Neidio i'r prif gynnwy
Julie James AS

Cyfrifoldebau'r y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

Cyfrifoldebau

  • Rhoi cyngor cyfreithiol i’r Llywodraeth
  • Goruchwylio gwaith yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol a Swyddfa’r Cwnsleriaid Deddfwriaethol
  • Tribiwnlysoedd Cymru
  • Cyflawni'r Rhaglen Ddeddfwriaethol, a goruchwylio ei hamserlen
  • Goruchwylio erlyniadau ar ran Llywodraeth Cymru
  • Goruchwylio cynrychiolaeth Llywodraeth Cymru yn y llysoedd
  • Ystyried a oes angen i Filiau a basiwyd gan y Senedd gael eu cyfeirio at y Goruchaf Lys er mwyn penderfynu a ydynt o fewn cymhwysedd y Senedd (gwneir hyn yn annibynnol ar y Llywodraeth)
  • Cyflawni swyddogaethau eraill er budd y cyhoedd gan gynnwys, pan fo’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei bod yn briodol, cychwyn, amddiffyn neu ymddangos mewn unrhyw achosion cyfreithiol sy’n ymwneud â swyddogaethau Llywodraeth Cymru (gwneir hyn yn annibynnol ar y Llywodraeth
  • Cydlynu â'r Sector Cyfreithiol a Chyngor Cyfraith Cymru
  • Hygyrchedd cyfraith Cymru
  • Mynediad at Gyfiawnder
  • Goruchwylio Deddfwriaeth y DU a'r broses cydsyniad deddfwriaethol
  • Goruchwylio'n fewnol y gwaith o gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth

*Dylid cyfeirio Cwestiynau'r Senedd sy'n ymwneud â chyflawni ymrwymiadau unigol yn y Rhaglen Lywodraethu at y Gweinidog sy'n gyfrifol am y portffolio o dan sylw.

Bywgraffiad

Ganed Julie James yn Abertawe ond treuliodd gryn dipyn o’i hieuenctid yn teithio o gwmpas y byd gyda’i theulu. Dechreuodd ar ei gyrfa yn Llundain ond symudodd yn ôl i Abertawe gyda’i gŵr i fagu eu tri phlentyn ac i fod yn nes at ei theulu. Mae Julie yn hollol ymrwymedig i faterion gwyrdd, yn frwd o blaid materion yn ymwneud â’r amgylchedd ac wrth ei bodd hefyd yn nofio ac yn sgïo.

Hyd nes iddi gael ei hethol yn Aelod o'r Senedd dros Orllewin Abertawe roedd Julie yn gyfreithwraig amgylcheddol a chyfansoddiadol flaenllaw. Cyn hynny, roedd yn brif weithredwr cynorthwyol Cyngor Abertawe. Treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa fel cyfreithwraig ym maes llywodraeth leol gan weithio fel cyfreithwraig bolisi gyda Bwrdeistref Llundain Camden cyn dychwelyd i Abertawe i weithio i Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg ac yna Dinas a Sir Abertawe.

Ers iddi gael ei hethol mae Julie wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Menter a Busnes a Phwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd. Yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Caffael y Pwyllgor Menter a Busnes, cyhoeddodd Julie Adroddiad y Pwyllgor sef ‘Influencing the Modernisation of EU Procurement Policy’. Roedd Julie hefyd yn Gadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Polisi Pysgodfeydd Cyffredin Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd.

Penodwyd Julie James yn Ddirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg ym mis Medi 2014. Ym mis Mai 2016 penodwyd Julie yn Weinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Penodwyd Julie yn Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ar 3 Tachwedd 2017. Ar 13 Rhagfyr 2018 cafodd ei phenodi yn Weinidog Tai a Llywodraeth Leol. Penodwyd hi yn Weinidog Newid Hinsawdd ar 13 Mai 2021, ac yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ar 21 Mawrth 2024. Penodwyd Julie yn Ddarpar Gwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog dros Gyflawni ar 11 Medi 2024. Fe’i penodwyd yn ffurfiol yn Gwnsler Cyffredinol gan Ei Mawrhydi y Brenin ar 20 Medi 2024.

Ysgrifennu at Julie James