Owen Sheers
Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant
Mae Owen Sheers yn frodor o’r Fenni ac yn raddedig o Brifysgol Rhydychen. Cyrhaeddodd ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth, The Blue Book, y rhestr fer ar gyfer Llyfr y Flwyddyn Cymru a gwobr Forward Prize am y casgliad cyntaf gorau yn 2001.
Cyrhaeddodd ei waith rhyddiaith cyntaf, The Dust Diaries restr fer Gwobr Ondaatje y Gymdeithas Frenhinol er Llenyddiaeth, ac enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn Cymru yn 2005.
Enillodd ei ail gasgliad o farddoniaeth Skirrid Hill (2005) wobr Somerset Maugham gan Gymdeithas yr Awduron, ac mae wedi cael ei astudio fel testun ar feysydd llafur Safon Uwch CBAC ac AQA. Mae ei nofel Resistance, a gyhoeddwyd yn 2007, yn dychmygu'r hyn a allai fod wedi digwydd pe bai milwyr Natsïaidd wedi meddiannu cymuned Gymreig anghysbell yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Addaswyd y nofel yn ffilm gydag Andrea Riseborough yn serennu. Yn 2011, ysgrifennodd Owen y sgript ar gyfer The Passion, cynhyrchiad 72-awr National Theatre Wales ym Mhort Talbot, gyda Michael Sheen yn cyfarwyddo ac yn serennu ynddo. Disgrifiwyd y cynhyrchiad gan yr Observer fel ‘digwyddiad theatrig y ddegawd.’
Ef oedd artist preswyl cyntaf erioed Undeb Rygbi Cymru, ac fe gyhoeddwyd ei lyfr ffeithiol ar y testun, Calon, yn 2013.
Yn ystod Haf 2014, llwyfannwyd cerdd Owen, Mametz Wood gan National Theatre Wales mewn coetir hynafol ger Brynbuga. Derbyniodd y cynhyrchiad ganmoliaeth gan feirniaid, gan gael ei ddisgrifio fel un o’r cynyrchiadau mwyaf arloesol i nodi canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.