Neidio i'r prif gynnwy

Prif bwyntiau

  • Ar sail Arolwg Cenedlaethol Cymru 2018-19 (ACC), roedd 1 ym mhob 7 (14%) o’r bobl ar y Rhestr Cleifion a Warchodir yn wynebu amddifadedd materol.
  • Roedd gan 87% o bobl ar y Rhestr Cleifion a Warchodir fynediad i'r rhyngrwyd o gymharu â 93% o'r rheini nad oeddent ar y Rhestr honno.
  • Roedd y rhan fwyaf o bobl ar y Rhestr Cleifion a Warchodir yn gallu ymdopi â biliau ac ymrwymiadau heb unrhyw anawsterau yn 2018-19.
  • Roedd lles meddyliol pobl ar y Rhestr Cleifion a Warchodir yn debyg i les meddyliol y bobl hynny nad oeddent ar y rhestr pan ofynnwyd iddynt yn ystod Arolwg Cenedlaethol Cymru 2018-19

Ar gyfer y dadansoddiad hwn, cysylltwyd data Arolwg Cenedlaethol Cymru â set ddata’r Rhestr Cleifion a Warchodir, fel yr oedd ar 24 Chwefror 2021, i weld a oedd gan y bobl a oedd ar y Rhestr oherwydd eu bod wedi cael eu dynodi’n agored iawn i niwed yn glinigol, wendidau anghlinigol eraill hefyd. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn darparu data ar ystod o nodweddion, megis amddifadedd materol, gallu yn y Gymraeg, unigrwydd a llesiant. 

Mae dadansoddiad o'r Rhestr yn ôl ardal ac oedran ar gael. Yn gyffredinol, mae’r Rhestr yn cynnwys canran uwch o bobl mewn grwpiau oedran hŷn na phoblogaeth Cymru gyfan. Mae’n bosibl mai proffil oedran gwahanol y rheini sydd ar y Rhestr o'i gymharu â'r rheini nad ydynt arni sydd i gyfrif am rai o'r tueddiadau yn y dadansoddiad hwn.

Gwarchod ac amddifadedd materol

Yn yr Arolwg Cenedlaethol, defnyddir cwestiynau ar amddifadedd materol i fesur tlodi ac effeithiau hirdymor ar aelwydydd. Er enghraifft, mae yna gwestiynau sy'n gofyn a yw pobl yn gallu fforddio cadw’u cartrefi'n ddigon cynnes neu’n gallu cynilo’n rheolaidd. Gofynnir y cwestiynau hyn fel y bo modd croes-ddadansoddi pynciau eraill yn yr arolwg yn ôl amddifadedd materol, er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o amgylchiadau pobl sy’n wynebu amddifadedd materol yng Nghymru.

Yn y dadansoddiad hwn, mae amddifadedd materol yn cael ei ystyried yng nghyd-destun a yw pobl wedi cael eu cynghori i’w gwarchod eu hunain oherwydd pandemig COVID-19.

Yn gyffredinol, yn ôl yr ymatebion i Arolwg Cenedlaethol Cymru cyn y pandemig, roedd 1 ym mhob 7 (14%) o bobl ar y Rhestr Cleifion a Warchodir yn wynebu amddifadedd materol (o gymharu â 14% yn gyffredinol). O rannu’r ffigur hwnnw  yn ôl oedran, ymhlith oedolion nad ydynt yn bensiynwyr a oedd ar y Rhestr a hefyd yn ACC, roedd 1 o bob 5 (21%) yn wynebu amddifadedd materol (o gymharu â 17% o'r rheini nad oeddent ar y Rhestr). Heblaw hynny, ymhlith pensiynwyr ar y Rhestr, roedd 6% yn wynebu amddifadedd materol yn ôl ACC (o gymharu â 4% o'r rheini nad oeddent ar y Rhestr). I roi’r cyd-destun, roedd 8% o bensiynwyr a 17% o bobl nad oeddent yn bensiynwyr sy'n byw yng Nghymru yn wynebu amddifadedd materol yn 2018-19 (am ragor o wybodaeth gweler 'Arolwg Cenedlaethol Cymru prif ganlyniadau: Ebrill 2018 i Fawrth 2019'). Mae’n bosibl bod ein hamcangyfrifon yn wahanol i amcangyfrifon a gyhoeddwyd oherwydd y llwyddiant a gafwyd wrth gysylltu data cyfatebol.

Gan fod ein dadansoddiad yn seiliedig ar y data a ddaeth o’r arolwg, rydym wedi cyflwyno'r cyfyngau hyder yn ogystal â'r amcangyfrifon pwyntiau. Mae’r amcangyfrifon pwyntiau'n awgrymu bod canran fwy o bobl sy'n eu gwarchod eu hunain wedi wynebu amddifadedd materol yn 2018-19 na phobl nad oeddent yn eu gwarchod eu hunain. Fodd bynnag, oherwydd bod y cyfyngau hyder yn gorgyffwrdd ar gyfer y ddau grŵp, nid yw'r gwahaniaethau'n arwyddocaol yn ystadegol. Mae’n bosibl mai’r hyn sydd i gyfrif am hynny yw’r ffaith nad oedd unrhyw wahaniaethau yn y lefelau amddifadedd materol rhwng y ddau grŵp neu oherwydd nad yw maint ein sampl yn ddigon mawr i ganfod gwahaniaeth 'gwirioneddol’.

Image
Mae pobl sy'n gwarchod eu hunain yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol (Pensiynwyr ac oedolion). Nid yw gwahaniaethau'n ystadegol arwyddocaol.

Gwarchod ac Amddifadedd Ariannol

Mae siart 2 yn edrych ar ganran y bobl ar y Rhestr a oedd yn gallu ymdopi â’r biliau ar gyfer eu haelwyd yn 2018-19. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn gallu ymdopi â'r holl filiau ac ymrwymiadau yn 2018-19 heb unrhyw anawsterau, p'un a oeddent ar y Rhestr yn 2020-21 ai peidio. Nid yw’r gwahaniaethau rhwng pobl sy'n eu gwarchod eu hunain a'r rheini nad ydynt yn gwneud hynny yn arwyddocaol yn ystadegol. Sylwer bod rhai categorïau ar goll oherwydd bod nifer y samplau’n isel ac y gallai hynny olygu bod perygl o ddatgelu manylion na ddylid eu datgelu.

Image
Dywedodd y rhan fwyaf o bobl eu bod yn cadw i fyny â'r holl filiau ac ymrwymiadau heb unrhyw anawsterau, p'un a oeddent ar y rhestr gwarchod ai peidio.

Gwarchod a mynediad i'r rhyngrwyd

Yn 2018-19, pan ofynnwyd i bobl sydd bellach ar y Rhestr a oedd gan eu haelwyd fynediad i'r rhyngrwyd, dywedodd 86.8% fod ganddynt fynediad. Mae’r ganran hon yn llai (93.4%) nag ar gyfer y rheini nad ydynt ar y Rhestr.

Image
Mae pobl sy'n gwarchod eu hunain ychydig yn llai tebygol o gael mynediad i'r rhyngrwyd, er nad yw hyn yn ystadegol arwyddocaol.

Gwarchod a lles meddyliol

Defnyddir graddfa Lles Meddyliol Warwig-Caeredin (WEMWBS) i fonitro lles meddyliol pobl. Ar ôl inni ddadansoddi data 2018-19, canfuwyd nad oedd llawer o wahaniaeth rhwng pobl a oedd yn eu gwarchod eu hunain a'r rheini nad oeddent yn gwneud hynny. Roedd y sgôr gymedrig o 50 ar gyfer pobl a oedd yn eu gwarchod eu hunain ychydig yn is nag ar gyfer y rheini nad oeddent yn eu gwarchod eu hunain (51), ond nid yw'r gwahaniaethau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol. Yn ôl graddfa WEMWBS, ystyrir bod sgôr o 45-57 yn dynodi lles canolig.

Canfuwyd bod pobl a oedd yn eu gwarchod eu hunain ychydig yn fwy pryderus ac yn teimlo'n llai hapus a gwerth chweil na phobl nad oeddent yn eu gwarchod eu hunain, er nad yw'r gwahaniaethau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol. Roedd pobl a oedd yn eu gwarchod eu hunain ychydig yn llai tebygol o fod yn fodlon ar eu bywydau na phobl nad oeddent yn eu gwarchod eu hunain, ond unwaith eto, nid oedd y gwahaniaeth hwn yn arwyddocaol yn ystadegol.

Aed ati hefyd i ddadansoddi data o ACC 2017-18 er mwyn ymchwilio i unigrwydd. Gofynnodd ACC a oedd pobl yn teimlo'n unig. Canfuom nad oedd 30% o'r bobl a oedd yn eu gwarchod eu hunain yn unig yn 2017-18. Sylwer nad oedd y newidynnau a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfyngau hyder ac i bwysoli'r amcangyfrifon ar gael ar gyfer eleni. Felly, efallai na fydd ansawdd yr amcangyfrifon hyn mor gadarn â'r rheini a lunnir gan ddefnyddio amcangyfrifon wedi'u pwysoli. Nid ydym ychwaith wedi gallu profi am wahaniaeth arwyddocaol yn ystadegol rhwng grwpiau sy’n eu gwarchod eu hunain a grwpiau nad ydynt yn gwneud hynny, ond oherwydd bod y gwahaniaeth rhwng y ddau grŵp yn fach iawn, nid yw’n debygol o fod yn arwyddocaol yn ystadegol.

Image
Ymddengys nad yw unigrwydd yn 2017-18 yn cael ei effeithio i raddau helaeth gan a yw rhywun yn gwarchod ei hun ai peidio.

Gwarchod a'r Gymraeg

Mae cwestiynau ar ddefnyddio’r Gymraeg a’r gallu i’w siarad yn rhan greiddiol o ACC bob blwyddyn. Yn 2018-19, roedd tua 11% o bobl ar y Rhestr Cleifion a Warchodir yn siarad Cymraeg tra oedd gan tua 15% rywfaint o allu i siarad Cymraeg. Fodd bynnag, nid oedd pobl ar y Rhestr yn fwy tebygol o siarad Cymraeg na'r rheini nad oeddent ar y Rhestr.

Image
Mae pobl sy'n gwarchod eu hunain yn llai tebygol o allu siarad Cymraeg. Nid yw gwahaniaethau'n ystadegol arwyddocaol.

Roedd canrannau tebyg o bobl ar y Rhestr yn gallu darllen neu ysgrifennu Cymraeg (tua 14%), ac nid oedd unrhyw wahaniaeth sylweddol yn y naill achos neu’r llall rhwng y grwpiau a oedd yn eu gwarchod eu hunain a'r rheini nad oeddent yn gwneud hynny.

Image
Mae pobl sy'n gwarchod eu hunain yn llai tebygol o allu darllen Cymraeg. Nid yw gwahaniaethau yn ystadegol arwyddocaol.
Image
Mae pobl sy'n gwarchod eu hunain yn llai tebygol o allu ysgrifennu Cymraeg. Nid yw gwahaniaethau yn ystadegol arwyddocaol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Mae'r Uned Ymchwil Data Gweinyddol (UYDG) yn Llywodraeth Cymru yn cynnal amryfal ddadansoddiadau cysylltu data, gan gynnwys y data sy'n gysylltiedig â pandemig COVID-19. Ar gyfer y dadansoddiad hwn, cafodd data o'r Rhestr Cleifion a Warchodir eu cysylltu â data o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2018-19 (2017-18 ar gyfer y cwestiynau ar unigrwydd). Diben hynny oedd penderfynu a oedd y rheini a oedd yn eu gwarchod eu hunain o dan anfantais faterol neu gymdeithasol hefyd ac a oedd goblygiadau o ran lles a defnydd o'r Gymraeg o ganlyniad i’r polisi gwarchod.

Oherwydd bod y data'n cael eu casglu drwy gyfrwng arolwg, un o gyfyngiadau defnyddio data ACC yw fod y set ddata yn seiliedig ar sampl, yn hytrach nag ar y boblogaeth gyfan, felly amcangyfrifon yn unig yw'r canlyniadau. Un o’r cyfyngiadau eraill yw bod data o ddiddordeb sy’n deillio o ACC yn ymdrin â chyfnod cynharach (2018-19 ond 2017-18 ar gyfer y cwestiynau ar unigrwydd) ac felly, gallai amgylchiadau pobl fod wedi newid. Serch hynny, mae'r dadansoddiad yn rhoi cipolwg na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall ar nodweddion pobl ar y Rhestr.

Roedd cysylltu'r ddwy set ddata yn rhoi sampl o 400 o ymatebwyr i ACC 2018-19 a oedd ar y Rhestr, a 1,200 o ymatebwyr i ACC 2017-18 a oedd ar y Rhestr.  Maint y samplau ar gyfer pobl nad oeddent yn eu gwarchod eu hunain oedd 4,500 ar gyfer 2018-19 a 7,700 ar gyfer 2017-18. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn cynnwys tua 12,000 o bobl bob blwyddyn ac mae'n ymdrin ag ystod eang o bynciau. Mae'n cael ei gynnal drwy gydol y flwyddyn, ar draws Cymru gyfan. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r canlyniadau i helpu i wneud Cymru yn lle gwell i fyw ynddo.

Mae'r Rhestr Cleifion a Warchodir yn deillio o amrywiaeth o ffynonellau data a gafwyd oddi wrth y Gwasanaeth Iechyd. Mae'n cynnwys gwybodaeth am gleifion byw sy'n cael eu categoreiddio’n rhai 'risg uchel' yn ystod pandemig y coronafeirws ac sydd wedi cael eu cynghori i warchod ar wahanol adegau yn ystod y pandemig. Wrth gynnal y dadansoddiad hwn, defnyddiwyd y Rhestr o’r Cleifion a Warchodir yng Nghymru fel yr oedd ar 24/02/2021. Perchenogion y data yw Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, ac ychwanegwyd data Cyfeirnod Eiddo Unigryw (UPRN), sy’n seiliedig ar wybodaeth am gyfeiriadau, gan Geopace. Mae rhagor o wybodaeth am y ffynonellau a'r fethodoleg i’w gweld ar wefan Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Gwnaethom ddefnyddio pwysoliadau ystadegol o setiau data ACC i addasu'r canlyniadau i gynrychioli poblogaeth Cymru. Mae pwysoliadau'r arolwg yn cael eu hailgyfrifo bob blwyddyn, felly defnyddiwyd SAMPLPERSONPWYSOLIAD ar gyfer 2018-19 i bwysoli ymatebion 2018-19. Cafodd pobl heb bwysoliad eu tynnu o'r dadansoddiad.

Mae cyfyngau hyder yn ffordd o fesur ystod bosibl unrhyw amcangyfrif ac fe'u mynegir fel terfyn isaf y cyfwng hyder (LCL) a therfyn uchaf y cyfwng hyder (UCL). Ar gyfer y dadansoddiad hwn, cyfrifwyd cyfyngau hyder o 95%. Mae hynny’n golygu, 95% o'r amser wrth gymryd sampl o'r boblogaeth, y byddem yn disgwyl i'r amcangyfrif fod o fewn y LCL a'r UCL. Yn yr erthygl hon, defnyddiwyd cyfyngau hyder a oedd yn gorgyffwrdd i fesur arwyddocâd ystadegol. Os nad yw'r cyfyngau'n gorgyffwrdd, yna dywedir bod y gwahaniaeth rhwng dau amcangyfrif yn arwyddocaol yn ystadegol.

Paratowyd cyfyngau hyder ar gyfer yr holl amcangyfrifon, ar wahân i'r amcangyfrifon ar gyfer unigrwydd. Fe'u paratowyd hwy gan ddefnyddio’r swyddogaeth Cyfran SVY yn y rhaglen ystadegol Stata16, gan ddefnyddio awdurdodau lleol yn newidyn strata a SAMPLOEDOLYNPWYSOLIAD yn newidyn pwysoli.

Defnyddir graddfa Lles Meddyliol Warwig-Caeredin (WEMWBS) i fonitro lles meddyliol pobl. Defnyddir y sgorau a ganlyn i ddangos lefelau gwahanol o les:

Lles isel (14 i 44)

Lles canolig (45 i 57)

Lles uchel (58 i 70)

Amseroldeb a phrydlondeb

Cynhaliwyd y dadansoddiad hwn gan ddefnyddio’r Rhestr fwyaf cyfredol o Gleifion a Warchodir a oedd ar gael yn y gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw Diogel (SAIL) adeg y dadansoddiad, ac mae'n cael ei diweddaru'n rheolaidd. Felly, byddai modd ailedrych ar y dadansoddiad pe bai angen. Y torbwynt ar gyfer y data oedd 24 Chwefror 2021.

