Data ar enillion cyfartalog gros bob awr, wythnosol ac yn flynyddol yn y DU i lawr at lefel awdurdod lleol ar gyfer 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg blynyddol o oriau ac enillion
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae’r arolwg yn rhoi gwybodaeth am lefelau, dosbarthiad a chyfansoddiad enillion a’r oriau a weithiwyd gan weithwyr ym mhob diwydiant a swydd.
Prif bwyntiau
- Roedd canolrif enillion wythnosol gros oedolion sy’n gweithio llawn amser yng Nghymru yn £509.0 ym mis Ebrill 2018, sef 89.5% o gyfartaledd y DU cyfan (£569.0). Canolrif enillion wythnosol gros yng Nghymru oedd yr ail leiaf o'r 12 gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
- Gwelwyd cynnydd o 2.1% yng nghanolrif enillion gweithio wythnosol gros yng Nghymru rhwng 2017 a 2018, o’i gymharu â chynnydd o 3.5% dros y DU yn gyfan. Cymru oedd a’r unfed ar ddeg cynnydd canrannol uchaf ymysg y 12 gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
- Ym mis Ebrill 2018 roedd yr enillion canolrif fesul awr (gan eithrio goramser) ar gyfer merched sy’n gweithio llawn amser yng Nghymru yn 92.8% o’r cyfartaledd ar gyfer dynion. Roedd y ganran hon yn uwch na’r ganran ar gyfer y DU cyfan (91.4%) ac y trydydd cynnydd canrannol uchaf allan o'r gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr. Yng Ngogledd Iwerddon roedd canolrif enillion merched sy’n gweithio llawn amser yn uwch na dynion.
- Ym mis Ebrill 2018 roedd yr enillion canolrif fesul awr (gan eithrio goramser) ar gyfer merched sy’n gweithio rhan-amser yng Nghymru yn 104.0% o’r cyfartaledd ar gyfer dynion. Roedd y ganran hon yn is na’r ganran ar gyfer y DU cyfan (104.4%) ac oedd y chweched cynnydd canrannol uchaf allan o'r gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
- Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio gor amser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr llawn amser ym mis Ebrill 2018 yn 7.3% yng Nghymru ac 8.6% yn y DU. Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi cynyddu 0.9 pwynt canran, ac wedi gostwng 0.5 pwynt canran yn y DU.
- Ar gyfer gweithwyr rhan-amser mae menywod yn ennill mwy na gwrywod, gan arwain at fwlch cyflog negyddol. Roedd y bwlch cyflog canolrif fesul awr (gan eithrio gor amser) rhwng y rhywiau ym mhlith gweithwyr rhan-amser ym mis Ebrill 2018 yn -4.0% yng Nghymru a -4.4% yn y DU. Yng Nghymru, mae'r bwlch wedi culhau gan 3.0 pwynt canran, ac wedi culhau gan 0.9 pwynt canran yn y DU. [DS: gall y bwlch cyflog rhan amser islaw lefel y DU fod yn anweddol].
- Bu cynnydd o 2.5% (i £518.6) dros y flwyddyn yn enillion canolrif gweithwyr amser llawn sy’n byw yng Nghymru. Yn 2018 roedd y lefel yn 91.1% o gyfartaledd y DU.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.