Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ("y Panel") yn gyfrifol am benderfynu ar y fframwaith cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer taliadau i aelodau etholedig ac aelodau a benodwyd i brif gynghorau,  awdurdodau'r parciau cenedlaethol, awdurdodau tân ac achub a chydbwyllgorau corfforedig yng Nghymru. Mae'r awdurdodau perthnasol hyn yn rhan o'r teulu llywodraeth leol.

Caiff democratiaeth ei chryfhau pan fo aelodaeth awdurdodau perthnasol yn adlewyrchu'n ddigonol gyfansoddiad demograffig a diwylliannol y cymunedau a wasanaethir gan y cyfryw awdurdodau. Felly, mae penderfyniadau'r Panel wedi'u gwreiddio yn yr egwyddor tâl teg gan fod hon yn elfen allweddol o annog a galluogi pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol.

Gwybodaeth gefndir am rôl y cyd-bwyllgorau corfforedig

Sefydlwyd cydbwyllgorau corfforedig yn dilyn sefydlu Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) sy'n darparu fframwaith ar gyfer cydweithredu rhanbarthol trwy fecanwaith mwy cydlynol, cyson, a reolir yn ddemocrataidd o'r enw Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Mae Adran 142 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod swyddogaethau’r Panel mewn perthynas â thaliadau i aelodau o ‘awdurdod perthnasol’. Mae adran 144 o’r Mesur yn disgrifio beth yw ‘awdurdod perthnasol’.

Yn Rheoliad 4(1)(c)(i) o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021/1349 ychwanegwyd cydbwyllgorau corfforedig at y disgrifiad o’r ‘awdurdod perthnasol’ yn adran 144(2) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, gan eu cynnwys yng nghylch gwaith y Panel o 3 Rhagfyr 2021.

Mae cydbwyllgor corfforedig yn gorff corfforaethol ar wahân a gaiff gyflogi staff, dal asedau a chyllidebau, a chyflawni swyddogaethau. Mae 4 cydbwyllgor corfforedig yng Nghymru ar hyn o bryd:

  • Cydbwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru (prif gynghorau Gwynedd, Sir Ddinbych, Ynys Môn, Wrecsam, Conwy, Sir y Fflint ac awdurdod parc cenedlaethol eryri)
  • Cydbwyllgor Corfforedig Canolbarth Cymru (prif gynghorau Powys, Ceredigion, ac awdurdod parc cenedlaethol bannau brycheiniog)
  • Cydbwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru (prif gynghorau Caerdydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf, Casnewydd, Merthyr Tudful, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, a Phen-y-bont ar Ogwr)
  • Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru (prif gynghorau Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe ac awdurdod parc cenedlaethol arfordir penfro)

Mae gan gydbwyllgorau corfforedig ddyletswyddau i baratoi Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Caiff y cyd-bwyllgorau corfforedig hefyd arfer pŵer llesiant economaidd, y pŵer i wneud unrhyw beth i wella neu i hyrwyddo llesiant economaidd ei ardal. Y nod yw cysoni dulliau datblygu economaidd, trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir i alluogi i ranbarthau ddatblygu economïau rhanbarthol llwyddiannus ac annog twf lleol. 

Penderfyniad ei aelodau i raddau helaeth yw sut mae cydbwyllgor corfforedig yn cyflawni ei swyddogaethau. Mae’r hyblygrwydd hwn yn galluogi i gydbwyllgorau corfforedig wahaniaethu rhwng ardaloedd daearyddol i ddiwallu anghenion ac uchelgeisiau penodol eu rhanbarth.

Aelodaeth a strwythur

Mae Deddf 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr pob prif gyngor cyfansoddol fod yn aelodau o'u priod gydbwyllgorau corfforedig. Mae'r arweinwyr, wrth ymgymryd â'u rolau o fewn y cydbwyllgorau corfforedig, yn gwneud penderfyniadau ar ran y cynghorau y maent wedi eu hethol i'w cynrychioli.

Mae Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn aelodau o'u cydbwyllgor/cydbwyllgorau corfforedig rhanbarthol at ddibenion paratoi'r Cynllun Datblygu Strategol. 

Disgwylir i gydbwyllgorau corfforedig hefyd ymgysylltu â sefydliadau neu gyrff o fewn eu rhanbarth, a’u cynnwys yn eu gwaith drwy, er enghraifft, gyfethol cynrychiolwyr prifysgolion a byrddau iechyd lleol. Y cydbwyllgorau corfforedig sy’n penderfynu pwy gaiff ei gyfethol ac ar ba delerau (gan gynnwys a oes gan aelodau cyfetholedig hawl i bleidleisio.

Caiff y cydbwyllgorau corfforedig sefydlu is-bwyllgorau i gefnogi eu gwaith gweinyddu a llywodraethu. Mae’r canllawiau statudol ar gydbwyllgorau corfforedig yn nodi disgwyliad y bydd cydbwyllgorau corfforedig yn sefydlu is-bwyllgorau ar gyfer pob un o'r meysydd gweithredol allweddol y maent yn eu harfer ond nid yw'n nodi sut. Er enghraifft, gallai cydbwyllgor corfforedig benderfynu bod is-bwyllgorau yn cael eu harwain gan aelod neu ddeilydd portffolio o weithrediaeth y cynghorau cyfansoddol ac y bydd aelodau portffolio o gynghorau eraill y rhanbarth yn bresennol. Gallant hefyd benodi aelodau lleyg sydd â hawliau pleidleisio. 