Cyfyngiadau

Mae'r dadansoddiad hwn wedi'i gyfyngu Dim ond y bobl a nodwyd ar setiau data AAC a ddefnyddiwyd ar gyfer y dadansoddiad hwn. Felly, nid oes data ar gael ar gyfer pawb ar y Rhestr Cleifion a Warchodir. Darparwyd cyfrannau wedi'u pwysoli i helpu i gynrychioli'r Rhestr Cleifion a Warchodir.

Er mwyn i ddata fod ar gael yn y gronfa ddata SAIL, roedd yn ofynnol i bobl roi caniatâd i'w data gael eu defnyddio at ddibenion cysylltu data. Felly, nid oedd rhai o’r cofnodion ar gyfer pobl a gynhwyswyd yng ngharfan AAC ar gael at y dibenion hynny.

Nid oedd pawb a atebodd gwestiynau ACC wedi cael eu cysylltu'n llwyddiannus ac felly nid oedd modd nodi pawb nad ydynt yn eu gwarchod eu hunain yng Nghymru.

Nid oedd cyfyngau hyder ac ymatebion wedi'u pwysoli yn bosibl gyda data ACC  2017-18 oherwydd nad oedd y newidynnau angenrheidiol ar gael. Dylid trin y canlyniadau hyn yn ofalus, yn enwedig wrth fynd ati i gymharu grwpiau.

Gan fod rhai wedi cael eu hychwanegu i’r Rhestr Cleifion a Warchodir ers y torbwynt o 24 Chwefror 2021 a ddefnyddiwyd gennym ar gyfer y data, mae'n bosibl bod rhai ohonynt wedi cael eu cynnwys yn ein cymharydd ar gyfer pobl yn ACC nad oeddent yn eu gwarchod eu hunain.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Dylai'r holl allbynnau ystadegol gynnwys cyfeiriad at Ddeddf Llywodraeth Cymru ac adroddiad Llesiant Cymru. Mae geiriad safonol i’w weld isod – os yw'r ystadegau'n cynnwys un o'r 46 o Ddangosyddion Cenedlaethol, yna dylid cynnwys yr adran sydd mewn coch yn ogystal â nodi ei fod yn ddangosydd cenedlaethol o dan yr adran 'Ynglŷn â'r bwletin hwn' ar y dudalen flaen. Ar gyfer y dangosyddion hynny y nodwyd eu bod yn ddangosyddion cyd-destunol yn y ddogfen dechnegol isod, dylid cyfeirio atynt hefyd gan ddefnyddio'r testun sydd mewn glas.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn ymwneud â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn pennu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Y nodau hynny yw creu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, sydd â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio i fesur cynnydd wrth gyflawni'r nodau Llesiant; a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016 ac mae'r datganiad hwn yn cyfeirio at bedwar o'r dangosyddion cenedlaethol, sef 19, 29, 30 a 37.

Dyma'r canrannau o'r boblogaeth sy'n:

  • byw ar aelwydydd sy’n wynebu amddifadedd materol (Rhif 19)
  • unig (Rhif 30)
  • gallu siarad Cymraeg (Rhif 37)

Cyfeirir at yr isod hefyd:

  • Sgôr gymedrig ar gyfer llesiant meddyliol pobl (Rhif 29)

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, i’w gweld yn adroddiad Llesiant Cymru.

A hwythau’n ddangosyddion cenedlaethol o dan y Ddeddf, mae'n rhaid cyfeirio atynt yn y dadansoddiadau o lesiant lleol sy’n cael eu paratoi gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus pan fyddant yn dadansoddi cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau sydd yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol, a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio yn eu hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Cynhaliwyd yr ymchwil hon fel rhan o raglen waith ADR Cymru. Mae rhaglen waith ADR Cymru yn cyd-fynd â'r themâu sy’n cael blaenoriaeth, fel y’u nodwyd yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb. Mae ADR Cymru yn dod ynghyd ag arbenigwyr gwyddor data o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, staff Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd, a thimau arbenigol o fewn Llywodraeth Cymru i ddatblygu tystiolaeth newydd sy'n cefnogi Ffyniant i Bawb drwy ddefnyddio Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe i gysylltu a dadansoddi data dienw. Mae ADR Cymru yn rhan o'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (UK Research and Innovation) a ariennir gan ADR UK (grant ES/S007393/1).

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Kathryn Helliwell
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: uydg.cymru@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image

 

 


SB 15/2021