I ba raddau y mae darpariaeth addysg a hyfforddiant ledled y sector dysgu ôl-16 yn darparu mynediad hollol gynhwysol a chyfartal i ddysgu ar gyfer pobl ag anableddau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cynhaliwyd yr ymchwil a nodir yma gan Dysg mewn cysylltiad â Skill i archwilio i ba raddau y mae darpariaeth addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru yn darparu mynediad hollol gynhwysol a chyfartal i ddysgu ar gyfer pobl ag anableddau. Rhan o'i gylch gwaith oedd nodi unrhyw fylchau mewn darpariaeth a nodi beth yw'r goblygiadau wrth gyllido a darparu darpariaeth ôl-16 yn y dyfodol ar gyfer dysgwyr ag anawsterau dysgu a/neu anableddau (LLDD).
Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (DDA), Rhan IV, a addaswyd gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (SENDA), yn ei gwneud yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr ac ymgeiswyr anabl, oherwydd na ellir eu trin yn 'llai ffafriol' na'u cymheiriaid nad ydynt yn anabl heb gyfiawnhad (Phipps, Sutherland a Seale, 2002; Davies, Doyle a Robson 2004).
Gweithredwyd Rhan IV y DDA fesul cam, gan gychwyn ym mis Medi 2002 gyda'r prif fyrdwn yn ymwneud â pheidio â thrin myfyrwyr anabl yn annheg. Ym mis Medi 2003 daeth yn ofynnol i ddarparwyr dysgu ôl-16 gyflenwi cymhorthion a gwasanaethau atodol. Roedd yn ofynnol i'r nodweddion ffisegol eraill, fel lledaenu drysau a gosod rampiau a lifftiau, fod ar waith erbyn Medi 2005. Er nad yw'r DDA Rhan 4 yn cynnwys darparwyr dysgu yn y gwaith, maent wedi'u cynnwys yn rhannau cynharach y DDA ac mae'r goblygiadau i ymarfer yn debyg.