Mae’r cynllun i ddechrau defnyddio Unedau Cwarantin i reoli symudiadau da byw wedi ei ohirio tan wedi tymor y Sioeau Amaethyddo.
Mae Lesley Griffiths wedi penderfynu oedi cyn cyflwyno’r Unedau Cwarantin o ddydd Llun 12 Mehefin tan ddydd Llun 11 Medi, yn dilyn sylwadau gan undebau ffermio a chynrychiolwyr eraill y diwydiant da byw, ar ran ceidwaid da byw sy’n dymuno mynd i’r sioeau amaethyddol yn ystod yr haf.
Mae’r oedi yn golygu bod ceidwaid da byw yn gallu mynd i sioeau amaethyddol gan ddefnyddio eu Cyfleusterau Ynysu presennol heb orfod bodloni gofynion llawn y drefn gwahardd symud chwe niwrnod. Mae hefyd yn rhoi mwy o amser iddynt sefydlu Unedau Cwarantin ar eu ffermydd.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
“Yn dilyn trafodaethau gyda’r prif sefydliadau ffermio a sefydliadau rhanddeiliaid yn ystod y dyddiau diwethaf, a gyda mewnbwn gan eraill sydd â diddordeb uniongyrchol yn y mater hwn, rwyf wedi penderfynu y gall y ceidwaid da byw sy’n mynd i sioeau amaethyddol barhau i ddefnyddio’r cyfleusterau ynysu tan 11 Medi 2017, pan ddaw y ddeddfwriaeth newydd ar Unedau Cwarantin i rym.
“Dwi’n siŵr y bydd hyn o fudd i’r sioeau amaethyddol yn yr haf ac i geidwaid da byw sy’n dymuno arddangos eu hanifeiliaid yn y digwyddiadau gwledig pwysig hyn.”
Mae rhagor o wybodaeth ar yr Unedau Cwarantin i’w gweld yma.