Neidio i'r prif gynnwy
Megan o Benarth

Myfyriwr gradd Meistr yn cefnogi’r pecyn ariannol newydd i ôl-raddedigion

I ddechrau, doedd Megan Wiltshire, 21 oed o Benarth, ddim yn meddwl y byddai’n gallu fforddio ei gradd Meistr, ond ar ôl gweld y cwrs delfrydol, penderfynodd asesu’r opsiynau ariannol a oedd ar gael iddi hi.  

Dywedodd Megan:  

“Roeddwn i ym mlwyddyn olaf fy nghwrs israddedig mewn Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd. Roeddwn i’n bwriadu graddio a chael swydd. Doeddwn i heb ystyried gwneud gradd Meistr oherwydd doeddwn i ddim yn meddwl y buaswn i’n gallu fforddio hynny a’i fod y tu hwnt i fy nghyrraedd.
“Gwelais fod benthyciad ôl-radd gwerth £13,000 ar gael i dalu am ffioedd y cwrs a chostau byw. Rhwng hwnnw a fy incwm o weithio’n rhan amser, yn ogystal â chyllidebu gofalus, penderfynais y byddwn yn gallu fforddio ymgymryd â'r radd Meistr.”   

Dechreuodd Megan ei gradd Meistr ym mis Medi 2018 a bydd yn graddio yn nes ymlaen eleni. Mae’n bwriadu dilyn gyrfa mewn cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol.
 
Dywedodd Megan: 

“Roedd y benthyciad i fyfyrwyr ôl-raddedig yn golygu fy mod i’n gallu fforddio gwneud fy ngradd Meistr. Mae rhagor o gymorth ariannol ar gael i fyfyrwyr newydd nawr, gan gynnwys grant, sy’n golygu ei fod yn well byth. 

“Mae cost astudiaethau ôl-radd yn gallu ymddangos yn frawychus i ddechrau ond mae’n werth chweil yn y tymor hir. Dim ond pan fyddwch chi’n ennill dros £21,000 fydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl, a byddwch yn ei dalu mewn rhandaliadau. Rydw i wedi cael cymaint o fudd o fy astudiaethau, ac rydw i wedi dysgu cyllidebu. 

“Un peth fyddwn i’n ei ddweud, oherwydd y gost, yw y dylech chi wneud yn siŵr eich bod yn ymchwilio i’ch cwrs Meistr i wneud yn siŵr mai hwnnw yw’r un i chi. Os ydych chi’n teimlo eich bod yn buddsoddi ynoch chi eich hun, mae’n werth ei wneud heb os.”

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio.