Neidio i'r prif gynnwy

Gŵr a gwraig graddedig yn croesawu pecyn cymorth ariannol newydd Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr

Mae Rebecca Smith, 35 oed, a Tom Smith, 30, sy’n byw ym Mhen-y-ffordd, Caer - ar ochr Cymru o’r ffin - yn llwyddo i gyfuno addysg llawn amser ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam a bywyd teuluol, fel rhieni i Tyler, 8 oed, a Brook,  6 oed. Maen nhw’n disgwyl eu trydydd plentyn ym mis Mehefin.

Arferai Tom weithio fel töwr, cyn gorfod newid gyrfa ar ôl brifo ei gefn - a meddyliodd y cwpl y gallai’r brifysgol fod o gymorth. Roedd Rebecca wedi meddwl mynd i brifysgol i ddilyn gyrfa fel cyfrifydd, cyn gorfod gadael pethau i fod am y tro, ac ennill arian tra’r oedd Tom yn astudio.

Ond pan aeth y ddau i ddiwrnod agored ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam er mwyn trafod dewisiadau Tom, sylweddolwyd y byddai’n ariannol bosib i’r ddau fynychu prifysgol yr un pryd.

Erbyn hyn,  mae’r Smiths yn eu hail flwyddyn – Tom ar gwrs Rheolaeth Adeiladu a Rebecca ar gwrs Cyllid a Chyfrifeg.

Rhwng benthyciadau myfyrwyr, a’r grant gofal plant sy’n cynnig rhagor o gymorth ariannol i fyfyrwyr â phlant sy’n dibynnu arnynt, ac incwm Tom, mae’r Smiths yn brawf na ddylai arian fod yn rhwystr i brifysgol.

Ychwanegodd Rebecca:

“Mae pobl yn dweud, ‘byddwch chi mewn cymaint o ddyled wedyn’ ond does dim rhaid i chi ad-dalu hanner eich cyflog blwyddyn – rydych chi’n ei dalu’n ôl fesul tipyn, yn dibynnu ar eich cyflog. Felly, dydy’r gost ddim yn aruthrol gydol eich gyrfa.

Fy neges i eraill sy’n meddwl nad ydyn nhw’n gallu fforddio mynd i brifysgol yw ‘peidiwch â meddwl hynny’. Felly, ewch ati i chwilota ymhellach a gofyn cwestiynau. Trwy fynd i brifysgol, rydyn ni’n buddsoddi yn ein gyrfaoedd, ac mae wedi newid ein bywydau ni’n barod.””

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio