddiad drafft, ar-lein a thrwy e-bost. Mae'r Panel wedi ystyried pob un o'r sylwadau ac mae bellach yn cyhoeddi ei Benderfyniadau a geir yn yr adroddiad blynyddol terfynol hwn ar gyfer y cyfnod rhwng 2025 a 2026.
Dyma fy Adroddiad olaf fel Cadeirydd y Panel, cyn i swyddogaethau'r Panel gael eu trosglwyddo i CDFfC o 1 Ebrill 2025. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda'm cydweithwyr a chael y cyfle i gyfrannu at ddatblygiad parhaus democratiaeth leol yng Nghymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'm cyd-aelodau, Saz Willey, Bev Smith, Dianne Bevan a Kate Watkins am eu proffesiynoldeb, eu parodrwydd i ymgysylltu a'u barn yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. O ganlyniad, mae Penderfyniadau'r Panel yn gadarn ac yn sefydlog ac wedi'u cefnogi i raddau helaeth gan randdeiliaid. Hoffwn ddiolch yn fawr hefyd i aelodau ein Hysgrifenyddiaeth a fu'n cynorthwyo'r Panel ers ei sefydlu.
Frances Duffy
Cadeirydd
Cyflwyniad
Mae'r Panel yn parhau i ddilyn y nodau a'r amcanion a amlinellir yn ein Cynllun Strategol a gyhoeddwyd ar 20 Mehefin 2023. Mae'r Cynllun Strategol yn nodi'r fframwaith ar gyfer ein hystyriaethau a'r cyd-destun ehangach ar gyfer ein penderfyniadau rhwng 2023 a 2025.
Mae'r strategaeth yn amlinellu fframwaith priodol a theg ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol, wedi'i anelu at annog cynhwysiant a chyfranogiad er mwyn cefnogi democratiaeth leol, a rhoi llais i gymunedau.
Mae gan y Panel ran i'w chwarae wrth hybu dealltwriaeth ehangach o waith aelodau o gynghorau lleol a chynghorau cymuned, er mwyn annog cyfranogiad mewn democratiaeth leol a gwella amrywiaeth cynghorwyr er mwyn cynrychioli amrywiaeth cymunedau lleol yn well. Mae'r Panel eisoes wedi cyflwyno ad-daliad am gost gofal (i bob aelod etholedig) a lwfans gweithio gartref a TGCh (cynghorau cymuned a thref) wedi'u hanelu at ddileu rhwystrau posibl mewn perthynas â chyfrifoldebau gofalu a gweithio gartref er mwyn galluogi aelodau etholedig i gymryd rhan mewn democratiaeth leol.
Lle y gall, mae'r Panel yn parhau i fonitro effaith ei benderfyniadau ar wella amrywiaeth o fewn democratiaeth leol, a gyda chymorth Llywodraeth Cymru, gofynnodd am sylwadau ar y cysylltiad rhwng cydnabyddiaeth ariannol ac amrywiaeth ym maes democratiaeth leol. Mae'r Panel wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am gymorth wrth ddarparu llinell sylfaen well o dystiolaeth er mwyn monitro ac olrhain newidiadau o ran demograffeg ein swyddogion etholedig.
Ers cryfhau'r Panel, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar lunio ein cynllun ymchwil a thystiolaeth i gefnogi ein trafodaethau ar ein fframwaith cydnabyddiaeth ariannol. Rydym yn cyhoeddi ein papur Ymchwil a Thystiolaeth bob blwyddyn, ynghyd â'r Adroddiad Terfynol yn unol â'n nod o fod yn agored ac yn dryloyw yn ein holl benderfyniadau.
Mae'r Panel o'r farn bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol yn hanfodol o safbwynt democratiaeth leol. Felly, gwnaethom gytuno unwaith eto i barhau i gysoni lefelau cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig Prif Gynghorau, Cyd-bwyllgorau Corfforedig, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub yng nghyd-destun enillion cyfartalog yng Nghymru. Mae hyn wedi golygu defnyddio'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion yng Nghymru (ASHE) a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) fel y prif feincnod wrth bennu cydnabyddiaeth ariannol.
Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn nodi bod yn rhaid i'r Panel ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar awdurdodau perthnasol. Gwnaethom ystyried tystiolaeth ynglŷn â sefyllfa ariannol y sector cyhoeddus a'r effaith ar gyllidebau Prif Awdurdodau cyn pennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol ar draws y teulu llywodraeth leol.
Er bod cyfanswm cost cydnabyddiaeth ariannol i aelodau etholedig yn gymharol isel yn nhermau'r cyllidebau cyffredinol, mae'r Panel yn ymwybodol o'r cyfyngiadau economaidd a chyllidol parhaus ar Brif Gynghorau. Wrth wneud ein penderfyniad i barhau i gysylltu cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig ag enillion cyfartalog eu hetholwyr, cred y Panel o hyd y bydd pecyn cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol yn parhau i gefnogi aelodau etholedig heb greu rhwystr i gyfranogi. Mae hon yn egwyddor bwysig, sy'n sail i'n hystyriaethau o gydnabyddiaeth ariannol briodol.
Yn unol â'n hymrwymiad i symleiddio gofynion adrodd a chydymffurfio, edrychodd y Panel y flwyddyn hon ar y gofynion adrodd ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref. Gwnaethom ddarparu adroddiad templed newydd i glercod Cynghorau Cymuned a Thref ei ddefnyddio a byddwn yn parhau i fonitro lefel y taliadau a wneir. Mae'r datganiadau blynyddol hyn yn rhan bwysig o'r dystiolaeth y mae'r Panel yn ei hystyried wrth bennu effaith ac effeithiolrwydd ein penderfyniadau.
Gwnaethom ymdrin ag ymholiadau gan Gynghorau Cymuned a Thref ynglŷn â thriniaeth TWE y lwfans gorfodol am weithio gartref (£156 y flwyddyn) a'r opsiwn o dalu cyfradd safonol o £52 y flwyddyn am nwyddau traul. Gwnaethom ddiweddaru ein canllawiau ar y mater hwn, ac mae hyn wedi helpu i leihau nifer yr ymholiadau. Rydym yn ymwybodol o'r help y mae Un Llais Cymru yn ei roi o hyd i glercod a chynghorwyr lleol ar faterion sy'n gysylltiedig â chydnabyddiaeth ariannol ac unwaith eto, eleni, gwnaethom gynnal seminar ar-lein i bob cynghorydd cymuned yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Rydym hefyd yn ymwybodol bod nifer o gynghorwyr Cynghorau Cymuned a Thref yn penderfynu peidio â hawlio'r symiau y mae ganddynt hawl iddynt, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, ond bod y niferoedd hynny'n lleihau. Credwn yn gryf y dylai cynghorwyr gael eu had-dalu am y treuliau y mae'n rhaid iddynt fynd iddynt wrth gyflawni eu dyletswyddau. Fodd bynnag, mae'r Panel yn nodi bod nifer y cynghorau cymuned a thref nad ydynt yn cyflwyno eu Datganiadau blynyddol o Daliadau yn uchel o hyd, yn enwedig ymhlith y Cynghorau ym Mand 4 a Band 5. Mae hyn yn golygu na allwn asesu effeithiau ein Penderfyniadau yn llawn ac yn tynnu sylw at y canfyddiad parhaus, ymhlith llawer o gynghorau cymuned a thref, bod y baich gweinyddol yn parhau i fod yn destun pryder. Cytunodd y Panel i weithio'n adeiladol gyda chyrff cynrychioliadol cynghorau cymuned a thref er mwyn ystyried y ffordd orau o gefnogi ein cynghorau cymuned a thref llai o faint. Yn y cyfamser, caiff y wybodaeth am Ddatganiadau eu rhannu ag Archwilio Cymru.
Gwnaethom gyflwyno dull adrodd cyfansymiol ar gyfer yr holl daliadau gorfodol i aelodau Cynghorau Cymuned a Thref am weithio gartref, y lwfans cyfradd safonol am nwyddau traul a hawliadau teithio a chynhaliaeth. Mae hyn yn unol â'r broses ar gyfer adrodd ar gostau gofal a hawliadau cymorth personol. Mae'r Panel o'r farn y bydd hyn yn sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng atebolrwydd cyhoeddus a phreifatrwydd unigolion, ac rydym yn gobeithio y bydd yn annog pawb i hawlio'r taliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt ac yn lleihau'r baich gweinyddol.
Hefyd y llynedd, cyflwynodd y Panel yr opsiwn i aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub gael eu talu'n unol â chyfradd yr awr yn hytrach na chyfradd ddyddiol lle yr ystyriwyd bod hynny'n briodol. Byddwn yn ystyried y datganiadau taliadau blynyddol ar gyfer y flwyddyn hon er mwyn monitro faint o aelodau sy'n gwneud hynny ac yn annog Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd i rannu arferion gorau.
Rydym wedi adolygu ein Canllawiau (y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol fel y Rheoliadau) ac wedi eu diweddaru er mwyn helpu'r awdurdodau perthnasol i allu cydymffurfio'n well â'n penderfyniadau am gydnabyddiaeth ariannol aelodau, gan gynnwys y gofynion o ran taliadau, adrodd a chyhoeddi fel y'u nodir yn yr adroddiad blynyddol terfynol hwn.
Un o'r materion allweddol y rhoddodd y Panel ystyriaeth fanwl iddo eleni oedd y broses o ddatblygu'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig newydd. Ar ôl cynnal gwaith ymchwil i'r cynnydd a oedd yn cael ei wneud a gofyn am dystiolaeth ac adborth gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig a chydweithwyr polisi Llywodraeth Cymru, ymgynghorodd y Panel ar Adroddiad Atodol Drafft a oedd yn ymdrin â chydnabyddiaeth ariannol aelodau lleyg o Gyd-bwyllgorau Corfforedig.
Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, penderfynodd y Panel y dylid talu aelodau lleyg Cyd-bwyllgor Corfforedig yn yr un ffordd ag aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol eraill. Cyhoeddwyd Adroddiad Atodol ar 31 Gorffennaf 2024, a oedd yn nodi lefelau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau lleyg, yn weithredol o'r dyddiad hwnnw.
Un maes arall a ystyriodd y Panel eleni oedd yr angen i adolygu'r Fframwaith a'r Fethodoleg ar gyfer Cydnabyddiaeth Ariannol i Uwch Rolau mewn Prif Gynghorau, Cynghorau Cymuned a Thref, a Chyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae'n ddarn sylweddol o waith a fydd yn gofyn am ymchwil fanwl a gweithgarwch ymgysylltu, ac ar hyn o bryd mae'r Panel yn cwblhau cwmpas a methodoleg fanwl ar gyfer yr adolygiad er mwyn i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau newydd Cymru (CDFfC) ddechrau'r gwaith hwn.
Yn ogystal, mae'r Panel wedi dod yn ymwybodol o rai pryderon o ran y llwyth gwaith a'r gofynion sy'n gysylltiedig ag uwch-rolau yn yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a'r Awdurdodau Tân ac Achub. Felly mae'r Panel yn cynnig cynnwys cwestiynau ymchwil a fyddai'n cefnogi adolygiad i'r meysydd hyn hefyd o fewn cwmpas y fframwaith ymchwil a ddisgrifir uchod. Caiff y gwaith hwn ei wneud gan CDFfC.
Yn olaf, yn sgil adborth gan Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd Prif Gynghorau ac ymatebion i'r ymgynghoriad, ystyriodd y Panel bapur ar gyfraddau a delir i aelodau cyfetholedig a chytunodd na fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud ar gyfer y flwyddyn hon. Nododd y Panel fod y cyfraddau hyn wedi'u cynyddu ddiwethaf yn 2021. Cytunodd y Panel y dylid gwneud blaen-nodyn i ystyried y dystiolaeth ar gyfer meincnod priodol ar gyfer taliadau aelodau cyfetholedig, gan nodi bod cryn amser wedi mynd heibio ers i Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru gynyddu ei chyfraddau. Nododd y Panel hefyd y dylid darparu cymorth ehangach i aelodau cyfetholedig, megis hyfforddiant, cyfarpar TG a threuliau teithio a chynhaliaeth.
Wrth i ni ddod at ddiwedd y flwyddyn, ac wrth i'r Panel ddirwyn i ben a throsglwyddo ei swyddogaethau i CDFfC, mae'r Panel wedi paratoi Adroddiad Etifeddiaeth sy'n rhoi crynodeb o'r prif faterion rydym wedi ymchwilio iddynt ac wedi gwneud penderfyniadau yn eu cylch yn ystod y cyfnod o ryw 10 mlynedd diwethaf ac a fydd yn darparu sail dystiolaeth i CDFfC ei defnyddio wrth symud ymlaen.
Rôl a chyfrifoldebau'r Panel
Ein rôl:
Mae'r Panel yn gyfrifol am bennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig y sefydliadau canlynol a'r trefniadau ar eu cyfer:
- Prif Gynghorau, Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol
- Cynghorau Cymuned a Thref
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Awdurdodau Tân ac Achub
- Cyd-bwyllgorau Corfforedig
Mae'r Panel yn sefydliad annibynnol ac mae'n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i'r sefydliadau a restrir uchod roi'r penderfyniadau a wneir ganddo ar waith.
Rydym yn penderfynu ar y canlynol:
- y strwythur cyflog ar gyfer rhoi cydnabyddiaeth ariannol i aelodau
- y math o lwfansau a delir i aelodau a'u natur
- a yw taliadau yn orfodol neu a oes rhywfaint o hyblygrwydd lleol
- trefniadau mewn perthynas ag absenoldeb teuluol
- trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â phenderfyniadau'r Panel
Ein nod cyffredinol:
- Cefnogi democratiaeth leol a rhoi llais i gymunedau, drwy sefydlu fframwaith cydnabyddiaeth ariannol priodol a theg, sy'n annog cynhwysiant a chyfranogiad.
Ein nodau:
- Dylai ein Penderfyniadau sicrhau bod lefelau cydnabyddiaeth ariannol yn deg, yn rhesymol ac yn werth am arian i drethdalwyr, ac y cânt eu pennu yng nghyd-destun enillion yng Nghymru ac amgylchiadau ariannol ehangach Cymru.
