Adroddiad yn cyflwyno canlyniadau allweddol ar gyfer y gwahanol fathau o ddefnydd tir, nifer y da byw a llafur amaethyddol.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau ar ardaloedd bach amaethyddol
Mae’r ystadegau ar ardaloedd tir amaethyddol, nifer o wartheg a nifer o weithwyr amaethyddol yng Nghymru yn cael eu cynnwys ar lefel ardaloedd bach a graddfa ranbarthol. Mae’r data yn cael eu casglu ar gyfer mis Mehefin o bob blwyddyn.
Ffynhonnell o ddata amaethyddol ar lefel leol i ymchwilwyr a dadansoddwyr. Mae gennym gyfres gyson o ganlyniadau ar gyfer arolygon amaethyddol ym mis Mehefin o 2002 i 2017 ar ffurf taenlen.
Mae’r bwletin yn disgrifio’r ffordd rydym yn sicrhau na chaiff gwybodaeth ei gyhoeddi sydd o bosibl yn enwi ffermwyr neu ffermydd unigol. Gwneir hyn er mwyn cwrdd gofynion y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, y Ddeddf Diogelu Data 1998, y Ddeddf Ystadegau Amaethyddol 1979 a Chod Ymarfer ar Ystadegau.
Mae’r bwletin hefyd yn ystyried y materion sy’n ymwneud ag ansawdd y data wrth ddefnyddio canlyniadau o Arolwg Amaethyddol mis Mehefin. Mae hyn yn helpu defnyddwyr i benderfynu pryd mae’r canlyniadau’n “addas i’r pwrpas” a phryd fyddai’n amhriodol i’w defnyddio.
Adroddiadau
Ystadegau ar ardaloedd bach amaethyddol, 2002 to 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Ystadegau ar ardaloedd bach amaethyddol, 2002 to 2017: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.amaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.