Neidio i'r prif gynnwy
Dylan from Bangor

Mae’r cymorth cyllid ges i wedi bod yn help enfawr ac wedi golygu nad oes angen i mi boeni am arian wrth i mi astudio. Daw’r rhan fwyaf o’m cymorth drwy grantiau, ond mae gen i fenthyciad myfyriwr. Mae’n gysur gwybod na fyddai’n dechrau ad-dalu hyd nes mod i’n ennill ac yn gallu fforddio gwneud hynny.

Yn ôl Dylan Jones, 21, o Fangor, dydy’r pandemig ddim yn amharu ar ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, er gwaethaf y newidiadau i ddysgu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae Dylan ar flwyddyn olaf cwrs Astudiaethau Ieuenctid a Llwythol, ac mae’n gobeithio mynd ymlaen i gwblhau gradd Meistr ac yna dod yn athro.

Medd Dylan:

“Mae’r flwyddyn ddiwethaf yn amlwg wedi bod yn dra gwahanol i’r profiad prifysgol roeddwn i wedi’i gael cyn y pandemig, ond dwi wedi bod yn lwcus iawn i fod yn byw gyda grŵp agos o ffrindiau. Rydyn ni’n dal i chwerthin a chymdeithasu gyda’n gilydd, felly mae hynny wedi’n helpu ni i gyd i ymdopi.”

Fel llawer o fyfyrwyr, mae’r newid o ddysgu wyneb yn wyneb i ddysgu ar-lein wedi bod yn heriol i Dylan, ond mae wedi llwyddo i addasu. Dydy’r newid ddim wedi gwneud iddo beidio ag ystyried astudio yn y dyfodol, ac mae wedi gweld rhai manteision.

Ychwanega Dylan:

“Yn bendant, mae manteision ac anfanteision gyda dysgu ar-lein. Ar y naill law, mae cael darlith am naw y bore yn golygu y gallwch chi aros yn y gwely’n hirach! Fodd bynnag, fel pawb, dwi’n dechrau colli’r seminarau wyneb yn wyneb, achos mae’n gallu bod yn anoddach cael trafodaeth naturiol dros alwadau fideo. Er nad yw wedi bod yn berffaith, rydyn ni i gyd yn gwneud y gorau ohoni ac yn dal i ddysgu er gwaethaf y pellter.”

O ran cyllid myfyrwyr, mae Dylan wedi gweld y gefnogaeth barhaus drwy gydol ei astudiaethau yn rhan hanfodol o’i fywyd, a dydy e ddim yn ystyried ei fenthyciad yn ‘ddyled’.

“Llwyddais i dderbyn grant o £7,000 gan Gyllid Myfyrwyr Cymru sy’n helpu gyda fy nghostau byw, a dwi’n gwybod nad oes angen i mi boeni am dalu hynny’n ôl. Dwi’n derbyn hynny bob blwyddyn, yn ogystal â benthyciad o £2,000 y bydd angen i mi ei ad-dalu yn y pen draw. Dydy’r ad-daliadau ddim yn rhywbeth dwi’n poeni amdanyn nhw o gwbl. Mae’n debyg i dalu contract ffôn a dwi’n gwybod na fydd angen i mi dalu dim nes y bydda i’n dechrau ennill mwy na throthwy ad-dalu’r DU. Unwaith y bydda i’n dechrau ad-dalu’r benthyciad, dwi’n gwybod y galla’i fforddio gwneud hynny.

“Dydw i ddim yn meddwl amdano fel ‘dyled’ arferol. Dydw i byth yn mynd i orfod poeni am gosbau os nad ydw i’n talu’r cyfan yn ôl, a bydd yn cael ei dynnu allan o’m henillion yn awtomatig, felly does dim angen i mi drefnu unrhyw beth.

“Mae’r cymorth cyllid ges i wedi bod yn help enfawr ac wedi golygu nad oes angen i mi boeni am arian wrth i mi astudio o gwbl.”

Paid â gadael i arian dy atal rhag mynd i Brifysgol

O fis Medi 2018 bydd israddedigion cymwys sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf (llawn-amser a rhan-amser) yn derbyn cymorth cynhwysfawr tuag at gostau byw bob dydd yn ystod y tymor, lle bynnag yn y DU y dewisant astudio