Neidio i'r prif gynnwy
Elen from Anglesey

Mae Elen Jones, sy’n 20 oed ac o Ynys Môn, yn astudio am radd yn y Gymraeg a'r Cyfryngau er mwyn helpu i roi ei gyrfa ar ben ffordd.

Er gwaetha'r pandemig, roedd Elen yn benderfynol o fynd i'r brifysgol i gael gradd a chael blas ar fyw oddi cartref. 

Meddai Elen:

“Doedd fy mlwyddyn gyntaf yn y brifysgol ddim cweit yr hyn roeddwn wedi’i ddisgwyl gan mai dysgu ar-lein wnes i’n bennaf, ond dw i'n dal wedi llwyddo i gael hwyl a chyfarfod pobl newydd. Wrth inni symud ymlaen i'r ail flwyddyn, gobeithio y bydd digon o gyfleoedd i fynd allan mwy a chymdeithasu gyda rhagor o bobl, ond heb os, mae wedi bod yn werth chweil hyd yma.

“Dwi'n teimlo'n angerddol iawn dros aros yma yng Nghymru i weithio ym myd y cyfryngau ar ôl gorffen. Hoffwn fod yn newyddiadurwr neu'n gyflwynydd teledu. Bydd cael gradd yn fy helpu i ennill y cymhwyster sydd ei angen arnaf i ymuno â'r diwydiant, ond mae'n golygu mwy na'r cwrs yn unig - roeddwn hefyd am fynd i'r brifysgol i gwrdd â phobl ac ehangu fy opsiynau.

“Mae mynd i'r brifysgol wedi rhoi cyfle i mi fyw yn rhywle newydd, i ffwrdd o 'nghynefin, sydd wedi helpu i fagu annibyniaeth ac agor fy llygaid i bethau newydd."

Derbyniodd Elen gymysgedd o grantiau a benthyciadau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru i dalu ei chostau byw yn y brifysgol, ac mae'n gyfforddus o wybod na fydd dechrau talu'r benthyciad tan ar ôl iddi ddechrau ennill cyflog uwchlaw'r trothwy. Meddai Elen:

“Yn bersonol, wnaeth arian ddim effeithio ar fy mhenderfyniad i fynd i'r brifysgol. Roeddwn i'n gwybod y byddai cymorth ar gael i'm helpu wrth astudio.  Cefais gymorth ariannol tuag at fy nghostau byw, sef grant o £1,000, ynghyd â benthyciad sy'n talu am fy nghostau llety yn ogystal â bwyd, biliau ac eitemau angenrheidiol ar gyfer y cwrs.

“Dwi'n gwybod y bydd yn rhaid i mi ad-dalu'r benthyciad pan fyddaf yn gorffen, ond dydi hynny ddim yn fy mhoeni. Dim ond pan fydda i'n ennill digon y byddaf yn ei dalu'n ôl, felly unwaith y byddaf wedi setlo mewn swydd byddaf yn gallu ad-dalu. Mae hyn wedi fy helpu i fwynhau profiad y brifysgol llawer mwy gan nad ydw i'n gorfod meddwl am arian. Yn hytrach, dwi'n canolbwyntio ar fy nghwrs ac yn mwynhau'r holl brofiad ac yn edrych ymlaen at wireddu fy mreuddwyd o weithio yn y cyfryngau."

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio