Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: adroddiad blynyddol 2023 i 2024
Mae’r adroddiad yn pennu amrediad a lefel y taliadau ym mlwyddyn ariannol 2023 i 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dyma Adroddiad Blynyddol terfynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sy’n pennu’r Penderfyniadau ar gyflogau, treuliau a buddiannau ar gyfer aelodau etholedig prif gynghorau, cynghorau cymuned a thref, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub i'w gweithredu o fis Ebrill 2023 ymlaen.
Dyma fy Adroddiad cyntaf fel Cadeirydd y Panel, ar ôl cael fy mhenodi ym mis Mehefin 2022. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i John Bader, y cyn-gadeirydd, am ei wasanaeth dros nifer o flynyddoedd. Fe arweiniodd y Panel drwy 2 ddarn pwysig o waith y llynedd, Adolygiad Annibynnol 10 Mlynedd o'r Panel, a’r gwaith o adfer y cysylltiad rhwng cyflogau aelodau etholedig ac enillion cyfartalog yng Nghymru. Diolch hefyd i Joe Stockley am ei wasanaeth ac mae'n bleser gen i gyhoeddi bod Bev Smith wedi’i phenodi ym mis Mehefin eleni. Mae Saz Willey, yr Is-Gadeirydd, a Ruth Glazzard wedi parhau i arwain gwaith y Panel yn ystod y cyfnod hwn o newid ac rwy'n diolch iddyn nhw am y gefnogaeth maen nhw wedi rhoi i Bev a minnau, fel aelodau newydd. Gadawodd Ruth Glazzard y Panel ar ddiwedd 2022, pan ymgymerodd â phenodiad cyhoeddus newydd. Mae’r Uned Cyrff Cyhoeddus wrthi’n recriwtio aelod newydd i’r Panel.
Eleni, mae'r Panel wedi parhau i ganolbwyntio ar argymhellion yr Adolygiad Deng Mlynedd a'u gweithredu. Mae 4 elfen allweddol i'r gwaith hwn adolygu'r ffordd rydym ni'n gweithio, gosod strategaeth 3 blynedd i'r panel, gwella sut rydym ni'n cyfathrebu ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ac adeiladu sylfaen dystiolaeth gadarn i lywio penderfyniadau.
Rydym wedi dechrau ar yr Adolygiad Effeithiolrwydd a argymhellir o'r ffordd rydym yn gweithio ac wedi dechrau datblygu ein strategaeth tymor hwy gyda diwrnodau datblygu Panel ym mis Awst a mis Chwefror. Rydym wedi cytuno mai ein cenhadaeth yw cyflwyno fframwaith gwobrwyo teg ac atebol i Gymru, i gefnogi cymunedau fel bod eu lleisiau’n cael eu clywed o fewn ein cyrff democrataidd lleol. Byddwn yn defnyddio'n harbenigedd a'n proffesiynoldeb i feithrin partneriaethau cynaliadwy, dibynadwy, i lywio'n gwaith a gwneud y newidiadau sydd eu hangen ar Gymru.
Ein nod yw gwella'r ffordd rydym yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â'n rhanddeiliaid uniongyrchol a'r cyhoedd. Fel cam cyntaf rydym nawr yn cyhoeddi crynodeb o'n cyfarfodydd misol ar ein gwefan, ond yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud. Ein nod yw gwella hygyrchedd a rhwyddineb ein gwefan a'i datblygu'n adnodd mwy defnyddiol i bobl. Rydym yn bwriadu iddi fod yn storfa hawdd ei defnyddio o wybodaeth am ein Penderfyniadau, a, gan adeiladu ar ein tudalen cwestiynau cyffredin cyfredol, datblygu ein canllawiau ar sut y dylid cymhwyso pob penderfyniad.
Er mai corff annibynnol ydym ni, byddwn yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol sy’n ymwneud â hyrwyddo cyfranogiad mewn democratiaeth leol. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru waith ymchwil yn edrych ar y rhwystrau i sefyll ar gyfer swyddi etholedig a rôl newidiol y cynghorydd, a chynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ar draws Cymru i dynnu sylw at y canfyddiadau a’u trafod.
Fe wnaethom gymryd rhan weithredol yn y digwyddiadau hyn, gan gynnal seminarau ar gydnabyddiaeth ariannol a rôl newidiol cynghorwyr lleol. Croesawyd y cyfle i rannu gwybodaeth, profiad, ac arfer gorau ar draws ystod o bynciau ac yn arbennig i ganolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o sut y gallwn weithredu ar y cyd i gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth leol.
Mae'r Panel wedi penderfynu y bydd eleni’n flwyddyn o atgyfnerthu. Cafodd newidiadau mawr eu rhoi ar waith y llynedd, a chytunwyd ar godiad sylweddol yn lefelau cyflog. Hoffem ganiatáu amser i Benderfyniadau'r llynedd ymwreiddio ac i ganiatáu i'r Panel barhau i ddatblygu sylfaen ymchwil a thystiolaeth i lywio penderfyniadau'r dyfodol a symud i gylch cynllunio mwy hirdymor. Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu'r penderfyniad hwnnw.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn ystyried strwythur ein hadroddiadau a sut y gallwn eu gwneud yn fwy hygyrch i bawb. Daethom i'r casgliad bod llawer o'r wybodaeth a gyhoeddwyd yn efelychu blynyddoedd blaenorol, yn aml heb newid sylweddol. Ar gyfer yr adroddiad hwn penderfynom ganolbwyntio ar y newidiadau a wnaed o ganlyniad i'r cynigion. Rydym felly wedi penderfynu y bydd mwyafrif y cynnwys a nodir mewn adroddiadau blaenorol yn cael ei ddileu o'r adroddiad a’i osod ar wefan y Panel. Byddwn yn gwneud trefniadau ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu mynd ar y wefan.