- Dylai ein Penderfyniadau gefnogi aelodau etholedig o amrywiaeth eang o gefndiroedd, ac ni ddylai lefelau cydnabyddiaeth ariannol fod yn rhwystr i gyfranogi.
Ein hamcanion strategol:
- Gwneud Penderfyniadau ar sail tystiolaeth
- Cyfathrebu mewn ffordd glir a hygyrch
- Mynd ati i ymgysylltu ac ymgynghori'n rhagweithiol
- Symleiddio trefniadau cydymffurfio ac adrodd
- Cydweithio
Aelodau'r panel
Frances Duffy, Cadeirydd
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith
Dianne Bevan
Kate Watkins
Ceir gwybodaeth fanwl am yr aelodau, ein Cynllun Strategol, ein trafodaethau ac ymchwil a thystiolaeth ategol ar y wefan gwefan y panel.
Trosglwyddo Swyddogaethau i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
Bydd swyddogaethau'r Panel yn trosglwyddo i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar 1 Ebrill 2025. Mae hyn o ganlyniad i basio'r Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ym mis Gorffennaf 2024. Ar ôl cael Cydsyniad Brenhinol yn yr hydref, mae'r Ddeddf yn ehangu rôl a chylch gwaith CDFfC ar draws agweddau ar ddemocratiaeth iach yng Nghymru, gan gynnwys pennu lefelau cydnabyddiaeth ar gyfer aelodau o'r cyrff canlynol ledled Cymru:
- Prif Gynghorau
- Cynghorau Cymuned a Thref
- Cyd-bwyllgorau Corfforedig
- Awdurdodau Tân ac Achub
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
Gan fod CDFfC yn defnyddio'r un sail dystiolaeth a'r un rhanddeiliaid i gynnal ei waith ei hun a bod ei ddiben hefyd yn seiliedig ar hyrwyddo democratiaeth leol effeithiol, mae cysylltiad cryf rhwng gwaith y ddau sefydliad yn barod. Mae'r ddwy agenda yn dibynnu ar feithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad gwirioneddol o anghenion y boblogaeth yng Nghymru, y ffordd y mae aelodau etholedig a chynghorau yn gweithredu a dealltwriaeth o lwythi gwaith aelodau.
Fel sy'n ofynnol gan y Panel ar hyn o bryd, bydd disgwyl i CDFfC lunio Adroddiad Blynyddol drafft i ymgynghori arno ac i ystyried yr ymatebion cyn cyhoeddi Adroddiad terfynol erbyn 28 Chwefror bob blwyddyn. Bydd yr Adroddiad yn nodi ei benderfyniad am lefelau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol.
Caiff y Panel ei ddiddymu drwy'r Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) ar 31 Mawrth 2025.
Rydym yn gweithio'n agos gyda CDFfC i sicrhau y caiff swyddogaethau'r Panel eu trosglwyddo'n hwylus ar 1 Ebrill 2025. Rydym wedi creu ffrwd waith trosglwyddo er mwyn bodloni gofynion fel y gofyniad i ddatblygu adroddiad etifeddiaeth a fydd yn nodi manylion am hanes y Panel yn ogystal â meysydd y gallai CDFfC o bosibl eu hystyried yn y dyfodol.
Methodoleg
Fel y noda ein hamcanion strategol, mae'r Panel wedi ymrwymo i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth.
Y flwyddyn hon, gwnaethom unwaith eto baratoi papur tystiolaeth ac ymchwil i ddwyn ynghyd y gwahanol ffynonellau o wybodaeth a ystyriwyd gan y Panel wrth wneud ei Benderfyniadau drafft. Rhoddodd amrywiaeth eang o ddata, tystiolaeth a ffactorau cyd-destunol er mwyn llywio proses gwneud penderfyniadau'r Panel mewn perthynas â'i Benderfyniadau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025 i 2026. Roedd hyn yn cynnwys:
- data ar enillion wythnosol cyfartalog yn y DU ac yng Nghymru, gan gynnwys ASHE, yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion
- tueddiadau cyflog yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat
- cyfraddau chwyddiant CPIH a CPI blynyddol
- meincnodau, gan gynnwys cydnabyddiaeth ariannol i gynghorwyr yn yr Alban
- ymchwil i lwyth gwaith cynghorwyr, safbwyntiau ac agweddau tuag at gydnabyddiaeth ariannol ac amrywiaeth (Llywodraeth Cymru)
- data a gasglwyd ar nifer y cynghorwyr sy'n hawlio cydnabyddiaeth ariannol a phecynnau buddiannau
- data ar sefyllfa ariannol awdurdodau lleol
Caiff y set gyflawn o dystiolaeth ac ymchwil a ystyriwyd ei chyhoeddi ar ein gwefan.
Ymgysylltodd y Panel yn uniongyrchol â grwpiau sy'n cynrychioli rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru, y Gymdeithas Clercod Cynghorau Lleol a Chymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru. Cawsom dystiolaeth hefyd gan Gadeirydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cadeirydd Parciau Cenedlaethol Cymru (sydd hefyd yn Gadeirydd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro) a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru (sydd hefyd yn Arweinydd Cyngor Dinas Abertawe).
Ym mis Mawrth, aeth aelodau'r Panel i gynhadledd Un Llais Cymru. Rhoddodd gyfle iddynt gyfarfod â chynadleddwyr a thrafod materion sy'n gysylltiedig â phenderfyniadau'r Panel. Hefyd, cynhaliodd y Panel seminar ar-lein ym mis Tachwedd i holl gynghorwyr cynghorau cymuned a thref. Fodd bynnag, nododd y Panel fod llai o gynghorwyr wedi cymryd rhan yn y seminar hwn o gymharu â'r llynedd a bydd yn ystyried unrhyw oblygiadau ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol.
Mae aelodau'r Panel hefyd yn cyfarfod â Chonfensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban (COSLA), Llywodraeth yr Alban a Chynullydd Pwyllgor Cydnabyddiaeth Ariannol Awdurdodau Lleol yr Alban (SLARC) i drafod adolygiad annibynnol SLARC o gydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr a'r fethodoleg benodol ar gyfer pennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr. Nododd aelodau'r Panel fod y sgwrs yn ddifyr ac yn ddiddorol wrth gymharu methodoleg yr Alban ar gyfer pennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol â methodoleg Cymru.
Ymgysylltodd y Panel â Phenaethiaid Gwasanaethau Democrataidd ac Arweinwyr y Prif Gynghorau yn ystod y cyfnod ymgynghori. Mae'r trafodaethau hyn yn rhoi cyfle i'r Panel ystyried safbwyntiau ynglŷn â'r trefniadau presennol, effaith penderfyniadau ar unigolion, sut mae'r trefniadau'n gweithredu'n ymarferol ac unrhyw faterion neu bryderon y mae unigolion am eu codi.
Mae hefyd yn gyfle i drafod sefyllfaoedd sy'n dod i'r amlwg y bydd angen i'r Panel eu hystyried o bosibl mewn perthynas â'i brosesau gwneud penderfyniadau.
Hoffai'r Panel ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein trafodaethau, naill ai'n uniongyrchol neu drwy adborth a chwestiynau am ein hadroddiad diwethaf.
