Gwybodaeth am y cysylltiad rhwng yfed a gyrru a damweiniau, canlyniadau profion anadl gyrwyr mewn damweiniau a chamau gorfodi sy'n ymwneud ag yfed a gyrru ar gyfer 2016.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Yfed a gyrru
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Yn 2015, 6% o'r holl yrwyr cerbydau modur a 8% o yrwyr beic modur/beicwyr a laddwyd mewn gwrthdrawiadau traffig dros y terfyn yfed a gyrru.
- Mae’r Adran Drafnidiaeth yn adrodd bod 8% o ddamweiniau marwolaeth ac anafiad difrifol (KSI) a ddigwyddodd yng Nghymru yn 2015 yn ymwneud â gyrwyr uwchlaw’r terfyn alcohol yn y gwaed.
- O safbwynt damweiniau ffordd, mae barn swyddogion yr heddlu am ffactorau cyfrannol a arweiniodd at ddamweiniau yn awgrymu ffigur o 9% o ddamweiniau KSI yn ystod 2016 yn ymwneud â gyrwyr a oedd ‘dan ddylanwad alcohol’.
- Yn 2016, roedd 66 o ddamweiniau lle wnaeth y swyddog heddlu adrodd bod cerddwyr dan ddylanwad alcohol yn ffactor cyfrannol yn y ddamwain.
- Yn 2016, roedd tua 3.5 o ddamweiniau lle mae'r gyrrwr yn dan ddylanwad alcohol, ar gyfer pob 1 damwain lle mae gyrrwr yn amharu ar gyffuriau.
Dengys profion anadl a wnaed ar yrwyr ar ôl damwain:
- amrywiad sylweddol rhwng misoedd y flwyddyn a'r un misoedd mewn blynyddoedd gwahanol gyda gostyngiad o 10.3% mewn profion cadarnhaol a welir o’i gymharu â data 2015(r)
- roedd gyrwyr yn fwy tebygol o brofi yn gadarnhaol ar y penwythnos nag yn ystod yr wythnos, (4.6 v 2.8 (r))
- 64.5% o yrwyr yn profi yn gadarnhaol rhwng 18:00 a 03:59.
(r) Diwygiedig ar 15 Rhagfyr 2017.
Adroddiadau
Yfed a gyrru, 2016 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.