Mae’r newid hwn wedi lleihau maint yr adroddiad yn sylweddol a'i wneud yn fwy hylaw i lywio drwyddo. Mae'r dull hwn hefyd yn cyd-fynd â'n hymdrechion i barchu'r heriau sy'n ein hwynebu wrth ddiogelu ein planed.
Fe wnaethom gynnwys arolwg ar-lein am y tro cyntaf yn yr adroddiad blynyddol drafft eleni a hoffem ddiolch i bawb wnaeth dreulio amser yn ei lenwi, neu’n anfon ymatebion ysgrifenedig i’n cwestiynau ymgynghori a sylwadau ar yr adroddiad Drafft.
Aelodau’r Panel
- Frances Duffy, Cadeirydd
- Saz Willey, Is-gadeirydd
- Bev Smith
Ceir gwybodaeth fanwl am yr aelodau ar y wefan Gwefan y Panel.
Rôl a chyfrifoldebau'r Panel
Rôl y Panel
Mae'r Panel yn gyfrifol am bennu'r lefelau a'r trefniadau ar gyfer tâl aelodau'r sefydliadau canlynol.
- Prif gynghorau, cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol
- Cynghorau cymuned a thref
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- Awdurdodau Tân ac Achub
- Cyd-bwyllgorau Corfforedig
Mae'r Panel yn gorff annibynnol ac mae'n gallu gwneud penderfyniadau am y canlynol:
- y strwythur cyflog sy’n pennu tâl yr aelodau
- y math o lwfansau a natur y lwfansau hynny sydd i'w talu i aelodau
- p'un a yw'r taliadau'n orfodol neu'n caniatáu lefel o hyblygrwydd lleol
- trefniadau o ran absenoldeb teuluol
- trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth â phenderfyniadau'r Panel
Mae'r Panel yn sefydliad annibynnol ac mae'n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i'r sefydliadau a restrir uchod weithredu'r penderfyniadau a wnânt. Nid yw’n ofynnol gan y Panel bod prif gynghorau yn pleidleisio ar y Penderfyniadau. Mae’r panel hefyd yn rhoi canllawiau ar sut y dylid cymhwyso ei Benderfyniadau, a rhaid i’r holl gynghorau ystyried y Canllawiau hyn. Mae’r canllawiau presennol wedi’u cynnwys yn Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023, Atodiad 2 “Y Rheoliadau”. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol o hyd.
Mae’r Panel hefyd yn ymgynghorai ar gyfer newidiadau arfaethedig i dâl Prif Weithredwyr prif gynghorau.
Egwyddorion
Yn sail i waith y Panel mae set o egwyddorion sy'n llywio ei ddull gweithredu, ei fethodoleg a sut y mae’n gwneud penderfyniadau, sef:
- cynnal ymddiriedaeth a hyder: mae dinasyddion yn iawn i ddisgwyl bod pawb sy'n dewis gwasanaethu mewn awdurdodau lleol yn cynnal yr ymddiriedaeth gyhoeddus drwy gofleidio'r gwerthoedd a'r foeseg ymhlyg mewn gwasanaeth cyhoeddus o'r fath
- symlrwydd: mae'r Fframwaith yn glir ac yn ddealladwy
- tâl Cydnabyddiaeth: mae'r Fframwaith yn darparu ar gyfer taliad i aelodau awdurdodau sy'n gyfrifol am wasanaethu eu cymunedau. Ni ddylai lefel y taliad fod yn rhwystr i ymgymryd â'r swydd neu barhau yn y swydd
- amrywiaeth: mae democratiaeth yn cael ei chryfhau pan fydd aelodau’r awdurdodau yn adlewyrchu’n ddigonol gyfansoddiad demograffig a diwylliannol y cymunedau y mae awdurdodau o'r fath yn eu gwasanaethu
- atebolrwydd: mae gan drethdalwyr a dinasyddion yr hawl i dderbyn gwerth am arian o arian cyhoeddus sydd wedi’i ymrwymo i fod yn dâl i’r bobl sy'n cael eu hethol, eu penodi neu eu cyfethol i wasanaethu er budd y cyhoedd
- tegwch: bydd modd cymhwyso'r Fframwaith yn gyson i aelodau o bob awdurdod o fewn cylch gwaith y Panel fel modd o sicrhau bod lefelau tâl yn deg, yn fforddiadwy ac yn dderbyniol ar y cyfan
- ansawdd: mae'r Panel yn cydnabod bod y cyfuniad cymhleth o lywodraethu, craffu a dyletswyddau rheoleiddio sy'n ddyletswydd ar aelodau yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd rhan mewn proses o wella ansawdd yn barhaus
- tryloywder: mae bod yn dryloyw ynghylch tâl aelodau er budd y cyhoedd
Crynodeb o Drafodaethau a Phenderfyniadau
Methodoleg
Bob blwyddyn mae'r Panel yn ymgysylltu ag aelodau'r cyrff y mae'n pennu lefelau tâl ar eu cyfer, swyddogion o fewn y sefydliadau hynny, a chlercod. Mae’r Panel hefyd yn ymgysylltu â chyrff aelodaeth perthnasol gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Lleol. Mae'n gwneud hyn trwy ystod o gyfarfodydd sydd, ar hyn o bryd, yn parhau i gael eu cynnal ar-lein yn bennaf. Mae’r Panel wedi parhau â’r trafodaethau hyn. Maent yn rhoi cyfle i'r Panel archwilio barn am y trefniadau presennol, yr effaith y mae penderfyniadau'n eu cael ar unigolion, sut mae'r trefniadau'n gweithredu'n ymarferol ac unrhyw faterion neu bryderon y mae unigolion am eu codi. Maent hefyd wedi rhoi cyfle i drafod sefyllfaoedd sy'n dod i'r amlwg y mae'r Panel wedi eu hystyried wrth wneud penderfyniadau.
Cafodd yr adroddiad drafft ei gyhoeddi’n eang ac anogwyd aelodau’r cyhoedd i ddarparu adborth gwerthfawr, ac maent wedi gwneud hyn ac rydym yn ei groesawu. Eleni, cafodd y Panel gyfle i feithrin cysylltiadau â grŵp ehangach o randdeiliaid mewn 3 digwyddiad a gweithdy “Amrywiaeth mewn Democratiaeth” gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r Panel hefyd yn ystyried adborth ar ôl cyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol yn y flwyddyn flaenorol. Mae'n ymddangos bod y newidiadau a wnaed yn Adroddiad y llynedd, yn enwedig y codiad yn y cyflog sylfaenol, wedi cael derbyniad da gan randdeiliaid. Mae'r materion a godwyd gyda'r Panel i gyd yn canolbwyntio ar fanylion y Penderfyniadau, gan ofyn am arweiniad ar sut y dylid eu cymhwyso neu’n gofyn am eglurhad lle roedd testun yr Adroddiad yn aneglur.
Felly, mae'r Panel wedi cytuno i adolygu fformat a strwythur y prif Adroddiad ac i wneud gwell defnydd o wefan y Panel er mwyn darparu gwybodaeth a chanllawiau.
Mae gan y Panel ddyletswydd i osod taliadau sy'n deg ac sy'n annog a galluogi cyfranogiad democrataidd. Rhaid iddo hefyd ystyried a ydynt yn fforddiadwy ac yn dderbyniol.
Wrth wneud ei benderfyniadau ar gyfer yr Adroddiad hwn, ystyriodd y Panel ystod o feincnodau, gan gynnwys mynegeion blaenorol, cyfredol a rhagamcanol a ffigurau gwirioneddol a’r graddau a’r effaith hysbys ac a ragwelir o nifer o ffactorau economaidd a chymdeithasol. Roedd y rhain yn cynnwys amgylcheddau gwaith ar ôl Brexit a COVID a chostau byw, ynni ac argyfyngau hinsawdd.
Ymgynghoriad ar yr Adroddiad Blynyddol drafft
Lluniodd y Panel adroddiad drafft a’i gyhoeddi ar 6 Hydref 2022 ar gyfer ymgynghoriad 8 wythnos a ddaeth i ben ar 1 Rhagfyr 2022.
Yn ogystal, fel rhan o'r broses ymgynghori, gwahoddwyd rhanddeiliaid i ateb 5 cwestiwn gan ddefnyddio arolwg ar-lein neu drwy ateb e-bost. Cafwyd cyfanswm o 89 o ymatebion ar-lein, a chyflwynwyd 44 ar e-bost i flwch e-bost y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Hoffai'r Panel ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgynghoriad. Ceir crynodeb o'r ymatebion yn adran 4.
Ar y cyfan, roedd yr ymatebion yn cefnogi penderfyniadau'r Panel ac felly nid oes unrhyw newidiadau wedi'u gwneud i’r Penderfyniadau terfynol. Mewn rhai mannau, cryfhawyd geiriad y Penderfyniadau i egluro meysydd ansicrwydd a godwyd yn yr ymgynghoriad. Roedd hyn yn bennaf yn ymwneud â nodi gallu’r aelodau, ar sail unigol, i optio allan o’u tâl neu ran ohono.
Yn ogystal, amlygodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad ambell faes y bydd y Panel yn eu hystyried yn eu blaenraglen waith ar gyfer y flwyddyn hon. Bydd y blaenraglen waith yn cael ei chyhoeddi ar wefan y Panel ddiwedd mis Mawrth.
Ar ôl ystyried y safbwyntiau a gafwyd mewn ymateb i'w ymgynghoriad, mae'r Panel nawr yn gwneud ei benderfyniadau terfynol.
Penderfyniadau’r Panel ar gyfer 2023 i 2024
Cyflog sylfaenol i aelodau etholedig prif gynghorau: Penderfyniad 1
Mae'r cyflog sylfaenol, sy'n cael ei dalu i bob aelod etholedig, yn dâl am y cyfrifoldeb o gynrychioli’r gymuned a chymryd rhan yn y gwaith craffu, rheoleiddio a swyddogaethau cysylltiedig llywodraethu lleol. Mae'n seiliedig ar swm sydd gyfwerth â thri diwrnod llawn yr wythnos. Mae'r Panel yn adolygu'r ymrwymiad amser hwn yn rheolaidd, ac ni chynigir unrhyw newidiadau ar gyfer 2023 i 2024.
Y llynedd, ailbennodd y Panel y cyflog sylfaenol i gyd-fynd ag Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) 2020 a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Roedd hyn yn lleihau'r anghydbwysedd oedd wedi codi rhwng cyflog sylfaenol aelodau o brif gynghorau a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. Daeth y newid i rym o etholiadau lleol Mai 2022 ymlaen. Mae'r rhesymeg dros y cam arwyddocaol hwn i'w weld yn Adroddiad Blynyddol y llynedd ac mae papur esboniadol manwl yn nodi'r cyd-destun hanesyddol a'r dadansoddiad ar gael ar wefan y Panel.
Gan adeiladu ar y penderfyniad hwn, mae'r Panel wedi penderfynu, ar gyfer blwyddyn ariannol 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024, ei fod yn iawn i gadw cysylltiad rhwng cyflog sylfaenol cynghorwyr a chyflogau cyfartalog eu hetholwyr. Bydd y cyflog sylfaenol yn cyd-fynd gyda thair rhan o bump o ASHE Cymru gyfan 2021, y ffigur diweddaraf sydd ar gael wrth ddrafftio. Y cyflog fydd £17,600. Bydd hyn yn gynnydd o 4.76% yn y cyflog sylfaenol.
