Bydd y DU yn gadael yr UE, ond ni chaiff Llywodraeth y DU ddechrau'r broses ar gyfer 'Brexit' drwy ddiystyru cyfreithiau a chonfensiynau cyfansoddiad Prydain, yn ôl y Cwnsler Cyffredinol.
Drwy gydol y broses, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi cadarnhau na fydd yn gweithredu’n groes i ganlyniad y refferendwm, ond ni fydd ychwaith yn cefnogi safbwynt negodi fydd yn niweidiol i Gymru.
Fis diwethaf, dyfarnodd yr Uchel Lys na chaiff Llywodraeth y DU ddefnyddio uchelfraint y Goron i sbarduno Erthygl 50 o Gytuniad yr Undeb Ewropeaidd, fyddai'n dechrau'r broses o adael yr UE.
Bydd Llywodraeth y DU’n apelio'n erbyn y dyfarniad mewn achos pedwar diwrnod o hyd gerbron y Goruchaf Lys. Mae disgwyl i'r achos ddechrau yfory.
Cadarnhaodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd tîm cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn dadlau y dylai'r Goruchaf Lys gadarnhau dyfarniad yr Uchel Lys.
Yn ystod yr apêl, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r dadleuon canlynol:
- Bydd cyflwyno hysbysiad o dan Erthygl 50 yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a phwerau Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a dylai hyn gael ei awdurdodi gan ddeddfwriaeth sylfaenol;
- Bydd unrhyw addasiad i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol mewn deddfwriaeth gan Senedd y DU yn dod o dan Gonfensiwn Sewel, sy'n golygu y byddai'n rhaid i'r Cynulliad gydsynio i unrhyw newid i'w gymhwysedd deddfwriaethol.
Dywedodd Mick Antoniw:
"Mae pobl y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n parchu'r penderfyniad hwnnw ac ni fyddwn yn gweithredu’n groes i ganlyniad y refferendwm. Er y bydd Brexit yn digwydd, ni chaiff Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddechrau'r broses drwy ddiystyru cyfansoddiad Prydain. Mae'n rhaid iddyn nhw weithredu'n unol â'r gyfraith. Roedd llawer o sôn am 'gymryd yr awenau'n ôl' yn ystod ymgyrch y refferendwm. Nid yw anwybyddu trefniadau llywodraethu'r Deyrnas Unedig yn ddechrau da i'r broses honno.
"Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at newid sylweddol yn setliad datganoli Cymru. Dim ond Senedd y Deyrnas Unedig gaiff wneud y newidiadau hynny, a dylai hynny ddigwydd gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol. Nid oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y pŵer i hepgor y dull pwysig hwn o gynnal trafodaeth rhwng y Cynulliad Cenedlaethol, sydd wedi'i ethol mewn ffordd ddemocrataidd, a Senedd y Deyrnas Unedig drwy ddefnyddio'r uchelfraint yn y modd hwn.
"Yn y Goruchaf Lys, bydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno’r ddadl bod rhaid i'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd gael ei chynnal yn unol â'r gyfraith. Mae hyn yn cynnwys parchu a dilyn trefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig a'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli.
"Dyma pam y bydd tîm cyfreithiol Llywodraeth Cymru’n dadlau y dylid cadarnhau dyfarniad yr Uchel Lys, a bod angen Deddf Seneddol cyn y gall Llywodraeth y Deyrnas Unedig roi hysbysiad o dan Erthygl 50."