Mae Optimum Credit un o gwmnïau benthyciadau ail forgais mwyaf blaenllaw y DU yn ehangu yng Nghaerdydd ac yn creu 23 o swyddi gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Mae’r cwmni wedi datblygu portffolio o fenthyciadau sy’n werth dros £275 miliwn drwy rwydwaith o froceri morgeisi trydydd parti arbenigol ac mae’n cynllunio bellach i ychwanegu cyfleuster manwerthu a fydd yn caniatáu i gwsmeriaid fenthyg arian yn uniongyrchol.
Sefydlwyd Optimum Credit ar ddiwedd 2013 diolch i £600,000 o gyllid busnes oddi wrth Lywodraeth Cymru a chymorth gan Patron Capital Partners, sef cwmni buddsoddi blaenllaw ac un o brif reolwyr eiddo tiriog Ewrop.
Bwriadwyd defnyddio’r arian hwn i greu 44 o swyddi dros bum mlynedd. Mae’r cwmni wedi rhagori ar y targed hwn ac mae’n cyflogi 82 o staff bellach yn ei swyddfeydd yn Dumfries Place.
Mae’r Llywodraeth hefyd yn cyfrannu £140,000 o’i Chronfa Twf a Ffyniant er mwyn creu 23 o swyddi pellach a bydd yn sbarduno, yn ei dro, Patron Capital Partners i fuddsoddi ymhellach.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
“Mae Optimum Credit yn stori wych o ddatblygiad llwyddiannus cwmni yng Nghymru. Mae’r busnes wedi tyfu’n gyflym mewn byr amser i ddatblygu’n un o fenthycwyr mwyaf y DU yn y farchnad ail forgais.
“Mae hyn yn dipyn o gamp yn enwedig gan ei bod yn farchnad hynod gystadleuol. Mae’r cwmni bellach yn bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy gynnig cynhyrchion â phris pwrpasol yn uniongyrchol i gwsmeriaid.
“Rwyf wrth fy modd bod y Llywodraeth yn cefnogi’r cam nesaf a fydd yn galluogi’r cwmni i fanteisio ar gyfleoedd newydd a chreu mwy o swyddi da i weithwyr medrus.
“Mae Optimum Credit yn gwmni arloesol a thwf uchel ac yn enghraifft wych o ganolfan genedlaethol a rhyngwladol sefydledig yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol sydd wedi dewis buddsoddi a datblygu ei fusnes yng Nghymru."
Dywedodd Ian Praed, Prif Swyddog Gweithredu Optimum Credit:
“Rydym yn falch o weld ein perthynas â Llywodraeth Cymru yn parhau wrth inni ddatblygu Optimum yma yng Nghaerdydd. Ers cael yr arian gwreiddiol drwy ei Chronfa Twf a Ffyniant, rydym wedi creu dros 80 o swyddi hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen at ychwanegu at y rhif hwn wrth inni ddatblygu a chyflwyno ein cynigion yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.”
Bydd y cyfleuster manwerthu yn galluogi Optimum Credit i ehangu ystod y cynhyrchion y mae’n eu cynnig ac i gyfathrebu â chwsmeriaid drwy’r cyfrwng y maen nhw’n ei ddewis, gan ddarparu gwasanaeth ar-lein a thrwy dechnoleg telathrebu symudol.