Neidio i'r prif gynnwy
Ilan Wyn Davies

Peiriannydd yn croesawu pecyn cymorth newydd i fyfyrwyr o Gymru

Llwyddodd Ilan Wyn Davies, 22 oed, o’r Bala, Gwynedd, i oresgyn dyslecsia gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg Electroneg. Dewisodd Brifysgol Bangor gan fod ganddyn nhw ganolfan ddyslecsia sy’n cynnig sesiynau cymorth astudio un i un.

Roedd cwrs gradd Ilan yn gyfuniad o gymwysterau israddedig ac ôl-raddedig, a olygai na wnaeth raddio ar ôl tair blynedd, ond yn hytrach parhau i ennill cymwysterau Meistr. Felly, roedd angen i Ilan dalu am bedair blynedd o addysg uwch.

Meddai Ilan:

“Fe ges i’r benthyciad myfyrwyr mwyaf oedd ar gael i mi. Fe drïais i dorri costau: bues i’n byw mewn neuaddau preswyl am ddwy flynedd gynta’r radd, a helpodd i leihau costau byw. Ac fe wnes i ystyried yr opsiwn rhataf pan symudais i lety preifat yn y drydedd flwyddyn.

Ydy, mae prifysgol yn costio arian, ond dylai’ch penderfyniad i fynd i brifysgol neu beidio ddibynnu ar beth hoffech chi ei gael o’r profiad. I fi, roedd yn fater o gael gradd dda a chael profiadau newydd. Fe wnes i ffrindiau oes, a chefais gyfle i fynd i Japan ar interniaeth dri mis dros yr haf gyda’r cwmni electroneg Hitachi G.E.

Fe wnaeth y brifysgol roi cyfle i mi. Dydy o ddim byd i’w wneud gyda’ch cefndir ariannol chi, ond yn hytrach eich angen a’ch penderfyniad i lwyddo. Mae’r cymorth ariannol sydd ar gael yn golygu nad yw arian yn rhwystr – mater i chi ydi o.”

I’w dad mae’r diolch am ei benderfyniad i feithrin gyrfa mewn peirianneg, yn ôl Ilan.

Meddai:

“Pan oeddwn i’n blentyn, cafodd fy nhad ei barlysu o’r gwddw i lawr wrth chwarae rygbi. Roedd yn foi ymarferol dros ben, yn gweithio fel ffermwr, coetmon a weldiwr. Adeg damwain dad, doedd dim llawer o ddyfeisiau electronig ar gael i’w helpu, ac roeddwn i’n awyddus i wneud bywyd yn haws iddo – rhywbeth wnaeth ysbrydoli fy niddordeb mewn peirianneg electronig.”

Ar ôl graddio ym mis Gorffennaf 2017, mae Ilan bellach yn cyfuno byd gwaith ag astudiaethau pellach. Mae wedi dechrau ar raglen PhD tair blynedd ar y cyd Prifysgol Bangor a CreoMedical, cwmni dyfeisiau meddygol o Gas-gwent, Sir Fynwy.

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio