Data ar y farchnad lafur ar gyfer gwledydd a rhanbarthau'r DU a hefyd ar gyfer ardaloedd lleol ar gyfer Gorffennaf 2017 i Mehefin 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Roedd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer y boblogaeth 16 i 64 oed yng Nghymru yn 72.6% o'i gymharu â 74.9% yn y DU. Yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, roedd y gyfradd yn 71.0%, tra bod y gyfradd ar gyfer Dwyrain Cymru yn 75.0%.
- Ers 2001, cynyddodd y gyfradd cyflogaeth 5.4 pwynt canran yng Nghymru a 2.6 pwynt canran yn y DU. Yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd, roedd y gyfradd gyflogaeth i fyny 6.1 pwynt canran o'i gymharu â chynnydd o 4.2 pwynt canran ar gyfer Dwyrain Cymru.
- Powys (80.1%), Wrecsam (79.3%) a Sir Fynwy (77.1%) oedd yr awdurdodau lleol â’r cyfraddau cyflogaeth uchaf. Roedd y cyfraddau isaf yng Nghastell-nedd Port Talbot (67.3%), Ceredigion (67.3%), ac ym Mlaenau Gwent (67.9%).
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.economi@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.