Heddiw, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi nodi'r cymorth a'r gwasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i gymuned Lluoedd Arfog Cymru.
Mewn datganiad i'r Cynulliad cyn Dydd y Cofio, dywedodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau ei bod yn bwysig peidio â byth anghofio'r rhai dewr hynny a aberthodd eu bywydau i ddiogelu'r rhyddid sydd gennym heddiw.
Amlinellodd nifer o fentrau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Pecyn Cymorth newydd a chanllawiau ar wahân ar gyfer personél y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd.
- Grant £50,000 ar gyfer Brigâd 160 a'i Phencadlys yng Nghymru i droedfilwyr er mwyn iddynt gyflawni eu Llwybr i Wella Cyflogadwyedd yn y Lluoedd Arfog. Mae’r cynllun llwybr yn anelu at roi golwg ar yr hyn sydd gan y Fyddin i'w gynnig i ddynion a menywod ifanc, gan gynnwys hyfforddiant galwedigaethol seiliedig ar waith i sifiliaid.
- Llwybr Tai i sicrhau bod cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog yn cael eu cefnogi i ddod o hyd i lety addas ac osgoi bod yn ddigartref.
- Cadw'n Ddiogel Cymru i Gyn-filwyr sy'n caniatáu i gyn-filwyr, sydd ag anghenion iechyd penodol, ac sydd angen cymorth ychwanegol o bosib gan y gwasanaethau brys ar adegau pan fydd argyfwng, roi eu manylion i'r heddlu fel y gallant addasu eu hymateb yn unol â hynny.
“Mae'r adeg yma o'r flwyddyn yn ein hatgoffa'n arbennig am y rhai hynny sydd wedi ymladd mewn brwydrau i ddiogleu'r ffordd o fyw sydd gennym heddiw.
"Eleni rydyn ni'n wedi coffáu rhai o frwydrau mwyaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Rydyn ni'n cofio'r rhai hynny a gollodd eu bywydau yn Jutland ac yn ystod Brwydr y Somme, yn enwedig yng Nghoed Mametz; roedd miloedd o ddynion milwrol o Gymru wedi gwneud yr aberth fwyaf.
“Drwy ein Rhaglen Lywodraethu, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i ddarparu cymorth a gwasanaethau i gymuned bresennol ein Lluoedd Arfog.”
Bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru hefyd yn talu teyrnged i ddynion a menywod Lluoedd Arfog Cymru mewn cyfres o ddigwyddiadau yr wythnos hon ar gyfer Dydd y Cofio. Bydd Prif Weinidog Cymru yn ymuno â'r Lleng Brydeinig Frenhinol i agor Cae Coffa Cymru. Bydd yn plannu teyrnged ac yn darllen 'Mametz Wood' i anrhydeddu'r 4,000 o filwyr o Gymru a fu farw neu a anafwyd yn ystod y frwydr.
Ar Ddydd y Cadoediad , bydd y Prif Weinidog yn ymweld â Caernarfon i ymuno â phawb a fydd yn cynnal dwy funud o ddistawrwydd ac i ymewld a’r arddangosfa eiconig o'r pabis: sef 'Poppies: Weeping Window’ gan yr artist Paul Cummins a'r dylunydd Tom Piper.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn ymuno â Chymdeithas y Llynges Fasnach yn y Gwasanaeth Coffa Cenedlaethol a gynhelir wrth y Gofeb Ryfel Genedlaethol yng Nghaerdydd.
Yn ôl y Prif Weinidog:
“Mae digwyddiadau Dydd y Cofio yn arbennig o deimladwy eleni wrth inni gofio can mlynedd ers Brwydr y Somme.
“Mae'n bwysig inni gymryd y cyfle i dalu teyrnged i'r rhai hynny a gollodd eu bywydau, gan wneud yr aberth fwyaf i ddiogelu ein rhyddid. Rhaid inni byth anghofio'r rhai hynny a frwydrodd yn ddewr er mwyn diogelu ein dyfodol ni.”