Bu’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru heddiw.
Bu’n clywed am rai o’r datblygiadau cyffrous fydd ar y gweill yn yr Amgueddfa yn ystod 2018. Roedd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru gyda’r Gweinidog ar yr ymweliad hefyd.
Cefnogir y cynllun uchelgeisiol iawn i ailddatblygu Sain Ffagan gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri. Mae’r gwaith i fod i gael ei gwblhau ym mis Hydref 2018. Mae’r cyfleusterau newydd a’r digwyddiadau eisoes yn boblogaidd, sy’n argoeli’n dda ar gyfer dyfodol y safle fel amgueddfa o bwysigrwydd rhyngwladol, o’r radd flaenaf.
Mae adolygiad Dr Simon Thurley, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi yn llawn heddiw, yn disgrifio Amgueddfa Cymru fel un o amgueddfeydd mawr y Deyrnas Unedig ac fel sefydliad ffyniannus a llwyddiannus.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas:
“Mae adolygiad Dr Thurley yn un o’r adolygiadau gorau o gorff cyhoeddus i mi ei ddarllen erioed. Mae’n gam pwysig i’n helpu ni fel Llywodraeth ac Amgueddfa Cymru i weld y ffyrdd mwyaf priodol i’r sefydliad ffynnu yn y dyfodol, a hynny mewn cyfnod o gyni ariannol. Fel sydd hefyd yn cael ei nodi yn yr adroddiad, Cymru Hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i helpu’n sefydliadau treftadaeth i gynyddu i’r eithaf y manteision ariannol y gallant eu cynnig i bobl Cymru. Mae’r datblygiadau, yma yn Sain Ffagan, yn enghraifft berffaith o weledigaeth Amgueddfa Cymru a’i huchelgais. Mae’n dangos beth sy’n bosibl drwy weithio mewn partneriaeth.”
Mae argymhellion Dr Thurley yn edrych ar berthynas Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru; cyfleoedd ar gyfer datblygu masnachol, polisi a llywodraethu a’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo rhwng Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru i fynd i’r afael â’r heriau y sonnir amdanynt yn yr adroddiad, ac i benderfynu beth i’w wneud nesaf o ran yr argymhellion.
Gyda Llywodraeth Cymru y tu ôl iddynt, mae Amgueddfa Cymru wedi mwynhau nifer o lwyddiannau ers comisiynu’r adroddiad. Yn eu plith, ceir y nifer uchaf o ymwelwyr a rhaglenni dysgu a chynhwysiant sydd wedi cael eu cydnabod fel esiampl wych ar gyfer y sector amgueddfeydd yn y Deyrnas Unedig. Mae'r ymgyrchoedd marchnata yn rhai blaenllaw sydd wedi ennill gwobrau, fel yr un am yr arddangosfa Deinosoriaid yn Deor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2017.
Dywedodd David Anderson, y Cyfarwyddwr Cyffredinol:
“Mae’n bleser gan i groesawu’r Gweinidog i Amgueddfa Sain Ffagan heddiw, ar ddechrau blwyddyn newydd gyffrous i amgueddfa fwyaf poblogaidd Cymru. Mae Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru yn ardystiad cadarnhaol o waith y sefydliad ac ymrwymiad y staff, heb sôn am yr uchelgais ar gyfer y dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru wrth i ni fynd â’r argymhellion hyn yn eu blaenau dros y misoedd nesaf.”