Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Pwyntiau i’w nodi

  • Nid yw’r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyngor cyfreithiol ac nid yw’n fwriad iddi fod yn gynhwysfawr - dylai partïon contractio geisio’u cyngor annibynnol eu hunain fel bo’n briodol. Sylwer hefyd bod y gyfraith yn gallu newid yn gyson ac y dylid ceisio cyngor mewn achosion unigol. Mae’r ddogfen hon yn adlewyrchu’r sefyllfa ym mis Chwefror 2021.
  • Mae Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) yn adeiladu ar, ac yn gyson â Datganiad Polisi Caffael Cymru a’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 nad yw Offeryn Statudol y DU (SI) rhif: 1319 Y Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 a ddaeth i rym ar 1 Ionawr, yn effeithio arnynt. Mae’r Offeryn Statudol yn cywiro’r diffygion sy’n codi oherwydd ymadawiad y DU â’r UE ac mae’n gweithredu agweddau perthnasol o Gytundeb Ymadael y DU/UE.
  • Mae’r nodyn felly’n tybio lefel benodol o wybodaeth am gaffael cyhoeddus. Mae ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru llyw.cymru a dylid anfon unrhyw ymholiadau at CommercialPolicy@gov.wales neu drwy bwynt cyswllt cyntaf gwasanaethau cwsmeriaid Llywodraeth Cymru.

1. Pwnc

Yn ddiweddariad ar PAN 2018 Cefnogi prynu dur mewn prosiectau adeiladu a seilwaith mawr yng Nghymru, mae’r WPPN hwn yn mynd i’r afael â chamau caffael cyhoeddus i gefnogi’r sector dur sy’n strategol bwysig yn y DU.

2. Lledaenu a chwmpas

Mae’r PAN hwn yn uniongyrchol berthnasol i bob awdurdod contractio os yw ei holl swyddogaethau, neu’r rhan fwyaf ohonynt, yn swyddogaethau sydd wedi’u datganoli i Gymru, a bydd yn berthnasol i unrhyw brosiect caffael mawr ar ôl cyhoeddi’r Nodyn hwn lle mae dur yn ‘elfen hanfodol' (ystyrir mai ‘elfen hanfodol’ yw cynnyrch (cynhyrchion) dur strwythurol fel fframiau dur; bariau atgyfnerthu).

Nid oes gwerth penodol ar gyfer yr hyn sy’n cyfrif fel prosiect caffael mawr – bydd hyn yn amrywio o un awdurdod contractio i’r llall. Felly, yr Gyff Sector Cyhoeddus Cymru sydd i benderfynu pa rai o’u caffaeliadau sy’n brosiectau ‘mawr’. Gall prosiectau mawr lle mae dur yn debygol o fod yn elfen hanfodol.

Gallai prosiectau mawr, lle mae dur yn debygol o fod yn elfen hanfodol, gynnwys y canlynol ond heb gael eu cyfyngu iddynt:

  • Seilwaith – fel rheilffyrdd a ffyrdd
  • Adeiladu – fel adeiladu neu adnewyddu carchardai, ysbytai, prifysgolion, tai, canolfannau cymunedol, pontydd ac ysgolion, ac
  • Amddiffynfeydd llifogydd.

Dylid lledaenu’r PAN (er gwybodaeth) o fewn eich sefydliad, gan dynnu sylw’r rheini mewn rôl rheoli caffael neu gontractio ato’n benodol.

3. Cefndir

Mae diwydiant dur Prydain yn cyflogi dros 32,000 o bobl yn uniongyrchol mewn swyddi sgiliau uchel sy’n talu’n dda ac mae’n cefnogi 40,000 o swyddi eraill yng nghadwyn gyflenwi’r DU (ffynhonnell ONS Math 1 lluosydd FTE o 2.26 a ddyfynnir yn COVID-19 – AILGYCHWYN AC ADFER: Papur Cynigion Polisi, UK Steel Mai 2020), gan barhau i fod yn strategol bwysig i economi’r DU fel cyflogwr mawr a chyflenwr cynnyrch dur o safon.

Nododd yr adroddiad Caffael Cyhoeddus o Ddur 2016 y cyfle i gefnogi’r sector dur drwy ymyriadau mewn prosesau caffael cyhoeddus; mae ei argymhellion yn parhau’n berthnasol ac yn 2019 ymrwymodd Llywodraeth Cymru i Siarter Dur y DU, gan ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant i ystyried sut y gall ein penderfyniadau dylunio o ran adeiladu, seilwaith a pheirianneg sifil a’r caffael sy’n deillio o hynny greu cyfleoedd ar gyfer diwydiant dur y DU (diffinnir UK Steel gan UK Steel, cymdeithas fasnach ar gyfer y diwydiant yn y DU, fel ‘unrhyw ddur wedi’i wneud mewn ffwrnais chwyth neu ffwrnais arc drydan yn y DU.’).

4. Camau gweithredu sy’n ofynnol gan Gyff Sector Cyhoeddus Cymru

Dylai Gyff Sector Cyhoeddus Cymru ddefnyddio’r cylch oes caffael i nodi unrhyw gyfle i gefnogi diwydiant dur y DU i sicrhau bod y contract yn cael yr effaith economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol fwyaf bosibl.

4.1 Cynllunio cyn-caffael

Dylai cynlluniau cyn-caffael Gyff Sector Cyhoeddus Cymrugynnwys asesiad ar gyfer pob prosiect lle bydd dur yn gydran hollbwysig a lle mae gan yr awdurdod contractio gyfle i ddylanwadu ar y ffordd y mae’r gydran ddur yn cael ei chaffael.

Dylai’r galw am ddur yn y dyfodol fod yn rhan o’r biblinell gaffael a gyhoeddwyd gan yr Gyff Sector Cyhoeddus Cymru; dylid cynnwys prosiectau cyn belled ymlaen llaw â phosibl er mwyn ysgogi’r farchnad. Mae’n bwysig ystyried sut a phryd y bydd mewnbynnau dur yn cael eu caffael drwy’r gadwyn gyflenwi. Mae rhybudd ymlaen llaw o raglenni neu brosiectau unigol perthnasol yn caniatáu i’r sector dur baratoi a darparu’n well ar gyfer anghenion yn y dyfodol drwy sicrhau bod y galluoedd cywir yn eu lle. Yn ogystal, gall y sector dur helpu i gyflawni canlyniadau prosiect gwell drwy ddeialog gynnar a chanfod y potensial ar gyfer atebion arloesol.

Ystyriwch eich opsiynau dylunio a’u goblygiadau ar gyfer gofynion dur, gan nodi cynnyrch a meintiau dur penodol y bydd eu hangen yn erbyn y potensial i gael gafael ar y rhain o fewn y DU.

Mae cynnal digwyddiadau ‘cwrdd â’r prynwr’ gyda’r diwydiant i drafod eich gofynion o ran dur yn ddefnyddiol hefyd. Gall cyrff masnach fel UK Steel roi cyngor ar sut i ymgysylltu’n effeithiol â’r sector domestig; mae cyfeiriadur dur y DU yn rhoi rhestr o sefydliadau a chynnyrch sydd ar gael yn y DU.

Mae enghraifft o gymal contract ‘Rhwymedigaeth i hysbysebu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi’ i’w gweld yn Atodiad 1.

4.2 Caffael

Mae Dewis Cyflenwyr yn gyfle i ddefnyddio cwestiynau cyn-gymhwyso i fynd i’r afael â phroblem dympio dur a diffyg cydymffurfio â safonau derbyniol o ran iechyd, diogelwch a lles a safonau amgylcheddol.

Mae cwestiynau Cyn-gymhwyso / Cam Dethol i’w gweld yn Atodiad 2.

Mae natur cynhyrchu dur yn golygu bod cydymffurfio â chyfraith gymdeithasol, llafur ac amgylcheddol y tu allan i’r DU a’r UE yn fater o bwys; gall hyn fod yn wahaniaethydd defnyddiol wrth ddewis cyflenwyr.

Dylai Gyff Sector Cyhoeddus Cymru ystyried pennu Safon y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE), BES 6001 Sicrhau Cynnyrch Adeiladu’n Gyfrifol neu gyfatebol wrth gaffael prosiectau gyda chydrannau dur. Mae'r safon BES 6001 yn cwmpasu amrywiaeth o gynhyrchion sylfaen adeiladu, gan gynnwys barrau atgyfnerthu dur carbon.

Mae BES 6001 sydd wedi’i achredu gan drydydd parti yn rhoi sicrwydd i awdurdodau contractio’r sector cyhoeddus bod deunyddiau cyfansoddol o gynhyrchion sy’n dod dan y safon wedi cael eu caffael yn gyfrifol. Mae’r safon yn disgrifio fframwaith ar gyfer llywodraethu’r sefydliad, rheoli’r gadwyn gyflenwi ac agweddau amgylcheddol a chymdeithasol i fynd i’r afael â nhw er mwyn sicrhau bod cynhyrchion adeiladu’n cael eu cyrchu’n gyfrifol; mae’n darparu’r gallu i brofi bod system effeithiol ar gyfer sicrhau ffynonellau cyfrifol yn bodoli.

Er mwyn cefnogi tryloywder y gadwyn gyflenwi, dylai Gyff Sector Cyhoeddus Cymru yng Nghymru wneud y canlynol:

  1. Mynnu BES 6001 neu gyfatebol fel rhan o’r meini prawf cymhwyso ar gyfer cynigwyr
  2. Ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr Haen 1 gyflwyno cynlluniau cadwyn gyflenwi wrth wneud cais am gontractau sy’n cynnwys sut y bydd dur yn cael ei gaffael
  3. Cynnwys amod contract i sicrhau bod y contractwr Haen 1 a’i is-gontractwyr yn hysbysebu’n agored drwy gwerthwchigymru.llyw.cymru unrhyw gyfleoedd cadwyn gyflenwi sy’n weddill ar gyfer darparu dur (hy lle na chytunwyd ar unrhyw drefniadau contract erbyn dyddiad dyfarnu’r prif gontract).
  4. Ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr Haen 1 gofnodi tarddiad cydrannau dur hanfodol i’w defnyddio, gan barhau i wneud hyn drwy gydol y contract.

4.3 Dyfarnu’r contract

Ni ddylai Gyff Sector Cyhoeddus Cymru seilio eu penderfyniadau i ddyfarnu contractau ar y pris prynu isaf yn unig, ond dylent fodloni eu hunain bod y cyfrifiadau prisiau neu gostau ym mhob cynnig yn seiliedig ar asesiad o gost cylch oes sy’n bodloni’r ddeddfwriaeth ofynnol, yr ansawdd a’r safonau moesegol a bennwyd.

Er bod y gost i’r pwrs cyhoeddus yn bwysig, sylweddolwch y gallai prisiau anarferol o isel olygu nad yw’r contract yn debygol o gael ei gyflawni’n iawn; gallai codi pris is na darparwyr domestig yn annheg arwain at golli swyddi gydag effeithiau economaidd a chymdeithasol sylweddol ar y cymunedau yr effeithir arnynt. Mae darpariaethau Rheoliadau Contractau Cyhoeddus (PCR) 68, Costio cylch oes a 69, Tendrau Anarferol o Isel wedi’u cynllunio i gynorthwyo Gyff Sector Cyhoeddus Cymru i asesu’r bid cyffredinol gorau.

5. Deddfwriaeth

6. Amseru

Mae’r WPPN hwn yn weithredol o’r dyddiad cyhoeddi 10/02/2021 hyd nes y bydd yn cael ei ddisodli neu ei ganslo.

7. Gwybodaeth ychwanegol

Siarter Dur y DU ar MAKE.UK

8. Manylion cyswllt

Commercial Policy – Polisi Masnachol : CommercialPolicy@gov.walesPolisiMasnachol@llyw.cymru

9. Cyfeiriadau

Atodiad 1: Enghraifft o amod contract

Annex 1: Sample contract condition

Rhwymedigaeth i hysbysebu cyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi

1. Rhaid i’r cyflenwr sicrhau bod yr holl is-gontractau, y mae’r cyflenwr yn bwriadu eu caffael ar ôl dyddiad y contract hwn, ac nad yw’r cyflenwr, cyn dyddiad y contract hwn, wedi’u dyfarnu eisoes i is-gontractwr penodol, yn:

  1. Cael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru.llyw.cymru, a 
  2. Cael eu dyfarnu yn dilyn proses deg, dryloyw a chystadleuol sy’n gymesur â natur a gwerth yr is-gontract.

2. Rhaid i unrhyw is-gontract a ddyfernir gan y cyflenwr yn unol â Chymal 1 gynnwys darpariaethau addas i’w gosod, rhwng partïon yr is-gontract:

  1. gofynion i’r un effaith â’r rheini yng Nghymal 1, a
  2. gofyniad i’r is-gontractwr gynnwys mewn unrhyw is-gontract y mae’n ei ddyfarnu yn ei dro, ddarpariaethau addas i’w gosod, rhwng y partïon i’r is-gontract hwnnw, ofynion i’r un effeithiau â’r rheini sy’n ofynnol dan y Cymal 2 hwn.

3. At ddibenion Cymalau 1 a 2, ystyr “is-gontract” yw contract rhwng dau neu fwy o gyflenwyr, ar unrhyw gam o bellter oddi wrth yr Awdurdod mewn cadwyn is-gontractio, a wneir yn gyfan gwbl neu’n sylweddol er mwyn cyflawni neu gyfrannu at berfformiad y cyfan neu unrhyw ran o’r contract hwn ac ystyr “is-gontractwr” yw unrhyw drydydd parti y mae 

  1. y cyflenwr yn ymrwymo i is-gontract gydag ef, neu 
  2. trydydd parti dan (a) yn ymrwymo i is-gontract ag ef, neu weision neu asiantau’r trydydd parti hwnnw. 

Ffynhonnell: Nodyn Polisi Caffael – Caffael Dur mewn Prosiectau Mawr Nodyn Gweithredu 16/15 30 Hydref 2015 (Gwasanaeth Masnachol y Goron)  

Atodiad 2: Cwestiynau Cyn-gymhwyso / Cam Dethol

Mae’r canlynol yn gwestiynau cyn-cymhwyso / Cam Dethol y gellir eu defnyddio i brofi gwrth-ddympio, iechyd a diogelwch a Cydymffurfio â chyfraith gymdeithasol, llafur ac amgylcheddol.

Gwrth-ddympio (dur a chynnyrch dur)

Cwestiwn 1: A ydych chi’n cymryd camau i sicrhau nad yw aelodau o’ch cadwyn gyflenwi yn torri deddfwriaeth gwrth-ddympio?

Wrth ddweud “aelodau o’ch cadwyn gyflenwi” yr hyn a olygwn yw cyflenwyr neu is-gontractwyr unrhyw haen neu aelodau consortiwm neu bartneriaid neu unrhyw endid arall (gan gynnwys eich cwmni eich hun neu aelodau o grŵp eich cwmni) yr ydych yn bwriadu caffael dur ganddynt i gyflawni’r contract hwn.

Ateb

Ydw neu Nac ydw

Canllawiau

Efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu dangos prosesau digonol ar gyfer sicrhau y bydd yr holl ddur a’r cynnyrch dur a gaiff ei gaffael gennych chi ar gyfer y contract hwn yn cydymffurfio â deddfwriaeth gwrth-ddympio.

Mae’r ddeddfwriaeth berthnasol wedi’i nodi yn RHEOLIAD Y CYNGOR (CE) Rhif 1225/2009 dyddiedig 30 Tachwedd 2009 ar amddiffyniad rhag mewnforion wedi’u dympio o wledydd nad ydynt yn aelodau o’r Gymuned Ewropeaidd

Cwestiwn 1(a): Os ydych chi wedi ateb “Ydw” i gwestiwn 1 uchod, rhowch amlinelliad byr o’r camau yr rydych chi’n eu cymryd.

Ateb

Testun, 300 gair ar y mwyaf.

Canllawiau

Efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu dangos prosesau digonol ar gyfer sicrhau y bydd yr holl ddur a’r cynnyrch dur a gaiff ei gaffael gennych chi ar gyfer y contract hwn yn cydymffurfio â deddfwriaeth gwrth-ddympio. Er enghraifft, gallai’r camau rydych chi’n eu cymryd gynnwys sefydlu’r pris cymharol yn y wlad sy’n allforio (fel ymchwil marchnad, neu wirio costau cynhyrchu) a gwirio a yw hyn yn fwy na’r pris allforio i’r UE.

Cwestiwn 2: A ydych chi’n cymryd camau i sicrhau nad yw aelodau eich cadwyn gyflenwi yn gwneud cytundebau â gweithredwyr economaidd eraill sydd â’r nod o ystumio cystadleuaeth yn groes i Reoliad 57(8) (d) Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015?

Ateb

Ydw neu Nac ydw

Canllawiau

Efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu dangos prosesau digonol i sicrhau nad yw aelodau o’ch cadwyn gyflenwi yn gwneud cytundebau gwrth-gystadleuol gyda chyflenwyr eraill, er enghraifft, pennu prisiau sy’n artiffisial o isel gydag allforwyr eraill, neu wneud trefniadau i gadw’r pris domestig yn artiffisial o isel i osgoi deddfwriaeth gwrth-ddympio.

Cwestiwn 2(a): Os ydych chi wedi ateb “Ydw” i gwestiwn 2 uchod, rhowch amlinelliad byr o’r camau yr rydych chi’n eu cymryd.

Ateb

Testun, 300 gair ar y mwyaf.

Canllawiau

Efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu dangos prosesau digonol i sicrhau nad yw aelodau o’ch cadwyn gyflenwi yn gwneud cytundebau gwrth-gystadleuol.

Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gwneud ymholiadau i’w strwythur prisio o’i gymharu â chyflenwyr lleol eraill, cynnal ymchwil marchnad i brisio yn erbyn costau cynhyrchu a chydgynllwynio posibl rhwng cyflenwyr, a rhoi’r gorau i ddefnyddio cyflenwyr lle ceir tystiolaeth gredadwy o gydgynllwynio neu ymddygiad gwrth-gystadleuol.

Cwestiwn 3: Yn ystod y tair blynedd diwethaf, a ganfuwyd eich bod chi neu unrhyw aelod o’ch cadwyn gyflenwi wedi torri’r ddeddfwriaeth gwrth-ddympio neu ddeddfwriaeth debyg mewn unrhyw awdurdodaeth arall ledled byd?

Ateb

Ydw neu Nac ydw

Canllawiau

Mae “canfod eich bod wedi torri deddfwriaeth” yn golygu bod penderfyniad wedi’i wneud gan lys, tribiwnlys neu awdurdod gweinyddol cymwys.

Cwestiwn 3(a): Os ydych chi wedi ateb “Do” i gwestiwn 3 uchod, rhowch fanylion cryno am natur y dyfarniad ac unrhyw gosb a roddwyd, a’r camau yr rydych chi, neu aelod o’ch cadwyn gyflenwi, wedi’u cymryd i atal hyn rhag digwydd eto.

Ateb

Testun, 300 gair ar y mwyaf.

Canllawiau

Os ydych chi neu aelod o’r gadwyn gyflenwi wedi cael ei ganfod yn euog o dorri deddfwriaeth gwrth-ddympio, efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu darparu tystiolaeth gadarn a chredadwy bod camau wedi’u cymryd i atal hyn rhag digwydd eto.

Nodyn: Os canfyddir bod unrhyw un o’ch atebion i’r cwestiynau uchod yng nghyswllt Gwrth-ddympio (dur a chynhyrchion dur) yn anghywir neu’n gamarweiniol, yna heb ragfarn i unrhyw hawl neu rwymedi arall gan y prynwr, gall y prynwr benderfynu anghymwyso eich tendr neu, os y dyfarnwyd contract, canslo’r contract heb iawndal neu osod pa gosbau bynnag y darperir ar eu cyfer yn y contract.

Iechyd a diogelwch

Cwestiwn 1: A ydych chi’n cymryd camau i sicrhau bod gan bob aelod o’ch cadwyn gyflenwi bolisïau iechyd a diogelwch priodol yn eu lle sy’n ymdrin â’r canlynol o leiaf: Datganiad Polisi – wedi’i lofnodi a’i ddyddio; y Sefydliad a’i Gyfrifoldebau – sut mae gofynion Iechyd a Diogelwch yn cael eu gweithredu; a y Trefniadau – safonau a gweithdrefnau a fabwysiadwyd yn ymarferol, a bod y rhain yn cael eu hadolygu o leiaf bob 2 flynedd?

Ateb

Ydw neu Nac ydw

Canllawiau

Efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu dangos prosesau digonol ar gyfer sicrhau bod gan aelodau o’ch cadwyn gyflenwi (fel y’u diffinnir uchod) bolisïau iechyd a diogelwch priodol yn eu lle a’u bod yn eu cynnal yn weithredol.

Cwestiwn 2: A ydych chi’n cymryd camau i sicrhau bod pob aelod o’ch cadwyn gyflenwi yn darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch priodol, yn enwedig ar gyfer gweithwyr sy’n cyflawni tasgau a allai fod yn beryglus? 

Ateb

Ydw neu Nac ydw

Canllawiau

Efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu dangos prosesau digonol i sicrhau bod aelodau o’ch cadwyn gyflenwi yn darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch digonol.

Cwestiwn 3: Os ydych chi wedi ateb “Ydw” i gwestiynau 1 a 2 uchod, rhowch fanylion cryno am y camau rydych chi’n eu cymryd i sicrhau bod polisïau iechyd a diogelwch priodol yn eu lle a bod hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu?

Ateb

Testun, 300 gair ar y mwyaf.

Canllawiau

Efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu dangos prosesau digonol i sicrhau bod aelodau o’ch cadwyn gyflenwi yn darparu hyfforddiant iechyd a diogelwch digonol.

Cwestiwn 4: Yn ystod y tair blynedd diwethaf, a ganfuwyd eich bod chi neu unrhyw aelod o’ch cadwyn gyflenwi wedi torri’r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch neu ddeddfwriaeth debyg mewn unrhyw awdurdodaeth arall ledled byd, neu a gyflwynwyd hysbysiad i chi atal neu wella materion yn ymwneud ag iechyd a diogelwch?

Ateb

Ydw neu Nac ydw

Canllawiau

Mae “canfod eich bod wedi torri deddfwriaeth” yn golygu bod penderfyniad wedi’i wneud gan lys, tribiwnlys neu awdurdod gweinyddol cymwys.
Ystyr “cyflwynwyd hysbysiad i chi” yw hysbysiad a gyflwynwyd gan awdurdod cymwys yn yr awdurdodaeth berthnasol. 

Cwestiwn 4(a): Os ydych chi wedi ateb “Do” i gwestiwn 4 uchod, rhowch fanylion cryno am natur y dyfarniad neu’r hysbysiad ac unrhyw gosb a roddwyd, a’r camau yr rydych chi, neu aelod o’ch cadwyn gyflenwi, wedi’u cymryd i atal yr amgylchiadau a achosodd y dyfarniad neu’r hysbysiad rhag digwydd eto.

Ateb

Testun, 300 gair ar y mwyaf.

Canllawiau

Os ydych chi neu aelod o’r gadwyn gyflenwi wedi cael ei ganfod yn euog o dorri unrhyw ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch neu y cyflwynwyd hysbysiad yng nghyswllt y ddeddfwriaeth honno, efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu darparu tystiolaeth gadarn a chredadwy bod camau wedi’u cymryd i atal hyn rhag digwydd eto.

Nodyn

Os canfyddir bod unrhyw un o’ch atebion i’r cwestiynau uchod yn anghywir neu’n gamarweiniol, yna heb ragfarn i unrhyw hawl neu rwymedi arall gan y prynwr, gall y prynwr benderfynu anghymwyso eich tendr neu, os y dyfarnwyd contract, canslo’r contract heb iawndal neu osod pa gosbau bynnag y darperir ar eu cyfer yn y contract.

Cydymffurfio â chyfraith gymdeithasol, llafur ac amgylcheddol

Cwestiwn 1: A ydych yn cymryd camau i sicrhau bod aelodau o’ch cadwyn gyflenwi yn cydymffurfio â deddfwriaeth gymdeithasol, amgylcheddol a llafur berthnasol yn y DU neu yn yr awdurdodaeth y maent yn gweithredu ynddi, a beth bynnag yn cydymffurfio â’r safonau rhyngwladol canlynol o leiaf?

  • Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) 87 ar Ryddid Cymdeithasu a Diogelu’r Hawl i Drefnu 
  • Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 98 ar yr Hawl i Drefnu a Chydfargeinio
  • Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 29 ar Lafur Dan Orfod
  • Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 105 ar Ddiddymu Llafur Dan Orfod
  • Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 138 ar Isafswm Oedran
  • Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 111 ar Wahaniaethu (Cyflogaeth a Galwedigaeth)
  • Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 100 ar Dâl Cyfartal
  • Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 182 ar y Ffurfiau Gwaethaf o Lafur Plant
  • Confensiwn Fienna ar gyfer diogelu’r Haen Oson a’i Brotocol Montreal ar sylweddau sy’n disbyddu’r Haen Oson
  • Confensiwn Basel ar Reoli Symudiadau Gwastraff Peryglus dros Ffiniau a’u Gwaredu (Confensiwn Basel)
  • Confensiwn Stockholm ar Llygryddion Organig Parhaus (Confensiwn POP Stockholm)
  • Confensiwn ar Weithdrefn Cydsyniad ar Sail Penderfyniad Cytbwys Ymlaen llaw ar gyfer rhai Cemegion a Phlaladdwyr Peryglus mewn Masnach Ryngwladol (UNEP/FAO) (Confensiwn PIC) Rotterdam, 10 Medi 1998, a’i 3 Protocol rhanbarthol.
Ateb

Ydw neu Nac ydw

Canllawiau

Efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu dangos prosesau digonol i sicrhau bod aelodau o’ch cadwyn gyflenwi (fel y’i diffinnir uchod) yn cydymffurfio â chyfraith gymdeithasol, amgylcheddol a llafur berthnasol yn y DU, neu yn yr awdurdodaeth y maent yn gweithredu ynddi. Beth bynnag, rhaid i aelodau eich cadwyn gyflenwi gydymffurfio o leiaf â’r safonau rhyngwladol a nodir gyferbyn mewn perthynas â:

  • Rhaid i weithwyr a chyflogwyr (heb wahaniaethu) fod yn rhydd i sefydlu ac ymuno â sefydliadau o’u dewis heb gael caniatâd ymlaen llaw, ac ymarfer eu hawl i drefnu (Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 87).
  • Amddiffyn yn erbyn gwahaniaethu yn erbyn undebau (Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 98).
  • Peidio â defnyddio llafur gorfodol neu drwy rym yn ei holl ffurfiau (Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 29), gan gynnwys fel gorfodaeth wleidyddol neu addysg, cosb neu wahaniaethu (Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 105).
  • Peidio â defnyddio llafur plant ac, yn benodol, rhaid i’r isafswm oed ar gyfer unrhyw waith sy’n debygol o achosi risg i iechyd a diogelwch fod yn 18 o leiaf (Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 138).
  • Peidio â gwahaniaethu ar sail hil, lliw, rhyw, crefydd, barn wleidyddol, tarddiad cenedlaethol neu darddiad cymdeithasol, sydd â’r effaith o ddirymu neu amharu ar gyfle cyfartal neu driniaeth mewn cyflogaeth neu alwedigaeth (Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 111). 
  • Sicrhau tâl cyfartal i ddynion a menywod sy’n gweithio am waith o werth cyfartal (Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 100).
  • Peidio â defnyddio’r mathau gwaethaf o lafur plant:
    • gan gynnwys: pob math o gaethwasiaeth neu arferion tebyg i gaethwasiaeth, fel gwerthu a masnachu plant, caethwasanaeth oherwydd dyledion a thaeogaeth a llafur gorfodol neu drwy rym, gan gynnwys recriwtio plant yn orfodol neu drwy rym i’w defnyddio mewn gwrthdaro arfog;
    • defnyddio, caffael neu gynnig plentyn ar gyfer puteindra, ar gyfer cynhyrchu pornograffi neu ar gyfer perfformiadau pornograffig
    • defnyddio, caffael neu gynnig plentyn ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon, yn benodol ar gyfer cynhyrchu a masnachu cyffuriau fel y'u diffinnir yn y cytuniadau rhyngwladol perthnasol; a
    • gwaith sydd, oherwydd ei natur neu’r amgylchiadau lle mae’n cael ei wneud, yn debygol o niweidio iechyd, diogelwch neu foesau plant (Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol 182).
    • Peidio â defnyddio sylweddau sy’n gyfrifol am ddihysbyddu’r osôn (Confensiwn Vienna a Phrotocol Montreal).
    • Triniaeth gwastraff gwenwynig sy’n ddiogel i’r amgylchedd ac osgoi cludo gwastraff peryglus i wledydd llai datblygedig (Confensiwn Basel).
    • Peidio â chynhyrchu na defnyddio llygryddion organig parhaus (Confensiwn Stockholm).
    • Gweithredu’n gyfrifol ac yn dryloyw mewn perthynas â mewnforio neu allforio cemegion peryglus, yn benodol drwy ddefnyddio labeli priodol, gan gynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer trafod yn ddiogel, a rhoi gwybod i ddefnyddwyr am unrhyw gyfyngiadau neu waharddiadau perthnasol (Confensiwn PIC (Rotterdam)).

Cwestiwn 1(a): Os ydych chi wedi ateb “Ydw” i gwestiwn 1 uchod, rhowch amlinelliad byr o’r camau yr rydych chi’n eu cymryd.

Ateb

Testun, 300 gair ar y mwyaf.

Canllawiau

Efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu dangos prosesau digonol i sicrhau bod aelodau o’ch cadwyn gyflenwi (fel y’i diffinnir uchod) yn cydymffurfio â chyfraith gymdeithasol, amgylcheddol a llafur berthnasol yn y DU, neu yn yr awdurdodaeth y maent yn gweithredu ynddi. Beth bynnag, rhaid i aelodau eich cadwyn gyflenwi gydymffurfio o leiaf â’r safonau rhyngwladol a nodir uchod.

Gallai mesurau gynnwys, er enghraifft:

  • Gwirio a oes gan eich cyflenwyr neu is-gontractwyr bolisïau sy’n ymdrin â’r materion uchod.
  • Gwirio eu bod yn cymryd camau rhesymol ac yn defnyddio adnoddau rhesymol i orfodi eu polisïau. 
  • Gwirio a gafwyd erioed eu bod wedi torri cyfreithiau amgylcheddol, cymdeithasol neu lafur naill ai yn eu hawdurdodaeth eu hunain, unrhyw awdurdodaeth arall y maent yn gweithredu ynddi, neu’r safonau rhyngwladol uchod.
  • Os canfuwyd eu bod wedi torri’r cyfreithiau, gwirio pa fesurau y maent wedi’u rhoi yn eu lle i unioni’r tor-amod hwnnw (gan gynnwys canfod dioddefwyr a thalu iawndal lle bo hynny’n briodol) a chymryd camau i atal achosion o’r fath rhag digwydd eto.

Cwestiwn 2: Yn ystod y tair blynedd diwethaf, a ganfuwyd eich bod chi neu unrhyw aelod o’ch cadwyn gyflenwi wedi torri unrhyw ddeddfwriaeth gymdeithasol, amgylcheddol neu lafur neu ddeddfwriaeth debyg mewn unrhyw awdurdodaeth arall ledled byd?

Ateb

Ydw neu Nac ydw

Canllawiau

Mae “canfod eich bod wedi torri deddfwriaeth” yn golygu bod penderfyniad wedi’i wneud gan lys, tribiwnlys neu awdurdod gweinyddol cymwys.

Cwestiwn 2(a): Os ydych chi wedi ateb “Do” i gwestiwn 2 uchod, rhowch fanylion cryno am natur y dyfarniad ac unrhyw gosb a roddwyd, a’r camau yr rydych chi, neu aelod o’ch cadwyn gyflenwi, wedi’u cymryd i atal hyn rhag digwydd eto.

Ateb

Testun, 300 gair ar y mwyaf.

Canllawiau

Os ydych chi neu aelod o’r gadwyn gyflenwi wedi cael ei ganfod yn euog o dorri deddfwriaeth gymdeithasol, amgylcheddol neu lafur, efallai na fydd y prynwr yn eich dewis i dendro oni bai eich bod yn gallu darparu tystiolaeth gadarn a chredadwy bod camau wedi’u cymryd i atal hyn rhag digwydd eto.

Nodyn

Os canfyddir bod unrhyw un o’ch atebion i’r cwestiynau uchod yn anghywir neu’n gamarweiniol, yna heb ragfarn i unrhyw hawl neu rwymedi arall gan y prynwr, gall y prynwr benderfynu anghymwyso eich tendr neu, os y dyfarnwyd contract, canslo’r contract heb iawndal neu osod pa gosbau bynnag y darperir ar eu cyfer yn y contract. Nodwch hefyd, os yw eich tendr yn anarferol o isel oherwydd diffyg cydymffurfio â chyfraith gymdeithasol, amgylcheddol neu lafur, yna rhaid i’r prynwr wahardd eich tendr.