Gwybodaeth am y math o dân, anafiadau, difrod a ffynhonnell ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Tanau llosgi bwriadol
Gwybodaeth am y gyfres:
Tanau
- Ymatebodd Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru i 6,372 o danau bwriadol yn 2017-18. Mae hyn yn gynnydd o 7% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ond dim ond tua chwarter y nifer yn 2001-02. O'r tanau hyn, roedd 19% yn brif danau.
- Yn 2017-18, roedd dau draean o danau bwriadol yn Ne Cymru, bron chwarter yng Nghanol a Gorllewin Cymru, a degfed yng Ngogledd Cymru.
Cerbydau
- Yn 2017-18, roedd 677 o brif danau a gychwynnwyd yn fwriadol mewn ceir, gostyngiad o 19% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Tanau mewn ysgolion
- Yn 2017-18, roedd 8 o danau bwriadol mewn ysgolion, sy’n cyfateb i bron draean o’r holl danau mewn ysgolion.
Tarddiad a defnydd peryglus
- Dros y 5 mlynedd diwethaf, dodrefn ac eitemau dodrefnu oedd y defnydd a daniodd gyntaf mewn 18% o’r prif danau bwriadol.
- O’r holl sylweddau peryglus mewn prif danau bwriadol yn 2013-14 i 2017-18, roedd 76% yn hylifau fflamadwy.
Marwolaethau neu anafiadau
- Yn 2017-18, roedd 47 o anafiadau heb fod yn rhai angheuol o ganlyniad i danau bwriadol. Nid oedd unrhyw farwolaethau.
Adroddiadau
Tanau llosgi bwriadol, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
PDF
Saesneg yn unig
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Tanau llosgi bwriadol, Ebrill 2017 i Mawrth 2018: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 107 KB
ODS
Saesneg yn unig
107 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.