Cyflogau a delir i aelodau Uwch, Dinesig a Llywyddol y prif gynghorau: Penderfyniad 2
Bydd y cyfyngiad ar nifer y cyflogau uwch sy'n daladwy (“y cap”) yn aros yn ei le. Yn etholiadau lleol 2022 fe wnaeth adolygiadau ffiniau newid nifer yr aelodau i rai cynghorau. Addasodd y Panel y cap cyflog uwch ar gyfer y cynghorau hyn yn ei Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023. Gan nad oes newidiadau pellach ar gyfer 2023 i 2024, mae'r uchafswm o gyflogau uwch sy'n daladwy o fewn pob cyngor yn parhau fel y nodir yn Adroddiad 2022 i 2023.
Mae’r holl gyflogau uwch yn cynnwys y taliad cyflog sylfaenol. Mae'r gwahanol lefelau o gyfrifoldeb ychwanegol rhwng pob rôl yn cael ei gydnabod mewn fframwaith bandiau. Cafodd y fframwaith ei ddiwygio'r llynedd ar ôl adolygiad o wahaniaethau a chymaryddion marchnad. Does dim newidiadau i fandiau yn cael eu cynnig eleni. Yn gynnar y flwyddyn nesaf bydd y Panel yn casglu tystiolaeth gan y prif gynghorau i archwilio a yw'r llwyth gwaith aelodau etholedig wedi newid a sut y mae wedi newid.
Mae'r cynnydd sy’n gysylltiedig ag ASHE 2021 yn berthnasol i elfen rôl cyflogau Band 1 a Band 2, arweinydd, dirprwy arweinydd ac aelodau gweithredol.
Er mwyn cwblhau gwaith y llynedd o ailalinio’r fframwaith, bydd y rheini sy’n derbyn cyflog Band 3 a Band 4 yn derbyn cynnydd bach i elfen rôl eu tâl a bydd elfen rôl taliad Band 5 yn parhau wedi’i rewi. Ni fydd y cynnydd mewn cyflog sylfaenol yn gymwys.
Felly, £66,000 fydd cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A). Mae'r holl daliadau eraill wedi'u penderfynu wrth gyfeirio at hyn ac maent wedi'u nodi yn Nhabl 1.
Tabl 1: Cyflogau sy'n daladwy i aelodau Sylfaenol, Uwch, Dinesig a Llywyddol y prif gynghorau
Grŵp A
- Caerdydd
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
Tâl Cydnabyddiaeth | |
---|---|
Cyflog sylfaenol (yn daladwy i bob aelod etholedig) | £17,600 |
Band 1: arweinydd | £66,000 |
Band 1: dirprwy arweinydd | £46,200 |
Band 2: aelodau gweithredol | £39,600 |
Band 3: cadeiryddion pwyllgorau, pennaeth dinesig ac aelod llywyddol (os ydynt yn cael tâl cydnabyddiaeth) |
£26,400 |
Band 4: arweinydd grŵp yr wrthblaid fwyaf | £26,400 |
Band 5: arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill a dirprwy bennaeth dinesig | £21,340 |
Band 5: dirprwy aelod llywyddol (dim taliad rôl) | £17,600 |
Grŵp B
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Sir Gaerfyrddin
- Conwy
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Casnewydd
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Benfro
- Powys
- Bro Morgannwg
- Wrecsam
Tâl Cydnabyddiaeth | |
---|---|
Cyflog sylfaenol (yn daladwy i bob aelod etholedig) | £17,600 |
Band 1: arweinydd | £59,400 |
Band 1: dirprwy arweinydd | £41,580 |
Band 2: aelodau gweithredol | £35,640 |
Band 3: cadeiryddion pwyllgorau, pennaeth dinesig ac aelod llywyddol (os ydynt yn cael tâl cydnabyddiaeth) | £26,400 |
Band 4: arweinydd grŵp yr wrthblaid fwyaf | £26,400 |
Band 5: arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill a dirprwy bennaeth dinesig | £21,340 |
Band 5: dirprwy aelod llywyddol (dim taliad rôl) | £17,600 |
Grŵp C
- Blaenau Gwent
- Ceredigion
- Sir Ddinbych
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Torfaen
- Ynys Môn
Tâl Cydnabyddiaeth | |
---|---|
Cyflog sylfaenol (yn daladwy i bob aelod etholedig) | £17,600 |
Band 1: arweinydd | £56,100 |
Band 1: dirprwy arweinydd | £39,270 |
Band 2: aelodau gweithredol | £33,660 |
Band 3: cadeiryddion pwyllgorau, pennaeth dinesig ac aelod llywyddol (os ydynt yn cael tâl cydnabyddiaeth) | £26,400 |
Band 4: arweinydd grŵp yr wrthblaid fwyaf | £26,400 |
Band 5: arweinwyr grwpiau gwleidyddol eraill a dirprwy bennaeth dinesig | £21,340 |
Band 5: dirprwy aelod llywyddol (dim taliad rôl) | £17,600 |
Nid oes unrhyw newidiadau pellach i'r taliadau a'r buddiannau a dalwyd i aelodau etholedig ac felly mae pob Penderfyniad arall o 2022 i 2023 yn dal i sefyll a dylid eu cymhwyso yn 2023 i 24, gan gynnwys y rhai sy'n cwmpasu:
- teithio a chynhaliaeth
- gofal a chynhorthwy personol
- absenoldeb salwch
- cyd-bwyllgorau Corfforedig
- cynorthwywyr i'r Weithrediaeth
- cyflogau ychwanegol a threfniadau rhannu swyddi
- aelodau cyfetholedig
Cyflogau ar gyfer Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu: Penderfyniad 3
Bydd cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn £8,800.
Bydd cyflog Is-Gadeirydd yn £4,400.
Ni cheir unrhyw newidiadau eraill.
Taliadau tuag at gostau a threuliau aelodau Cynghorau Cymuned a Thref: Penderfyniad 4
Y llynedd fe wnaeth y Panel gynnal adolygiad mawr o'r fframwaith taliadau ar gyfer cynghorau cymuned a thref gan gynnal ymarfer ymgynghori cynhwysfawr gyda'r sector. Diweddarwyd y Fframwaith bryd hynny ac eleni mae'r Panel wedi penderfynu gwneud newidiadau cyfyngedig ond pwysig.
Mae’r Panel yn cydnabod bod pob aelod o gynghorau cymuned a thref o reidrwydd yn treulio amser yn gweithio o adref ar fusnes y cyngor. Roedd hyn yn wir cyn ac yn ystod COVID ac mae'n parhau. O ganlyniad, mae gan aelodau gostau domestig ychwanegol ac mae angen nwyddau traul swyddfa arnynt hefyd.
Mae'r Panel o'r farn na ddylai aelodau fod allan o boced am gyflawni eu dyletswyddau. Fodd bynnag, gall unigolyn wrthod derbyn y taliadau, neu ran o’r taliadau os ydynt yn dymuno hynny. Mae'n rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig ac mae'n fater i’r unigolyn. Mae'n rhaid i aelod o'r cyngor cymuned neu gyngor tref sy'n dymuno gwrthod taliadau ysgrifennu at ei swyddog priodol i wneud hynny. Rhaid i bob cyngor cymuned a thref sicrhau nad yw'n creu hinsawdd sy'n atal pobl rhag cael mynediad at unrhyw arian y mae ganddynt hawl iddo i'w cefnogi i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Dylai'r taliadau gael eu gwneud yn effeithlon ac yn brydlon.
Ad-daliad ar gyfer y costau ychwanegol o weithio gartref
Rhaid i bob cyngor dalu £156 y flwyddyn i'w haelodau (sy'n cyfateb i £3 yr wythnos) tuag at dreuliau ychwanegol (yn cynnwys gwresogi, goleuadau, pŵer a band eang) sy’n gysylltiedig â gweithio gartref.
Ad-daliad am nwyddau traul
Rhaid i gynghorau naill ai dalu £52 y flwyddyn i'w haelodau am gost nwyddau traul swyddfa sydd eu hangen i gyflawni eu rôl, neu fel arall rhaid i gynghorau alluogi aelodau i hawlio ad-daliad llawn am gost eu nwyddau traul swyddfa. Mae'n fater i bob cyngor wneud a chofnodi penderfyniad polisi mewn perthynas â phryd a sut y gwneir y taliadau a ph’un a ydynt yn cael eu talu'n fisol, bob blwyddyn neu fel arall. Dylai'r polisi hefyd ddatgan a ddylid adennill unrhyw daliadau a wneir i aelod sy'n gadael neu newid ei rôl yn ystod y flwyddyn ariannol, a sut i adennill.
Canllawiau ar drethu
Nid yw o fewn cylch gwaith nac awdurdod y Panel i ddarparu cyngor penodol ar faterion trethu. Mae modd cael cyngor gan Un Llais Cymru ac mae canllawiau ar gael ar wefan Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.
Dylai'r £156 ddod o dan ddarpariaethau statudol adran 316A ITEPA: Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003) a'r swm presennol y gellir ei dalu heb ddenu rhwymedigaeth treth yw £6 yr wythnos: Treuliau a buddion: Gweithio o adref: Treuliau a budd-daliadau gweithio gartref sydd wedi'u heithrio rhag treth GOV.UK.
Mae lefel y taliadau wedi'u nodi yn Nhabl 2.
Math o daliad | Grŵp | Gofyniad |
---|---|---|
Taliad costau ychwanegol |
1 (Etholaeth dros 14,000) | Gorfodol ar gyfer pob Aelod |
Uwch rôl | 1 (Etholaeth dros 14,000) | Gorfodol: £500 ar gyfer 1 aelod; dewisol ar gyfer hyd at 7 |
Maer neu Gadeirydd | 1 (Etholaeth dros 14,000) | Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd | 1 (Etholaeth dros 14,000) | Dewisol: hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans presenoldeb | 1 (Etholaeth dros 14,000) | Dewisol |
Colled ariannol | 1 (Etholaeth dros 14,000) | Dewisol |
Teithio a chynhaliaeth | 1 (Etholaeth dros 14,000) | Dewisol |
Costau gofal neu gynhorthwy personol | 1 (Etholaeth dros 14,000) | Gorfodol |
Taliad costau ychwanegol | 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) | Gorfodol ar gyfer pob aelod |
Uwch rôl | 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) | Gorfodol ar gyfer 1 aelod; dewisol ar gyfer hyd at 5 |
Maer neu gadeirydd | 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) | Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd | 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) | Dewisol: hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans presenoldeb | 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) | Dewisol |
Colled ariannol | 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) | Dewisol |
Teithio a chynhaliaeth | 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) | Dewisol |
Costau cofal neu gynhorthwy personol | 2 (Etholaeth 10,000 i 13,999) | Gorfodol |
Taliad costau ychwanegol | 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) | Gorfodol ar gyfer pob aelod |
Uwch rôl | 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) | Dewisol hyd at 3 aelod |
Maer neu gadeirydd | 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) | Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 |
Diprwy faer neu ddirprwy gadeirydd | 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) | Dewisol: hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans presenoldeb | 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) | Dewisol |
Colled ariannol | 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) | Dewisol |
Teithio a chynhaliaeth | 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) | Dewisol |
Costau gofal neu gynhorthwy personol | 3 (Etholaeth 5,000 i 9,999) | Gorfodol |
Taliad costau ychwanegol | 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) | Gorfodol ar gyfer pob aelod |
Uwch rôl | 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) | Dewisol hyd at 3 aelod |
Maer neu gadeirydd | 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) | Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd | 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) | Dewisol: hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans presenoldeb | 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) | Dewisol |
Colled ariannol | 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) | Dewisol |
Teithio a chynhaliaeth | 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) | Dewisol |
Costau gofal neu gynhorthwy personol | 4 (Etholaeth 1,000 i 4,999) | Gorfodol |
Taliad costau ychwanegol |
5 (Etholaeth llai na 1,000) |
Gorfodol ar gyfer pob aelod |
Uwch rôl | 5 (Etholaeth llai na 1,000) | Dewisol hyd at 3 aelod |
Maer neu gadeirydd | 5 (Etholaeth llai na 1,000) | Dewisol: hyd at uchafswm o £1,500 |
Dirprwy faer neu ddirprwy gadeirydd | 5 (Etholaeth llai na 1,000) | Dewisol: hyd at uchafswm o £500 |
Lwfans presenoldeb | 5 (Etholaeth llai na 1,000) | Dewisol |
Colled ariannol | 5 (Etholaeth llai na 1,000) | Dewisol |
Teithio a chynhaliaeth | 5 (Etholaeth llai na 1,000) | Dewisol |
Costau gofal neu gynhorthwy personol | 5 (Etholaeth llai na 1,000) | Gorfodol |
Nid oes unrhyw newidiadau pellach i'r taliadau a'r buddiannau a delir i aelodau etholedig ac felly mae pob Penderfyniad arall o 2022 i 2023 yn dal yn berthnasol, a dylid eu cymhwyso yn 2023 i 2024, gan gynnwys y rhai sy'n cynnwys:
- taliadau am gyflawni uwch rolau
- cyfraniadau tuag at gostau gofal a chynhorthwy personol
- ad-daliadau am gostau teithio a chynhaliaeth
- iawndal am golled ariannol
- iwfans presenoldeb
- aelodau cyfetholedig
Taliadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub: Penderfyniad 5
Cafodd y 3 pharc cenedlaethol yng Nghymru Bannau Brycheiniog, Arfordir Sir Benfro ac Eryri eu ffurfio i warchod tirweddau ysblennydd a darparu cyfleoedd hamdden i'r cyhoedd. Arweiniodd Deddf yr Amgylchedd 1995 at greu Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer pob parc.
Mae awdurdodau'r Parc Cenedlaethol yn cynnwys aelodau sydd naill ai'n aelodau etholedig a enwebwyd gan y prif gynghorau yn ardal y parc cenedlaethol neu'n aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru drwy'r broses Penodiadau Cyhoeddus. Caiff aelodau a benodir gan Lywodraeth Cymru ac aelodau sydd wedi'u henwebu gan y Cyngor eu trin yn gyfartal mewn perthynas â thaliadau.
Ffurfiwyd y 3 gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru: Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gogledd Cymru a De Cymru fel rhan o ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1996. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys aelodau etholedig sy'n cael eu henwebu gan y prif gynghorau o fewn pob ardal gwasanaeth tân ac achub.
Bydd y taliadau'n cynyddu o ganlyniad i'r codiad sy'n cael ei gynnig ar gyfer aelodau etholedig prif gynghorau. Felly, bydd codiad o 4.76% hefyd yn yr elfen cyflog sylfaenol.
Bydd y tâl i Gadeiryddion yn parhau i fod yn gysylltiedig ag uwch-gyflog Band 3 prif gynghorau. Felly ceir cynnydd bach yn elfen rôl eu taliad. Bydd Dirprwy Gyfarwyddwyr, Cadeiryddion Pwyllgorau a phobl mewn uwch-swyddi eraill yn parhau ar Fand 5. Felly, bydd elfen rôl eu taliad yn parhau wedi’i rewi. Bydd y cynnydd mewn cyflog sylfaenol yn gymwys. Mae manylion llawn am lefelau tâl i aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub, wedi'u nodi yn Nhabl 3.
Tabl 3: Taliadau i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub
Tâl Cydnabyddiaeth | |
---|---|
Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelod cyffredin | £4,964 |
Cadeirydd | £4,964 |
Dirprwy Gadeirydd (os penodir un) |
£8,704 |
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch-swydd arall | £8,704 |
Tâl Cydnabyddiaeth | |
---|---|
Y cyflog sylfaenol ar gyfer aelod cyffredin | £2,482 |
Cadeirydd | £11,282 |
Dirprwy Gadeirydd (os penodir un) | £6,222 |
Cadeirydd Pwyllgor neu uwch-swydd arall | £6,222 |
Bydd pob Penderfyniad arall ar gyfer 2022 i 2023 yn dal yn berthnasol a dylid ei gymhwyso yn 2023 i 2024, gan gynnwys y rheini sy’n cwmpasu:
- cyfraniadau tuag at gostau gofal a chynhorthwy personol
- ad-daliadau am gostau teithio a chynhaliaeth
- iawndal am golled ariannol
- aelodau cyfetholedig
- cyfyngiadau ar dderbyn ad-daliadau dwbl pan fo aelod yn dal mwy nag 1 swydd
Ymgynghori: crynodeb o’r ymatebion
Lluniodd y Panel adroddiad drafft a’i gyhoeddi ar 6 Hydref 2022 ar gyfer cyfnod ymgynghori o 8 wythnos, a ddaeth i ben ar 1 Rhagfyr 2022.
