Ymgymryd ag ymchwil gyda sylfaenwyr ac arweinwyr busnesau bach a chanolig yng Nghymru sy’n allforio er mwyn deall eu llwybrau a rhwystrau i dwf.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Diben yr ymchwil archwiliol hon oedd datblygu ac asesu defnyddioldeb dull o ganfod cwmnïau twf uchel yng Nghymru a darparu data ansoddol dangosol ynghylch eu llwybrau, ffactorau galluogol a rhwystrau i dwf.
Prif ganfyddiadau
- Mae cymhwyso diffiniad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o dwf uchel i busnesau bach a chanolig yng Nghymru wedi dangos bod y rhan fwyaf o gwmnïau sy’n profi twf yn methu â bodloni’r mesur o ran twf blynyddol cyfartalog o 20% dros dair blynedd.
- Mae cyfnodau o dwf a thwf uchel yn aml yn gylchol ac yn ysbeidiol a gallant ddigwydd mewn busnes o unrhyw oed.
- Nid oedd data ar gael i ganfod unrhyw berthynas achosol rhwng arloesi, arbrofi a thwf.
- Mae’r ymchwil hon wedi helpu i adnabod ystod o ffynonellau data gwahanol a’r wybodaeth a ddelir ganddynt.
- Mae angen data gwell ynghylch busnesau newydd i ddeall eu llwybrau tuag at dwf.
Adroddiadau
Asesu twf a’r potensial ar gyfer twf uchel mewn busnesau bach a chanolig: astudiaeth beilot o argaeledd ac ansawdd data , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 6 MB
PDF
6 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Asesu twf a’r potensial ar gyfer twf uchel mewn busnesau bach a chanolig: astudiaeth beilot o argaeledd ac ansawdd data (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 371 KB
PDF
371 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Nina Prosser
Rhif ffôn: 0300 025 5866
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.