Daeth yr ymgynghoriad i ben 21 Mehefin 2018.
Crynodeb o’r canlyniad
Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 457 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ar ba un a ddylid datgymhwyso dros dro baragraff 6.2 o TAN 1.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae ein polisi cynllunio yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol gynnal cyflenwad pum mlynedd o dir y gellid ei ddarparu ar gyfer tai, yn seiliedig ar fodloni’r gofynion tai a nodwyd mewn Cynlluniau Datblygu Lleol (Polisi Cynllunio Cymru, paragraff 9.2.3). Mae awdurdodau cynllunio heb gyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai yn agored i dderbyn ceisiadau cynllunio tybiannol ar gyfer tai.
Rydym yn cynnig datgymhwyso paragraff 6.2 o TAN 1. Bydd hyn yn cael gwared ar y cyfeiriad i roi pwysoliad “sylweddol” i’r diffyg cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai fel ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer tai.