Anfonwyd y ddolen i’r wefan a fersiwn pdf o'r adroddiad drafft at:
- Un Llais Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol
- Prif gynghorau
- Awdurdodau Tân ac Achub
- Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol
- Cynghorau Cymuned a Thref
Penderfyniad 1: cynnydd cyflog sylfaenol
Nid oedd pob Cyngor wedi rhoi sylwadau. Gofynnodd tri a oedd hi’n iawn codi cyflog aelodau yn ystod yr argyfwng costau byw presennol. Fodd bynnag, roedd y rhain yn derbyn bod angen ystyried amgylchiadau personol aelodau ac felly y dylai fod yn fater personol i aelodau benderfynu drostynt eu hunain a ydyn nhw’n derbyn y codiad cyflog ai peidio neu’n dewis peidio. Ystyriodd y Panel yr adborth hwn, ac er ei fod yn ymwybodol o'r effaith gyffredinol ar gyllidebau cynghorau, cytunodd fod y cynnydd mewn cyflog sylfaenol yn ffactor pwysig o ran annog a chefnogi grŵp amrywiol o bobl i sefyll etholiad.
Penderfyniad 2: uwch gyflogau
Codwyd 2 fater allweddol gan randdeiliaid; yn gyntaf a yw lefel y tâl yn cydnabod yn ddigonol gyfrifoldebau cynyddol aelodau prif gynghorau ac yn ail a ddylid adolygu'r uchafswm presennol o gyflogau uwch. Nododd y Panel y pwyntiau hyn a bydd yn ystyried a ddylai'r maes hwn fod yn ganolbwynt i'r cynllun gwaith yn y dyfodol.
Penderfyniad 3: cyflogau Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu
Ni chafwyd sylwadau mewn perthynas â chyflogau Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
Penderfyniad 4: taliadau tuag at gostau a threuliau aelodau Cynghorau Cymuned a Thref
Fe wnaeth dros hanner yr ymatebion amlygu pryder fod y taliadau'n orfodol ac nad oedd eu Cyngor am gynyddu eu praesept i dalu'r costau hyn. Doedd y ffaith nad oedd yr Adroddiad yn ailddatgan y gall aelodau ddewis gwrthod eu hawl i daliadau ddim o gymorth. Fodd bynnag, roedd ymatebion eraill yn cefnogi’r taliadau.
Roedd deg y cant o’r ymatebion a dderbyniwyd yn mynegi pryder ynghylch costau gweinyddu ac roedd 15 o’r ymatebion yn codi cwestiynau am y driniaeth gywir at ddibenion treth. Gofynnodd un clerc hefyd a fyddai’r taliadau y mae aelodau yn eu derbyn yn cael eu cyhoeddi'n gyffredinol, yn debyg i’r modd y rhoddir cyhoeddusrwydd i’r cyfraniad at gostau gofal a chymorth personol.
Roedd sylwadau eraill yn nodi’r angen i annog teithio "gwyrdd" a holodd 1 a oedd angen taliadau ar gyfer swyddi uwch.
Ystyriodd y Panel yr ymatebion hyn a chytunodd i bwysleisio’r polisi ar optio allan fel unigolyn yn yr Adroddiad Terfynol ac i ddarparu dolen i wefannau defnyddiol Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Bydd y Panel yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i wella cymorth a chyngor i Gynghorau Cymuned a Thref.
Penderfyniad 5: Taliadau i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub
Ni wnaed sylwadau mewn perthynas â thaliadau i aelodau o Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub.
Yn ogystal, fel rhan o'r broses ymgynghori, gwahoddwyd rhanddeiliaid i ateb 5 cwestiwn drwy arolwg ar-lein neu drwy e-bost. Derbyniwyd cyfanswm o 89 ymateb ar-lein, a chyflwynwyd 48 drwy e-bost i flwch e-bost y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Cwestiwn 1
Mae’r Panel wedi parhau i ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol fel y meincnod ar gyfer pennu cyflog sylfaenol aelodau etholedig prif gynghorau. Mae cynnydd cymesur cyfatebol wedi’i gynnig i aelodau’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a’r Awdurdodau Tân ac Achub. Mae’r Panel wedi parhau i gyfeirio at yr Arolwg ASHE diweddaraf a gyhoeddwyd yn 2021. Ydych chi’n cytuno y dylai’r elfen cyflog sylfaenol fod yn gysylltiedig â data ASHE 2021?
Ymatebion
Roedd 90% o'r rhai a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno y dylai'r Panel gyfeirio at yr elfen cyflog sylfaenol yn nata ASHE 2021. Roedd 3% yn anghytuno ac roedd 7% heb farn am y cwestiwn hwn
Cwestiwn 2
Mae’r Panel wedi gwneud newidiadau i sut y caiff costau a threuliau eu talu i aelodau cynghorau cymuned a thref. Ydych chi’n cytuno ag ychwanegu’r elfen “nwyddau traul”?
Ymatebion
Roedd 72% yn cytuno gydag ychwanegu'r elfen 'nwyddau traul', ac roedd 25% yn anghytuno gyda'r taliad ychwanegol hwn.
Y thema fwyaf cyffredin yn yr atebion a roddwyd i gwestiwn dau oedd a oedd y taliad hwn bellach yn orfodol neu a oedd y taliad yn ddewisol a bod gan Gynghorwyr y dewis i’w wrthod. Gofynnwyd yr un cwestiwn am y taliad o £156.
Cwestiwn 3
Bydd y Panel yn casglu tystiolaeth gan brif gynghorau i edrych ar p’un a yw llwyth gwaith aelodau etholedig wedi newid, a sut y mae wedi newid, i lywio Penderfyniadau’n y dyfodol. Ydych chi’n fodlon y dylai’r Panel gynnwys yr adolygiad hwn yn ei gynllun gwaith ar gyfer y dyfodol ac adeiladu sylfaen dystiolaeth i gefnogi penderfyniadau?
