Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Nodyn Polisi Caffael hwn yn cefnogi nodau llesiant Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Image
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

1. Cyflwyniad

(i) Pwynt i'w nodi

Nid yw'r wybodaeth sy’n cael ei datgan yn y Nodyn Cyngor Caffael hwn yn gyngor cyfreithiol ac nid yw’n fwriad i’r wybodaeth fod yn hollgynhwysfawr - dylai awdurdodau contractio ofyn am gyngor annibynnol eu hunain fel sy’n briodol. Sylwer hefyd bod y gyfraith yn gallu newid yn gyson ac y dylid gofyn am gyngor mewn achosion unigol. Roedd y ddogfen hon yn gywir ym mis Ebrill 2019.

(ii) Y materion Sy’n cael sylw

Nod y Nodyn Cyngor Caffael hwn yw darparu mwy o wybodaeth i sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru am e-anfonebu, y Gyfarwyddeb e-anfonebu newydd ac esbonio’r dull o weithredu yng Nghymru. Mae’n debygol o fod yn ddefnyddiol i staff cyllid a chaffael mewn sefydliadau yn y sector cyhoeddus ac i gyflenwyr sydd eisiau esboniad am y dull o weithredu yng Nghymru.

2. Y Cyd-destun: Caffael Cyhoeddus yng Nghymru

Mae caffael cyhoeddus yng Nghymru’n seiliedig ar Ddatganiad Polisi Caffael Cymru, sy’n cynnwys yr egwyddorion y mae Llywodraeth Cymru’n disgwyl i gaffael cyhoeddus gael ei weithredu yn eu herbyn. Gellir gweld y Datganiad drwy ddilyn y ddolen isod:

Mae e-gaffael yn cael ei hybu yn Natganiad Polisi Caffael Cymru, gan gydnabod yr effeithlonrwydd y gall ei gynnig ac mae disgwyl i brosesau caffael gael eu seilio ar ddulliau Safonol o weithredu a defnyddio systemau cyffredin sy’n lleihau yn briodol gymhlethdod, cost, amserlenni a gofynion ar gyfer cyflenwyr.

I gynorthwyo gyda hyn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu mynediad i adnoddau eGaffael er mwyn gwella caffael electronig yn sefydliadau'r Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Mae ymrwymiadau’r sector cyhoeddus yn y Datganiad yn cynnwys mabwysiadu ac ymgorffori dulliau caffael cyffredin a gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau e-gaffael sydd ar gael.

3. Beth yw E-Anfonebu?

Mae E-anfonebu yn wasanaeth ar y we sy’n hwyluso cyfnewid diogel ar wybodaeth rhwng prynwyr a chyflenwyr.

Mae Cyfarwyddeb Ewropeaidd 2014/55/EU ar e-anfonebu (a gyflwynwyd yn 2014 ac sy’n cael sylw manylach isod) yn darparu diffiniad clir o anfoneb electronig fel:

“anfoneb sydd wedi cael ei chyhoeddi, ei throsglwyddo a’i derbyn mewn fformat electronig strwythuredig sy’n caniatáu ar gyfer ei phrosesu’n awtomatig ac yn electronig.”

Yn 2015, cyhoeddwyd yr adroddiad ‘Making it Happen’ ar ran Fforwm E-anfonebu Cenedlaethol y DU ac yn seiliedig ar ddata Arolwg iGov 2015. Mae Llywodraeth Cymru yn cynrychioli’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn y fforwm hwn. Mae’r adroddiad yn cynnig cyfarwyddyd i sefydliadau llywodraeth leol ar gyflawni rhagoriaeth e-anfonebu ac mae’n cynnig cipolwg ar ddefnyddio e-Anfonebau mewn Llywodraeth Leol ledled y DU. Mae posib gweld yr adroddiad yma: E-Invoicing: Making it happen - The Business Case for e-Invoice adoption in the Public Sector

4. Manteision e-anfonebu

Mae llawer o fanteision i’w cael o newid o anfonebau papur i e-anfonebu, gan gynnwys gwell effeithlonrwydd i brynwyr a chyflenwyr, manteision ariannol a manteision amgylcheddol. Dyma rai enghreifftiau:

  • Gall llai o waith maniwal sicrhau effeithlonrwydd y gweithlu
  • Llai o gostau postio, papur, amlenni a llafur sy’n gysylltiedig ag anfonebau papur
  • Mwy amgylcheddol gyfeillgar / llai o ôl troed carbon - cael gwared ar argraffu, anfon, storio a dinistrio papur 
  • Llai o gostau gweinyddol, llai o gamgymeriadau a dileu ffioedd talu hwyr
  • Arbedion cynyddol – amcangyfrif o 64% i sefydliadau prynu a 59% i gyflenwyr (gweler y Cwestiynau Cyffredin ar dudalen 8)
  • Gwell casglu arian drwy brosesau cymeradwyo anfonebau cyflymach
  • Lleihau cost gyffredinol y rheolaeth ar gredyd a dyledion
  • Cynyddu diogelwch / gwneud anfonebau’n amlycach / rheoli data / llif arian

5. Deddfwriaeth E-Anfonebu

Yn 2014, cyflwynodd y Comisiwn Ewropeaidd Gyfarwyddeb e-Anfonebu newydd 2014/55/EU Y nod oedd ceisio Safoni'r fformatau e-anfonebu amrywiol sy’n cael eu defnyddio ledled yr UE sy’n achosi cymhlethdod diangen a chostau uchel i fusnesau a chyrff cyhoeddus. Mae mwy o wybodaeth am y ddeddfwriaeth a’r Safon.

Ym mis Mawrth 2019, pasiodd Senedd y DU Offeryn Statudol Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Anfonebau Electronig ac ati) 2019 er mwyn trawsosod y Gyfarwyddeb yn gyfraith yn y DU. Mae’r Offeryn yn dod i rym ar 18 Ebrill 2019 ac yn diwygio sawl darn o ddeddfwriaeth gaffael, yn fwyaf nodedig Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, i ganiatáu e-anfonebu yn unol â Chyfarwyddeb yr UE.

Mae’r Safon newydd yn seiliedig ar ddau fformat cystrawen, sef UBL ac UN/CEFACT. Mae’r model data semantig o elfennau craidd anfoneb electronig a’r rhestr o gystrawennau ar gael ar gyfer eu lawrlwytho o siop y Sefydliad Safonau Prydeinig ar-lein drwy ddilyn y ddolen ganlynol.

Mae’r Gyfarwyddeb yn berthnasol i e-anfonebau y bydd cyflenwr yn dewis eu cyflwyno o dan gontract sydd oddi mewn i gwmpas Cyfarwyddebau 2009/81/EC, 2014/23/EU, 2014/24/EU a 2014/25/EU (y Cyfarwyddebau Caffael) - h.y. contractau cyhoeddus ar gyfer gwaith, gwasanaethau a chyflenwadau sy’n cael eu dyfarnu gan awdurdodau contractio (gan gynnwys ym maes amddiffyn a diogelwch) a chan gyfleustodau yn y sectorau gwasanaethau dŵr, ynni, trafnidiaeth a phost a chontractau gostyngiadau gwaith a gwasanaethau sy’n cael eu dyfarnu gan awdurdodau contractio a chyfleustodau.

Yr effaith ymarferol yw y bydd gan gyflenwyr ddewis i gyflwyno e-anfonebau ar gyfer contractau sy’n dod oddi mewn i gwmpas y Cyfarwyddebau Caffael ac, os byddant yn dewis cyflwyno e-anfoneb a bod yr e-anfoneb honno’n cydymffurfio â’r Safon ofynnol, rhaid prosesu’r e-anfoneb yn electronig. O ganlyniad, rhaid i awdurdodau contractio allu derbyn a phrosesu anfonebau a dderbynnir gan gyflenwyr sy’n cydymffurfio â’r Safon. Bydd cyflenwyr yn gallu rhoi anfonebau mewn fformatau / Safonau eraill neu fformatau papur ar yr amod bod hyn yn cael ei gytuno gyda'r awdurdod contractio.

Mae'r Comisiwn wedi dweud y bydd rheolau cenedlaethol yn ddilys o hyd felly bydd eu menter ‘yn arwain at norm ac nid seilwaith e-anfonebu Ewropeaidd’. Bydd darparwyr gwasanaethau ar y farchnad yn darparu'r olaf.

5.1 Amserlenni 

Mae Llywodraeth y DU wedi trawsosod y Gyfarwyddeb yn gyfraith yn y DU, yn weithredol o 18 Ebrill 2019 ymlaen. Mae’r amserlen e-anfonebu sydd wedi’i datgan yng Nghyfarwyddeb 2014/55/EU fel a ganlyn:

  • Safon E-anfonebu a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ym mis Hydref 2017
  • Pob corff yn y llywodraeth ganolog* i weithredu e-anfonebu o fewn 18 mis i gyhoeddi’r Safon (18 Ebrill 2019)
  • Pob awdurdod contractio arall** (cyrff heb fod yn rhai canolog) i weithredu eanfonebu o fewn 12 mis i gyhoeddi'r Safon (Ebrill 2020)

*Rhestrir cyrff y llywodraeth ganolog yn Atodlen 1 Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 (fel y'i diwygiwyd) ac mae’n cynnwys Gweinidogion Cymru (h.y. Llywodraeth Cymru), Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, Swyddfa Cymru (Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru), Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Gofal Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyrff y GIG yng Nghymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, Rhanbarthau Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi, Llysoedd y Goron, Sirol a Chyfun (Cymru a Lloegr), yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol (Cymru a Lloegr) Grŵp yr Uchel Lys (Cymru a Lloegr).

** Diffinnir awdurdodau contractio yn Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a’r ystyr yw “awdurdodau'r Wladwriaeth, rhanbarthol neu leol, cyrff a lywodraethir gan gyfraith gyhoeddus neu gymdeithasau a ffurfir gan un neu fwy o awdurdodau o’r fath neu un neu fwy o gyrff o’r fath a lywodraethir gan gyfraith gyhoeddus, ac mae’n cynnwys awdurdodau'r llywodraeth ganolog”.

6. Gweld pa mor barod ydych chi ar gyfer e-anfonebu

Erbyn i’r Rheoliadau newydd ddod i rym (gweler 5.1 uchod am yr amserlen), rhaid i awdurdodau contractio fod mewn sefyllfa i dderbyn a phrosesu e-anfonebau sy’n cydymffurfio â'r Safon Ewropeaidd ar e-anfonebu.

Bydd gallu awdurdod contractio i dderbyn a chyhoeddi e-anfonebau sy’n cydymffurfio â'r Safon Ewropeaidd yn dibynnu ar lefel e-allu pob awdurdod contractio a’r systemau / feddalwedd sydd ganddo yn eu lle.

Mae e-allu’n amrywio’n sylweddol ledled Cymru felly bydd rhaid i bob awdurdod contractio ymgymryd â’i ymarfer parodrwydd am e-anfonebu ei hun, i weld beth sydd ei angen er mwyn sicrhau cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb newydd. Yn gyffredinol, os oes gan awdurdod contractio system P2P (Purchase2Pay), gellir e-anfonebu drwy honno ond bydd rhaid gwirio a dilysu hynny ym mhob awdurdod. Efallai y bydd angen rhywfaint o fuddsoddiad felly rhaid cyllidebu am e-anfonebu a neilltuo adnoddau digonol ar gyfer hynny.

6.1 Parodrwydd cyflenwr ar gyfer e-anfonebu

Os bydd cyflenwyr yn dewis cyhoeddi e-anfonebau’n seiliedig ar y Safon Ewropeaidd h.y. y ddau fformat cystrawen UBL ac UN/CEFACT, bydd rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt y feddalwedd a’r systemau angenrheidiol yn eu lle i’w cefnogi.

Mae Comisiwn yr UE wedi creu archwiliwr parodrwydd am e-Anfonebu sy’n galluogi cyrff cyhoeddus i wirio pa mor barod ydynt i gyfnewid e-anfonebau gan gydymffurfio â Chyfarwyddeb 2014/55/EU. Bydd yr ystyriaethau cynnar i gyflenwyr yn cynnwys pethau fel a ydynt yn ymgymryd â’r prosiect eu hunain yn fewnol ac, os felly, pa ddatrysiad eanfonebu ddylent ei ddewis. Fel dewis arall, gallant weithio gyda darparwr datrysiad eanfonebu trydydd parti ac, yn yr achos hwnnw, rhaid iddynt fod yn glir ynghylch pa alluoedd ddylent allu eu darparu.

