Pam dewis addysg uwch?
Drwy fynd i addysg uwch cewch gyfle i astudio pwnc o'ch dewis a chynyddu eich gwybodaeth, ond mae yna fanteision eraill hefyd:
Gwella eich cyfleoedd i ennill mwy o gyflog
Yn ôl UCAS, ar gyfartaledd mae cyflog graddedigion rhwng 25 a 30 oed 30% yn uwch na chyflog y rheini sydd heb radd.
Meithrin sgiliau bywyd hanfodol
Mae astudio yn y brifysgol yn caniatáu ichi wella eich sgiliau cyfathrebu, cymell ac arwain. Bydd hefyd yn caniatáu ichi fagu hyder, dysgu sut i reoli eich amser a datrys problemau. Mae'r rhain i gyd yn sgiliau a fydd yn gwella eich gyrfa a'ch cyfleoedd mewn bywyd.
Dysgu bod yn annibynnol
Bydd astudio yn y brifysgol yn rhoi cyfle ichi fuddsoddi ynoch chi eich hun, cwrdd â phobl newydd ac ehangu eich gorwelion.
Cyflawni'n bersonol
Mae astudio yn y brifysgol yn newid a chyfoethogi eich bywyd. Ar ôl astudio'n galed am dair blynedd neu fwy, byddwch yn teimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth aruthrol.
Pa gwrs ddylwn i ei ddewis?
Yn y DU mae yna fwy na 50,000 o gyrsiau mewn mwy na 25 o feysydd pwnc i ddewis o'u plith.
Yn ogystal â dewis pwnc, bydd angen ichi hefyd ystyried:
Math o gwrs
Gallwch ddewis astudio'n amser llawn neu'n rhan-amser, neu gallwch ddewis dysgu o bell hyd yn oed drwy gwrs a gaiff ei redeg gan y Brifysgol Agored, gan astudio gartref.
Mae dysgu rhan-amser a dysgu o bell yn opsiynau da os oes gennych gyfrifoldebau gwaith neu ofalu, neu os ydych yn magu teulu.
Ble i astudio
Bydd llawer o brifysgolion yn cynnig cyrsiau yn y pwnc rydych yn ymddiddori ynddo, ond bydd pob cwrs ychydig yn wahanol ym mhob prifysgol. Mae'r ffioedd dysgu yn gallu amrywio ac yn cael eu pennu gan y brifysgol neu'r coleg. Yng Nghymru, gosodwyd cap ar ffioedd dysgu, sef £9,000 y flwyddyn, ond mewn rhannau eraill o'r DU gallech orfod talu hyd at £9,250 y flwyddyn am gwrs gradd amser llawn.
Mae yna lawer o ffynonellau gwybodaeth i'ch helpu i ddewis, ee:
Cyllido eich astudiaethau
Gall myfyrwyr sy'n mynd i addysg uwch o fis Medi 2018 wneud cais am grantiau a benthyciadau i helpu gyda chostau byw, a benthyciad i helpu gyda ffioedd dysgu. Mae'n bosibl y gallech fod yn gymwys am gymorth ychwanegol fel Grant Gofal Plant, Lwfans Dysgu i Rieni, Grant Oedolion Dibynnol neu Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl.
Straeon addysg uwch
Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol
O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (amser llawn a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio.