Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi dros £5.5 miliwn ar gyfer blaenoriaethau digidol o fewn GIG Cymru.
Bydd y cyllid yn ceisio gwella mynediad at wybodaeth ac yn cyflwyno ffyrdd newydd o ddarparu gofal gyda thechnolegau digidol fel y'u nodir yn strategaeth Iechyd a Gofal Gwybodus 2015.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau'r GIG gan gynnwys Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i flaenoriaethu a chyflymu nifer o raglenni clinigol cenedlaethol allweddol er mwyn sicrhau bod y buddion y cytunwyd arnynt yn cael eu darparu’n brydlon ledled Cymru.
Dyma rai enghreifftiau penodol yn dangos ym mha feysydd y bydd y cyllid hwn yn cael ei wario:
- Porth Clinigol Cymru, sef y prif fan sy’n darparu gwybodaeth i glinigwyr ysbytai. Mae'n tynnu gwybodaeth allweddol ynghyd o'r nifer o systemau a ddefnyddir gan ysbytai, gan ganiatáu i'r clinigydd weld cofnodion claf mewn un lle a defnyddio system gyffredin i gyflawni nifer o dasgau ee gwneud cais am brofion, edrych ar ganlyniadau neu lunio llythyr yn rhoi cyngor wrth ryddhau claf.
- System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru sy'n helpu i ddarparu gwasanaethau integredig ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn galluogi staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i ddefnyddio un system a chofnod gofal electronig a rennir.
- Adolygiad Cymru gyfan o system seiberddiogelwch bob un o sefydliadau'r GIG, gan gydnabod y risg gynyddol sy'n bodoli yn y maes hwn. Bydd yr adolygiad yn helpu i ddatblygu cynlluniau seiberddiogelwch cenedlaethol a lleol.
"Mewn Gwasanaeth Iechyd modern sy'n darparu gofal o'r radd flaenaf yn yr unfed ganrif ar hugain, mae angen cael y systemau technoleg gwybodaeth diweddaraf. Os ydych am gael y dechnoleg orau yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, mae'n rhaid buddsoddi mewn Technoleg Gwybodaeth."