7. Sefyllfa polisi yng Nghymru

Pan ddaw’r Gyfarwyddeb E-anfonebu i rym yn y DU (yn unol â'r amserlen sydd wedi’i nodi yn 5.1 uchod), bydd disgwyl i gyrff cyhoeddus yng Nghymru gydymffurfio â hi. Fel y nodwyd yn gynharach, anogir y defnydd o e-anfonebu yn Natganiad Polisi Caffael Cymru ac mae’n cefnogi’r nod o fabwysiadu ac ymgorffori dulliau caffael cyffredin a gwneud y defnydd gorau o'r e-gaffael sydd ar gael.

7.1 Goblygiadau Brexit

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd Rheoliadau E-Anfonebu’n berthnasol heb ystyried Brexit. Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd yr effeithiau tymor hir ar gaffael wrth i'r DU adael yr UE. Hyd nes bod hynny’n digwydd, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y dylai awdurdodau contractio barhau i gydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015. Bydd graddfa unrhyw ddiwygio’n dibynnu i raddau helaeth ar natur perthynas barhaus y DU â’r UE ac mae hynny eto i’w wybod. Bydd y Bil Diddymu a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017 yn gwarchod y Rheoliadau Caffael am y tro, sy’n golygu y gall y llywodraeth gymryd ei hamser i ystyried unrhyw ddiwygiadau neu newid yn ddiweddarach.

7.2 Cyflenwyr

O dan y Gyfarwyddeb E-anfonebu, er y bydd rhaid i awdurdodau contractio allu derbyn a phrosesu e-anfonebau a dderbynnir gan gyflenwyr sy’n cydymffurfio â'r Safon, ni fydd raid i gyflenwyr fabwysiadu'r drefn a gallent barhau i ddefnyddio anfonebu papur os ydynt yn dymuno. Cydnabyddir y gallai e-anfonebu gael effaith ar gyflenwyr, a bydd rhai ohonynt wedi’u e-alluogi yn fwy nag eraill. Busnes Cymru (cangen cefnogi cyflenwyr Llywodraeth Cymru) yn ymwybodol o’r Gyfarwyddeb e-anfonebu newydd a gellir cyfeirio unrhyw ymholiadau sydd gan Busnes Cymru Cysylltwch â ni neu 03000 603000.

7.3 Adnoddau eGaffael

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod adnoddau eGaffael ar gael at ddefnydd sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru, fel eFasnachuCymru (sefydliadau a enwebir yn unig) ac eDaliadau. Gellir cael rhagor o wybodaeth ym Mhecyn Adnoddau’r Cynlluniwr Llwybr Caffael.

8. Fframwaith PEPPOL Gwasanaethau Masnachol y Goron

Mae Gwasanaethau Masnachol y Goron wedi sefydlu fframwaith PEPPOL sydd ar gael i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ei ddefnyddio. Ystyr PEPPOL yw Caffael Cyhoeddus Ar-lein Holl-Ewropeaidd. Mae’n gyfres o fanylebau technegol y gellir eu gweithredu mewn systemau e-gaffael presennol i gyfnewid gwybodaeth rhwng gwahanol systemau ar lefel genedlaethol ac Ewropeaidd. Lansiodd y Comisiwn Ewropeaidd y prosiect PEPPOL i wneud cyfathrebu electronig rhwng mentrau a chyrff llywodraethu’n bosibl ledled yr EU at ddibenion caffael. Mae Gwasanaethau Masnachol y Goron wedi amcangyfrif y gellir cyflawni arbedion sydd rhwng 48c a £5.40 y trafodiad (gan ddibynnu ar y systemau presennol) drwy fframwaith PEPPOL.

Ceir opsiynau eraill o dan G-Cloud y byddwch eisiau eu hystyried efallai. Mae gan Wasanaethau Masnachol y Goron gytundebau ar gyfer anfonebu G-Cloud gyda chyflenwyr amrywiol, gan gynnwys Basware, Proactis, Elcom a Cloud Buy plc – mae mwy o wybodaeth ar GOV.UK.

9. Cydnabyddiaeth

Mae Gwerth Cymru’n falch o gydnabod ei fod wedi defnyddio'r cyhoeddiadau a’r sefydliadau canlynol er mwyn ategu ei ymchwil ei hun i lunio’r nodyn cyfarwyddyd hwn:

  • Adroddiad Billentis ar e-Anfonebu ac e-Filio (2015)
  • Fframwaith PEPPOL Gwasanaethau Masnachol y Goron
  • Y Sefydliad Safonau Prydeinig
  • Gwasanaethau Masnachol y Goron
  • Cyfarwyddeb E-Anfonebu 2014/55/EU
  • Adroddiad E-anfonebu Making it Happen (2015)
  • Cynlluniwr Llwybr Caffael
  • Datganiad Polisi Caffael Cymru (2015)

10. Cwestiynau cyffredin

C. Beth yw e-anfonebu?

A. Mae E-anfonebu yn wasanaeth ar y we sy’n hwyluso cyfnewid diogel ar wybodaeth rhwng prynwyr a chyflenwyr. Mae Cyfarwyddeb Ewropeaidd 2014/55/EU ar e-anfonebu yn darparu diffiniad clir o anfoneb electronig fel “anfoneb sydd wedi cael ei chyflwyno, ei throsglwyddo a’i derbyn mewn fformat electronig strwythuredig sy’n caniatáu ar gyfer ei phrosesu’n awtomatig ac yn electronig.”

C. Beth mae polisi caffael Llywodraeth Cymru yn ei ddweud am e-anfonebu?

A. Mae’n cael ei annog yng Nghymru fel dull mwy effeithlon a chyflymach o wneud busnes a chefnogi taliadau prydlon, sydd mor bwysig i gyflenwyr bychain ac is-gontractwyr. Mae egaffael yn cael ei hybu yn Natganiad Polisi Caffael Cymru, sy’n nodi y dylai prosesau caffael gael eu seilio ar ddulliau Safonol o weithredu a defnyddio systemau cyffredin sy’n lleihau yn briodol gymhlethdod, cost, amserlenni a gofynion ar gyfer cyflenwyr.

C. Pam ddylem ddefnyddio e-anfonebu?

A. Mae e-anfonebau yn haws eu cyhoeddi a’u prosesu nag anfonebau papur; maent yn cyrraedd y prynwr yn gyflym ac yn cyflymu’r broses dalu. Ceir manteision ariannol a gwell effeithlonrwydd, drwy leihau gwaith maniwal, lleihau camgymeriadau a lleihau costau postio/papur/argraffu. Hefyd ceir manteision amgylcheddol sy’n deillio o ddileu elfennau argraffu/postio/storio’r gwaith o brosesu anfonebau. Drwy annog ein cyflenwyr i ddefnyddio e-anfonebu, maent yn dod yn fwy effeithlon ac wedi paratoi’n well i ennill gwaith ymhellach i ffwrdd.

C. Pam mae Comisiwn yr UE wedi cyflwyno Cyfarwyddeb E-Anfonebu?

A. Nod Cyfarwyddeb E-Anfonebu 2014/55/EU yw Safoni’r amrywiol fformatau e-anfonebu sy’n bodoli ledled yr UE, sy’n cynyddu cymhlethdod a chostau i brynwyr a chyflenwyr.

C. Sut bydd Brexit yn effeithio ar y defnydd o’r Gyfarwyddeb E-Anfonebu?

A. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd Rheoliadau E-Anfonebu’n berthnasol heb ystyried Brexit. Nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd beth fydd yr effeithiau tymor hir ar gaffael wrth i'r DU adael yr UE. Hyd nes bod hynny’n digwydd, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y dylai awdurdodau contractio barhau i gydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.

C. Beth yw’r Safon E-Anfonebu newydd a sut gellir ei gweld?

A. Mae’r Safon newydd yn seiliedig ar ddau fformat cystrawen, sef UBL ac UN/CEFACT. Mae’r model data semantig o elfennau craidd anfoneb electronig a’r rhestr o gystrawennau ar gael ar gyfer eu lawrlwytho o siop y Sefydliad Safonau Prydeinig ar-lein drwy ddilyn y ddolen ganlynol.

C. Oes raid i gyflenwyr ddefnyddio e-anfonebu o dan y ddeddfwriaeth newydd?

A. Nac oes. O dan y Gyfarwyddeb E-Anfonebu, er y bydd rhaid i gyrff cyhoeddus dderbyn unrhyw e-anfonebau a gyflwynir, ni fydd raid i gyflenwyr ei fabwysiadu a gallant barhau i ddefnyddio anfonebau papur os ydynt yn dymuno.

