Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn ni wedi cyhoeddi Nodyn Polisi Caffael Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydyn ni wedi cyhoeddi Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) 02/22: Tryloywder – Cyhoeddi Hysbysiadau Dyfarnu Contractau newydd. Mae’r WPPN hwn yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi gwybodaeth am ddyfarniadau dros drothwyon gwerth isel penodol ar GwerthwchiGymru ac i hyrwyddo’r dull hwn fel arfer gorau i gyrff Sector Cyhoeddus Cymru.

Mae’r canllawiau hyn wedi’u cyhoeddi i gefnogi newidiadau sy’n cael eu cyflwyno o fewn Sector Cyhoeddus Cymru i alluogi awdurdodau contractio Cymru i fodloni gofynion tryloywder sydd ar y gweill. Yn ogystal â bodloni’r gofynion tryloywder hyn, bydd y canllawiau hyn hefyd yn cefnogi cyflwyno’r Safon Data Contractio Agored (OCDS) drwy gydol y cylch oes caffael. Mae hyn yn gyson â phenderfyniad Llywodraeth Cymru i gyd-fynd â Phapur Gwyrdd Llywodraeth y DU: Trawsnewid caffael cyhoeddus.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: PolisiMasnachol@llyw.cymru