Scott Waddington
Enwebiad ar gyfer gwobr Menter
Mae Scott Waddington wedi ei ddewis yn deilyngwr oherwydd ei lwyddiant fel Prif Weithredwr y bragwr enwog o Gymru, SA Brain.
Yn wreiddiol o Abertawe, cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Tre-gŵyr cyn astudio gradd Economeg a Chyfrifeg ym Mhrifysgol Reading. Mae e wedi treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa yn y sector lletygarwch, yn benodol mewn marchnata diodydd a manwerthu tafarnau gan weithio gyda busnesau megis Bass, Carlsberg a Century Inns. Yn 2001, ymunodd Scott â SA Brain fel Prif Weithredwr. O dan ei arweiniad, mae gan Brains bellach 260 o dafarndai yn ogystal â brandiau a busnes bragu sy’n tyfu. Yn 2011, prynodd Brain cadwyn o siopau coffi ar y stryd fawr, Coffee #1. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos fod cynnydd o 55% wedi bod yng ngwerthiant y gadwyn hon a’u bod ar darged i agor 50 o siopau erbyn 2015 a 50 yn fwy yn y pum mlynedd ganlynol. Mae’r datblygiadau o fewn y cwmni wedi cael eu cydnabod drwy nifer o wobrau gan gynnwys “Cwmni Cymreig y Flwyddyn” y Western Mail, “Bragwr Rhanbarthol y Flwyddyn a “Chwmni Tafarn y Flwyddyn gan y Publican.