Mae'n ofynnol i gydbwyllgorau corfforedig fod â Phwyllgor Llywodraethu ac Archwilio y mae un rhan o dair o'r aelodau yn aelodau lleyg annibynnol

Er bod statws cyfreithiol aelod lleyg yn wahanol i statws aelod cyfetholedig o awdurdod perthnasol arall, mae gan bob un ohonynt hawliau pleidleisio ac maent yn rhannu rolau a chyfrifoldebau tebyg. Maent yn annibynnol ac nid ydynt yn aelod nac yn gynrychiolydd o gyngor neu gorff cyfetholedig.   

Taliadau cyfredol

Ystyriodd y Panel y trefniadau tâl ar gyfer cydbwyllgorau corfforedig yn ei Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023. Roedd cydbwyllgorau corfforedig yn eu camau cynnar a'u hunig aelodau'n arweinwyr yr awdurdodau ‘cartref’. Daeth y Panel i'r casgliad na fyddai cyflog ychwanegol yn cael ei dalu mewn perthynas â'u rôl ar gydbwyllgor corfforedig, ond cytunwyd y byddai’r tâl yn cael ei adolygu wrth i'r cydbwyllgorau corfforedig ddatblygu. 

Fodd bynnag, penderfynodd y Panel dalu cyfraniad at gostau gofal a theithio a chostau cynhaliaeth i bob aelod o'r cydbwyllgorau corfforedig. Cafodd y penderfyniad hwn ei gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol hwnnw.

Beth sydd wedi newid?

Ym mis Tachwedd 2023, cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad ar gydbwyllgorau corfforedig. Mae cydbwyllgorau corfforedig bellach yn fwy sefydledig. Sefydlwyd Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, ac is-bwyllgorau eraill, a phenodwyd aelodau lleyg. 

Cysondeb y dull gweithredu ar draws y teulu llywodraeth leol

Mae'r ffioedd presennol ar gyfer aelodau a gyfetholwyd i brif gynghorau, awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau'r parciau cenedlaethol wedi'u nodi ym Mhenderfyniadau'r Panel ar gyfer 2024. I'r gwrthwyneb, nid yw'r Panel eto wedi gosod ffi ar gyfer aelodau lleyg ar gydbwyllgorau corfforedig.   

Mae'r Panel yn cydnabod bod aelodau lleyg ar gydbwyllgorau corfforedig yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i ddemocratiaeth leol yng Nghymru. Mae'n credu y dylid eu talu'n deg.

Mae'r Panel o'r farn ei bod yn bwysig bod taliadau a lwfansau i aelodau etholedig ac aelodau a benodwyd i'r holl awdurdodau perthnasol o fewn y teulu llywodraeth leol yn deg ac yn gyson.

Mae’r Panel yn credu fod y sefyllfa bresennol yn anghyson. Felly, mae'n gofyn am eich barn ynghylch cysoni'r dull a ddefnyddir i dalu aelodau lleyg ar cydbwyllgorau corfforedig â thâl aelodau cyfetholedig ar draws yr awdurdodau perthnasol o fewn y teulu llywodraeth leol.

Ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Panel adroddiad atodol drafft ar gyfer ymgynghori arno dros gyfnod o bedair wythnos. Gofynnodd yr adroddiad atodol drafft a ddylid talu aelodau lleyg cyd-bwyllgorau corfforedig yn yr un modd ag aelodau cyfetholedig awdurdodau perthnasol eraill.  

Mae'r Panel yn mynegi ei werthfawrogiad i'r rhai a gymerodd yr amser i anfon eu barn a'u sylwadau. 

Roedd bron pob ymateb yn gefnogol i'r dull a nodwyd yn yr adroddiad. 

O ganlyniad, mae'r Panel wedi penderfynu cyhoeddi'r adroddiad terfynol heb unrhyw ddiwygiadau ac wedi dod i’r penderfyniad a ganlyn:

Penderfyniad 1: Bydd aelodau lleyg Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cael eu talu ar yr un sail ag aelodau cyfetholedig (lleyg) sydd â hawliau pleidleisio cyrff eraill o fewn y teulu llywodraeth leol.

Nodir y symiau isod.

Tabl 1: taliadau a wneir i aelodau lleyg cyd-bwyllgorau corfforedig
 RôlCyfradd tâl fesul awrCyfradd tâl hyd at 4 awr‌Cyfradd tâl 4 awr a throsodd
Cadeiryddion lleyg pwyllgorau£33.50£134£268
Aelodau lleyg cyffredin sydd â hawliau pleidleisio£29.75£119£238

 Bydd yr adroddiad yn effeithiol o'r dyddiad cyhoeddi.