Aethom ati i gomisiynu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu Cynllun Gweithredu cyfrwng Cymraeg ar gyfer y sector ôl-16.
Dyma'r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan y cynllun:
- cynyddu nifer y staff dwyieithog mewn colegau a lleoliadau darparu hyfforddiant
- cynyddu'r adnoddau addysgu cyfrwng Cymraeg sydd ar gael
- hyrwyddo'r cyfleoedd a'r manteision i ddysgwyr ym meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru
Bydd y Coleg yn bwrw ymlaen â'r cynllun mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Cefndir i’r Cynllun
Yn 2016, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei bod yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei sefydlu i adolygu gweithgareddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Aeth y grŵp ati i ystyried a ddylai cylch gwaith y Coleg gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg ôl-16.
Cyhoeddwyd ein hymateb i'r adroddiad ym mis Gorffennaf 2017. Cymeradwywyd yr argymhelliad i ehangu cylch gwaith y Coleg i gynnwys y sector ôl-16. Comisiynwyd y cynllun gweithredu cyfrwng Cymraeg fel rhan o'i gyfrifoldeb newydd.