Straeon addysg uwch: Elin o Gaerwys
Pecyn cyllid myfyrwyr yn helpu myfyriwr o Sir y Fflint i astudio cwrs ei breuddwydion yng Nghaergrawnt
Mae Elin Evans, 18 oed o Gaerwys ger yr Wyddgrug, yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf cwrs gradd Meistr integredig pedair blynedd mewn peirianneg ym Mhrifysgol Caergrawnt.
Meddai Elin:
“Wrth wneud cais, doeddwn i heb feddwl llawer am oblygiadau ariannol mynd i brifysgol. Wrth gwrs, dewisais Gaergrawnt oherwydd ei bri academaidd a’r ffaith y byddai’n fy rhoi ar ben ffordd o ran fy ngyrfa i’r dyfodol, ond mewn gwirionedd, wnes i ddim meddwl mai dyma un o ardaloedd cyfoethoca’r wlad! Mae popeth mor ddrud!”
Roedd gan Elin ddiddordeb erioed mewn mathemateg a ffiseg yn yr ysgol, ond roedd hi am ddilyn cwrs lle gallai ddefnyddio ei sgiliau academaidd i wneud rhywbeth gwerth chweil.
Meddai Elin:
“Wnes i ddim sylweddoli pa mor hael oedd y cynnig tan i mi sôn wrth fy ffrindiau newydd amdano yng Nghaergrawnt. Yn ogystal â’r arian tuag at fy ffioedd dysgu, sy’n cael ei dalu’n syth i’r brifysgol, dwi hefyd yn cael £3,000 y tymor i helpu gyda chostau byw, sy’n gwneud byd o wahaniaeth.
Dwi mor ddiolchgar ’mod i wedi gallu dod i’r brifysgol arbennig hon ac astudio cwrs wrth fy modd, heb orfod dibynnu ar Mam a Dad i dalu am y cwbl.”
Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol
O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio