Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

1.1    Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheoliadau ailgylchu yn y gweithle y disgwylir iddynt, yn amodol ar ewyllys y Senedd, ddod i rym ar 6 Ebrill 2024.  Byddant yn ei gwneud yn ofynnol i bob safle annomestig (gan gynnwys busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector) wahanu deunyddiau ailgylchadwy allweddol yn y ffordd y mae'r mwyafrif o ddeiliaid tai Cymru eisoes yn ei wneud.

1.2    Mae'r rheoliadau yn cynnig y canlynol:

1.2.1    Mae'r gofynion gwahanu yn: 

  • Ei gwneud yn ofynnol i feddianwyr safleoedd annomestig (gan gynnwys busnesau, elusennau a chyrff yn y sector cyhoeddus) gyflwyno deunyddiau ailgylchadwy penodol i'w casglu ar wahân i'w gilydd ac ar wahân i wastraff gweddilliol; 
  • Ei gwneud yn ofynnol i'r rhai sy'n casglu'r deunyddiau ailgylchadwy penodedig eu casglu ar wahân i ddeunyddiau ailgylchadwy eraill;
  • Ei gwneud yn ofynnol i'r deunyddiau ailgylchadwy a gasglwyd gael eu cadw ar wahân a pheidio â chael eu cymysgu.

1.2.2    Gwaharddiadau o ran peiriannau llosgi a safleoedd thirlenwi

  • Gwahardd deunyddiau ailgylchadwy penodol a gesglir ar wahân o safleoedd annomestig a domestig rhag mynd i beiriannau llosgi a safleoedd tirlenwi; 
  • Gwahardd pob gwastraff pren o safleoedd annomestig a domestig rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

1.2.3    Gwaharddiad ar gael gwared ar wastraff bwyd i garthfosydd o safleoedd annomestig 

  • Cychwyn gwaharddiad ar gael gwared ar wastraff bwyd i garthffosydd o safleoedd annomestig.

1.3    Bydd angen i’r deunyddiau canlynol gael eu gwahanu ar gyfer eu casglu, a'u casglu ar wahân a pheidio â chael eu cymysgu wedi hynny:

  • gwydr;
  • papur a cherdyn;
  • metelau, plastig a chartonau 
  • bwyd a gynhyrchir gan safleoedd sy’n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd mewn wythnos;
  • cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach sydd heb eu gwerthu (sWEEE); 
  • tecstilau sydd heb eu gwerthu.

Yr hirdymor

1.4    Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), mae'r diwygiadau hyn yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol hirdymor Cymru. O ystyried yr argyfwng hinsawdd, bydd y rheoliadau hyn yn cefnogi gweithleoedd i weithredu drwy sicrhau bod deunyddiau yn cael eu defnyddio cyhyd â phosibl, sydd yn ei dro yn rhan allweddol o'r symud tuag at economi gylchol.

1.5    Er bod gweithleoedd wedi mynegi y gallai gweithredu'r rheoliadau hyn arwain at dreuliau ychwanegol ar y dechrau i fusnesau a sefydliadau er mwyn darparu ar gyfer gwahanu deunyddiau ailgylchu, bydd y diwygiadau nid yn unig yn cefnogi camau gweithredu ar yr argyfwng natur a'r hinsawdd, ond byddant yn helpu i sicrhau cyfleoedd economaidd ac arbedion hirdymor wrth i'r hyn a arferai fod yn ddeunydd gwastraff gael ei gadw fel nwydd, gyda manteision hirdymor pellach o ran gwytnwch cadwyni cyflenwi.

1.6    Fel y gwelwyd gydag ailgylchu mewn cartrefi yng Nghymru, wrth i fusnesau a sefydliadau wahanu eu gwastraff i gynwysyddion gwahanol, bydd hyn yn tynnu sylw at faint o bob math o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu, sy'n annog camau gweithredu i leihau'r gwastraff hyn. Mae hyn yn helpu busnesau i arbed arian ar gostau casglu a gwaredu ac yn gwella effeithlonrwydd adnoddau.

Atal

1.7    Mae cyfraddau ailgylchu trefol wedi tyfu i dros 65% yn 2021-22, gan gyfrannu arbedion o tua 400,000 o dunelli o allyriadau CO2 y flwyddyn. Mae pob cartref yng Nghymru yn chwarae ei ran, gan ddangos sut y gall camau bach arwain at newid sylfaenol. 

1.8    Bydd y diwygiadau'n cynyddu ansawdd a chyfradd ailgylchu deunyddiau gwastraff a gynhyrchir mewn safleoedd annomestig yng Nghymru, a thrwy wneud hynny, byddant yn cefnogi ymrwymiadau Cymru i fod yn ddiwastraff ac allyriadau carbon sero net erbyn 2050. Yn ogystal, bydd yn cefnogi ein cynnydd tuag at economi fwy cylchol ac yn sicrhau manteision cadarnhaol o ran yr economi a swyddi. 

1.9    Drwy fod yn rhagweithiol byddwn yn:

  • darparu mwy o sicrwydd o gyflenwi adnoddau i'n sector gweithgynhyrchu; 
  • cyflymu'r cynnydd tuag at economi gylchol i Gymru drwy fusnesau gweithgynhyrchu Cymru yn defnyddio deunyddiau ailgylchadwy a gesglir yng Nghymru;
  • cynyddu lefel yr ailgylchu o safleoedd annomestig;
  • lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;
  • lleihau llygredd.

1.10    Mae economi gylchol, sy'n symud oddi wrth ddefnydd untro, yn lleihau ein hallyriadau, ac yn helpu i atal niwed pellach i amgylchedd ac economi Cymru drwy wella gwytnwch y gadwyn gyflenwi. Mae hyn oherwydd bod deunyddiau a gesglir yn cael eu hailgylchu yn ôl i'r economi sy'n lleihau ein dibyniaeth ar ddeunyddiau crai a gaiff eu hechdynnu o dramor. Mae hyn yn ei dro yn lleihau'r niwed cysylltiedig i natur, bioamrywiaeth a'r amgylchedd yn fyd-eang a achosir gan echdynnu a phrosesu'r deunyddiau crai.
 

Integreiddio

1.11    Mae'r diwygiadau hyn yn rhan allweddol o'r ffordd yr ydym yn cyflawni ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu i adeiladu economi gryfach a gwyrddach yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol yn ogystal â bod yn elfen hanfodol o gamau gweithredu i ddatgarboneiddio ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur.  Drwy wneud hynny, maent yn cydnabod yr angen i integreiddio camau gweithredu economaidd ac amgylcheddol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur.

1.12    Drwy gychwyn y rheoliadau hyn, byddwn yn sicrhau bod y systemau ar gyfer ailgylchu mewn cartrefi a gweithleoedd yn cyd-fynd yn agosach. Er mwyn cyflawni hyn, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fydd yn gyfrifol am reoleiddio'r gofynion gwahanu ac eithrio'r gwaharddiad ar waredu gwastraff bwyd i garthffosydd, a fydd yn cael ei reoleiddio gan Awdurdodau Lleol.   Bydd y ddau yn darparu canllawiau a gwybodaeth i'r rhai yr effeithir arnynt, gan gynnwys dulliau ac adnoddau ar y gyfundrefn orfodi a fydd yn cael eu cyflwyno i sicrhau bod pawb yr effeithir arnynt yn ymwybodol o'r gofynion ac yn cydymffurfio. Fel y gwelwyd gydag ailgylchu mewn cartrefi, rhaid i weithleoedd gydymffurfio â'r rheoliadau drwy wahanu eu gwastraff i  gynwysyddion gwahanol, a thrwy wneud hynny byddant yn cael eu hannog ymhellach i gymryd camau gweithredu i leihau eu gwastraff.

Cydweithio a chynnwys eraill

1.13    Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ac ymgysylltu'n helaeth ynghylch y diwygiadau hyn ac wedi parhau i ymgysylltu'n rheolaidd â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol (gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Leol) wrth ddatblygu'r polisi a'r rheoliadau sylfaenol. Cadarnhaodd arolwg cynrychioliadol diweddar gefnogaeth gyhoeddus eang i'r diwygiadau (sef 77% o'r ymatebwyr), gan gynnwys ymhlith y rhai sy'n gwneud penderfyniadau mewn sefydliadau a fydd yn cael eu heffeithio gan y rheoliadau hyn. [2]  Mae cydweithio â rhanddeiliaid wedi rhoi cyfle iddynt roi mewnbwn hanfodol ar y dull gweithredu, cyflwyno ffrydiau gwastraff penodol yn raddol, safbwyntiau ar y dyddiad dod i rym a chymesuredd y gyfundrefn orfodi. Er enghraifft:

  • 2009 Ymgynghoriad Tuag at Ddyfodol Diwastraff: Nod yr ymgynghoriad hwn oedd sicrhau lefel uchel o ailgylchu a sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ailgylchadwy yn cael eu gwahanu yn y tarddiad fel eu bod yn lân ac o werth uchel.
  • 2013-14 – Ymgynghoriad Papur Gwyn Bil yr Amgylchedd: yn cynnwys ymgynghoriad ar y ddyletswydd gwahanu.
  • 2019-2020 – Ymgynghoriad Mwy Nag Ailgylchu, Strategaeth Economi Gylchol Cymru: Roedd yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys yr ymrwymiad i'r diwygiadau gyda thua 40 o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb wedi'u teilwra i gynulleidfaoedd penodol ac ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol i hyrwyddo mwy o ailgylchu ym mhob lleoliad annomestig. 
  • 2019 Ymgynghoriad Cynyddu Ailgylchu ymhlith Busnesau yng Nghymru: Nododd yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn yr opsiwn polisi a ffefrir i gyflwyno offerynnau statudol (OSau) i gynyddu ailgylchu o safleoedd annomestig, fel busnesau a'r sector cyhoeddus yng Nghymru. [3]
  • 2022-23 Ymgynghoriad ar Ddeddfwriaeth Ailgylchu yn y Gweithle: Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar y cod ymarfer drafft a'r cynigion gorfodi, cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac ymgyngoriadau cyhoeddus â gweithleoedd. Nododd adborth o'r ymgyngoriadau gefnogaeth gadarnhaol ar gyfer cyflwyno'r rheoliadau hyn.

 [2]  Llywodraeth Cymru, Agweddau’r cyhoedd ar y newidiadau i ailgylchu yn y gweithle a’r gwaharddiad ar blastigau untro (crynodeb), 2023.

 [3] Llywodraeth Cymru, Ymgynghoriad – crynodeb o’r ymatebion. Cynyddu ailgylchu ymhlith busnesau yng Nghymru, 2021.

Effaith

1.14    Mae'r argyfyngau hinsawdd a natur yn effeithio ar bawb, ond bydd yr effeithiau negyddol yn cael eu teimlo'n anghymesur gan grwpiau penodol fel pobl hŷn, pobl anabl, pobl ifanc ac aelwydydd incwm isel. [4

Bydd gweithredu'r ddeddfwriaeth yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar ein hamgylchedd, ein hiechyd a'r economi yn y tymor byr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

1.15    Yn ei asesiad o'r Glasbrint Casgliadau, canfu Eunomia [5] fod cael gafael ar ddeunyddiau o ansawdd uchel drwy gasglu gwastraff ar wahân yn debygol o gefnogi’r broses o gadw deunyddiau o fewn economi Cymru ac economi'r DU – gan arwain at fanteision cymdeithasol ac economaidd yn unol ag amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y diwygiadau hyn hefyd yn arwain at y manteision canlynol:

  • Creu cyfleoedd ar gyfer swyddi a hyfforddiant yn y sector rheoli gwastraff.
  • Ochr yn ochr â chost ynni, mae cost deunyddiau yn effeithio ar yr argyfwng costau byw, ac felly bydd cadw gafael ar ddeunyddiau o ansawdd uchel a all fynd yn ôl i economi Cymru yn fwy effeithiol yn ffordd anhepgor y gallwn wella gwytnwch ein cadwyni cyflenwi domestig sy'n cyflenwi deunyddiau allweddol i fusnesau
  • Disgwylir y bydd mwy o gyfleoedd ar gyfer swyddi sy'n deillio o weithredu'r ddeddfwriaeth o fudd i aelwydydd incwm is. Bydd y manteision ehangach i'r economi yn arwain at fwy o gynaliadwyedd a gwytnwch a fydd yn arwain at effaith gadarnhaol ar aelwydydd incwm isel.

 [4]   “Effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant”, 2021.  

[5]   Joe Papineschi, Emma Tilbrook, a Luke Emery, ‘Review of the Welsh Government Collections Blueprint’, Eunomia, 2016.  

Costau ac Arbedion

1.16    Mae'r dystiolaeth yn dangos y bydd y diwygiadau hyn, yn sicrhau arbedion cyffredinol i economi Cymru, wedi'u modelu i fod yn £186.9 miliwn o werth presennol net (NPV) dros 10 mlynedd – 2024-2033 [6], drwy sicrhau costau uwch ar gyfer deunyddiau o ansawdd uchel a gasglwyd. Bydd y diwygiadau hyn yn sicrhau y gallwn gadw gafael ar gyflenwad gwydn o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu o ansawdd uchel, y gellir eu dychwelyd i'r economi wedyn. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i sicrhau manteision yr economi gylchol a chefnogi gwytnwch busnes drwy bontio i economi wedi’i datgarboneiddio.

1.17    Mae'r gyllideb a ddarperir i gefnogi gweithredu'r rheoliadau yn cynnwys grantiau, cymorth ar gyfer arloesi a sefydliadau partneriaid cyflawni. Mae hyn yn cynnwys ehangu Cronfa’r Economi Gylchol, sef ymrwymiad allweddol yn Mwy nag Ailgylchu a Cymru Sero Net, sy'n cefnogi busnesau i addasu eu prosesau i ddefnyddio mwy o gynnwys wedi'i ailgylchu mewn prosesau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

[6]  Llywodraeth Cymru, Effaith Reoleiddiol Opsiynau i Gynyddu Cyfraddau Ailgylchu Gweithleoedd yng Nghymru, 2023 Tabl 26, Ailgylchu yn y gweithle

Mecanwaith

1.18    Mae'r rheoliadau a'r Cod Ymarfer yn cael eu gosod gerbron y Senedd yn ystod tymor yr hydref 2023 a bydd y dyletswyddau'n dod i rym o 6 Ebrill 2024 ymlaen.

1.19    Caiff canlyniadau'r rheoliadau eu monitro drwy gyfuniad o ddulliau meintiol ac ansoddol, yn dibynnu ar natur y canlyniad ac argaeledd ffynhonnell ddata briodol. O 2025 ymlaen, bydd y system olrhain gwastraff yn cael ei defnyddio fel ffynhonnell ddata sylfaenol i olrhain lefelau ailgylchu ar gyfer gwastraff diwydiannol a masnachol yng Nghymru. 

1.20    Mae ffynonellau data ychwanegol yn bodoli a gellir eu defnyddio yn y cyfamser ac maent yn cynnwys:

  • WasteDataFlow
  • Cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith
  • Arolygon gwastraff ac ailgylchu Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Data ‘ffurflenni safleoedd’ CNC.