Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Chwefror 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 181 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar nifer o offerynnau statudol o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Pasiwyd Deddf Tai (Cymru) 2014 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2014 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 17 Medi 2014.
Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd i fynd i’r afael â digartrefedd a’r bygythiad o ddigartrefedd gan gynnwys llawer mwy o bwyslais ar atal digartrefedd. Gwnaed hyn drwy sicrhau bod dulliau atal mwy cadarn yn rhan o’r dyletswyddau a roir ar Awdurdodau Lleol i gynorthwyo pobl sydd o dan fygythiad o fod yn ddigartref.
Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn ar yr offerynnau statudol sy’n gysylltiedig â Rhan 2.