Rhian Burke
Gwobr Dinasyddiaeth enillydd 2015
Ym mis Chwefror 2012, collodd Rhian Burke, athrawes addysg gorffol o Feisgyn, ei mab, a oedd yn fabi a’i gŵr o fewn cyfnod o bum diwrnod.
Cymhlethwyd y drychineb o brofi marwolaeth sydyn plentyn gan y sefyllfa a brofodd Rhian a’i gŵr yn yr ysbyty, heb unman i alaru yn breifat a dweud ffarwel i’w mab. Wedi ei hysgogi gan awydd i sicrhau nad fyddai eraill yn cael yr un profiad ofnadwy o golli plentyn yn sydyn yn yr ysbyty, sefydlodd Rhian yr elusen brofedigaeth ‘2 Wish Upon a Star’. Hyd yn hyn, mae hi wedi codi bron i £350,000 yn gyfangwbl o roddion bach gan y cyhoedd ac fe agorodd yr elusen ei ystafell profedigaeth gyntaf yn adran ddamweiniau Ysbyty Prifysgol Cymru yn 2014, gydag un arall yn agor yn Ysbyty’r Tywysog Siarl yn fuan.
Mae’r elusen hefyd yn darparu blychau cof i bum ysbyty yn Ne Cymru. Mae gweledigaeth arbennig Rhian wedi arwain at, nid yn unig at syniadau ymarferol ond hefyd cefnogaeth emosiynol. Mae ‘2 Wish Upon a Star’ nawr yn darparu cwnsela profedigaeth i deuluoedd sy’n galaru ac mae’n cynnal grwpiau cefnogaeth misol. Mae Rhian yn mynd i siarad â grwpiau ledled Cymru, gan gynnwys yr heddlu a gweithwyr cyswllt teuluol yn rheolaidd.