Neidio i'r prif gynnwy

Geiriau Adele, sydd bellach yn astudio i fod yn athrawes, ar ôl mynd i ddigwyddiad recriwtio athrawon a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn y digwyddiad, a gynlluniwyd i hyrwyddo addysgu fel gyrfa i bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, darganfu wahanol lwybrau i fynd yn athrawes.

O oedran ifanc, roedd Adele bob amser wedi breuddwydio am fod yn athrawes. Fodd bynnag, ar ôl symud i'r DU aeth drwy gyfnod o ddiffyg hunan-gred, ac nid oedd ei chymwysterau yn ddigon ar gyfer cwrs hyfforddiant athrawon.

Wedi'i hysbrydoli gan y straeon a glywodd gan athrawon Du, Asiaidd ac o gymunedau ethnig lleiafrifol yn y digwyddiad, cafodd ei grymuso a theimlodd bod yna gefnogaeth i astudio ac ailymgeisio i fynd i'r brifysgol. Wedi hynny sicrhaodd le ar y cwrs TAR ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Dywedodd Adele:

Dw i wir yn credu, taswn i heb fynd i'r digwyddiad TAR, na fyddwn i wedi parhau â'r broses ymgeisio.

Mae fy awydd i addysgu wedi'i wreiddio'n ddwfn yn y gred y gall addysg drawsnewid bywydau. Dw i wedi gweld y gwirionedd hwn drosof fi fy hun. Yn ddewr iawn, fe wnaeth fy mam, a oedd yn nyrs, symud ein teulu ni i Gaerdydd ac, yn sgil ei dymuniad am addysg, agorwyd drysau a wnaeth ailgyfeirio ein dyfodol. Dw i eisiau sbarduno'r newid hwnnw ym mywydau plant, gan ddangos iddyn nhw nad oes yr un freuddwyd yn rhy fawr, na'r un rhwystr yn rhy amhosibl i'w oresgyn. Dw i eisiau helpu plant i ddod o hyd i'w cynefin.

Mae'r digwyddiadau recriwtio yn cael eu cynnal eto eleni ym mis Hydref fel rhan o Hanes Pobl Dduon 365, ac maen nhw'n rhan o ymgyrch ehangach i gynyddu nifer yr athrawon Du, Asiaidd ac o gymunedau ethnig lleiafrifol yng Nghymru.

Fe'u cynhelir yn hybiau rhanbarthol EYST yng Nghaerdydd, Abertawe a Bangor, ac fe'u trefnir gan Gyngor y Gweithlu Addysg (Addysgwyr Cymru), a'r partneriaethau AGA (y sefydliadau sy'n darparu hyfforddiant athrawon ledled Cymru). Mae'n gyfle i glywed gan ddarlithwyr, athrawon ac Addysgwyr Cymru, gan gael cipolwg gwerthfawr ar lwybrau i addysgu, y proffesiwn ei hun, a chyfleoedd ariannu.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

Gall addysg fynd ffordd bell i fynd i'r afael â'r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol a strwythurol sy'n cynnal anghydraddoldeb hiliol. I wneud hyn, mae'n hanfodol ein bod yn cynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu. Mae stori Adele yn enghraifft i'n hysbrydoli o sut y gall gweithio mewn partneriaeth lwyddiannus gyflawni hyn.

Dw i wedi ymrwymo i sicrhau bod gyda ni weithlu sy'n adlewyrchu poblogaeth Cymru yn well, er mwyn cefnogi ein dysgwyr yn well a sicrhau eu bod yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu ymhlith y bobl sy'n eu haddysgu.

Fel llywodraeth rydyn ni wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hiliaeth strwythurol a systemig a chreu Cymru sy'n wrth-hiliol erbyn 2030.

Dywedodd Aminur Rahman, Swyddog Recriwtio a Chymorth Cyngor y Gweithlu Addysg, sy'n trefnu'r digwyddiadau recriwtio:

Rydyn ni'n gweithio gyda sefydliadau llawr gwlad fel EYST a NWAS i gyflwyno'r sesiynau hyn, gyda'r nod o ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl i ymuno â'n gweithlu a'i gyfoethogi.

Mae'n hanfodol bod ein system addysg yn adlewyrchu'r cymunedau amrywiol y mae'n eu gwasanaethu, ac mae digwyddiadau fel hyn yn helpu i sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a'u cefnogi wrth ddilyn gyrfa mewn addysg.

Ymhlith y camau eraill sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn mae:

  • gwneud dysgu am hanes pobl a chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn orfodol yn y Cwricwlwm
  • cyflwyno'r cymhelliant AGA ar gyfer athrawon o gymunedau ethnig lleiafrifol sy'n cynnig hyd at £5,000 i fyfyrwyr cymwys i gwblhau Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig ac ennill Statws Athro Cymwysedig
  • deunyddiau dysgu i gefnogi athrawon i addysgu hanes a chyfraniadau pobl a chymunedau Du, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol o fewn y Cwricwlwm
  • mae Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL): yn darparu cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer y rhai sy'n gweithio ym maes addysg i feithrin dealltwriaeth o ymarfer gwrth-hiliol a'i ddatblygu
  • mae Gwobr Addysgu Proffesiynol Betty Campbell MBE yn hyrwyddo'r gwaith y mae ysgolion yn ei wneud i addysgu pwysigrwydd cynhwysiant
  • mae mentoriaid cymunedol yn cefnogi rhai o'r partneriaethau AGA drwy ddefnyddio eu profiad o fywyd, eu gwybodaeth a'u sgiliau i annog mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i fynd yn athrawon

I gael mwy o wybodaeth am wahanol opsiynau sydd ar gael i bobl sy'n meddwl am hyfforddi fel athro, ewch i Athro (Addysgwyr Cymru)