Neidio i'r prif gynnwy

Mae Pageant Media yn ddarparwr annibynnol byd-eang o wybodaeth ac ymchwil ar gyfer busnesau yn y sector gwasanaethau ariannol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan Pageant Media enw da yn rhyngwladol o fewn y diwydiant gwasanaethau ariannol a phroffesiynol. Felly, mae denu’r buddsoddiad hwn i Gaerdydd yn gymeradwyaeth gref o statws cynyddol y Ddinas-ranbarth fel lleoliad sy’n denu’r sector. 

Dewisodd Pageant Media Gaerdydd ar gyfer yr ehangu hwn ar ôl ymchwilio’n drylwyr i nifer o leoliadau posibl yn y DU gan ystyried yr arbenigedd a’r doniau sydd i’w cael ynddynt. 

Mae’r buddsoddiad i greu canolfan casglu data ac ymchwil yn cynnwys £300,000 o Gynllun Cyllid Busnes Llywodraeth Cymru a bydd yn creu 25 o swyddi i ddechrau, gan godi i 60 o swyddi dros gyfnod o dair blynedd.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Dw i wrth fy modd bod y cwmni wedi dewis Caerdydd o blith nifer o leoliadau eraill yn y DU. Hon fydd y ganolfan gyntaf o’i math yng Nghymru a’r union fath o fuddsoddiad uchel ei broffil a’i ansawdd rydym yn dymuno ei ddenu a fydd yn creu amrywiaeth o swyddi lefel gradd.

“Mae’r penderfyniad i sefydlu’r ganolfan ymchwil busnes hon o’r radd flaenaf yn hwb mawr ar gyfer ein sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol sy’n tyfu’n gyflym. Mae’n dangos hyder mawr yn yr hyn y gall y ddinas ei gynnig i fusnesau sy’n gweithio yn y maes hwn."

Yn Llundain mae prif swyddfa a phencadlys Pageant Media, ond mae gan y cwmni nifer o swyddfeydd eraill ledled y byd. Ceir ei brif ganolfannau yng nghanolfannau ariannol Efrog Newydd, Frankfurt a Hong Kong sy’n gwasanaethu economi wybodaeth sy’n gweithio ddydd a nos.

Dywedodd Charlie Kerr, Prif Weithredwr Pageant Media: 

“Rydyn ni’n teimlo’n gyffrous am sefydlu’r ganolfan ymchwil newydd hon yng Nghaerdydd. Mae’n dyst i ymrwymiad a lefel addysg uwch gweithlu’r ddinas a hefyd i’r sefydliadau addysg o’r radd flaenaf sydd yn y rhanbarth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y busnes yn tyfu ymhellach ac at  barhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.”

Mae Pageant Media yn gwmni arloesol ac entrepreneuraidd sy’n arweinydd yn y farchnad ac yn darparu portffolio o gynhyrchion gwybodaeth arbenigol ar gyfer amrywiaeth o sectorau gwasanaethau ariannol gan gynnwys cronfeydd rhagfantoli, cronfeydd cydfuddiannol, eiddo tirol ac yswiriant. Mae’n darparu gwybodaeth am y farchnad ar gyfer banciau, cwmnïau cyfrifyddu, cwmnïau yswiriant a chwmnïau rheoli asedau.

Drwy danysgrifiadau ac adnewyddiadau, mae Pageant Media yn berchen ar, ac yn rheoli, rwydwaith o gynhyrchion a gwasanaethau gwybodaeth fyd-eang  i helpu aelodau i reoli eu busnesau a gwneud penderfyniadau buddsoddi gwybodus. 

Mae’n darparu dadansoddiadau byd-eang ddydd a nos ac mae’n cynnig cyfleoedd i aelodau rwydweithio er mwyn canfod y tueddiadau ariannol diweddaraf a chydweithredu a chytuno o ran gwneud penderfyniadau ac arloesi.

Mae’r busnes yn ychwanegu at y cynhyrchion a’r gwasanaethau a gynigir yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn darparu atebion o ansawdd da sy’n berthnasol i bob un o’r sectorau y mae’n ei wasanaethu. Bydd y ganolfan ymchwil newydd yng Nghaerdydd yn bodloni ei ofynion yn awr ac yn y dyfodol.

Sefydlwyd y busnes ym 1998 gan y Prif Swyddog Gweithredol, Charlie Kerr, cyn-gyfarwyddwr cyhoeddi Business Age a chyn-gyfarwyddwr marchnata Sunday Business. Gyda dim ond dau aelod o staff i ddechrau, mae gan y cwmni bellach 160 o aelodau o staff yn y DU a 40 o aelodau o staff dramor. Gyda’i gilydd, maent yn siarad 17 o ieithoedd gwahanol. 

Ar hyn o bryd mae ganddo 2500 o aelodau y mae 14,200 ohonynt mewn 108 o wledydd gwahanol. 

Mae Pageant Media eisoes wedi cynnal nifer o gyfarfodydd i drafod sgiliau a recriwtio â Phrifysgol Caerdydd sydd ag un o ysgolion busnes mwyaf blaenllaw yn y DU. Mae gan y brifysgol arbenigedd mewn bancio a chyllid ac un o gyfadrannau ieithoedd modern mwyaf yn y DU.