Mae'r data yn cynnwys gwybodaeth yn ôl rhyw, ethnigrwydd, Saesneg fel iaith ychwanegol, anghenion addysgol arbennig, absenoldeb a mis geni ar gyfer 2017.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Cyflawniad academaidd yn ôl nodweddion disgyblion
Mae’r data hwn yn defnyddio data ar lefel disgyblion sy'n cysylltu data ynglŷn â chyrhaeddiad a gwybodaeth am arholiadau yn y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnodau Allweddol 2 i 4 â nodweddion disgyblion o'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion a’r Cofnod Presenoldeb Disgyblion.
Yn y Cyfnod Sylfaen, byddwn yn defnyddio Dangosydd y Cyfnod Sylfaen i fesur cynnydd. Yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3, byddwn yn defnyddio Dangosydd y Pynciau Craidd. Yng Nghyfnod Allweddol 4, byddwn yn defnyddio Trothwy Lefel 2 yn bennaf gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg Iaith Gyntaf a Mathemateg (L2CSM) i fesur cynnydd. Yn y bwletin hwn, oni nodir yn wahanol, bydd canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 yn cyfeirio at L2CSM. I weld diffiniadau llawn o'r dangosyddion hyn, gweler at yr adran Gwybodaeth Ansawdd Allweddol yn y bwletin hwn.
Prif bwyntiau
Yn 2017, ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 i 4.
- Cyflawniad yn uwch ar gyfer merched.
- Cyflawniad yn uwch ar gyfer disgyblion o gefndir ethnigrwydd Tsieinïaidd neu Brydeinig Tsieinïaidd.
- Cyflawniad disgyblion gyda Saesneg fel iaith ychwanegol yn uwch ar gyfer disgyblion a oedd yn ‘gymwys’ neu yn ‘rhugl’.
- Cyflawniad disgyblion heb Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) yn uwch na disgyblion sydd ac AAA.
- Cyflawniad disgyblion gyda graddau absenoldeb is yn uwch.
- Cyflawniad yn uwch ar gyfer disgyblion wedi’u geni yn gynharach yn y flwyddyn academaidd.
- Mae negeseuon allweddol yn gyson â'r dadansoddiad o flynyddoedd blaenorol.
Noder
Mae carfan Cyfnod Allweddol 4 o 2016 yn seiliedig ar ddisgyblion oedd ym Mlwyddyn 11. Hyd at 2015, roedd y garfan yn seiliedig ar ddisgyblion 15 oed ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.
Yn dilyn argymhellion gan adolygiadau annibynnol a newidiadau polisi a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gweithredwyd nifer o newidiadau allweddol i ddata mesur perfformiad Cyfnod Allweddol 4 yn y datganiad hwn am 2016/17 sy'n effeithio ar gymariaethau â blynyddoedd blaenorol. Felly, dylid gwneud cymariaethau â blynyddoedd blaenorol gyda rhybudd. Gwelwch y datganiad llawn am fwy o wybodaeth.
Gwybodaeth bellach
Eleni mae'r data wedi'i ddiweddaru heb Ddatganiad Ystadegol gysylltiedig. Mae'r holl ddata a oedd ar gael yn flaenorol drwy'r datganiad hwnnw wedi'i gyhoeddi.
Bydd y data blynyddol ar gyflawniad academaidd yn ôl nodweddion disgyblion yn cael ei gyhoeddi o 2019 ymlaen fel Pennawd Ystadegol gyda thablau StatsCymru gyda'i gilydd. Yn flaenorol, cyhoeddwyd data bob yn ail flwyddyn rhwng Datganiad Ystadegol llawn a set o dablau Excel. Byddem yn croesawu unrhyw adborth gan ddefnyddwyr ar y dull hwn.
Adroddiadau
Cyflawniad academaidd yn ôl nodweddion disgyblion, 2017: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 124 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 5050
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.