Neidio i'r prif gynnwy
Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS

Cyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyfrifoldebau

  • Trysorlys Cymru
  • Awdurdod Cyllid Cymru
  • Rhoi cyfeiriad strategol ar gyfer adnoddau Llywodraeth Cymru, a'u rheoli'n strategol
  • Polisi trethi, gan gynnwys Diwygio'r Dreth Gyngor, ardrethi annomestig, gostyngiadau’r dreth gyngor a Noddi gwasanaethau Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Thribiwnlys Prisio Cymru
  • Ardoll Ymwelwyr
  • Monitro a rheoli'r gyllideb
  • Buddsoddi Strategol
  • Buddsoddi i Arbed
  • Cyfrifyddu Ariannol ac archwilio
  • Monitro a rheoli'r gyllideb yn ystod y flwyddyn
  • Gwerth am arian ac effeithiolrwydd
  • Gweithredu a datblygu'r setliad cyllid datganoledig a'r Datganiad Polisi Cyllido
  • Y berthynas â Thrysorlys EF a Chyllid a Thollau EF ar bob mater gwariant a threth
  • Polisi cyflogau'r Sector Cyhoeddus
  • Y dull strategol o gaffael, cynnal a gwaredu eiddo ac asedau eraill
  • Materion masnachol a chaffael ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus Cymru
  • Polisi grantiau
  • Ystadegau Swyddogol, gan gynnwys y Cyfrifiad, ymchwil gymdeithasol ac arolwg cenedlaethol Cymru
  • Cydlynu gwaith ar y Fframweithiau Cyffredin
  • Goruchwylio’r gwaith o archwilio, arolygu a rheoleiddio mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus
  • Y Gymraeg

*Mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gyfrifol am osod y gyllideb ac am reoli adnoddau Llywodraeth Cymru yn strategol. Serch hynny, mae pob Gweinidog unigol yn gyfrifol am reoli ei Brif Grŵp Gwariant (MEG) ei hun, a dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch penderfyniadau cyllido unigol at y Gweinidog perthnasol.

Bywgraffiad

Ganed a magwyd Mark yng ngorllewin Cymru cyn symud i Gaerdydd fwy na 40 mlynedd yn ôl. Ers hynny mae wedi byw yn ardal Pontcanna o Gaerdydd. Bu’n swyddog prawf, yn weithiwr cyfiawnder ieuenctid ac yn arweinydd prosiect Barnardos yn Nhrelái a Chaerau, ac mae wedi fod yn Athro mewn Polisi Cymdeithasol a Gwyddorau Cymdeithasol Cymhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Mark hefyd wedi dysgu ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn yr 1980au a'r 1990au roedd Mark yn gynghorydd Llafur ar Gyngor Sir De Morgannwg, gan arbenigo mewn materion addysg, gan gynnwys addysg cyfrwng Cymraeg. Rhwng 2000 a 2010 bu'n gweithio fel cynghorydd polisi iechyd a chymdeithasol yn Llywodraeth Cymru cyn dod yn bennaeth swyddfa wleidyddol y Prif Weinidog o dan Rhodri Morgan. Mae ganddo werth 40 mlynedd o wybodaeth o etholaeth Gorllewin Caerdydd.

Daeth Mark yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd ym mis Mai 2011. Roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad o fis Gorffennaf 2011 – Mawrth 2013 a’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni Ewropeaidd Cymru Gyfan o fis Gorffennaf 2011 – Mawrth 2013. Penodwyd yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth 2013. Penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ym mis Mai 2016. Penodwyd Mark yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 3 Tachwedd 2017. Ar 12 Rhagfyr 2018 penodwyd Mark yn Prif Weinidog Cymru a daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 13 Chwefror 2019. Ymddeolodd fel Prif Weinidog ym mis Mawrth 2024.

Yn dilyn hynny, penodwyd Mark yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg ar 11 Medi 2024 gan Eluned Morgan.

Ysgrifennu at Mark Drakeford