Mae ffilm yr ymgyrch yn annog pawb i helpu rhywun y maen nhw'n pryderu yn eu cylch ac yn eu cyfeirio at linell gymorth a gwefan Byw Heb Ofn.
Bydd Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip, Julie James yn cyfarfod â goroeswyr i sgwrsio am eu profiadau a sut y gall ymateb pobl o'u cwmpas wneud gwahaniaeth.
Dywedodd Julie James:
"Rydyn ni eisiau annog pawb i weithredu, i wneud rhywbeth, ni waeth pa mor fach neu syml pan fyddant yn poeni y gallai rhywun maent yn ei nabod fod yn profi trais, cam-drin domestig neu drais rhywiol.
"Gall y ffaith bod rhywun yn gofyn "Wyt ti'n iawn?" gael effaith anferth.
"Dydyn ni ddim yn argymell camu i mewn ac ymyrryd mewn sefyllfa all fod yn beryglus, neu lle y gallai pobl gael niwed - ffoniwch yr heddlu mewn sefyllfa felly.
"Rydyn ni eisiau creu diwylliant lle mae pobl yn teimlo bod ganddynt hawl i helpu i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac i wneud Cymru yn fwy diogel nag unrhyw le i fod yn fenyw."
Mae ffilm yr ymgyrch yn annog pawb i helpu rhywun y maen nhw'n pryderu yn eu cylch ac yn eu cyfeirio at linell gymorth a gwefan Byw Heb Ofn. Mae'r ymgyrch hefyd yn cynnwys ffilm fer sy'n esbonio beth sy'n digwydd pan rydych chi'n galw'r llinell gymorth oherwydd eich bod yn pryderu am rywun.
Mae Mary* wedi byw drwy gam-drin domestig; roedd ei chydweithwyr wedi sylwi bod ei hymddygiad wedi newid ac eisteddodd un ohonynt i lawr gyda hi a dweud ""Mae hwnna'n un clais yn ormod". Roedd gan gymdogion Mary eu hamheuon, ac fe wnaethon nhw weithredu pan aeth ei merch atynt am help.
Daethant â Mary i mewn i'w cartref a derbyniodd hithau eu cynnig nhw i alw'r heddlu. Dim ond bryd hynny y gwnaeth hi sylweddoli bod sawl un o'i chymdogion wedi amau bod rhywbeth o'i le. Cafodd ei phartner ei arestio'r noson honno a newidiodd ei bywyd hi.
Dywedodd:
"Yn sydyn reit, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod ar fy mhen fy hun. Roedd pobl yn gofyn "Wyt ti'n iawn?" a "Sut allwn ni helpu?" a roeddwn i'n teimlo fy mod i'n gallu ateb. Dw i ddim yn siŵr y byddwn i wedi teimlo'n ddigon diogel i ateb o'r blaen ond dw i'n gobeithio y byddwn i ar ryw bwynt.
“Dw i'n gwybod fy mod i wedi teimlo rhyddhad pan holodd fy nghydweithiwr am y clais, er nad o'n i'n teimlo fy mod yn gallu siarad ynghylch beth oedd yn digwydd bryd hynny.
“Byddwn i'n dweud wrth bobl sy'n amau bod pethau ddim yn iawn gydag aelod o'r teulu, ffrind, cydweithiwr neu gymydog i ddilyn eu greddf, a gofyn i'r person os ydyn nhw'n iawn a dal ati i ofyn. Efallai na fydd hi'r amser iawn iddyn nhw siarad â chi pan ry'ch chi'n gofyn am y tro cyntaf, ond mae'n bosibl mai eich geiriau chi yw'r llygedyn o obaith sy'n arwain at achub bywyd."
Cafodd Sarah* ei magu yn Nigeria, ac roedd anffurfio organau cenhedlu benywod yn gyffredin yn ei chymuned. Roedd y credoau a'r arferion traddodiadol yn elfennau hanfodol o fywyd, a byddai pob merch yn mynd drwy'r broses. Ond doedd Sarah ddim yn gwybod mai anffurfio organau cenhedlu benywod oedd yr enw arno.
Pan ofynnodd ei bydwraig iddi a oedd hyn wedi digwydd iddi hi, dywedodd:
"Roeddwn i mewn penbleth, ac fe wnes i ypsetio a gwylltio. Nid dyma roeddwn i'n ei ddisgwyl. Yn ein diwylliant ni, mae menywod sydd heb gael eu torri yn cael eu hystyried yn aflan. Fe wnes i drio cerdded i ffwrdd. Wrth imi wneud, gofynnodd y ferch ar y dderbynfa imi "Wyt ti'n iawn?". Fe wnaeth hi fy helpu i ymdaweludiolch byth, achos fe wnes i sylweddoli fy mod i eisiau siarad â'r fydwraig wedi'r cwbl. Er ei bod yn anodd iddi hi hefyd, rwy'n siwr, roedd hi'n deall yr hyn roeddwn i'n ei ddweud ac fe wnaeth hi fy helpu."
Daeth â'i merch i Gymru i'w gwarchod rhag cael ei thorri ar ôl iddi sylweddoli beth oedd wedi digwydd iddi hi. Dywedodd:
“Fe hoffwn i pe bai'r bobl a roddodd help imi yn gweld yr effaith ar fy mywyd i ac ar fywydau pobl yn fy nheulu. Fe hoffwn i pe baen nhw'n gweld yr hyder maen nhw wedi'i roi imi. Fe hoffwn i iddyn nhw weld mor hapus ydw i o ddydd i ddydd. Dydy fy mhlant i ddim yn mynd i fynd drwy hyn. Dw i'n oroeswr."
Dysgwch heddiw sut i helpu rhywun i fyw heb ofn. Ewch i www.bywhebofn.llyw.cymru neu ffoniwch 0808 8010800 am gyngor a chymorth cyfrinachol 24 awr.