C. Oes raid i fy sefydliad brosesu e-anfonebau yn electronig?

A. Dim o angenrheidrwydd. Er mai prosesu electronig yw’r arfer gorau ac y dylid ei ddefnyddio er mwyn gwireddu'r manteision cysylltiedig ag e-anfonebu yn llawn, nid yw'r Gyfarwyddeb yn mynd mor bell â dweud bod rhaid i awdurdodau brosesu’n electronig.

C. Beth yw’r amcangyfrif o’r costau anfonebu papur?

A. Mae costau i’r cyflenwr o roi anfonebau papur, fel costau papur, argraffu a phostio. Mae costau prosesu a chasglu ychwanegol, fel cysoni taliadau yn erbyn anfonebau, cyflogi staff rheoli credyd i fynd ar ôl taliadau a chynhyrchu nodiadau credyd. Mae cyfanswm cost anfoneb i gyflenwr yn amrywio ond credir ei bod yn dechrau o £1 yr anfoneb (Making it Happen, 2015).

C. Beth yw’r amcangyfrif o’r costau e-anfonebu?

A. Roedd Adroddiad Billentis ar e-Anfonebu ac e-Filio yn 2015 yn astudiaeth annibynnol oedd yn edrych yn fanwl ar lefelau mabwysiadu e-Anfonebu ac effaith hynny ar fusnes ledled y byd. Dangosodd yr Adroddiad arbedion posibl drwy e-anfonebu, 64% i sefydliadau prynu a 59% i gyflenwyr (Making it Happen, 2015).

C. Sut byddaf yn gwybod bod fy sefydliad yn barod i gydymffurfio â’r Gyfarwyddeb?

A.  Gallwch ddefnyddio'r archwiliwr parodrwydd am e-Anfonebu sydd wedi’i ddarparu gan Gomisiwn yr UE i weld pa mor barod ydych chi i gyfnewid e-anfonebau i gydymffurfio â'r Gyfarwyddeb.

C. Oes fframwaith y gallaf ei ddefnyddio i helpu gydag e-anfonebu?

A. Mae Gwasanaethau Masnachol y Goron wedi sefydlu fframwaith PEPPOL sydd ar gael i gyrff cyhoeddus yng Nghymru ei ddefnyddio. Ystyr PEPPOL yw Caffael Cyhoeddus Ar-lein Holl-Ewropeaidd. Mae’n gyfres o fanylebau technegol y gellir eu gweithredu mewn systemau e-gaffael presennol i gyfnewid gwybodaeth rhwng gwahanol systemau ar lefel genedlaethol ac Ewropeaidd.

Hefyd mae gan Wasanaethau Masnachol y Goron gytundebau yn eu lle ar gyfer anfonebu gcloud gyda chyflenwyr amrywiol, gan gynnwys Basware, Proactis, Elcom a Cloud Buy plc – mae mwy o wybodaeth ar GOV.UK.

C. Beth yw Ardystiad Hanfodion Seiber ac a yw’n ofynnol?

A. Mae Hanfodion Seiber yn gynllun ardystio seiberddiogelwch a gefnogir gan y llywodraeth ac mae’n datgan sylfaen dda o seiberddiogelwch sy’n addas i bob sefydliad ym mhob sector. Mae’r cynllun yn rhoi sylw i bum mesur rheoli allweddol sydd, o’u gweithredu’n gywir, yn gallu atal tua 80% o seiberymosodiadau.

Mae’n amod hanfodol ar fframwaith PEPPOL Gwasanaethau Masnachol y Goron bod gan bob cyflenwr ardystiad hanfodion seiber pan weithredir y cytundeb yn ôl y gofyn, oherwydd nid oes gan bob cyflenwr yr ardystiad hwn ar hyn o bryd. Felly cynghorir pob awdurdod contractio i ofyn am dystiolaeth o ardystiad wrth weithredu’r cytundeb yn ôl y gofyn.

C. Pa adnoddau sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru?

A. Mae adnoddau eGaffael ar gael at ddefnydd sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru, fel eFasnachuCymru (sefydliadau a enwebir yn unig) ac eDaliadau.

Mae rhagor o wybodaeth am yr adnoddau hyn ar gael drwy gyfrwng y Cynlluniwr Llwybr Caffael.