Ymgynghoriad ar Adroddiad Blynyddol drafft 2025
Cyhoeddodd y Panel adroddiad drafft ar 4 Hydref 2024 ar gyfer ymgynghoriad wyth wythnos, a ddaeth i ben ar 29 Tachwedd 2024.
Fel rhan o'r broses ymgynghori, gwahoddwyd rhanddeiliaid i ateb tri chwestiwn gan ddefnyddio arolwg ar-lein neu drwy e-bost dychwelyd. Cafwyd cyfanswm o dri ymateb ar-lein, tra cafodd 16 eu cyflwyno drwy e-bost i Flwch Post IRP. Hoffai'r Panel ddiolch eto i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad. Rhoddir crynodeb o'r ymatebion isod.
Tynnodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad sylw at ychydig o feysydd y bydd y Panel yn eu cynnwys yn adran Rhagolwg ei adroddiad Etifeddiaeth i'w hystyried gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (CDFfC). Bydd hyn yn cynnwys cydnabyddiaeth ariannol aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol, yr ymddengys mai dyma'r prif fater i'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad.
Ar y cyfan, roedd yr ymatebion yn cefnogi penderfyniadau'r Panel ac, felly, nid oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i'r Penderfyniadau terfynol sydd bellach wedi'u nodi yn yr Adroddiad hwn.
Ymgynghoriad: crynodeb o'r ymatebion
Cymerodd y Panel ran mewn nifer o gyfarfodydd i randdeiliaid yn ystod y cyfnod ymgynghori er mwyn rhannu gwybodaeth a chasglu adborth pwysig ar adroddiad blynyddol drafft 2025. Gweler isod am fanylion:
Anfonwyd y ddolen i'r wefan a'r fersiwn Pdf o'r adroddiad drafft i'r canlynol:
- Un Llais Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Cymdeithas y Clercod Cynghorau Lleol
- Cymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru
- Prif Gynghorau
- Awdurdodau Tân ac Achub
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Cynghorau Cymuned a Thref
Penderfyniad 1: cyflog sylfaenol i aelodau etholedig prif gynghorau
Cafwyd saith ymateb, mewn perthynas â Phenderfyniad 1. Cadarnhaodd pedwar ymateb fod y Panel wedi taro'r cydbwysedd cywir rhwng fforddiadwyedd a chydnabyddiaeth ariannol ddigonol i gynrychiolwyr, tra cyfeiriodd tri at effaith negyddol Penderfyniad y Panel ar gyllidebau prif gynghorau a'r cyfyngiadau ariannol presennol ar awdurdodau. Mae'r Panel yn parhau i ystyried effaith ariannol ei Benderfyniadau ond mae'n parhau i fod yn ymrwymedig i'w nod Strategol o gynnal y cysylltiad â chyflogau cyfartalog yng Nghymru.
Penderfyniad 4: taliadau i awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub
Cafwyd un ymateb ynghylch y broses ar gyfer trin treth ar gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer aelodau o awdurdod parc cenedlaethol a benodir gan Lywodraeth Cymru. Nid yw hwn yn fater sydd o fewn cymhwysedd y Panel.
Penderfyniad 5: taliadau a wneir i aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub
Cafwyd pedwar ymateb ynghylch lefel y tâl i aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau a oedd yn anghytuno â phenderfyniad y Panel i gynnal lwfansau. Nododd un ymateb y gallai Aelodau Lleyg deimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi'n iawn gan nad oedd eu cydnabyddiaeth ariannol wedi cynyddu ers pum mlynedd. Nid yw'r Panel wedi argymell unrhyw newid, gan nodi y dylid adolygu hyn yn unol ag unrhyw newidiadau mewn cyfraddau a nodir gan Uned Cyrff Cyhoeddus Cymru. Caiff unrhyw newidiadau i lefelau cydnabyddiaeth ariannol eu hystyried gan CDFfC.
Mae un ymateb gan brif gyngor o blaid cyflwyno'r hyblygrwydd i ddefnyddio cyfradd yr awr lle y bo'n briodol. Mae'r Panel yn falch o glywed bod sawl prif yngor yn defnyddio'r hyblygrwydd ar gyfer rhoi cydnabyddiaeth ariannol i aelodau cyfetholedig.
Penderfyniad 6: taliadau Gorfodol Cynghorau Cymuned a Thref Taliad am gostau ychwanegol gweithio gartref a Thaliad penodol am nwyddau traul
Gofynnodd un Cyngor Cymuned i'r Panel ailystyried y taliad gorfodol o £156 i Gynghorwyr o ystyried yr effaith sylweddol ar braeseptau cyllidebau a ddelir gan gynghorau cymuned llai o faint. Mae'r Panel yn ailddatgan y gall unigolion ddewis peidio â derbyn taliadau gorfodol. Dylai unrhyw benderfyniadau i beidio â derbyn taliadau o'r fath gael eu datgan yn ysgrifenedig.
Yn olaf, ni chafwyd unrhyw ymatebion mewn perthynas â'r canlynol:
- Penderfyniad 2: cyfloga a delir i Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac aelodau Llywyddol prif gynghorau
- Penderfyniad 3: cyflogau Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu
- Penderfyniad 7: iawndal am golled ariannol
- Penderfyniad 8: gofynion adrodd
Ymatebion eraill
Yn ogystal â'r ymatebion a gafodd y Panel i gwestiynau penodol yr ymgynghoriad, cafodd nifer o sylwadau mwy cyffredinol eu gwneud gan ymgyngoreion.
Mae adborth o'r fath, er nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â chwestiynau'r ymgynghoriad, bob amser yn ddefnyddiol i'r Panel er mwyn helpu'r Aelodau i ddeall cyd-destun cyfranogiad democrataidd lleol ac effaith ystyriaethau'r Panel yn well.
Cafwyd adborth hefyd drwy Aelodau o'r Panel yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd â'r rhai a oedd yn cynrychioli'r prif gynghorau a'r cynghorau cymuned a thref, gan gynnwys Un Llais Cymru, Cymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru, Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd a CLlLC.
Un mater a godwyd ar lafar, er enghraifft, oedd a ellid adolygu amseriad cyhoeddi'r Adroddiad blynyddol er mwyn rhoi sicrwydd ei fod yn cyd-fynd i'r graddau mwyaf posibl â chylch pennu cyllideb cynghorau. Bydd y mater hwn bellach yn cael ei gynnwys yn Adroddiad Etifeddiaeth y Panel sydd i'w gyflwyno i CDFfC.
Mater a godwyd gan sector y Parciau Cenedlaethol oedd y rhwystredigaeth bod CThEF yn codi treth ar hyn o bryd ar ad-daliadau costau sy'n gysylltiedig â darparu gofal i ddibynyddion Aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru sy'n cyflawni dyletswyddau Parciau Cenedlaethol. Er bod y trefniadau ar gyfer rhoi cydnabyddiaeth ariannol i unigolion o'r fath yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru yn hytrach na'r Panel, caiff y pryderon a godwyd eu trosglwyddo i swyddogion perthnasol.
