Mae'r casgliad hwn yn dwyn ynghyd Nodiadau Polisi Caffael Cymru (WPPNs) a Nodiadau Polisi Caffael Llywodraeth y DU (PPNs), gan ddarparu cyngor i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Cynnwys
Diben a chwmpas Nodiadau Polisi Caffael Cymru
Mae WPPNs yn rhoi cyngor ynghylch nwyddau, gwasanaethau a chontractau gwaith a ddarperir yng Nghymru. Maent yn cael eu cyfeirio at holl awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys adrannau Llywodraeth Cymru, cyrff GIG Cymru, cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a'r sector cyhoeddus ehangach.
Dylid cylchredeg Nodiadau Polisi Caffael Cymru ar draws sefydliadau perthnasol. Dylid tynnu sylw penodol at y rhai sydd mewn rolau caffael, masnachol a chyllid.
Nid yw'r wybodaeth a nodir yn Nodiadau Polisi Caffael Cymru yn gyngor cyfreithiol nac arweiniad statudol. Nid yw'n diystyru'r rhwymedigaethau cyfreithiol presennol sy'n berthnasol i gyrff Sector Cyhoeddus Cymru. Dylai partïon contractio geisio cyngor cyfreithiol annibynnol. Nodwch hefyd fod y gyfraith yn newid yn gyson a dylid ceisio cyngor mewn perthynas â phob achos unigol.
Mae Nodiadau Polisi Caffael Cymru yn cefnogi Datganiad Polisi Caffael Cymru, Deddf Caffael (2023), Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
I ddarganfod mwy am gaffael cyhoeddus yng Nghymru.
Mae adnoddau ychwanegol hefyd ar gael yn Cyd Cymru.
Anfonwch unrhyw ymholiadau neu adborth i: commercialpolicy@llyw.cymru
WPPNs newydd ac wedi'u diweddaru
Nodiadau Polisi Caffael Cymru yn ôl blwyddyn y rhyddhau cyntaf
Caffael cynaliadwy a moesegol
Caffael ôl-UE
BBaChau a chadwyni cyflenwi
Prosesau caffael
Masnach
Trothwyon
Talu'n brydlon
Sector penodol
Nodiadau Cyngor ar Gaffael sydd wedi'u harchifo'n ddiweddar a Nodiadau Polisi Caffael Cymru
Mae'r rhai sydd wedi'u harchifo ymhellach yn ôl i'w gweld ar wefan yr Archifau Cenedlaethol.
WPPN 02/22: Tryloywder – cyhoeddi hysbysiadau dyfarnu contract