Neidio i'r prif gynnwy

Joanne o Gaerdydd

Mam o Bontardawe ar y ffordd i fod yn athrawes drwy radd ran-amser gyda’r Brifysgol Agored

Mae Joanne Davies, sy’n fam i dri, yn dilyn llwybr gyrfa ei breuddwydion i fod yn athrawes drwy astudio ar gyfer BA mewn Addysg yn y Brifysgol Agored yng Nghaerdydd.

Mae Joanne, sy’n 43 oed, wedi ysu am fod yn athrawes ers iddi fod yn yr ysgol gynradd a chael ei hysbrydoli gan ei athro ei hun.

Ers dechrau ei gradd yn 2018 sy’n rhan-amser dros 6 blynedd, mae Joanne hefyd wedi gweithio mewn ysgol gynradd leol i ennill profiad ystafell ddosbarth gwerthfawr. Mae’n mwynhau gweithio gyda dosbarthiadau Cyfnod Sylfaen ac yn edrych ymlaen at fod yn athrawes ei hun ar ôl graddio.

Mae’r cwrs yn y Brifysgol Agored yn para 17 awr yr wythnos ac mae Joanne yn astudio yn bennaf fin nos ac ar benwythnosau o amgylch ymrwymiadau teulu.

Eglurodd Joanne:

“Mae fy nghwrs wedi agor fy llygaid ac rwy’n mwynhau gallu mynd â’r hyn rydw i wedi ei ddysgu i’r ystafell ddosbarth lle rwy’n gweithio.

“Rwy’n astudio yn bennaf ar benwythnosau gan fod yr wythnosau yn brysur gyda’r teulu a’m gwaith. Rwy’n gallu cau fy hun i ffwrdd tra bod y plant yn gwneud eu pethau eu hunain. Maen nhw’n gwybod i beidio tarfu arna i pan rydw i yn gwisgo fy nghlustffonau ac yn gorfod gweithio!

“Bydd yn talu ar ei ganfed yn y diwedd gan fy mod wedi bod eisiau bod yn athrawes ers pan oeddwn i’n ifanc. Mae’n gyffrous iawn gwybod fy mod ar y llwybr iawn i gyrraedd lle rydw i am ei gyrraedd.”

Am bob blwyddyn o’i gradd, mae Joanne yn derbyn grant o £3,000 tuag at ei chostau byw ynghyd â benthyciad o £1,008 tuag at ei ffioedd dysgu bob blwyddyn. Heb y cymorth ariannol hwn, ni fyddai Joanne wedi gallu mynd i’r brifysgol.

Aeth ymlaen:

“Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod cymaint o gymorth ar gael i astudio yn y brifysgol. Dim ond pan ddywedodd ffrind wrtha i y gallwn i wneud cais am grant i fy helpu gyda chostau byw y dechreuais edrych i mewn i’r peth. Doedd gen i ddim byd pan ddechreuais arni - dim gliniadur na llyfrau - felly mae’r cymorth ariannol rydw i wedi’i dderbyn wedi bod yn gwbl hanfodol. Heb gymorth, byddwn i wedi bod yn gaeth i’r un bywyd ag oedd gen i gynt.”

Mae merch Joanne, sy’n 15 oed, yn awyddus i ddilyn ôl traed ei mam a bod yn athrawes ar ôl gorffen ei hastudiaethau.

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio