Daeth yr ymgynghoriad i ben 5 Mai 2014.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 177 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Cafodd Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ei phasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 4 Tachwedd 2013.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Bwriedir i’r Ddeddf ddod i rym ar 1 Hydref 2014 ac mae pecyn o reoliadau’n cael ei lunio er mwyn helpu i’w gweithredu. Mae’r rhain yn cyflwyno gweithdrefnau newydd ar gyfer (1) gwerthu cartrefi symudol neu eu rhoi yn anrheg (2) cynnal adolygiadau o’r ffioedd a godir am leiniau a (3) gwneud a newid rheolau safle.
1. Rheoliadau Cartrefi Symudol (Gwerthu a Rhoi yn Anrheg) (Cymru) 2014
Ar hyn bryd pan fo rhywun sy’n berchen ar gartref symudol am werthu ei gartref rhaid iddo gael cytundeb perchennog y safle. Mae Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 yn dileu’r rôl sydd gan berchennog y safle o ran rhoi sêl ei fendith ar werthu cartref neu ei roi yn anrheg ac mae'r rheoliadau newydd yn pennu'r broses y dylid ei dilyn pan fo perchennog cartref symudol am werthu ei gartref neu ei roi yn anrheg.
2. Rheoliadau Cartrefi Symudol (Ffioedd am Leiniau) (Ffurf Ragnodedig) (Cymru) 2014
Mae’r rheoliadau hyn yn amlinellu’r broses ymgynghori y mae’n rhaid ei dilyn pan fo perchennog safle am newid y ffioedd a godir am leiniau ac maent hefyd yn cynnwys y ffurflenni y mae’n rhaid eu defnyddio wrth ymgynghori. Maent yn rhagnodi hefyd fod yn rhaid defnyddio’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr yn hytrach na’r Mynegai Prisiau Manwerthu wrth fynd ati i adolygu lefel y ffioedd a godir am leiniau.
3. Rheoliadau Cartrefi Symudol (Rheolau Safle) (Cymru) 2014
Mae’r Rheoliadau Rheolau Safle yn nodi gweithdrefn newydd y mae’n rhaid i berchenogion safleoedd ei dilyn wrth lunio neu newid rheolau safle. Maent yn cynnig hefyd y dylid gwahardd rheolau safle penodol sy’n atal perchenogion cartrefi rhag ymgymryd â gweithgareddau penodol neu’n sy’n rhoi mantais annheg neu fudd economaidd i berchennog y safle. Mae’r rheoliadau’’n rhagnodi hefyd fod yn rhaid i berchenogion safleoedd ymgynghori am o leiaf 28 diwrnod gyda pherchenogion yr holl gartrefi ar y safle cyn newid rheolau safle a darperir ffurflen i’w helpu i wneud hynny.
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn am y rheoliadau drafft a’r ffurflenni sydd wedi’u cynnwys ynddynt ac y bwriedir i randdeiliaid eu defnyddio unwaith y gweithredir y Ddeddf.