Fe gomisiynwyd cyfres o astudiaethau achos ar gyflogwyr i ymchwilio i gymhelliant ac agweddau cyflogwyr at hyfforddi eu gweithlu.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cafodd 28 o astudiaethau achos eu cynnal gyda chyflogwyr a oedd yn cynrychioli, yn fras, sefydliadau ledled Cymru o ran maint y cynnig, y sector a’r rhanbarth.
Roedd yr astudiaethau achos yn cynnwys:
- proffil o’r sefydliad a’i nodau busnes
- mathau o weithgareddau dysgu y cymerwyd rhan ynddynt
- mathau o weithwyr sy’n cymryd rhan mewn hyfforddiant
- y broses benderfynu
- manteision yr hyfforddiant a’r rhwystrau iddo
- sylwadau barn am ansawdd y ddarpariaeth hyfforddiant sydd ar gael.
Cynhaliwyd yr astudiaeth er mwyn deall yn well y broses benderfynu ar gyfer gwahanol fathau o gyflogwyr, er mwyn i’r Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a’i phartneriaid allu sicrhau bod yr hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu yn cefnogi anghenion y busnesau a’u gweithluoedd. Yn y modd hwn fe allwn ni gael effaith gadarnhaol ar fusnesau yng Nghymru a’r economi drwyddi draw.
Bu arolwg panel ar 2,000 o gyflogwyr yn edrych yn fanylach ar ddarganfyddion yr astudiaethau achos ar gyflogwyr. Mae’r arolwg hwn wedi cadw golwg ar y newidiadau mewn agweddau a chael adborth ynghylch y gwahanol ddulliau o ehangu a dwysau cyfranogiad y cyflogwyr mewn hyfforddiant.