Neidio i'r prif gynnwy

Bydd 36 o brosiectau cymunedol ledled Cymru yn manteisio ar gronfa o £3.7 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau i sefydliadau brynu a gwella adeiladau a phrosiectau sy’n cael eu rhedeg gan y gymuned ac sy’n cael llawer o ddefnydd.

Mae’r cyllid yn cael ei ddyrannu ar ddwy lefel; grantiau bach o lai na £25,000 a grantiau mwy o hyd at £250,000, ac mae modd gwneud ceisiadau gydol y flwyddyn.

Mae 157 o brosiectau wedi cael eu hariannu ers lansio’r rhaglen yn 2015 ac mae’r cylch diweddaraf hwn yn codi cyfanswm y grantiau a roddwyd i £28.2 miliwn.

Mae cyhoeddiad heddiw o £3.7 miliwn mewn grantiau yn golygu y bydd gwerth bron i £9 miliwn o brosiectau yn cael eu cyflawni ledled y wlad. 

Yn y De, dyma’r prosiectau a gafodd £25,000 neu lai:

  • Clwb Ieuenctid Bechgyn a Merched Ynys-hir – gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol;
  • Ffrindiau Parc Aberdâr – creu pad sblasio/sbrencio o bwll padlo sy’n segur ar hyn o bryd;
  • Girl Guides Porthcawl – ailwampio eu Cwt Geidiau;
  • Cymorth i Ferched Rhondda Cynon Taf – creu swyddfa yn Aberdâr;
  • Canolfan Gymunedol Swffryd, Crymlyn – gwella mynediad i’r anabl;
  • Horn Development Association, Caerdydd – adnewyddu’r cawodydd a’r toiledau yn eu clwb ieuenctid sydd newydd ailagor;
  • Clwb pêl-droed Abertillery Bluebirds – adnewyddu eu cegin a’u toiledau;
  • Partneriaeth Cymunedau Cwm Aber – rhoi wyneb newydd ar y pad sblasio/sbrencio;
  • Eglwys Fedyddwyr Bethany, Casnewydd – atgyweirio’r to a difrod dŵr i’w hystafell gyfarfod;
  • Eglwys Fedyddwyr Hope, Pen-y-bont ar Ogwr – chwalu’r toiledau y tu allan a chreu cyfleusterau hygyrch y tu mewn.

 Dyma’r prosiectau a gafodd hyd at £250,000:

  • Eglwys Fedyddwyr Aenon, Treforys – adnewyddu eu cyfleuster, dymchwel adeilad parod a chodi adeilad arall yn ei le;
  • Amman Valley Trotting Club – creu cegin a thoiledau hygyrch yn ei sgubor ddigwyddiadau er mwyn i’r gymuned allu gwneud mwy o ddefnydd ohoni;
  • Cylch Meithrin Seren Fach, Aberpennar – ailwampio ei adeilad presennol er mwyn cynyddu nifer y lleoedd gofal plant a gynigir;
  • Eglwys Glenwood, Llanedeyrn – datblygu canolfan iechyd a llesiant i’r gymuned leol;
  • Canolfan Gymunedol Rhiwderyn, Casnewydd – atgyweirio y tu allan i’r adeilad er mwyn i’r gymuned allu defnyddio rhannau o’r adeilad nad oes modd eu defnyddio ar hyn o bryd;
  • ProMo Cymru, Institiwt Glynebwy - gwella’r adeilad Gradd II, gan gynnwys atgyweirio’r to a diweddaru’r system drydanol;
  • Panteg House Employees Club – creu cyfleuster dan do, aml-gamp yn lle dau gwrt tennis segur;
  • Yr Hen Ysgol, Llys-faen – ailwampio adeilad yr Hen Ysgol a chodi adeilad arall yn lle’r adeilad dros dro sy’n gwasanaethu fel llyfrgell ac ystafell gyfarfod i’r gymuned.

Yr wythnos hon, aeth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt i ymweld ag un o’r prosiectau cymunedol yn y De sydd wedi elwa ar y rhaglen yn ddiweddar.

Dyrannwyd £100,000 i’r Hen Ysgol yn Llys-faen yng ngogledd Caerdydd tuag at ailwampio ac ymestyn yr ysgol, sy’n 106 mlwydd oed, gan ei gwneud yn bosibl codi adeilad newydd yn lle’r adeilad dros dro sy’n gwasanaethu fel llyfrgell ac ystafell gyfarfod i’r gymuned ar hyn o bryd. 

Dywedodd Cadeirydd Ymddiriedolwyr yr Hen Ysgol, David Jones:

Heb y grant hwn oddi wrth Lywodraeth Cymru, byddai’n gwaith dros yr 11 mlynedd diwethaf i weddnewid Hen Ysgol Llys-faen wedi gorfod cael ei ohirio ymhellach eto. Nawr, rydyn ni’n gallu dweud yn bendant y bydd y gwaith ar y datblygiad hirddisgwyledig hwn yn dechrau yn 2020.

Bydd yr Hen Ysgol yn Llys-faen yn newid i fod yn ganolfan fodern a hyblyg –  bydd yn ganolbwynt i’r gymuned, sy’n arbennig o bwysig gan y bydd y boblogaeth leol yn cynyddu’n aruthrol dros y blynyddoedd nesaf.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:

Mae ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gyfle gwych sy’n cefnogi prosiectau lleol i esblygu a thyfu er budd eu hardal a’i hanghenion.

“Mae cynnig grantiau fel y rhain i brosiectau a arweinir gan y gymuned yn helpu i wella cyfleusterau y mae gwir eu hangen ac sy’n cael llawer o ddefnydd. Mae’r rhain yn cynnwys unrhyw beth o ganolfannau cymunedol a lleoliadau crefyddol i fannau ar gyfer cymryd rhan yn y celfyddydau neu chwaraeon.

Mae’n bosibl gwneud cais i’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol gydol y flwyddyn a gall sefydliadau ddarganfod mwy o wybodaeth drwy chwilio am y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol ar llyw.cymru