Ymatebion
Roedd 97% o'r rhai a atebodd y cwestiwn hwn yn cytuno.
Roedd mwyafrif yr atebion yn tynnu sylw at y gwaith ychwanegol yr oedd aelodau etholedig nawr yn ei wneud yn eu rôl.
Croesawodd cynghorau cymuned a thref hyn gan y byddai'n cydnabod faint o waith y mae'r sector yn ei wneud.
Cwestiwn 4
Rydym wedi lleihau maint yr adroddiad yn sylweddol eleni er mwyn canolbwyntio ar benderfyniadau allweddol a wnaed, ac yn bwriadu gwneud mwy o ddefnydd o'r wefan i roi arweiniad hawdd i ddefnyddwyr. Mae'r dull hwn hefyd yn cyd-fynd â'n hymdrechion i barchu'r heriau sy'n ein hwynebu wrth ddiogelu ein planed.
Sut y byddech chi’n dymuno cael gafael ar wybodaeth ac arweiniad gan y Panel? (dewiswch bob un sy’n berthnasol)
Ymatebion
- adroddiad cryno gyda dolenni at ganllawiau manwl: 84
- canllawiau hawdd eu defnyddio: 71
- cwestiynau cyffredin: 49
- gwefan: 54
- y cyfryngau cymdeithasol: 16
- digwyddiadau gwybodaeth: 25
- arall: 14
Os arall, rhowch fanylion:
Croesawyd yr adroddiad cryno arfaethedig, y canllawiau manwl a’r cwestiynau cyffredin. Roedd atebion eraill yn cynnwys seminarau, cyfarfodydd ar-lein a digwyddiad gwybodaeth.
Ydych chi wedi profi unrhyw heriau wrth gael gafael ar ein canllawiau a’n gwybodaeth ar ein gwefan neu wrth geisio eu deall? Rhowch wybod i ni sut y gallwn wneud pethau’n haws i chi.
Bydd adroddiad symlach a dogfen ganllawiau ar wahân yn helpu rhanddeiliaid i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt.
Ni wnaeth y rhanddeiliaid brofi unrhyw heriau wrth gael gafael ar y canllawiau a'r wybodaeth ar y wefan, nac wrth geisio eu deall.
Cwestiwn 5
Mae’r panel yn bwriadu cynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu â’r holl randdeiliaid perthnasol dros y flwyddyn nesaf fel rhan o’r gwaith o ddatblygu ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol ac adeiladu ei dystiolaeth a’i strategaeth ymchwil.
Oes gennych chi unrhyw sylwadau a fyddai’n helpu’r Panel i gynnal y digwyddiadau ymgysylltu hyn?
Er enghraifft, a ydych chi’n ffafrio polau ar-lein, cynnal digwyddiadau ymgysylltu, yn rhithiol neu wyneb yn wyneb, pa grwpiau ddylai gymryd rhan, sut allwn ni ymgysylltu ag ymgeiswyr posibl ac ati.
Ymatebion
Yr atebion mwyaf poblogaidd a roddwyd i'r cwestiwn hwn oedd:
- polau ar-lein
- cyfarfodydd rhithiol
- cyfarfodydd wyneb yn wyneb
Roedd cymysgedd o gefnogaeth i ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Atebodd rhai gan gynnig y dylai’r Panel gynnal digwyddiadau ymgysylltu rhanbarthol fel y gallai sawl Cyngor fynychu ar yr un pryd. Awgrymodd sylwadau eraill a ddaeth i law y byddai'r digwyddiadau hyn yn helpu i drafod unrhyw faterion mewn manylder gyda'r Panel ac y byddai’r Panel yn cael safbwyntiau ehangach ac adborth mwy cynhwysfawr ar unrhyw gynigion.
Fe wnaeth Un Llais Cymru gynnig cefnogaeth i'r Panel gyda’r gwaith o drefnu unrhyw ddigwyddiadau yn y sector Cyngor Cymuned a Thref.
Crynodeb o benderfyniadau
Penderfyniad 1
Bydd lefel sylfaenol cyflog aelodau etholedig prif gynghorau yn cael ei osod ar £17,600.
Penderfyniad 2
Bydd cyflog arweinydd y cyngor mwyaf (Grŵp A) yn £66,000. Mae'r holl daliadau eraill wedi'u penderfynu gan ystyried hyn ac maent wedi’u nodi yn Nhabl 1.
Penderfyniad 3
Bydd cyflog cadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn £8,800.
Bydd cyflog is-gadeirydd yn £4,400.
Penderfyniad 4
Bydd aelodau Cynghorau Cymuned a Thref yn cael taliad o £156 y flwyddyn (sydd gyfystyr â £3 yr wythnos) tuag at gostau ychwanegol (gan gynnwys gwresogi, goleuadau, pŵer a band eang) sy’n gysylltiedig â gweithio gartref. Rhaid i gynghorau hefyd naill ai dalu £52 y flwyddyn am gost nwyddau traul y swyddfa sydd eu hangen er mwyn gwneud eu swydd, neu fel arall, rhaid i gynghorau alluogi aelodau i hawlio ad-daliad llawn am gostau eu nwyddau traul swyddfa.
Penderfyniad 5
Mae tâl sylfaenol aelodau Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub wedi cynyddu 4.76%. Caiff yr holl daliadau eu nodi yn Nhabl 3.
Penderfyniad 6
Mae’r holl Benderfyniadau eraill a nodir yn Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023 y Panel yn parhau’n ddilys a dylid eu cymhwyso.