Roedd materion eraill a godwyd yn cynnwys y canlynol:
Awgrymodd ymatebion eraill y dylai'r Panel ailystyried y fethodoleg ar gyfer pennu lefelau cyflog mewn perthynas â llwyth gwaith a gwnaethant gynnig y dylid rhoi cydnabyddiaeth ariannol i Is-gadeirydd Pwyllgor am ddirprwyo ar ran Cadeirydd.
Roedd un ymatebydd hefyd o'r farn bod cyflog Cadeirydd Pwyllgor yn hael o gymharu â rhai swyddi gweithredol.
Hefyd, cafwyd sylwadau ei bod yn siomedig nad yw rôl y rhai sy'n gwasanaethu ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol neu Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhan o gylch gwaith y Panel ac nad oedd lwfans am fynychu cyfarfodydd is-bwyllgorau Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi'i nodi yn yr adroddiad.
Tynnodd y materion hyn sylw at yr angen i CDFfC, fel corff sy'n olynu'r Panel, ystyried a yw materion sy'n ymwneud â'r posibilrwydd o roi cydnabyddiaeth ariannol mewn perthynas â threfniadau gweithio mewn partneriaeth mwy diweddar yn cael eu hadlewyrchu'n ddigonol yn y cylch gwaith a etifeddwyd ganddo.
Cafodd y Panel awgrym y gellid ystyried tâl sy'n gysylltiedig â phresenoldeb am fod cyfarfodydd yn rhan fawr o rôl cynghorydd a nododd ymatebwyr eraill na ddylai'r swm o £156 a delir i aelodau Cynghorau Cymuned a Thref fod yn daliad gorfodol. At hynny, lleisiodd un ymatebydd ei bryder ynghylch sut y gellid nodi'r gwerth am arian a gynigir gan Gynghorwyr, ac roedd ymatebydd arall o'r farn y gellid camddefnyddio unrhyw system ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol.
At hynny, cafwyd nifer o sylwadau ynghylch lefel y tâl a roddir i aelodau lleyg cyfetholedig, gan awgrymu y gallai cynnydd wneud y rolau yn fwy deniadol ac annog ceisiadau mwy amrywiol, ac awgrymodd ymatebydd arall fod angen nodi am faint o filltiroedd y gellid hawlio ar gyfer aelodau o'r fath sy'n mynd i gyfarfodydd mewn sawl lleoliad, y tu allan i'w sir gartref.
Ymgynghoriad: crynodeb o'r ymatebion i'r holiadur ar-lein
Dim ond nifer bach o ymatebion a gafwyd i'r holiadur eleni, y mae'r Panel o'r farn ei fod yn cefnogi ei Benderfyniadau, ar y cyfan. Mae'r cwestiynau a'r ymatebion fel a ganlyn.
Cwestiwn 1
Mae'r Panel yn gwbl ymwybodol o'r cyfyngiadau presennol ar gyllid cyhoeddus ac effaith ei benderfyniadau ar gyllidebau Prif Awdurdodau. Mae'r Panel hefyd yn ystyriol o'n Nodau a'n Hamcanion i gynnig pecyn cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol i gefnogi aelodau etholedig ac annog amrywiaeth mewn cynrychiolaeth. Felly, rydym yn cynnig y dylid defnyddio'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion ar gyfer Cymru gyfan i gynyddu eu cydnabyddiaeth ariannol yn unol ag enillion cyfartalog eu hetholwyr.
A ydych chi'n credu bod y Panel wedi taro'r cydbwysedd cywir rhwng fforddiadwyedd a chydnabyddiaeth ariannol ddigonol i gynrychiolwyr? Os nad ydych yn cytuno, a oes gennych unrhyw awgrymiadau eraill
Ymatebion
Atebodd pedwar y cwestiwn hwn gan gytuno bod y Panel wedi taro'r cydbwysedd cywir rhwng fforddiadwyedd a chydnabyddiaeth ariannol ddigonol i gynrychiolwyr. Nododd tri ymatebydd eu bod yn anghytuno. Fodd bynnag, ni chynigiwyd unrhyw awgrymiadau.
Roedd un ymatebydd o'r farn bod y cynnydd canrannol yn rhy uchel gan ei gymharu â'r cynnydd yng nghydnabyddiaeth ariannol swyddogion a'r ffaith bod angen iddynt wneud mwy o waith am lai o gydnabyddiaeth ariannol. Nododd yr un ymateb fod aelodau o'r farn bod angen i lefel y gydnabyddiaeth ariannol fod yn deg er mwyn apelio at groestoriad mwy amrywiol ac ehangach o etholwyr a bod aelodau o'r farn bod y lwfans yn deg, yn enwedig o ystyried nifer yr oriau y mae aelodau yn eu treulio yn cyflawni eu rôl.
Cwestiwn 2
Gan ddilyn tystiolaeth a gafwyd gan Benaethiaid Gwasanaethau Democrataidd Prif Gynghorau, ar hyblygrwydd lleol taliadau i aelodau cyfetholedig, sy'n gwasanaethu ar bwyllgorau Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub. Ymgynghorodd y Panel hwn ar y cynnig ac roedd yr ymatebion (o'r ymgynghoriad ar adroddiad blynyddol drafft 2024 i 2025) yn cefnogi penderfyniadau'r Panel ac, felly, ni wnaed unrhyw newidiadau i'r Penderfyniadau terfynol. O ganlyniad, penderfynodd y Panel roi hyblygrwydd i swyddogion perthnasol benderfynu a fyddai'n briodol cymhwyso cyfradd diwrnod neu hanner diwrnod neu ddefnyddio cyfradd yr awr lle mae'n gwneud synnwyr cyfuno nifer o gyfarfodydd byr. Nawr, hoffai'r Panel wybod a yw eich awdurdod perthnasol wedi mabwysiadu'r penderfyniad hwn.
Ymatebion
Roedd pump o'r rhai a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno ac nid oedd gan ddau unrhyw farn. Roedd y rhai a oedd yn gytûno o'r farn bod cyfradd yr awr yn cael ei hystyried yn fwy costeffeithiol ac y byddai'n rhoi hyblygrwydd i aelodau fynd i gyfarfodydd byrrach â swyddogion pan fo angen. Mae'r Panel yn cynnal yr egwyddor bod awdurdodau yn gallu bod yn hyblyg er mwyn bodloni eu gofynion eu hunain.
Cwestiwn 3
Y llynedd, ar y cyd ag Un Llais Cymru, cynhaliodd y Panel seminar ar y broses ar gyfer trin treth ar lwfansau aelodau o Gynghorau Cymuned a Thref.
Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd canllawiau ar sut i gymhwyso'r esemptiad at y lwfans gweithio gartref (£156). Hoffai'r Panel wybod a yw'r seminar a/neu'r canllawiau wedi cynyddu nifer yr aelodau o Gynghorau Cymuned a Thref sy'n cael y lwfans.
Ymatebion
Roedd un o'r rhai a atebodd y cwestiwn hwn yn anghytuno ac nid oedd gan ddau unrhyw farn.
Ers i'r Panel ymgysylltu ag aelodau Un Llais Cymru, Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol a Chymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru, mae wedi cytuno i ailystyried fformat y templed er mwyn cynyddu lefelau adrodd ar nifer y cynghorwyr sy'n hawlio ac yn gwrthod derbyn lwfansau.
Cwestiwn 4
Dylid cofnodi pob lwfans a delir i aelodau etholedig Cynghorau Cymuned a Thref ar y Datganiad Blynyddol o Daliadau ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref (gan nodi y byddai Datganiadau sydd eisoes wedi'u cyflwyno gan Gynghorau Cymuned a Thref yn cael eu derbyn). Mae hyn yn cynnwys lle na wnaed unrhyw daliadau. Yn gynharach eleni, anfonwyd templed diwygiedig ar gyfer y Datganiad ynghyd â nodyn cyngor i'r Cynghorau Cymuned a Thref. Hoffai'r Panel wybod a yw'r Templed unwaith eto wedi cynyddu nifer y cynghorwyr sy'n hawlio lwfansau?
Ymatebion
Nododd un ymateb nad oedd y templed diwygiedig wedi cynyddu nifer y cynghorwyr sy'n hawlio lwfansau, a nododd dau arall nad oedd ganddynt unrhyw farn.
Penderfyniadau ar gyfer 2025 i 2026
Prif Gynghorau
Cyflog sylfaenol i aelodau etholedig prif gynghorau: Penderfyniad 1
Mae'r Panel wedi penderfynu, ar gyfer y flwyddyn ariannol rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026 ei bod yn briodol cadw'r cysylltiad rhwng cyflog sylfaenol cynghorwyr a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. Bydd y cyflog sylfaenol yn gyson â thair rhan o bump o ASHE 2022 i Gymru gyfan ar gyfer y cyfnod rhwng 2022 a 2023, sef y ffigur diweddaraf sydd ar gael ar adeg drafftio'r adroddiad hwn. Y ffigur fydd £19,771.
Mae'r Panel yn gwbl ymwybodol o'r cyfyngiadau presennol ar gyllid cyhoeddus ac effaith ei benderfyniadau ar gyllidebau Prif Awdurdodau. Mae'r Panel hefyd yn ystyriol o'n Nodau a'n Hamcanion i gynnig pecyn cydnabyddiaeth ariannol teg a rhesymol i gefnogi aelodau etholedig ac annog amrywiaeth mewn cynrychiolaeth.
Cyflogau a delir i Uwch-aelodau, aelodau Dinesig ac aelodau Llywyddol prif gynghorau: Penderfyniad 2
Bydd y terfyn ar nifer yr uwch gyflogau sy'n daladwy (“y cap”) yn parhau.
Mae'r holl uwch gyflogau yn cynnwys taliad y cyflog sylfaenol. Cydnabyddir lefelau gwahanol cyfrifoldeb ychwanegol pob rôl a rhwng pob rôl mewn fframwaith â bandiau. Ni chynigir unrhyw newidiadau i'r bandiau eleni.
Cynorthwywyr Gweithrediaeth, Bydd y Panel yn penderfynu fesul achos ar yr uwch-gyflog priodol, os o gwbl, ar gyfer cynorthwywyr gweithrediaeth.
O dan Fesur 2011, nifer y bobl sy’n cael uwch-gyflog, nid nifer y swyddi ag uwch-gyflogau, sy’n cyfrif tuag at y cap. Felly, ar gyfer yr holl drefniadau rhannu swyddi bydd y cap uwch-gyflog yn cael ei gynyddu yn amodol ar yr uchafswm statudol o 50% o aelodaeth y cyngor. Os byddai'r trefniadau'n golygu yr eir y tu hwnt i’r uchafswm statudol, byddai angen cymeradwyaeth y Panel a Gweinidogion Cymru ar awdurdod lleol cyn rhoi unrhyw drefniadau ar waith.
Bydd yr elfen cyflog sylfaenol yn cynyddu yn unol ag ASHE a bydd y cynnydd hwn hefyd yn gymwys i elfen rôl Bandiau 1, 2, 3, 4 a 5.
Felly, cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £74,141.
Penderfynwyd ar yr holl daliadau eraill wrth gyfeirio at y cyflog hwn ac maent wedi'u nodi yn Nhablau 1 i 3.
Grŵp A
- Abertawe
- Caerdydd
- Rhondda Cynon Taf
Disgrifiad | Swm |
---|---|
Cyflog sylfaenol | £19,771 |
Band 1: arweinydd | £74,141
|
Band 1: dirprwy arweinydd | £51,899 |
Band 2: aelodau gweithredol | £44,485 |
Band 3: cadeiryddion pwyllgorau (os y'u telir) | £29,657 |
Band 4: arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf | £29,657 |
Band 5: arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y'i telir) a'r dirprwy bennaeth dinesig | £23,726 |
Pennaeth Dinesig (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir) | £23,726 |
Aelod Llywyddol (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig) | £19,771 |
Grŵp B
- Bro Morgannwg
- Caerffili
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Conwy
- Gwynedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Powys
- Sir Benfro
- Sir Gaerfyrddin
- Sir y Fflint
- Wrecsam
Disgrifiad | Swm |
---|---|
Cyflog sylfaenol | £19,771 |
Band 1: arweinydd | £66,727 |
Band 1: dirprwy arweinydd | £46,709 |
Band 2: aelodau gweithredol | £40,036 |
Band 3: cadeiryddion pwyllgorau (os y'u telir) | £29,657 |
Band 4: arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf | £29,657 |
Band 5: arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y'i telir) a'r dirprwy bennaeth dinesig | £23,726 |
Pennaeth Dinesig (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir) | £23,726 |
Aelod Llywyddol (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig) | £19,771 |
Grŵp C
- Blaenau Gwent
- Ceredigion
- Merthyr Tudful
- Sir Ddinbych
- Sir Fynwy
- Torfaen
- Ynys Môn
Disgrifiad | Swm |
---|---|
Cyflog sylfaenol | £19,771 |
Band 1: arweinydd | £63,020 |
Band 1: dirprwy arweinydd | 44,114 |
Band 2: aelodau gweithredol | £37,812 |
Band 3: cadeiryddion pwyllgorau (os y'u telir) | £29,657 |
Band 4: arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf | £29,657 |
Band 5: arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill (os y'i telir) a'r dirprwy bennaeth dinesig | £23,726 |
Pennaeth Dinesig (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Bennaeth Dinesig (os y'i telir) | £23,726 |
Aelod Llywyddol (os y'i telir) | £29,657 |
Dirprwy Aelod Llywyddol (sylfaenol yn unig) | £19,771 |
Nid oes unrhyw newidiadau pellach i'r taliadau a'r buddiannau a delir i aelodau etholedig. Mae'r holl Benderfyniadau cyfredol wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan.
Cyflogau Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu: Penderfyniad 3
Bydd cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn parhau i fod yn gyson â Band 3 a chaiff ei bennu ar £9,886.
Pennir cyflog is-gadeirydd yn 50% o gyflog y Cadeirydd, sef £4,943.
Ni fydd unrhyw newidiadau eraill.
Taliadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub: Penderfyniad 4
Ffurfiwyd y tri pharc cenedlaethol yng Nghymru, Eryri, Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog, i ddiogelu tirweddau ysblennydd a chynnig cyfleoedd hamdden i'r cyhoedd. Arweiniodd Deddf yr Amgylchedd 1995 at greu Awdurdod Parc Cenedlaethol (APC) ar gyfer pob parc. Mae Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn cynnwys aelodau sydd naill ai'n aelodau etholedig a enwebir gan y prif gynghorau o fewn ardal y parc cenedlaethol neu'n aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymrudrwy broses Penodiadau Cyhoeddus. Caiff aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru ac aelodau a enwebir gan gyngor eu trin yn gyfartal o ran cydnabyddiaeth ariannol.
Ffurfiwyd y tri gwasanaeth tân ac achub (ATA) yng Nghymru, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a De Cymru, fel rhan o ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1996. Maent yn cynnwys aelodau etholedig sy'n cael eu henwebu gan y Prif Gynghorau o fewn ardal pob gwasanaeth tân ac achub.
Yn unol â phenderfyniad y Panel i gynyddu cyflog sylfaenol aelodau etholedig prif gynghorau, bydd lefel cydnabyddiaeth ariannol aelodau cyffredin yn APCau a ATAau hefyd yn cynyddu yn unol ag ASHE.
Bydd cydnabyddiaeth ariannol Cadeiryddion yn parhau'n gysylltiedig â chyflog uwch-aelod Band 3 prif gyngor. Felly, bydd eu helfenrôl yn cynyddu'n unol â hynny. Bydd cysylltiad Dirprwy gadeiryddion, cadeiryddion pwyllgorau ac uwch swyddi eraill a delir â Band 5 yn parhau. Ceir manylion llawn lefelau cydnabyddiaeth ariannol i aelodau APCau ac ATAau yn Nhablau 4 a 5.
Awdurdodau parciau cenedlaethol | Swm |
---|---|
Cyflog sylfaenol i aelodau cyffredin | £5,576 |
Cadeirydd | £15,462 |
Dirprwy Gadeirydd (os penodir un) | £9,531 |
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch swydd arall | £9,531 |
Awdurdodau tân ac achub | Swm |
---|---|
Cyflog sylfaenol i aelodau cyffredin | £2,788 |
Cadeirydd | £12,674 |
Dirprwy Gadeirydd (os penodir un) | £6,743 |
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch swydd arall | £6,743 |
Cyhoeddir yr holl Benderfyniadau cyfredol, gan gynnwys cyfyngiadau ar dderbyn lwfansau dwbl, ar ein gwefan. Heblaw am y codiadau uchod, ni phenderfynwyd ar unrhyw newidiadau y flwyddyn hon.
Taliadau a wneir i aelodau cyfetholedig Prif Gynghorau, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub: Penderfyniad 5
Dylai aelodau cyfetholedig y cyrff perthnasol gael cydnabyddiaeth ariannol ar sail diwrnod, hanner diwrnod neu fesul awr. Hefyd, gall y swyddog perthnasol benderfynu ar gyfanswm y diwrnodau y rhoddir cydnabyddiaeth ariannol ar eu cyfer mewn blwyddyn a phennu amser rhesymol am baratoi ar gyfer cyfarfodydd.
Rhaid i bob awdurdod sicrhau, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd neu bwyllgor priodol arall, fod ei holl aelodau cyfetholedig sydd â phleidlais yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylid rhoi cymorth o’r fath heb gostau i’r aelod unigol.
Rôl | Taliad gan ddefnyddio cyfradd fesul awr | Cyfradd taliadau am hyd at 4 awr | Cyfradd taliadau am 4 awr a throsodd |
---|---|---|---|
Cadeiryddion pwyllgorau safonau ac archwilio
| £33.50 | £134 | £268 |
Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau sydd hefyd yn cadeirio Pwyllgorau Safonau Cynghorau Cymuned a Thref | £29.75 | £119 | £238 |
Aelodau Cyffredin o Bwyllgorau Safonau; Pwyllgor Craffu Addysg Craffu Trosedd ac Anrhefn a Phwyllgor Archwilio | £26.25 | £105 | £210 |
Cynghorwyr Cymuned a Thref sy'n aelodau o Bwyllgorau Safonau Prif Gynghorau | £26.25 | £105 | £210 |
Taliadau i aelodau (lleyg) cyfetholedig Cyd-bwyllgorau Corfforedig: Penderfyniad 6
Caiff aelodau lleyg cyfetholedig Cyd-bwyllgorau Corfforedig eu talu ar yr un sail ag aelodau (lleyg) cyfetholedig â hawliau pleidleisio sy'n gysylltiedig â chyrff eraill yn y teulu llywodraeth leol.
Nodir y symiau isod.
Rôl | Taliad gan ddefnyddio cyfradd fesul awr | Cyfradd taliadau am hyd at 4 awr | Cyfradd taliadau am 4 awr a throsodd |
---|---|---|---|
Cadeiryddion lleyg pwyllgorau
| £33.50 | £134 | £268 |
Aelodau lleyg cyffredinol â hawliau pleidleisio | £29.75 | £119 | £238 |
Mae'r penderfyniad hwn yn ddilys o 31 Gorffennaf 2024.
Cynghorau Cymuned a Thref
Mae'r Panel yn parhau i wneud taliadau am gostau ychwanegol gweithio gartref a thaliadau am nwyddau traul swyddfa yn orfodol. Ni fydd unrhyw newid i'r Penderfyniad a wnaed y llynedd.
Taliadau Gorfodol: Penderfyniad 7
Taliad am gostau ychwanegol gweithio gartref
Mae'n rhaid i bob cyngor dalu £156 y flwyddyn i'w aelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd yn rhaid i’r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref.
Taliad penodol am nwyddau traul
Mae'n rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawnieu rôl, neu fel arall mae'n rhaid i gynghorau ei gwneud yn bosibl i'w haelodau hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.
Mater i bob cyngor yw gwneud a chofnodi penderfyniad polisi mewn perthynas â phryd a sut y caiff y taliadau eu gwneud ac a ydynt yn cael eu talu'n fisol, yn flynyddol neu fel arall. Dylai'r polisi hefyd nodi a fydd unrhyw daliadau a wneir i aelod sy'n gadael neu sy'n newid ei rôl yn ystod y flwyddyn ariannol yn cael eu hadennill, a sut.
Lwfans mynychu
Gall pob cyngor benderfynu cyflwyno lwfans mynychu i’r aelodau. Ni ddylai swm pob taliad fod yn fwy na £30. Ni fydd gan aelod sydd mewn colled ariannol hawl i gael lwfans mynychu ar gyfer yr un digwyddiad.
Am fod y taliad am fynychu yn ddewisol, dylai'r cyngor, yn ei Gyfarfod Blynyddol cyntaf, benderfynu'n ffurfiol p'un a ddylid gwneud y taliadau hyn ai peidio.
Os bydd y cyngor yn penderfynu o blaid lwfansau mynychu, rhaid iddo lunio Cynllun ar gyfer ei fabwysiadu'n ffurfiol, gwneud darpariaeth iddo gael ei gyhoeddi a hysbysu'r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Yr uchafswm gorfodol ar gyfer pob digwyddiad cymwys yw £30. Nid oes unrhyw isafswm penodedig.
Rhaid i daliadau am fynychu ymwneud â busnes swyddogol neu ddyletswydd gymeradwy a nodir yn Rheolau Sefydlog y cyngor neu, fel arall, drwy benderfyniad penodol. Dylai'r cynllun nodi ar gyfer pa ddigwyddiadau y gwneir taliadau.
Bydd gan bob aelod o'r cyngor yr hawl i gael y taliad am fynychu'r digwyddiadau a nodir yn y cynllun, ond gall aelod unigol wrthod derbyn y taliad drwy hysbysu'r swyddog priodol (yn ysgrifenedig).
Digolledu am Golled Ariannol: Penderfyniad 8
Taliad dewisol yw digolledu am golled ariannol.
Mae'r Panel wedi penderfynu y dylai'r taliad hwn gyd-fynd â chyfradd ddyddiol ASHE, sef £126.74 am ddiwrnod llawn a £63.37 am hanner diwrnod.
Math o Daliad | Grŵp | Gofyniad |
---|---|---|
Taliad costau ychwanegol | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Gorfodol i bob aelod |
Uwch-rôl | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | £500 gorfodol i un aelod; dewisol i hyd at saith aelod |
Maer neu gadeirydd | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Dewisol: hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans mynychu | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Dewisol |
Colled ariannol | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Dewisol |
Teithio a chynhaliaeth | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Dewisol |
Costau gofal neu gymorth personol | 1 (Dros 14,000 o etholwyr) | Gorfodol |
Taliad costau ychwanegol | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Gorfodol i bob aelod |
Uwch-rôl | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Gorfodol i un aelod; dewisol i hyd at bum aelod |
Maer neu gadeirydd | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Dewisol: hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans mynychu | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Dewisol |
Colled ariannol | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Dewisol |
Teithio a chynhaliaeth | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Dewisol |
Costau gofal neu gymorth personol | 2 (Rhwng 10,000 a 13,999 o etholwyr) | Gorfodol |
Taliad costau ychwanegol | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Gorfodol i bob aelod |
Uwch-rôl | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol i hyd at dri aelod |
Maer neu gadeirydd | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol Hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol Hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans mynychu | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol |
Colled ariannol | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol |
Teithio a chynhaliaeth | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Dewisol |
Costau gofal neu gymorth personol | 3 (Rhwng 5,000 a 9,999 o etholwyr) | Gorfodol |
Taliad costau ychwanegol | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Gorfodol i bob aelod |
Uwch-rôl | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol i hyd at dri aelod |
Maer neu Gadeirydd | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol Hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy Faer neu Ddirprwy Gadeirydd | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol Hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans Mynychu | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol |
Colled Ariannol | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol |
Teithio a Chynhaliaeth | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Dewisol |
Costau gofal neu gymorth personol | 4 (Rhwng 1,000 a 4,999 o etholwyr) | Gorfodol |
Taliad costau ychwanegol | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Gorfodol i bob aelod |
Uwch-rôl | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol i hyd at dri aelod |
Maer neu Gadeirydd | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol Hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy Faer neu Ddirprwy Gadeirydd | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol Hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans Mynychu | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol |
Colled Ariannol | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol |
Teithio a Chynhaliaeth | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Dewisol |
Cost Gofal neu Gymorth Personol | 5 (Llai na 1,000 o etholwyr) | Gorfodol |
Ni wnaed unrhyw newidiadau i daliadau am ymgymryd ag uwch-rolau; lwfansau Teithio a Chynhaliaeth; Lwfans Gofal a Chymorth Personol neu Lwfans Mynychu. Mae'r holl Benderfyniadau cyfredol wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan.
Crynodeb o'r Penderfyniadau 2025 i 2026
Penderfyniad 1
Caiff lefel sylfaenol cyflog i aelodau etholedig prif gynghorau ei phennu ar £19,771.
Penderfyniad 2
Cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) fydd £74,141. Penderfynwyd ar yr holl daliadau eraill wrth gyfeirio at y cyflog hwn. Nodir pob taliad yn Nhabl 1.
Penderfyniad 3
Cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu fydd £9,886.
Cyflog is-gadeirydd fydd £4,943.
Penderfyniad 4
Cynyddwyd cyflog sylfaenol aelodau o Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub . Nodir pob taliad yn Nhablau 4 a 5. Caiff yr holl Benderfyniadau cyfredol, gan gynnwys cyfyngiadau ar dderbyn lwfansau dwbl, eu cyhoeddi ar ein gwefan. Heblaw am y codiadau uchod, ni chynigir unrhyw newidiadau y flwyddyn hon.
Penderfyniad 5
Ar gyfer taliadau i aelodau cyfetholedig, nid oes unrhyw newid i lefel y taliadau. Nodir y rhain yn Nhabl 6.
Penderfyniad 6
Caiff aelodau cyfetholedig Cyd-bwyllgor Corfforedig eu talu ar yr un sail ag aelodau cyfetholedig (lleyg) â hawliau pleidleisio cyrff eraill yn y teulu llywodraeth leol, fel y nodir yn Nhabl 7.
Dylai pob awdurdod sicrhau, drwy ei Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd neu bwyllgor priodol arall, bod yr holl aelodau cyfetholedig sydd â phleidlais yn cael cymaint o gymorth ag sy’n angenrheidiol i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol. Dylai cymorth o’r fath fod heb gostau i’r aelod unigol.
Penderfyniad 7
Bydd aelodau Cynghorau Cymuned a Thref yn cael taliad o £156 y flwyddyn (sydd gyfystyr â £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol y bydd yn rhaid i'r aelwyd eu talu (gan gynnwys gwres, golau, ynni a band eang) o ganlyniad i weithio gartref. A rhaid i Gynghorau hefyd naill ai dalu £52 y flwyddyn am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall, rhaid i gynghorau alluogi aelodau i hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa.
Swydd-ddeiliaid penodedig yw aelodau Cynghorau Cymuned a Thref.
Er nad ydynt yn gyflogeion, mae eu cydnabyddiaeth ariannol yn ddarostyngedig i reolau TWE o hyd. Mae Adran 316A o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 yn nodi nad oes unrhyw atebolrwydd i dalu treth incwm mewn perthynas â thaliad y mae cyflogwr yn ei wneud i gyflogai mewn perthynas â threuliau rhesymol ychwanegol aelwyd y mae'r cyflogai yn mynd iddynt wrth gyflawni dyletswyddau'r gyflogaeth gartref o dan drefniadau gweithio gartref. Bydd y trefniant hwn yn gymwys i'r taliad o £156 a wneir o dan y Penderfyniad hwn.
Penderfyniad 8
Taliad dewisol yw digolledu am golled ariannol.
Mae'r Panel wedi penderfynu y dylai'r taliad hwn gyd-fynd â chyfradd ddyddiol ASHE 2022 i 2023, sef £126.74 am ddiwrnod llawn a £63.37 am hanner diwrnod.
Manylion cyswllt
I wneud cais am fersiwn wedi'i hargraffu o'r Adroddiad Blynyddol, anfonwch e-bost atom neu ysgrifennwch i:
Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Trydydd Llawr Dwyrain
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 03000 616095
E-bost: irpmailbox@llyw.cymru
Mae'r Adroddiad Blynyddol hwn a gwybodaeth arall am y Panel a'i waith ar gael ar ein gwefan.